25
Rural Housing Week 20 - 27 May 2013 Wythnos Tai Gwledig 20 - 27 Mai 2013 English Cymraeg #RHW13

Rural Housing Week 20 - 27 May 2013 Wythnos Tai Gwledig 20 ... · Rural Housing Week 20 - 27 May 2013 Wythnos Tai Gwledig 20 - 27 Mai 2013 English Cymraeg #RHW13. Rural Housing Week

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Rural Housing Week

20 - 27 May 2013

Wythnos Tai Gwledig

20 - 27 Mai 2013

English Cymraeg

#RHW13

Rural Housing Week

20 - 27 May 2013

#RHW13

Affordable housing is the lifeblood of any

sustainable rural community. A lack of

affordable housing means a lack of local

people, and the lack of local people

means a decreasing need for rural

services and amenities such as the local

school, shop, post office and transport

links.

Affordable housing is fundamental to the economic

and social wellbeing of rural Wales, yet the challenges

facing housing providers in these areas have been

well documented. A report by the Joseph Rowntree

Foundation in 2008 highlighted a rise in hidden

homelessness, an acute shortage of available land

for new build, a large number of homes sitting empty

in Wales, and higher development costs in rural

areas along with poor statistical analysis of rural

housing need.

Since the report was launched almost five years ago,

we have made some progress such as the

introduction of a Welsh network of Rural Housing

Enablers – experts who work with communities to

help encourage development of affordable housing.

We also now have a commitment that publicly-owned

land will be registered and released for new affordable

housing, and the Welsh Government have set a target

of bringing 5,000 empty properties back into use.

We have also seen a cut in the amount of government

funding for social housing, and the recent welfare

reforms and the ‘bedroom tax’ in particular will have a

massive impact on people living in rural Wales. The

supply of temporary accommodation available to local

authorities in rural Wales mainly consists of leased

private rented properties or bed and breakfast

accommodation.

The NIMBY lobby is still out in full strength in many

parts of rural Wales, using ‘village green’ applications,

ecological protection actions and other planning

objections to prevent or slow down the development

of new affordable housing.

Rural Housing Week is your chance to plan some

positive and engaging activities for stakeholders and

tenants. The purpose is to show elected

representatives, as well as local people, the value of a

thriving rural community and the essential role of

affordable housing. It is also an ideal opportunity to

raise awareness among local communities and parish

councils of the importance of sympathetic and

sustainable rural development and the benefits it can

bring to the wider community.

We hope you find this pack useful and that you

take full advantage of the opportunity to join the

movement in promoting the economic value of

affordable rural housing.

Rural Housing Week 2013

Foreword

Amanda Oliver, Head of Policy and

Research, Community Housing Cymru

Steve Jones, Chair of the Rural Housing

Strategic Group

WHAT IS RURAL HOUSING WEEK AND

WHY IS IT IMPORTANT?

It is widely acknowledged that rural Wales suffers

from an acute shortage of affordable housing, with

many people being priced out of the local housing

market and forced to move to other areas.

While the lack of affordable housing isn’t the only

problem facing rural communities, it is arguably the

most serious as good quality affordable housing is

fundamental in maintaining the balance of

generations necessary to sustain a community.

Just a small number of new affordable homes can

benefit the whole community and help to sustain

local businesses and services. Affordable housing is

about much more than bricks and mortar – it’s the

lifeblood of a sustainable community.

Rural Housing Week is all about bringing housing

associations, Rural Housing Enablers, local

authorities and other stakeholders together to show

just how important housing is, and to show how

successful partnership working is key to ensuring

that our communities are truly sustainable.

Rural Housing Week 2013

Use this as an opportunity to highlight the

challenges they face in delivering affordable

housing in rural areas to decision makers at

a regional and local level.

OUR VISION FOR RURAL HOUSING WEEK

Twelve of the twenty-two Local Authorities in Wales

are classified as rural or semi-rural. There are 21

property-holding housing associations operating

across these authorities.

Our vision for Rural Housing Week is for all

members operating in this environment to:

Demonstrate the important role affordable housing plays in maintaining small rural communities. To highlight the value, not only for the individuals and families who benefit from the homes, but the role they have in helping to preserve the economic viability of rural communities by ensuring continued demand for key services such as shops, schools, post offices and local pubs.

RURAL:

Anglesey

Gwynedd

Conwy

Denbighshire

Powys

Ceredigion

Pembrokeshire

Carmarthenshire

Monmouthshire

SEMI-RURAL:

Flintshire

Wrexham

Vale of Glamorgan

Rural Housing Week 2013

WHAT’S HAPPENING DURING

RURAL HOUSING WEEK?

Rural Housing Week begins on 20 May and runs until

27 May. What happens during the week depends on

your organisation – we need you to make it a

success. 21 voices are better than one and, by

coordinating our efforts, Rural Housing Week can

demonstrate our commitment to working in

partnership to deliver affordable housing to decision

makers at a regional and local level in order to build

truly sustainable communities.

Your involvement will be key to the success of Rural

Housing Week and we have highlighted some of the

ways in which you can get involved on page 6. This

list is by no means exhaustive, and you may already

do something with your tenants on a regular basis

that can be adapted to tie in with Rural Housing

Week. However you choose to get involved, we are

keen to hear about it in order to help you promote it

and to add you to the list of supporting organisations.

So… it’s over to you! We want you to hold a variety of

interesting activities for elected representatives,

stakeholders and residents. Please organise a

discussion within your organisation (including

communications and PR staff) and come up with

some ideas about what activities you can do and how

you can promote them.

RURAL STRATEGIC DAY

During Rural Housing Week we will be holding a Rural

Housing Strategic Day on 23 May. See page 11 for

further details. Newly appointed Housing and

Regeneration Minister, Carl Sargeant, will be attending

and addressing delegates. We are looking forward to

bringing rural professionals under one roof for a lively

debate with some real outcomes.

SHOW YOUR SUPPORT!

We are urging all supporting organisations and

individuals working within that organisation to show

their support by placing their pin on our supporters

map. The support statement is simple: ‘I am serious

about sustainable communities’.

If you are holding events or communicating with

elected representatives or other stakeholders, we are

urging you to ask them to pin their support too. We

will be monitoring the pins throughout Rural Housing

Week and looking at each local authority to see who

has the most support, so spread the word!

www.underoneroofcymru.org/show-your-support.php

Rural Housing Week 2013

Sources: Land Registry, NFU Mutual research, Guardian Online, Assembly

Research Service, Consumer Focus Wales, Census 2011, Winmark

Research, Campaign for Community Banking Services.

KEY STATISTICS

Between 2001 and

2011, the number of

Welsh speakers has

fallen from 582,000

to 562,000.

562,000

Carmarthenshire saw

a 6.4% decrease in

Welsh speakers during

the last decade, and

Ceredigion saw a

decrease of 4.7%.

-6.4%

Rural homelessness

DOUBLED in

Ceredigion between

2009 and 2012.

x2

Between March 2012

and March 2013, house

prices rose in ANGLESEY

(+1.6%), GWYNEDD

(+1.2%), FLINTSHIRE

(+2.4%), compared with a

decrease in BRIDGEND

(-7.5%), TORFAEN (-4.9%)

and RCT (-4.3%).

+1.6%

35% of rural

villages saw at

least one pub/shop

close in 2012.

35%

The three counties

with the highest

number of broadband

“NOTSPOTS” are

Powys, Pembrokeshire

and Carmarthenshire.

!

1 in 6 households in

Wales (206,000) are off

the gas grid with 44% of

these in fuel poverty,

compared to around

20% in on-gas

properties.

1 in 6

There is a shortage

of banking facilities in rural

Wales, and in the last ten

years just under 2,000 bank

branches across the UK

have closed. This has left

1,200 communities with

no bank branch, and a

further 900 with only

one remaining.

2,000

Rural Housing Week 2013

HOW DO YOU GET INVOLVED?

First and foremost, let us know that you are taking

part by contacting [email protected] or

phone 029 2067 4804. We want to know your plans

for events and activities to mark Rural Housing Week

so that we can help you to promote them alongside

wider campaign activities.

If you currently don’t have anything planned from

20-27 May that could tie in with Rural Housing Week,

here are some examples of activities you could

organise:

PIN YOUR SUPPORT

Are you serious about sustainable communities? Pin

your support and spread the word!

Following the Local Government elections, CHC

launched ‘Under One Roof’ in collaboration with Care

& Repair Cymru and CREW Regeneration Wales. We

are urging you to ask all stakeholders, staff and elected

representatives who have an interest in rural housing to

pin their support to show they are serious about

sustainable communities. Pin your support by visiting

www.underoneroofcymru.org/show-your-support.php

SITE/DEVELOPMENT VISIT

Invite your local elected representatives to join you

and your partners on a rural development site or

completed development. This will provide you with a

great opportunity to highlight the benefits of the new

affordable homes, not only for those living in them but

also for the wider community. Is there a local resident

willing to tell their story? It is also an opportunity to

discuss challenges in bringing the development into

fruition and lessons learned.

MORE THAN BRICKS AND MORTAR

We know that housing associations are about so

much more than bricks and mortar - we invest in

communities and change people’s lives. Do your local

elected representatives know this too? Are you

holding an information event around welfare reform or

a tenant fun day, or are you providing a local service

such as running a food bank, a healthy eating club or

a digital inclusion initiative to help get tenants online?

If so, why not invite your local representative so they

can experience the difference you are making first

hand? For key statistics about the wider economic

impact of Welsh housing associations, visit

annualreport2012.chcymru.org.uk/infographic/index.php

Rural Housing Week 2013

ROUND TABLE DISCUSSION

What are the barriers to providing local affordable

housing in your area? Is it something your local

elected representative can assist with? Whether it’s a

planning issue, nimbyism or a lack of affordable land,

getting all relevant organisations together to discuss

the issue will help local elected representatives

understand the issues.

MAKE THE POINT

Write to your local councillor, AM and MP to highlight

local issues, or develop a short briefing paper for

them on a topical issue such as welfare reform and

the impact it will have in their constituency. Good

examples could include Universal Credit and the

barriers around digital inclusion and financial inclusion.

SHOUT ABOUT IT

Decide on your local key messages and distribute a

press release to your local news outlets. Get an

elected representative to provide a supportive quote

or arrange an interview with the local radio station. If

you can, source relevant case studies to help

strengthen your key message.

GO SOCIAL

Social media is a great way of making contact with

your elected representatives and to shout about the

good work you are doing in your local area. Most

elected representatives manage their own twitter

feeds and this is a quick and effective way of getting

in touch with them. We will be using the #RHW13

hashtag – please use it when tweeting about

information which is relevant to the week.

Facebook and YouTube are also effective channels to

highlight the work you are doing locally. Why not get

your tenants to make a short video about their local

community to highlight why they are proud to live

there, and share via social media channels?

Follow CHC on Twitter for updates on what the sector

is up to during Rural Housing Week. You can also like

our Facebook page (Community Housing Cymru

Group) to see pictures of events taking place during

Rural Housing Week.

GET CREATIVE – THE SKY’S THE LIMIT

Be creative! If there are any other activities you are

involved with for Rural Housing Week, please let us

know so that we can inspire others. Get your staff,

contractors and tenants involved!

Please keep us up to date with your lobbying activities.

Success stories will be featured on our website and in

a Rural Housing Week supplement for Cartref, and

good practice will be shared to help others collaborate

for sustainable communities.

#RHW13

Rural Housing Week 2013

KEY MESSAGES

There are a number of angles you can take

to promote Rural Housing Week. Two positive

messages include:

The messages you choose to communicate will

depend on your local organisation and may include

some of the following:

Welfare Reform: Impact on rural housing and lack

of smaller properties for those willing to downsize.

Land: Outward migration from local area, local people

priced out of market, land needed for affordable housing.

Sustainable communities: Your rural development

has helped to keep the local shop/school/post office

open.

Green agenda: Highlighting the work being done

around fuel poverty in rural areas. Health benefits

and cost savings for tenants.

Welsh language: Thriving/declining in an area

according to the census. New homes built/lack of

affordable housing contributing to this.

Land: Development built on land given by local authority/

church: The difference this has made to the price of

affordable housing, and to the people living there.

Jobs and Training: WHQS programme complete

- how many contracts were awarded locally? How

many job and apprenticeship opportunities did your

organisation support? Investment in housing =

multiplier effect.

Empty Properties: How you’re working in

partnership to bring empty properties back into use.

CASE STUDIES

A good case study will help you to communicate and

strengthen your key messages. CHC would also be

interested in receiving them to use with the national

media. If you are happy to share with us, please send

the details to [email protected] .

We will consider any case studies we receive for

inclusion in press releases if they fit agreed themes

and will also consider it for CHC’s website, ‘Around

the Houses’ and a Rural Housing Week supplement

for Cartref.

Housing associations provide so much more

than bricks and mortar. They invest in

communities and change lives.

Affordable housing is the lifeblood of a sustainable community. Just a small number of new affordable homes can benefit the whole community and help to sustain local businesses and services.

Rural Housing Week 2013

TIPS FOR ENGAGING WITH POLITICIANS

The need to build strong relationships between

housing associations, local authorities, AMs, MPs and

councillors has never been greater. As elected

representatives, they are important figures in your

community as they represent the interests of your

tenants and make decisions about services that affect

local people and your organisation.

While we know that housing associations are

providing high quality homes and services, some

stakeholders remain critical of the sector. In some

cases this is because of the complaints they receive

from constituents and the limited exposure they have

to the positive work we do. Knowledge and

understanding of the contribution your organisation

makes to the local community could prove vital in

decisions, or provide them with the evidence they

need to scrutinise executive decisions effectively.

The Welfare Reform Act will also have a massive

impact on our tenants and on our business, and it’s

important that we are communicating these

challenges to our local elected representatives and

highlighting the work we are doing to mitigate against

the worst effects of these changes. No doubt AMs

and MPs are seeing an increase in case load as a

result of these changes too, so communicating what

we are doing, innovations we have in place and

advice and support we are offering tenants should be

welcomed by them.

To find out who your elected representatives are, visit

http://www.underoneroofcymru.org/representatives.php

DO YOUR RESEARCH

Find out what their political interests are and how

you can help them further these. Is your local

representative the housing spokesperson for their

party? Do they sit on any relevant committees in the

Senedd/Local Government? Do they have a

particular interest in digital inclusion or financial

capability? Are they on the board of your local credit

union? Do your research and see how you can make

the links with housing!

ATTRACT ATTENTION

Although we are working together as a sector, you are

competing with lots of other organisations for

attention. As a provider of affordable homes in your

elected representative’s constituency, you have a

good case to make about why they should be

interested in what you have to say.

They expect to be lobbied and expect to be asked to

do something, whether it is making a speech, cutting

a ribbon, or simply expressing support for an initiative.

Most will be happy to provide a supportive quote to

the local press, for example.

Rural Housing Week 2013

BE AUTHORITATIVE

Be a good source of information and advice. AMs,

MPs and councillors are all generalists and have a lot

of issues to deal with, so they appreciate having

someone they can go to with questions and get

authoritative answers. If you want them to do

something, be clear about how they can help.

Likewise, if they ask you for your help or advice, be

prepared to give it!

BE PERSISTENT

Like ourselves, AMs, MPs and councillors are busy

people and may not be able to accept your invitations

due to prior diary commitments. Don’t give up!

Top Tips:

Assembly Members are tied up in Plenary sessions in

the Senedd every Tuesday and Wednesday so if you

have a request for an AM, check their availability for

either a Monday, Thursday afternoon, Friday or on a

weekend by contacting their constituency office.

MPs are usually only in their constituencies on

Fridays, weekends and when Parliament is not

sitting – the rest of the time they have to be in

Westminster.

CULTIVATE THEIR STAFF

AMs’ and MPs’ staff are very influential and, if you are

on good terms, they can be very helpful. They tend to

work in small teams and if they think it will be of

interest to an AM or MP to do something, they are

likely to bring it to their attention. Council staff are also

important contacts.

HOW WILL WE KNOW IF

IT’S BEEN A SUCCESS?

CHC uses a media monitoring service to track press

coverage. Individual organisations are also asked to

keep an eye on their local press and, where possible,

let us know what success you’ve had locally. Equally,

please keep details of events you have held and any

contact with councillors, AMs, MPs and other key

stakeholders. Send us pictures from your events and

scheme visits too, as well as tweets you’ve had

retweeted by relevant stakeholders, AMs and MPs. All

of this will be useful for evaluating our activity.

Rural Housing Week 2013

ANNEX A:

TEMPLATE LETTER FOR AM/MP/COUNCILLORS

This template is an outline letter you can use to invite elected representatives to attend an

event you are organising during Rural Housing Week.

The more specific you can be, the more likely they are to accept. Keep details clear and brief

(eg you want them to officially open a new development in their constituency) and stress that

lots of people (i.e voters) will be there.

For contact details for your local elected representatives click here:

www.underoneroofcymru.org/representatives.php

--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Dear [Name],

Invitation to Rural Housing Week 2013

In order to highlight the impact of affordable rural housing in the region, housing associations are teaming up

with Community Housing Cymru to launch Rural Housing Week from 20-27 May 2013.

I am writing to invite you to take part in Rural Housing Week by joining us at [event] to [speak/cut the ribbon/

photo opportunity etc].

Time: [details]

Place: [details]

Rural Housing Week aims to highlight the need for affordable homes for local people. It will show the positive

social and economic impact of well designed rural housing upon villages. This event…. [details of the event,

what is the aim, who will be there? Do you want the invitee to do anything in particular at the event?]

I would be grateful if you could let us know if you are able to attend this event by contacting [name].

For more information about Rural Housing Week, please visit www.chcymru.org.uk or contact Aaron Hill at

Community Housing Cymru on 029 2067 4802 or [email protected].

I look forward to hearing from you.

Yours Sincerely,

[name]

Chief Executive

[Housing Association]

Rural Housing Week 2013

ANNEX B – PROGRAMME FOR RURAL HOUSING STRATEGIC DAY

RURAL HOUSING STRATEGIC DAY

THURSDAY 23 MAY

BRECON CASTLE HOTEL

9:00am Registration and Refreshments

9:30 Welcome & Introduction Steve Jones, Chief Executive of Tai Ceredigion and

Chair of the Rural Housing Strategic Group

9:40 Ministerial Address Carl Sargeant AM, Minister for Housing &

Regeneration

10:00 – 10:45: Workshop Session 1 Community Land Trusts: Catherine Harrington,

Community Land Trust Network

Empty Homes: Susie Abson, Rural Housing Enabler

for Mid Powys

The challenges of an ageing society in rural Wales:

Martyn Jones, Age Cymru

10:45 Refreshments and Networking

11:00 A Local Government perspective

on rural housing

WLGA

11:30 Rural Housing Enablers Rhidian Jones, Welsh Government

12:15 Lunch and Networking

1:15 Planning: The Rural Perspective Neil Hemmington, Welsh Government (Invited)

1:45 – 2.30: Workshop Session 2 21 solutions to provide rural housing:

Henk Jan Kuipers, RHE for North Powys

and Mary Sillitoe, RHE for Anglesey

Fuel Poverty: Nigel Winnan, Wales & West Utilities

Digital Inclusion: Communities 2.0

Welfare Reform: Elin Brock, CT Cantref

2:30 Closing Remarks

2:45 Refreshments

3:00 RHE Chairs Meeting Rural RSL Chief Execs’ Meeting

4:00 Event Close

Wythnos Tai Gwledig

20 - 27 Mai 2013

#RHW13

Tai fforddiadwy yw anadl einioes unrhyw

gymuned wledig gynaliadwy. Mae diffyg

tai fforddiadwy yn golygu diffyg pobl leol,

ac mae diffyg pobl leol yn golygu llai o

alw am wasanaethau gwledig a

chyfleusterau megis ysgolion, siopau a

swyddfeydd post lleol a chysylltiadau

trafnidiaeth.

Mae tai fforddiadwy yn sylfaenol i les economaidd a

chymdeithasol Cymru wledig, eto mae’r heriau sy’n

wynebu darparwyr tai yn yr ardaloedd hyn yn hysbys

iawn. Soniodd adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree

yn 2008 am gynnydd yn nifer y digartref cudd, prinder

enbyd o dir ar gyfer adeiladu newydd, nifer fawr o dai

gwag yng Nghymru, a chostau datblygu uwch mewn

ardaloedd gwledig ynghyd â dadansoddiad ystadegol

gwael o anghenion tai gwledig.

Ers lansio’r adroddiad bron bum mlynedd yn ôl,

rydym wedi gwneud peth cynnydd megis cyflwyno

rhwydwaith o Swyddogion Galluogi Tai Gwledig yng

Nghymru - arbenigwyr sy’n gweithio gyda

chymunedau i helpu annog datblygiad tai fforddiadwy.

Mae gennym yn awr hefyd ymrwymiad y caiff tir

cyhoeddus ei gofrestru a’i ryddhau ar gyfer tai

fforddiadwy newydd, ac mae gan Lywodraeth Cymru

darged o ddod â 5,000 o dai gwag yn ôl i ddefnydd.

Gwelsom hefyd ostyngiad yn swm cyllid y llywodraeth

ar gyfer tai cymdeithasol, a bydd y diwygiadau lles

diweddar a’r ‘dreth ystafelloedd gwely’ yn neilltuol yn

cael effaith enfawr ar bobl sy’n byw yng Nghymru

wledig. Mae’r cyflenwad o lety dros dro sydd ar gael i

awdurdodau lleol yng Nghymru wledig yn bennaf yn

cynnwys adeiladau rhent preifat ar les neu lety gwely

a brecwast.

Mae’r lobi NIMBY yn dal yn gryf mewn llawer rhan o

Gymru wledig, gan ddefnyddio ceisiadau ‘grîn

pentref’, camau diogelu’r amgylchedd a

gwrthwynebiadau cynllunio eraill i atal neu arafu

datblygiad tai fforddiadwy newydd.

Yr Wythnos Tai Gwledig yw’ch cyfle i gynllunio rhai

gweithgareddau cadarnhaol a diddorol ar gyfer

rhanddeiliaid a thenantiaid. Y diben yw dangos i

gynrychiolwyr etholedig, yn ogystal â phobl leol, werth

cymuned wledig ffyniannus a rôl hanfodol tai

fforddiadwy. Mae hefyd yn gyfle delfrydol i godi

ymwybyddiaeth ymysg cymunedau a chynghorau

cymuned o bwysigrwydd datblygiad gwledig cydnaws

a chynaliadwy a’r manteision y gall hynny ei roi i’r

gymuned ehangach.

Gobeithiwn y bydd y pecyn yma’n ddefnyddiol i chi ac

y byddwch yn manteisio’n llawn ar y cyfle i ymuno â’r

mudiad i hyrwyddo gwerth economaidd tai gwledig

fforddiadwy.

Wythnos Tai Gwledig 2013

Rhagair

Amanda Oliver, Pennaeth Polisi ac

Ymchwil, Cartrefi Cymunedol Cymru

Steve Jones, Cadeirydd Grwp Strategol

Tai Gwledig

BETH YW’R WYTHNOS TAI GWLEDIG A PHAM

EI BOD YN BWYSIG?

Cydnabyddir yn eang fod Cymru wledig yn dioddef o

brinder enbyd o dai fforddiadwy, gyda llawer o bobl

wedi’u prisio allan o’r farchnad tai leol ac yn cael eu

gorfodi i symud i ardaloedd eraill.

Er nad diffyg tai fforddiadwy yw’r unig broblem sy’n

wynebu cymunedau gwledig, medrid dadlau mai

dyma’r broblem fwyaf difrifol gan fod tai fforddiadwy

ansawdd da yn sylfaenol i gynnal y cydbwysedd

cenedlaethau sydd ei angen i gynnal cymuned.

Gall nifer fechan o gartrefi fforddiadwy newydd fod o

fudd i’r holl gymuned a helpu i gynnal busnesau a

gwasanaethau lleol. Mae tai fforddiadwy yn

ymwneud â llawer mwy na dim ond brics a morter -

dyma anadl einioes cymuned gynaliadwy.

Nod yr Wythnos Tai Gwledig yw dod â

chymdeithasau tai, swyddogion galluogi tai gwledig,

awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill ynghyd i

ddangos yn union pa mor bwysig yw tai, ac i

ddangos sut mae gweithio partneriaeth lwyddiannus

yn allweddol i sicrhau fod ein cymunedau’n

wirioneddol gynaliadwy.

Wythnos Tai Gwledig 2013

Defnyddio hyn fel cyfle i roi sylw i’r heriau

wrth sicrhau tai fforddiadwy mewn ardaloedd

gwledig gerbron gwneuthurwyr

penderfyniadau ar lefel ranbarthol a lleol.

EIN GWELEDIGAETH AR GYFER YR WYTHNOS

TAI GWLEDIG

Caiff 12 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru eu

dosbarthu fel rhai gwledig neu lled-wledig. Mae 21

o gymdeithasau tai yn dal eiddo yn gweithredu yn

yr awdurdodau hyn.

Ein gweledigaeth ar gyfer yr Wythnos Tai

Gwledig yw i bob aelod sy’n gweithredu yn yr

amgylchedd yma i:

Ddangos rôl bwysig tai fforddiadwy mewn cynnal cymunedau gwledig bach ac amlygu eu gwerth, nid yn unig i’r unigolion a’r teuluoedd sy’n manteisio o’r cartrefi ond hefyd eu rôl mewn helpu i gadw hyfywedd economaidd cymunedau gwledig drwy sicrhau galw parhaus am wasanaethau allweddol megis siopau, ysgolion, swyddfeydd post a thafarndai lleol.

GWLEDIG:

Ynys Môn

Gwynedd

Conwy

Sir Ddinbych

Powys

Ceredigion

Sir Benfro

Sir Gaerfyrddin

Sir Fynwy

LLED-WLEDIG:

Sir y Fflint

Wrecsam

Bro Morgannwg

Wythnos Tai Gwledig 2013

BETH SY’N DIGWYDD YN YSTOD

YR WYTHNOS TAI GWLEDIG?

Mae’r Wythnos Tai Gwledig yn dechrau ar 20 Mai ac yn

rhedeg hyd 27 Mai. Mae’r hyn sy’n digwydd yn ystod yr

wythnos yn dibynnu ar eich sefydliad - rydym eich angen

chi i’w gwneud yn llwyddiant. Mae 21 llais yn well nag un

a, thrwy gydlynu ein hymdrechion, gall yr Wythnos Tai

Gwledig ddangos ein hymrwymiad i weithio mewn

partneriaeth i sicrhau tai fforddiadwy gerbron

gwneuthurwyr penderfyniadau ar lefel ranbarthol a lleol

er mwyn adeiladu cymunedau gwirioneddol gynaliadwy.

Bydd eich ymgyfraniad yn allweddol i lwyddiant yr

Wythnos Tai Gwledig ac rydym wedi amlinellu rhai o’r

ffyrdd y gallwch gymryd rhan ar dudalen 6. Nid yw’r

rhestr yma’n gynhwysfawr, ac efallai eich bod eisoes yn

gwneud rhywbeth gyda’ch tenantiaid ar sail reolaidd y

gellir ei addasu i glymu mewn gyda’r Wythnos Tai

Gwledig. Sut bynnag y dewiswch gymryd rhan, rydym

yn awyddus i glywed amdano er mwyn eich helpu i’w

hyrwyddo ac i’ch ychwanegu at y rhestr o sefydliadau

sy’n cefnogi.

Felly... mae drosodd i chi! Rydym am i chi gynnal

amrywiaeth o weithgareddau diddorol ar gyfer

cynrychiolwyr etholedig, rhanddeiliaid a phreswylwyr.

Gofynnir i chi drefnu trafodaeth o fewn eich sefydliad (yn

cynnwys staff cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus) a

llunio rhai syniadau am ba weithgareddau y gallwch eu

cynnal a sut y gallwch eu hyrwyddo.

DIWRNOD STRATEGOL TAI GWLEDIG

Byddwn yn cynnal Diwrnod Strategol Tai Gwledig ar

23 Mai yn ystod yr Wythnos Tai Gwledig. Mae

manylion pellach ar dudalen 11. Bydd Carl Sargeant,

sydd newid ei benodi’n Weinidog Tai ac Adfywio, yn

mynychu ac yn annerch cynrychiolwyr. Edrychwn

ymlaen at ddod â swyddogion gwledig dan un to i

gael trafodaeth fywiog gyda chanlyniadau

gwirioneddol.

DANGOS EICH CEFNOGAETH!

Rydym yn annog pob sefydliad ac unigolion sy’n

cefnogi sy’n gweithio o fewn y sefydliad hwnnw i

ddangos eu cymorth drwy roi pin ar ein map

cefnogwyr. Mae’r datganiad cefnogaeth yn syml:

‘Rwyf o ddifrif am gymunedau cynaliadwy’.

Os ydych chi’n cynnal digwyddiadau neu’n cyfathrebu

gyda chynrychiolwyr etholedig neu randdeiliaid eraill,

rydym yn eich annog i ofyn iddynt binio eu cefnogaeth

hefyd. Byddwn yn monitro’r piniau ar hyd yr Wythnos Tai

Gwledig ac yn edrych ar bob awdurdod lleol i weld pwy

sydd gan y gefnogaeth fwyaf, felly lledaenwch y gair!

http://www.underoneroofcymru.org/w-show-your-support.php

Wythnos Tai Gwledig 2013

Ffynhonnell: Y Gofrestrfa Tir, ymchwil NFU Mutual, Guardian Online,

Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad, Llais Defnyddwyr Cymru, Cyfrifiad 2011,

Winmark Research, Ymgyrch dros Wasanaethau Bancio Cymunedol.

YSTADEGAU ALLWEDDOL

Gostyngodd nifer

siaradwyr Cymraeg

o 582,000 i 562,000

rhwng 2001 a 2011.

562,000

Yn y deng mlynedd

diwethaf bu gostyngiad

o 6.4% yn nifer y

siaradwyr Cymraeg yn

Sir Gaerfyrddin a

gostyngiad o 4.7%

yng Ngheredigion

-6.4%

DYBLODD

digartrefedd gwledig

yng Ngheredigion

rhwng 2009 a 2012.

x2

Rhwng Mawrth 2012 a

Mawrth 2013, cynyddodd

prisiau tai yn YNYS MÔN

(+1.6%), GWYNEDD

(+1.2%), SIR Y FFLINT

(+2.4%), o gymharu gyda

gostyngiad ym MHEN-Y-

BONT AR OGWR (-7.5%),

TORFAEN (-4.9%) a

RHONDDA CYNON

TAF (-4.3%).

+1.6%

Cafodd o leiaf un

dafarn/siop ei chau

mewn 35% o

bentrefi gwledig

yn 2012.

35%

Y tair sir gyda’r nifer

uchaf o ardaloedd yn

METHU DERBYN

BAND EANG yw

Powys, Sir Benfro a Sir

Gaerfyrddin.

!

Mae 1 MEWN 6 o

aelwydydd Cymru

(206,000) heb fod ar y grid

nwy gyda 44% ohonynt

mewn tlodi tanwydd, o

gymharu â thua 20%

mewn aelwydydd sydd

ar y grid nwy

1 in 6

Mae prinder

cyfleusterau bancio yng

Nghymru wledig, ac yn y

deng mlynedd diwethaf

cafodd 2,000 o ganghennau

banciau ar draws y Deyrnas

Unedig eu cau. Mae hyn wedi

gadael 1,200 o gymunedau

heb unrhyw gangen banc, a

900 arall gyda dim ond un

gangen banc ar ôl.

2,000

Wythnos Tai Gwledig 2013

SUT MAE CYMRYD RHAN?

Yn gyntaf oll, gadewch i ni wybod eich bod yn cymryd

rhan drwy gysylltu â [email protected]

neu ffonio 029 2067 4804. Rydym eisiau clywed am

eich cynlluniau am ddigwyddiadau a gweithgareddau i

nodi’r Wythnos Tai Gwledig fel y gallwn eich helpu i’w

hyrwyddo wrth ochr gweithgareddau ymgyrch

ehangach.

Os nad oes gennych ddim byd ar y gweill ar hyn o

bryd rhwng 20-27 Mai a allai glymu gyda’r Wythnos

Tai Gwledig, dyma rai enghreifftiau o weithgareddau y

gallech eu trefnu:

PINIO EICH CEFNOGAETH

Ydych chi o ddifrif am gymunedau cynaliadwy?

Piniwch eich cefnogaeth a lledaenu’r gair!

Lansiodd CHC ‘Dan Un To’ yn dilyn yr etholiadau

llywodraeth leol, mewn cysylltiad gyda Care & Repair

Cymru a CREW Adfywio Cymru. Rydym yn eich annog

i ofyn i bob rhanddeiliad, staff a chynrychiolwyr

etholedig sydd â diddordeb mewn tai gwledig i binio eu

cefnogaeth i ddangos eu bod o ddifrif am gymunedau

cynaliadwy. Piniwch eich cefnogaeth drwy fynd i

www.underoneroofcymru.org/w-show-your-support.php

YMWELIAD SAFLE DATBLYGU

Gwahoddwch eich cynrychiolwyr etholedig lleol i

ymuno â chi a’ch partneriaid ar safle datblygu gwledig

neu ddatblygiad sydd wedi’i orffen. Bydd hyn yn rhoi

cyfle gwych i ddangos manteision tai fforddiadwy

newydd ar gyfer y bobl sy’n byw ynddynt a hefyd ar

gyfer y gymuned yn ehangach. A oes rhywun sy’n

byw’n lleol sy’n fodlon dweud eu stori? Mae hefyd yn

gyfle i drafod heriau wrth ddod â’r datblygiad i ffrwyth

a’r gwersi a ddysgwyd.

MWY NA BRICS A MORTER

Gwyddom fod cymdeithasau tai am gymaint mwy na

brics a morter - buddsoddwn mewn cymunedau a

newid bywydau pobl. A yw’ch cynrychiolwyr etholedig

lleol yn gwybod hyn hefyd? Ydych chi’n cynnal

digwyddiad gwybodaeth o amgylch diwygio lles neu

ddiwrnod hwyl i denantiaid, neu ydych chi’n darparu

gwasanaeth lleol tebyg i redeg banc bwyd, clwb

bwyta’n iach neu gynllun cynhwysiant digidol i’ch

helpu i gael tenantiaid ar-lein? Os felly, pam na

wahoddwch eich cynrychiolydd lleol fel y gallant weld

drostynt eu hunain y gwahaniaeth a wnewch? I gael

ystadegau allweddol am effaith economaidd

ehangach cymdeithasau tai Cymru, ewch i

annualreport2012.chcymru.org.uk/infographic/index-cy.php

Wythnos Tai Gwledig 2013

TRAFODAETH BWRDD CRWN

Beth yw’r rhwystrau i ddarparu tai fforddiadwy lleol yn

eich ardal? A yw’n rhywbeth lle gallai eich

cynrychiolydd etholedig lleol roi cymorth? P’un ai’n

fater cynllunio neu ddiffyg tir fforddiadwy, bydd cael yr

holl sefydliadau perthnasol ynghyd i drafod y mater yn

helpu cynrychiolwyr etholedig lleol i ddeall y materion.

GWNEUD Y PWYNT

Ysgrifennwch at eich cynghorydd lleol, Aelod

Cynulliad ac Aelod Seneddol i dynnu sylw at faterion

lleol, neu paratowch bapur gwybodaeth byr iddynt ar

fater llosg megis diwygio lles ac effaith hynny ar eu

hetholaeth. Gallai enghreifftiau da gynnwys Credyd

Cynhwysol a’r rhwystrau o amgylch cynhwysiant

digidol a chynhwysiant ariannol.

GWEIDDWCH AMDANO

Penderfynwch ar eich negeseuon allweddol lleol a

dosbarthu datganiad i’r wasg i’r cyfryngau yn lleol.

Gofynnwch i gynrychiolydd etholedig roi dyfyniad i’ch

cefnogi neu drefnu cyfweliad gyda’r orsaf radio leol.

Os gallwch, defnyddiwch astudiaethau achos

perthnasol i helpu cryfhau eich neges allweddol.

BYDDWCH YN GYMDEITHASOL

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o

gysylltu gyda’ch cynrychiolwyr etholedig ac i weiddi

am eich gwaith da yn eich ardal. Mae’r rhan fwyaf o

gynrychiolwyr etholedig yn defnyddio Twitter ac mae

hyn yn ffordd gyflym ac effeithiol o gysylltu gyda hwy.

Byddwn yn defnyddio hashtag #RHW13 -

defnyddiwch ef wrth drydaru gwybodaeth sy’n

berthnasol i’r wythnos.

Mae Facebook ac YouTube hefyd yn sianeli effeithiol i

roi sylw i’ch gwaith yn lleol. Beth am gael eich

tenantiaid i wneud fideo byr am eu cymuned leol i

ddangos pam eu bod yn falch i fyw yno, a rhannu

hynny drwy’r sianeli cyfryngau cymdeithasol?

Dilynwch CHC ar Twitter i gael y diweddaraf ar yr hyn

mae’r sector yn ei wneud yn ystod yr Wythnos Tai

Gwledig. Gallwch hefyd ‘hoffi’ ein tudalen Facebook

(Community Housing Cymru Group) i weld lluniau o

ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn ystod yr

Wythnos Tai Gwledig.

BYDDWCH YN GREADIGOL

Byddwch yn greadigol! Os oes unrhyw weithgareddau

eraill yr ydych yn ymwneud â hwy ar gyfer yr Wythnos

Tai Gwledig, gadewch i ni wybod fel y gallwn ysbrydoli

eraill. Gofynnwch i’ch staff, contractwyr a thenantiaid

gymryd rhan!

Rhowch wybod i ni am eich gweithgareddau lobio.

Rhoddir sylw i straeon llwyddiant ar ein gwefan ac

mewn atodiad Wythnos Tai Gwledig ar gyfer Cartref, a

byddwn yn rhannu arfer da i helpu eraill i gydweithredu

dros gymunedau cynaliadwy.

#RHW13

Wythnos Tai Gwledig 2013

NEGESEUON ALLWEDDOL

Gallwch gymryd nifer o onglau i hyrwyddo’r Wythnos

Tai Gwledig. Mae’r negeseuon cadarnhaol yn

cynnwys:

Bydd y negeseuon y dewiswch eu cyfathrebu yn

dibynnu ar eich sefydliad lleol a gallant gynnwys

rhai o’r dilynol:

Diwygio Lles: Effaith ar dai gwledig a diffyg

anheddau llai ar gyfer rhai sy’n fodlon symud i

gartrefi llai.

Tir: Allfudo o’r ardal leol, pobl leol yn cael eu prisio

allan o’r farchnad, angen tir ar gyfer tai fforddiadwy.

Cymunedau cynaliadwy: Mae’ch datblygiad

gwledig wedi helpu i gadw’r siop/ysgol/swyddfa’r

post leol ar agor.

Agenda gwyrdd: Rhoi sylw i’r gwaith am dlodi

tanwydd mewn ardaloedd gwledig. Manteision

iechyd ac arbedion cost i denantiaid.

Y Gymraeg: Ffynnu/gostwng yn yr ardal yn ôl y

Cyfrifiad. Cartrefi newydd a adeiladwyd/diffyg tai

fforddiadwy yn cyfrannu at hyn.

Tir: Adeiladu datblygiad ar dir a roddwyd gan yr

awdurdod lleol/eglwys. Y gwahaniaeth a wnaeth

hyn i brisiau tai fforddiadwy ac i’r bobl sy’n byw yno.

Swyddi a Hyfforddiant: Rhaglen Safon Ansawdd

Tai Cymru wedi’i chwblhau - faint o gontractau a

ddyfarnwyd yn lleol? Faint o gyfleoedd swyddi a

phrentisiaeth wnaeth eich sefydliad eu cefnogi?

Buddsoddiad mewn tai - effaith lluosydd.

Tai Gwag: Sut ydych chi’n gweithio mewn

partneriaeth i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd.

ASTUDIAETHAU ACHOS

Bydd astudiaeth achos dda yn eich helpu i gyfathrebu

a chryfhau eich negeseuon allweddol. Byddai gan

CHC ddiddordeb hefyd yn eu derbyn i’w defnyddio

gyda’r cyfryngau cenedlaethol. Os ydych yn hapus i’w

rhannu gyda ni, anfonwch y manylion os gwelwch yn

dda at [email protected].

Byddwn yn ystyried unrhyw astudiaethau achos a

dderbyniwn i’w cynnwys mewn datganiadau i’r wasg

os ydynt yn ffitio themâu a gytunwyd a byddwn hefyd

yn eu hystyried ar gyfer gwefan CHC, ‘Trin Tai’ ac

atodiad Wythnos Tai Gwledig yn Cartref.

Mae cymdeithasau tai yn rhoi cymaint

mwy na dim ond brics a morter. Maent

yn buddsoddi mewn cymunedau ac yn

newid bywydau.

Tai fforddiadwy yw anadl einioes cymuned gynaliadwy. Gall nifer fechan o dai fforddiadwy newydd fod o fudd i’r holl gymuned a helpu i gynnal busnesau a gwasanaethau lleol.

Wythnos Tai Gwledig 2013

CYNGHORION AR GYFER CYSYLLTU GYDA

GWLEIDYDDION

Ni fu’r angen i adeiladu perthynas gref rhwng

cymdeithasau tai, awdurdodau lleol, Aelodau

Cynulliad, Aelodau Seneddol a chynghorwyr erioed yn

fwy. Fel cynrychiolwyr etholedig, maent yn ffigurau

pwysig yn eich cymuned gan eu bod yn cynrychioli

buddiannau eich tenantiaid ac yn gwneud

penderfyniadau am wasanaethau sy’n effeithio ar bobl

leol a’ch sefydliad.

Er y gwyddom fod cymdeithasau tai yn darparu

cartrefi a gwasanaethau ansawdd uchel, mae rhai

rhanddeiliaid yn parhau’n feirniadol o’r sector. Mewn

rhai achosion mae hyn oherwydd y cwynion a gânt

gan etholwyr a diffyg cysylltiad gyda’n gwaith

cadarnhaol. Gallai gwybodaeth a dealltwriaeth o

gyfraniad eich sefydliad i’r gymuned leol brofi’n

hollbwysig mewn penderfyniadau, neu roi’r dystiolaeth

iddynt y maent eu hangen i graffu’n effeithlon ar

benderfyniadau.

Bydd gan y Ddeddf Diwygio Lles hefyd effaith enfawr

ar ein tenantiaid ac ar ein busnesau, ac mae’n bwysig

ein bod yn cyfathrebu’r heriau hyn i’n cynrychiolwyr

etholedig lleol ac yn rhoi sylw i’r gwaith a wnawn i

liniaru effeithiau gwaethaf y newidiadau hyn. Mae’n

sicr y bydd Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol

yn gweld cynnydd yn eu gwaith fel canlyniad i’r

newidiadau hyn hefyd, felly dylent fod yn croesawu

cael gwybod am ein gwaith, ein cynlluniau newydd a’r

gefnogaeth a roddwn i denantiaid.

I ganfod pwy yw eich cynrychiolwyr etholedig, ewch i:

www.underoneroofcymru.org/w-representatives.php

GWNEUD EICH YMCHWIL

Dewch i wybod beth yw eu diddordebau gwleidyddol

a sut y gallwch eu helpu i’w hyrwyddo. Ai’ch

cynrychiolydd lleol yw llefarydd tai eu plaid? A ydynt

yn aelod o unrhyw bwyllgorau perthnasol yn y

Cynulliad/Senedd/Llywodraeth Leol? A oes ganddynt

ddiddordeb neilltuol mewn cynhwysiant digidol neu

alluedd ariannol? A ydynt ar fwrdd eich undeb credyd

lleol? Gwnewch eich ymchwil a gweld sut y gallwch

wneud y cysylltiadau gyda thai!

DENU SYLW

Er ein bod yn cydweithio fel sector, rydych yn cystadlu

gyda llwythi o sefydliadau eraill i gael sylw. Fel

darparydd tai fforddiadwy yn etholaeth eich

cynrychiolydd etholedig, mae gennych achos da i’w

wneud am pam y dylent fod â diddordeb yn yr hyn

sydd gennych i’w ddweud.

Maent yn disgwyl cael eu lobio ac yn disgwyl y

gofynnir iddynt wneud rhywbeth, p’un ai yw hynny’n

rhoi araith, torri rhuban neu ddim ond mynegi

cefnogaeth i gynllun. Bydd y rhan fwyaf yn hapus i roi

dyfyniad yn eich cefnogi i’r wasg leol, er enghraifft.

Wythnos Tai Gwledig 2013

BOD YN AWDURDODOL

Anelwch fod yn ffynhonnell dda o wybodaeth a

chyngor. Mae Aelodau Cynulliad, Aelodau Seneddol a

chynghorwyr i gyd yn delio gyda nifer fawr o feysydd

a llawer o faterion i’w trin, felly maent yn

gwerthfawrogi cael rhywun y gallant fynd atynt gyda

chwestiynau a chael atebion awdurdodol. Os ydych

eisiau iddynt wneud rhywbeth, byddwch yn glir am

sut y gallant helpu. Yn yr un modd, os ydynt yn gofyn

i chi am help neu gyngor, byddwch yn barod i’w roi!

BOD YN DDYGN

Fel ni, mae Aelodau Cynulliad, Aelodau Seneddol a

chynghorwyr yn bobl brysur ac efallai na allant

dderbyn eich gwahoddiadau oherwydd ymrwymiadau

blaenorol yn eu dyddiaduron. Daliwch ati!

Cyngor da:

Mae Aelodau Cynulliad yn brysur mewn sesiynau

llawn yn y Senedd bob dydd Mawrth a dydd

Mercher felly os oes gennych gais ar gyfer Aelod

Cynulliad, holwch os ydynt ar gael ar gyfer un ai

ddydd Llun, prynhawn Iau, dydd Gwener neu ar

benwythnos drwy gysylltu â’u swyddfa etholaeth.

Fel arfer dim ond ar ddyddiau Gwener,

penwythnosau a phan nad yw’r Senedd yn eistedd

y mae Aelodau Seneddol yn eu hetholaethau -

maent yn gorfod bod yn San Steffan weddill yr

amser.

MEITHRIN EU STAFF

Mae staff Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol yn

ddylanwadol iawn a gallant fod yn llawer o gymorth os

ydych ar delerau da. Maent yn tueddu i weithio mewn

timau bach, ac os credant y bydd o ddiddordeb i AC

neu AS i wneud rhywbeth, maent yn debygol o ddod

â’r mater i’w sylw. Mae staff Cyngor hefyd yn

gysylltiadau pwysig.

SUT Y BYDDWN YN GWYBOD OS BU’N

LLWYDDIANT?

Mae CHC yn defnyddio gwasanaeth monitro

cyfryngau i gadw golwg ar sylw yn y wasg. Gofynnir i

sefydliadau lleol hefyd gadw llygad ar eu gwasg leol a,

lle’n bosibl, adael i ni wybod pa lwyddiant a gawsoch

yn lleol. Yn yr un modd, cadwch fanylion

digwyddiadau yr ydych wedi’u cynnal ac unrhyw

gyswllt gyda chynghorwyr, Aelodau Cynulliad,

Aelodau Seneddol a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Anfonwch luniau atom o’ch digwyddiadau ac

ymweliadau i gynlluniau hefyd yn ogystal â negeseuon

trydar a gafodd eu hail-drydaru atoch gan randdeiliaid

perthnasol, Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad.

Bydd hyn i gyd yn ddefnyddiol ar gyfer gwerthuso ein

gweithgaredd.

Wythnos Tai Gwledig 2013

ATODIAD A:

LLYTHYR TEMPLED AR GYFER AC/AS/CYNGHORWYR

Mae’r templed yma yn amlinelliad o lythyr y gallwch ei ddefnyddio i wahodd cynrychiolwyr etholedig i fynychu

digwyddiad yr ydych yn ei drefnu yn ystod yr Wythnos Tai Gwledig.

Y mwyaf penodol y gallwch fod, y tebycaf ydynt o dderbyn. Cadwch fanylion yn glir ac yn gryno (ee rydych

eisiau iddynt agor datblygiad newydd yn eu hetholaeth yn swyddogol) a phwysleisio y bydd llawer o bobl (h.y.

pleidleiswyr) yno.

I gael manylion cyswllt eich cynrychiolwyr etholedig lleol cliciwch yma:

www.underoneroofcymru.org/w-representatives.php

--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Annwyl [Enw],

Gwahoddiad i Wythnos Tai Gwledig 2013

Er mwyn rhoi sylw i dai gwledig fforddiadwy yn yr ardal, mae cymdeithasau tai yn uno gyda Cartrefi Cymunedol

Cymru i lansio’r Wythnos Tai Gwledig rhwng 20-27 Mai 2013.

Ysgrifennaf i’ch gwahodd i gymryd rhan yn yr Wythnos Tai Gwledig drwy ymuno â ni yn [digwyddiad] i [siarad/

torri’r rhuban/cyfle llun ac ati].

Amser: [manylion]

Lle: [manylion]

Nod yr Wythnos Tai Gwledig yw amlygu’r angen am dai fforddiadwy ar gyfer pobl leol. Bydd yn dangos effaith

gymdeithasol ac economaidd gadarnhaol tai gwledig a gynlluniwyd yn dda ar bentrefi. Bydd y digwyddiad yma

... [manylion y digwyddiad, beth yw’r nod, pwy fydd yno? Ydych chi eisiau i’r sawl a wahoddir wneud rhywbeth

arbennig yn y digwyddiad?]

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech adael i ni wybod os gallwch fynychu’r digwyddiad yma drwy gysylltu â

[name].

I gael mwy o wybodaeth am yr Wythnos Tai Gwledig, ewch i www.chcymru.org.uk neu gysylltu ag Aaron Hill yn

Cartrefi Cymunedol Cymru 029 2067 4802 ar [email protected].

Edrychaf ymlaen at glywed gennych.

Yn gywir iawn,

[enw]

Prif Weithredydd

[Cymdeithas Tai]

Wythnos Tai Gwledig 2013

ATODIAD B – RHAGLEN DIWRNOD STRATEGOL TAI GWLEDIG

DIWRNOD STRATEGOL TAI GWLEDIG

DYDD IAU 23 MAI

GWESTY CASTELL ABERHONDDU

9:00am Cofrestru a Lluniaeth

9:30 Croeso a Chyflwyniad Steve Jones, Prif Weithredydd Tai Ceredigion a

Chadeirydd y Rhwydwaith Tai Gwledig

9:40 Anerchiad y Gweinidog Carl Sargeant AC, Gweinidog Tai ac Adfywio

10:00 – 10:45 Sesiwn Gweithdai Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol: Catherine

Harrington, Rhwydwaith Ymddiriedolaeth Tir

Cymunedol

Tai Gwag: Susie Abson, Swyddog Galluogi Tai

Gwledig Canol Powys

Heriau cymdeithas heneiddiol yng Nghymru wledig:

Martyn Jones, Age Cymru

10:45 Lluniaeth a Rhwydweithio

11:00 Safbwynt Llywodraeth Leol ar Dai

Gwledig

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

11:30 Swyddogion Galluogi Tai Gwledig Rhidian Jones, Llywodraeth Cymru

12:15 Cinio a Rhwydweithio

1:15 Cynllunio: Y Safbwynt Gwledig Neil Hemmington, Llywodraeth Cymru (gwahoddwyd)

1:45 – 2.30: Sesiwn Gweithdai 2 21 datrysiad i ddarparu tai gwledig:

Henk Jan Kuipers, SGTG Gogledd Powys a Mary

Sillitoe, SGTG Ynys Môn

Tlodi Tanwydd: Nigel Winnan, Wales & West Utilities

Cynhwysiant Digidol: Cymunedau 2.0

Diwygio Lles: Elin Brock, CT Cantref

2:30 Sylwadau Cloi

2:45 Lluniaeth

3:00 Cyfarfod Cadeiryddion

Swyddogion Tai Gwledig

Cyfarfod Prif Weithredwyr LCC Gwledig

4:00 Diwedd y Digwyddiad