View
218
Download
5
Tags:
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Â
Citation preview
St David’s Hall Concert Season
Tymor Cyngherddau Neuadd Dewi Sant
2013-14
Welcome to St David’s Hall! Croeso i Neuadd Dewi Sant!As my journey continues in Cardiff, it’s a real pleasure to introduce the 2013-14 season, which is simply bursting with the most wonderful music and I urge you all to come and explore these remarkable scores with us.
This season is particularly special because our renowned Chorus celebrates thirty glorious years of music-making. I’m delighted to be working with them twice: both opening the season with Poulenc’s Gloria and closing it in June with Brahms’s mighty German Requiem.
On the theme of birthdays, we’re pleased to welcome back illustrious pianist John Lill in his 70th birthday year with our esteemed Conductor Laureate Tadaaki Otaka. Other highlights include Jac van Steen with a colourful programme of Bartók and Martinu, and Grant Llewellyn with two celebratory concerts for Christmas and St David’s Day.
Join us!
Thomas Søndergård, Principal Conductor
A minnau’n dilyn fy hynt yng Nghaerdydd, pleser o’r mwyaf ydi cyflwyno tymor 2013-14, sy’n heigio o gerddoriaeth gyda’r mwyaf bendigedig ac rwy’n pwyso arnoch chi i gyd i ddod aton ni i chwilio’r sgorau rhyfeddol hyn.
Mae’r tymor yma’n arbennig yn anad unpeth am fod ein Corws o fri yn dathlu deng mlynedd ar hugain godidog o gerddora. Rwyf wrth fy modd o fod yn gweithio gyda nhw ddwywaith: yn cychwyn y tymor â Gloria Poulenc ac wedyn yn ei ddwyn i ben ym mis Mehefin â Requiem Almaenig aruthrol Brahms.
A sôn am benblwyddi, rydym yn falch o groesawu yn ei ôl y pianydd o fri John Lill ar ei ben-blwydd yn ddeg a thrigain gyda’n Harweinydd Llawryfog mawr ei barch Tadaaki Otaka. Ymhlith uchelfannau eraill mae Jac van Steen mewn rhaglen liwgar o Bartók a Martinu, a Grant Llewellyn mewn dau gyngerdd i ddathlu’r Nadolig a Dydd Gwyl Dewi.
Dewch aton ni!
Thomas Søndergård, Prif Arweinydd
Wednesday / MeRCHeR 18.09.2013, 7.30pm
ElmEr BErnSTEin The Magnificent Seven -
Theme / Arwyddgan
BErnArd HErrmAnn Vertigo - Suite / Cyfres
miklóS róZSA Spellbound Concerto
JoHn WilliAmS The Raiders March
dAnny ElfmAn Batman - Suite / Cyfres
BErnArd HErrmAnn Taxi Driver
lEonArd BErnSTEin On the Waterfront
Conductor / Arweinydd robert ZieglerPiano martin roscoe
Theremin lydia kavina
The first full-length film scores were composed nearly one hundred years ago, and represent a sparkling journey of musical
and creative innovations from fifties epics to sci-fi fantasies. Come and experience the Technicolor sound to match
the magic of Hollywood.
Agos i gan mlynedd yn ôl y cyfansoddwyd y sgorau ffilm llawn hyd cyntaf, ac maen nhw’n cynrychioli taith befriol yn torri tir newydd yn gerddorol ac yn greadigol o epigau’r pum
degau i ffantasïau ffuglen wyddonol. Dewch i glywed y sain seithliw yn cydweddu â hud Hollywood.
America at the Movies America yn y Pictiwrs
Tickets Tocynnau
£10-29
0800 052 1812 bbc.co.uk/now
FRiday / GWeneR 04.10.2013, 7.30pm
PoulEnC Gloria
SHoSTAkoviCH Symphony No 8 / Symffoni Rhif 8
Conductor / Arweinydd Thomas SøndergårdSoprano marita Sølberg
BBC national Chorus of Wales / Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Poulenc’s Gloria opens Thomas Søndergård’s new season and his first concert with the BBC National Chorus of Wales. Hear it next to the raw power of Shostakovich’s epic Eighth Symphony,
inspired by the Soviet struggle during the Second World War.
Gloria Poulenc sy’n cychwyn tymor newydd Thomas Søndergård a’i gyngerdd cyntaf gyda Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC.
Fe’i clywch ochr yn ochr â grym cignoeth Wythfed Symffoni aruthrol Shostakovich, a ysbrydolwyd gan y frwydr
Sofietaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Shostakovich & Poulencwith / gyda Søndergård
Tickets Tocynnau
£10-29
Post-concert event with digwyddiad wedi’r cyngerdd
yng nghwmni
Thomas søndergård
FRiday / GWeneR 15.11.2013, 7.30pm
SZymAnoWSki Concert Overture / Agorawd Cyngerdd
SZymAnoWSki Violin Concerto No 2 / Concerto Ffidil Rhif 2
BrAHmS Symphony No 1 / Symffoni Rhif 1
Conductor / Arweinydd olari EltsViolin / Ffidil Tasmin little
Tasmin Little, one of Britain’s leading violinists, plays Szymanowski’s richly romantic Second Violin Concerto. Brahms’s
majestic First Symphony commences in a mood of high tragedy and closes in a burst of irresistible life-giving energy – it’s easy to see
why his friends and contemporaries dubbed it “Beethoven’s Tenth”.
Tasmin Little, un o ffidleriaid blaenllaw Prydain, yn chwarae’r Ail Concerto Ffidil. Cychwynna Symffoni Gyntaf fawreddog Brahms mewn awyrgylch trasiedi aruchel a daw i ben mewn hwrdd o egni
bywiocaol diwrthdro – hawdd gweld pam roedd ei ffrindiau a’i gydoeswyr yn ei galw’n “Ddegfed Beethoven”.
Tasmin Little plays / yn chwarae Szymanowski
Tickets Tocynnau
£10-29
FRiday / GWeneR 28.11.2013, 7.30pm
ProkofiEv Piano Concerto No 3 / Concerto Piano Rhif 3
rACHmAninov Symphony No 2 / Symffoni Rhif 2
Conductor / Arweinydd Eivind Gullberg JensenPiano nelson Goerner
In its heart-felt lyricism and power, Rachmaninov’s Second Symphony is one of his most dearly-loved works. It shares this Russian-themed concert with the lyrical bitter-sweet romance
and cosmopolitan glamour of Prokofiev’s Third Piano Concerto, played by the expressive Argentinian pianist Nelson Goerner.
Daw telynegiaeth a grym Ail Symffoni Rachmaninov o eigion calon ac mae y mwyaf hoff o’i weithiau. Mae’n rhannu’r
cyngerdd Rwsiaidd yma â rhamant chwerwfelys telynegol a hudolieth aml-genhedlig Trydydd Concerto Piano Prokofiev, a
chwaraeir yma gan y pianydd ifanc o’r Ariannin Nelson Goerner.
Rachmaninov & Prokofiev
Tickets Tocynnau
£10-29
0800 052 1812 bbc.co.uk/now
Tuesday / MaWRTH 17.12.2013, 7pm
Festive favourites including / Ffefrynnau Nadolig gan gynnwys:
Winter Wonderland, Jingle Bells, Rudolph the Red Nose Reindeer,
White Christmas, We wish you a merry Christmas
Conductor / Arweinydd Grant llewellynBBC national Chorus of Wales /
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Join in the Christmas cheer with a delightful evening of seasonal orchestral treats, a sparkling selection of songs in an arrangement by Gareth Glyn, and the opportunity for an audience sing-along! The perfect Christmas gift for all the family - bring your children,
grandchildren and friends and introduce them to the sound of the orchestra. A great way to start the festive season!
Dewch i fod yn rhan o hwyliau’r Nadolig mewn noson o ddanteithion cerddorfaol y tymor, detholiad disglair o ganeuon
mewn trefniant gan Gareth Glyn, a chyfle i’r gynulleidfa forio canu! Yr anrheg Nadolig i’r dim i’r teulu i gyd – dewch â’ch plant, eich
wyrion a’ch wyresau a’ch ffrindiau a’u cyflwyno nhw i sain y gerddorfa. Ffordd dan gamp o gychwyn tymor y Nadolig!
Christmas Celebrations Dathlu’r Nadolig
Tickets Tocynnau
£10-29
Family tickets tocynnau teulu
from / o £12.50
Family tickets tocynnau teulu
from / o £12.50
0800 052 1812 bbc.co.uk/now
FRiday / GWeneR 24.01.2014, 7.30pm
HonEGGEr Symphony No 3 / Symffoni Rhif 3 “Liturgique”
rACHmAninov Rhapsody on a theme of Paganini /
Rhapsodi ar thema gan Paganini
fAuré Requiem [full orchestra version / y wedd i gerddorfa lawn]
Conductor / Arweinydd Thierry fischerPiano yevgeny Sudbin
Soprano Elin manahan Thomas Baritone roderick Williams
BBC national Chorus of Wales / Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Aelwyd y Waun ddyfal
The BBC National Chorus of Wales performs one of the most cherished choral masterpieces: the intimate, peaceful and loving
Requiem by Fauré as we welcome Thierry Fischer back to Cardiff. And Rachmaninov’s brilliant tribute to the spirit of the demon fiddler, Paganini, promises to spring to life in the hands
of acclaimed young pianist Yevgeny Sudbin.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio un o’n hoff gampweithiau corawl: y Requiem agosatoch, tangnefeddus a chariadus gan Fauré a ninnau’n croesawu Thierry Fischer yn ei
ôl i Gaerdydd. Ac mae teyrnged ddisglair Rachmaninov i ysbryd y cythraul o ffidler, Paganini, yn addo’n deg fagu bywyd o’r newydd
o dan ddwylo’r pianydd ifanc mawr ei glod Yevgeny Sudbin.
Fauré Requiem
Tickets Tocynnau
£10-29
FRiday / GWeneR 07.02.2014, 7.30pm
mAHlEr Symphony No 9 / Symffoni Rhif 9
Conductor / Arweinydd Thomas Søndergård
Thomas Søndergård conducts one of the greatest of all symphonies. It opens with the rhythm of an irregular heartbeat from within the orchestra, before embarking on a journey of super-human intensity
through to its heart-rending conclusion ninety minutes later.
Thomas Søndergård yn arwain un o’r symffonïau mwyaf oll. Dechreua â rhythm curiad calon afreolaidd o’r tu mewn i’r gerddorfa cyn cychwyn ar daith oruwchddynol ei dwyster
drwodd i’w chanu’n iach yn galonrwygol awr a hanner yn ddiweddarach.
Mahler 9with / gyda Søndergård
Tickets Tocynnau
£10-29
Post-concert event with digwyddiad wedi’r cyngerdd
yng nghwmni
Thomas søndergård
saTuRday / sadWRn 01.03.2014, 7pm
mATHiAS Anniversary Dances
PAul mEAlor Celtic Prayers (world premiere / première byd)
Medley of traditional Welsh songs /
Medlai o ganeuon traddodiadol Cymru
Conductor / Arweinydd Grant llewellynBaritone / Bariton Gary GriffithsBBC national Chorus of Wales /
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBCmassed youth Choirs / Corau ieuenctid yn llu
Grant Llewellyn presides over a traditional St David’s Day gala concert joined by an array of Welsh soloists and choirs. There’s a mix of traditional works by Welsh composers and a new BBC
commission from Paul Mealor. Come along and join in one of the best-loved traditional gala events in Cardiff’s calendar.
Grant Llewellyn sy’n llywyddu cyngerdd Dydd Gwyl Dewi mawreddog traddodiadol a chymanfa o unawdwyr a chorau.
Mae yma gymysgedd o weithiau traddodiadol gan gyfansoddwyr Cymru a darn comisiwn newydd i’r BBC gan Paul Mealor. Dewch aton ni i fod yn rhan o un o’r hoff ddigwyddiadau mawreddog
traddodiadol yng nghalendr Caerdydd.
St David’s Day Gala Gala Dydd Gwyl Dewi
Tickets Tocynnau
£10-29
Family tickets tocynnau teulu
from / o £12.50
Family tickets tocynnau teulu
from / o £12.50
0800 052 1812 bbc.co.uk/now
FRiday / GWeneR 21.03.2014, 7.30pm
mArTinu Frescoes of / Ffresgos Piero della Francesca
dvorák Violin Concerto / Concerto Ffidil
BArTók Concerto for Orchestra / Concerto i’r Gerddorfa
Conductor / Arweinydd Jac van SteenViolin / Ffidil liza ferschtman
Two concertos in one programme as we welcome back Jac van Steen - dynamic Dutch violinist Liza Ferschtman plays Dvorák’s
warmly romantic Violin Concerto and the BBC National Orchestra of Wales are the soloists in Bartók’s Concerto for Orchestra:
a great showpiece in which every player has to deliver playing of spectacular virtuosity.
Dau concerto mewn un rhaglen a ninnau’n estyn croeso’n ôl i Jac van Steen – chwaraea’r ffidler egnïol o’r Iseldiroedd Liza
Ferschtman Concerto Ffidil cynnes o ramantaidd Dvorák a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ydi’r unawdwyr yn
Concerto i’r Gerddorfa Bartók: darn stondin tan gamp lle mae pob chwaraewr yn gorfod canu’n bencampwriaethol i’w ryfeddu.
Bartók’s Concerto for Orchestra Concerto Bartók i’r Gerddorfa
Tickets Tocynnau
£10-29
0800 052 1812 bbc.co.uk/now
FRiday / GWeneR 09.05.2014, 7.30pm
BrAHmS Piano Concerto No 1 / Concerto Piano Rhif 1
BEETHovEn Symphony No 7 / Symffoni Rhif 7
Conductor / Arweinydd Tadaaki otakaPiano John lill
Brahms’s First Piano Concerto is one of his most powerful works played here by one of Britain’s most loved pianists.
And there is the life-giving celebratory energy of Beethoven’s Seventh Symphony – its ceaseless energy made Wagner
famously declare it “the apotheosis of the dance”.
Mae Concerto Piano Cyntaf Brahms yn un o’i weithiau mwyaf grymus a chwaraeir yma gan un o hoff bianyddion Prydain.
A dyma egni dathliadol bywiocaol Seithfed Symffoni Beethoven a’i ynni di-baid a barodd i Wagner, fel sydd hysbys,
ddatgan ei fod yn “apotheosis y ddawns”.
John Lillplays / yn chwarae Brahms
Tickets Tocynnau
£10-29
FRiday / GWeneR 23.05.2014, 7pm
Conductor / Arweinydd Grant llewellyn
NOW It’s Your Turn offers the opportunity for you to suggest your favourite pieces of music and hear them live. But that’s not all... this event will create a platform for talent in Wales, showcasing the
stars of the future. There will be opportunities to try out instruments, have a go at conducting and even sit amongst the players on stage.
So come along for the perfect introduction to the orchestra for some, and a whole new experience for others.
NAWR Chi Piau Dewis – yn cynnig y cyfle i chi awgrymu eich hoff ddarnau o gerddoriaeth a’i glywed yn fyw. Ond nid dyna’r cwbl...
bydd y digwyddiad yma’n creu llwyfan i ddawn yng Nghymru, yn rhoi stondin i sêr dydd a ddaw. Bydd yna gyfleoedd i roi cynnig
ar offerynnau newydd, i roi cynnig ar arwain a hyd yn oed i eistedd ymhlith y chwaraewyr ar lwyfan. Felly dewch heibio i’r cyflwyniad
perffaith i’r gerddorfa i rai, a phrofiad cwbl newydd i eraill.
NOW it’s your turn! NAWR CHI PIAU DEWIS!
Tickets Tocynnau
£15
Family tickets tocynnau teulu
from / o £12.50
Family tickets tocynnau teulu
from / o £12.50
FRiday / GWeneR 13.06.2014, 7.30pm
HAydn Symphony No 99 / Symffoni Rhif 99
BrAHmS Ein Deutsches Requiem
Conductor / Arweinydd Thomas SøndergårdSoprano Gisela Stille
Baritone John lundgrenBBC national Chorus of Wales /
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Thomas Søndergård closes the season with one of the world’s great choral works. In his lyrical and uplifting Requiem, Brahms
wrote a work of hope shot through with a powerful sense of calm and serenity. Haydn was one of Brahms’s favourite composers and
the freshness and vigour of his Symphony No 99 has endeared it to audiences for over two centuries.
Thomas Søndergård yn dwyn y tymor i’w derfyn mewn un o weithiau corawl mawr y byd. Yn ei Requiem telynegol a dyrchafol
sgrifennodd Brahms waith brith gan ymdeimlad grymus o dawelwch a thangnefedd. Roedd Haydn yn un o hoff gyfansoddwyr
Brahms ac, yn sgîl ei ffresni a’i hoen, mae ei Symffoni Rhif 99 yn hoff gan gynulleidfaoedd ers dros ddwy ganrif.
Brahms Requiemwith / gyda Søndergård
Tickets Tocynnau
£10-29
Post-concert event with digwyddiad wedi’r cyngerdd
yng nghwmni
Thomas søndergård
Save Money Arbed Arian
familiesJoin us as a family to save money: 1 adult and up to 2 children £12.50; 2 adults and up to 4 children £18.
Studentsstudents with a valid nus card and under-18s can buy the best available tickets for just £6 each.
Save 10% and claim free programmesBook 4 concerts at the same time direct from the Orchestra to save 10% and receive free programme vouchers. Call 0800 052 1812 to book your Flexi-4 Concert Package and choose your concerts as late as 10am on the day of the concert (also available to students and Families at the prices quoted above).
Concessionsdiscounts are available for disabled patrons, wheelchair users, claimants and over 65s – please ask for details when booking.
GroupsCome as a group of 10 or more to claim a 15% discount.
myfyrwyrCaiff myfyrwyr a chanddyn nhw gerdyn dilys uCM, a phobol ifainc dan 18 oed godi’r tocynnau gorau sydd ar gael am ddim ond £6 yr un.
Teuluoedddewch aton ni fel teulu i arbed arian: 1 oedolyn a hyd at 2 o blant £12.50; 2 oedolyn a hyd at 4 o blant £18.
Arbed 10% a chael rhaglenni am ddimO godi tocynnau i 4 cyngerdd ar yr un pryd yn uniongyrchol gan y Gerddorfa arbedwch chi 10% a chael talebau rhaglenni am ddim. Rhowch ganiad i 0800 052 1812 i godi eich Pecyn Cyngherddau Pedwar Penrhydd a dewis eich cyngherddau cyn hwyred â deg o’r gloch ar ddiwrnod y cyngerdd (hefyd ar gael i Fyfyrwyr a Theuluoedd am y prisiau uchod).
ConsesiynauMae disgowntiau ar gael i gyngherddwyr anabl, defnyddwyr cadair olwyn a phobl dros 65 oed – gofynnwch am fanylion pan fyddwch yn codi tocynnau.
Grwpiaudewch fel grwp o 10 neu mwy i hawlio gostyngiad o 15%.
0800 052 1812 bbc.co.uk/now029 2087 8444 stdavidshallcardiff.co.uk
2013-14 St David’s Hall season at a glance Cipolwg tymor 2013-14 Neuadd Dewi Sant
Wed / MeR 18.09.13 7.30pm america at the Movies / america yn y Pictiwrs
FRi / GWe 04.10.13 7.30pm shostakovich & Poulenc with / gyda søndergård
FRi / GWe 15.11.13 7.30pm Tasmin Little plays / yn chwarae szymanowski
FRi / GWe 28.11.13 7.30pm Rachmaninov & Prokofiev
Tue / MaW 17.12.13 7pm Christmas Celebrations / dathlu’r nadolig
FRi / GWe 24.01.14 7.30pm Fauré Requiem
FRi / GWe 07.02.14 7.30pm Mahler 9 with / gyda søndergård
saT / sad 01.03.14 7pm st david’s day Gala / Gala dydd Gwyl dewi
FRi / GWe 21.03.14 7.30pm Bartók’s Concerto for Orchestra Concerto Bartók i’r Gerddorfa
FRi / GWe 09.05.14 7.30pm John Lill plays / yn chwarae Brahms
FRi / GWe 23.05.14 7pm nOW it’s your turn! / naWR chi piau dewis!
FRi / GWe 13.06.14 7.30pm Brahms Requiem with / gyda søndergård
Book noWTickets are available direct from the Orchestra on 0800 052 1812 and online at bbc.co.uk/now or via the st david’s Hall Box Office on 02920 878 444 or online at stdavidshallcardiff.co.uk (concessions are available).
Concerts at BBC Hoddinott HallJoin us at our home in Cardiff Bay for three seasons of music: americana, Contemporary and afternoons – tickets are priced from just £8 or £9. For further information or to request your copy of the BBC Hoddinott Hall brochure, call 0800 052 1812 or email [email protected].
Codwch docynnau nAWrMae tocynnau ar gael yn uniongyrchol gan y Gerddorfa ar 0800 052 1812 bbc.co.uk/now neu drwy swyddfa docynnau neuadd dewi sant 02920 878 444 ac ar-lein yn stdavidshallcardiff.co.uk (mae tocynnau mantais ar gael).
Cyngherddau yn neuadd Hoddinott y BBCdewch aton ni i’n cartref ym Mae Caerdydd i dri thymor o gerddoriaeth: americana, Cyfoes a Phrynhawniau – dim ond £8 neu £9 ydi prisiau isaf y tocynnau. am ragor o wybodaeth neu i ofyn am eich copi o lyfryn neuadd Hoddinott y BBC, rhowch ganiad i 0800 052 1812 neu ebostio [email protected].