Upload
others
View
4
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Pecyn Dogfennau
DYDD GWENER 15 MEDI 2017
CYD-BWYLLGOR ERWY LLWYFAN, HEOL Y COLEG, CAERFYRDDIN AM 2.30 PM
DDYDD IAU 21 MEDI 2017
A G E N D A
1. YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
2. DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL
3. LLOFNODI'N GOFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y CYD-BWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 17 GORFFENNAF2017.
3 - 12
4. DATGANIAD O GYFRIFON ERW AR GYFER 2016-17. 13 - 74
5. DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL CONSORTIWM ERW AR GYFER 2016-17.
75 - 86
6. Y COD LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL RHANBARTHOl. 87 - 120
7. ADOLYGIAD O DREFNIADAU ARIANNOL ERW. 121 - 138
8. SICRHAU GALLU YMGYNGHORWYR HER. 139 - 156
9. CANYLNIADAU TGAU 157 - 168
10. UNRHYW EITEMAU ERAILL O FUSNES Y MAE'R CADEIRYDD, OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, YN PENDERFYNU Y DYLID EU HYSTYRIED FEL MATER O FRYS, YN UNOL AG ADRAN 100(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972
Bwriadwyd i'r dudalen hon fod yn wag
Eitem 3 ar yr Agenda
Cyd-Bwyllgor ERWDydd Llun 17 Gorffennaf 2017
Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin2.00-3.50 pm
YN BRESENNOL: Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn [Cadeirydd]
Y Cynghorydd Emlyn Dole Cyngor Sir Caerfyrddin
Y Cynghorydd David Simpson Cyngor Sir Penfro
Y Cynghorydd Rosemarie Harris Cyngor Sir Powys
Y Cynghorydd Jennifer Raynor Dinas a Sir Abertawe
Y Cynghorydd Peter Rees Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Y Cynghorydd Myfanwy Alexander Cyngor Sir Powys
Mr Mark James Prif Weithredwr Arweiniol – ERW
Ms Bronwen Morgan Cyngor Sir Ceredigion
Mr Ian Westley Cyngor Sir Penfro
Mr Jeremy Patterson Cyngor Sir Powys
Aled Evans Cyfarwyddwr Arweiniol ERW
Betsan O’Connor Rheolwr Gyfarwyddwr ERW
Mr Jonathan Haswell Cyngor Sir Penfro(Swyddog A151 ERW)
Ms Elin Prysor Cyngor Sir Ceredigion (Swyddog Monitro ERW)
Mr Ian Budd Cyngor Sir Powys
Ms Chris Sivers Dinas a Sir Abertawe
Ms Jo Hendy Cyngor Sir Penfro(Pennaeth Archwilio Mewnol ERW)
Mr Ian Eynon Cyngor Sir Penfro(Swyddog A151 ERW) Mr
Steve Davies Llywodraeth Cymru
Ms Katie Morgan ERW
Ms Catherine Gadd Cyngor Sir Caerfyrddin(Gwasanaethau Democrataidd)
1. PENODI CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD
Cytunwyd ar y canlynol:(i) Penodi'r Cynghorydd Ellen ap Gwynn yn Gadeirydd;(ii) Penodi'r Cynghorydd Emlyn Dole yn Is-gadeirydd.
2. YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Rob Jones (Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot), y Cynghorydd Rob Stewart (Dinas a Sir Abertawe), Mr Steven Phillips (Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot) a Mr Phil Roberts (Dinas a Sir Abertawe).
3. DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Rhoddwyd ffurflenni i aelodau'r Cyd-bwyllgor er mwyn iddynt ddiweddaru eu buddiannau personol, a gofynnodd Rheolwr Gyfarwyddwr ERW iddynt ddychwelyd y ffurflenni, wedi'u llenwi, i ERW.
CYTUNWYD y byddai aelodau'r Cyd-bwyllgor yn dychwelyd eu Ffurflenni Buddiannau Personol, wedi'u llenwi, i ERW
4. COFNODION – 20 CHWEFROR 2017
CYTUNWYD i lofnodi'n gywir gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2017.
5. COFRESTR RISGIAU
Rhoddwyd copi o'r Gofrestr Risgiau i'r Cyd-bwyllgor, a oedd yn tynnu sylw at y prif risgiau yn y meysydd Corfforaethol, Ariannol a Gwella Ysgolion, gan alluogi ERW i leihau'r potensial o risgiau lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Nodwyd y byddai'r Gofrestr Risgiau yn cael ei hailfformatio i'w gwneud yn fwy clir ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.
Amlygodd Rheolwr Gyfarwyddwr ERW y ddwy risg allweddol a nodwyd yn y Gofrestr Risgiau Ganolog. Yn gyntaf, gallu'r rhanbarth i ymateb i ofynion posibl y Model Cenedlaethol a'r Papur Gwyn diwygiedig – Diwygio Llywodraeth Leol. Yn ail, y llythyrau a ddaeth i law gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn amlinellu'r disgwyliadau o ran sut y dylai ERW fod yn defnyddio ei Grant Amddifadedd Disgyblion 2017-2018: Cymorth i blant sy'n derbyn gofal, yn ysbryd y telerau ac amodau, fel y manylir arnynt yn yr adroddiad.
Nodwyd bod y gofrestr risgiau ar gyfer Ceredigion yn eisiau o'r adroddiad. Byddai'r swyddogion yn sicrhau ei bod yn cael ei dosbarthu i'r Pwyllgor a'i chynnwys mewn papurau yn y dyfodol.
CYTUNWYD bod y Gofrestr Risgiau yn cael ei derbyn a'i chymeradwyo.
6. DIWEDDARIAD GAN Y CYFARWYDDWR ARWEINIOL A'R RHEOLWR GYFARWYDDWR
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Arweiniol a Rheolwr Gyfarwyddwr ERW adroddiad ar lafar i'r Cyd-bwyllgor ar weithgareddau. Gofynnodd y Cadeirydd am gael adroddiad ysgrifenedig ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol. Nodwyd bod gwybodaeth fanwl am adborth gan Benaethiaid wedi'i chynnwys mewn adroddiad diweddarach.
Rhoddodd Rheolwr Gyfarwyddwr ERW yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y datblygiadau cenedlaethol i wella sgoriau PISA. Roedd gan bob rhanbarth gynrychiolydd ar grŵp cenedlaethol a oedd yn arwain y gwaith hwn. Nodwyd bod ysgolion yn gwbl ymwybodol o'r adnoddau sydd ar gael iddynt wrth baratoi ar gyfer y profion PISA. Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr adnoddau hyn hefyd yn ddefnyddiol o ran paratoi ar gyfer arholiadau TGAU, gan eu bod yn cwmpasu'r un set o sgiliau. Nodwyd bod dau Bennaeth o'r rhanbarth wedi cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith hwn. Jackie Parker, Pennaeth Ysgol Crucywel ym Mhowys, i gefnogi pob ysgol yn ERW; a Heather Lewis o Ysgol y Strade, i gefnogi ysgolion cyfrwng Cymraeg yn benodol, ledled Cymru, gan fod y data'n awgrymu y gallai anomaleddau fodoli o ran data PISA ar gyfer ysgolion Cymraeg. Cadarnhawyd bod Prif Weinidog Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r targedau ar gyfer PISA.
Darparwyd diweddariad ar y trefniadau ar gyfer drafftio'r Model Cenedlaethol newydd. Eglurwyd y bu oedi o ran y gwaith ar y prosiect hwn oherwydd yr etholiadau a rhwystrau eraill, ac na fyddai'n dechrau tan dymor yr hydref.
Rhoddodd Rheolwr Gyfarwyddwr ERW adborth ar ganlyniadau'r arholiadau TGAU. Nodwyd y disgwylid i'r gofynion newydd ar gyfer y cwricwlwm TGAU arwain at set ddata newydd, na fyddai'n debyg i flynyddoedd blaenorol. Newidyn arall a drafodwyd oedd rhoi mynediad cynnar i ddisgyblion i arholiadau. Gofynnodd yr aelodau pam yr oedd hyn yn effeithio ar y canlyniadau, gan na ddylai disgyblion gael mynediad cynnar oni bai eu bod yn barod i sefyll yr arholiadau. Eglurwyd bod llawer mwy o ddisgyblion blwyddyn 10 yn cael mynediad cynnar, a bod hyn yn effeithio ar gyflawniad y cohort. Nodwyd mai'r flaenoriaeth oedd y deilliannau gorau posibl ar gyfer y dysgwyr, ac y gallai mynediad cynnar i arholiad arwain at ddisgyblion yn cael gradd is na phe byddent wedi cwblhau'r cwrs llawn. Yn ogystal, nid oedd y disgyblion hynny a oedd wedi cael gradd C bob amser yn cael eu hailgofrestru ar gyfer yr arholiad er mwyn cael y deilliant gorau posibl. Eglurodd y Cyfarwyddwr Arweiniol fod trafodaethau wedi cael eu cynnal â Chyfarwyddwyr Addysg a sefydliadau Addysg Bellach ynghylch y mater hwn. Mynegwyd pryderon ynghylch Estyn yn gwneud dyfarniadau ar ysgolion yn ystod y cyfnod hwn, heb lwyr ystyried y newidiadau i'r safonau. Nodwyd nad oedd sgwrs ffurfiol wedi cael ei chynnal, ond bod Estyn yn ymwybodol o'r anghysondeb hwn. Cytunwyd y byddai adroddiad ar fynediad cynnar, yn cynnwys data rhanbarthol, yn cael ei roi gerbron cyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr ERW wrth y Pwyllgor y byddai'r Hunanasesiad wedi ei gwblhau erbyn diwedd y mis. Roedd yr adroddiad yn broses flynyddol a oedd yn dwyn ynghyd brif ganfyddiadau nifer o ffynonellau o ran gweithgareddau gwerthuso a sicrhau ansawdd yn ystod y flwyddyn. Nodwyd y byddai'r prif themâu yn cynnwys:
Yr amrywiad yng ngwaith yr Ymgynghorwyr Her o un Awdurdod Lleol i'r llall. Y gwahaniaethu rhwng Awdurdodau Lleol o ran y ffordd yr oeddent yn darparu
agweddau ar gymorth i ysgolion. Gwaith Tîm Canolog ERW, o ran blaenoriaethau cenedlaethol allweddol, yn cael ei
ddyblygu gan Staff yr Awdurdod Lleol; roedd hyn yn effeithio ar werth am arian.
Nodwyd bod ERW wedi trefnu cyfarfodydd briffio ag Aelodau o'r chwe Awdurdod Lleol, i roi diweddariad ar waith y consortiwm, a fyddai'n arbennig o fanteisiol i aelodau newydd. Nodwyd bod cyfathrebu da ledled y rhanbarth yn ffactor allweddol er mwyn i ERW weithio'n effeithlon.
Nodwyd bod y cydweithredu rhanbarthol â rhanbarthau eraill yn faes cryfder. Cafodd dau ddarn allweddol o waith eu hamlygu'n benodol, sef yr Academi Arweinyddiaeth ac ymgyrch i leihau llwyth gwaith athrawon. Eglurodd y Cyfarwyddwr Arweiniol fod arweinyddiaeth a datblygiad proffesiynol yn y rhanbarth yn cael sylw, a bod yr Academi Arweinyddiaeth yn rhaglen genedlaethol i sicrhau bod cymorth cydlynol a chyson ar gael ledled y pedwar rhanbarth. Mynegwyd pryderon gan yr Aelodau ynghylch y gwahaniaethau yn ansawdd y cymorth a ddarperid, ac o ran atal dyblygu. Esboniwyd y byddai'r Academi Arweinyddiaeth yn darparu mwy o gysondeb i gefnogi arweinyddiaeth ar amrywiaeth o lefelau, ac y byddai wedi'i thrwyddedu i sicrhau'r safon gywir. Eglurwyd mai'r amserlen ar gyfer datblygu'r gwaith hwn fyddai sicrhau bod cynnig cyffredin o ran agweddau ar arweinyddiaeth ar gael ym mhob rhanbarth erbyn mis Medi 2017, ac y byddai rhaglen lawn ar waith erbyn mis Medi 2018.
Nodwyd y byddai Estyn yn arolygu ERW yn ystod yr wythnos yn dechrau 13 Tachwedd 2017. Byddai gwybodaeth ar gael i'r Aelodau yn ystod yr wythnos yn dechrau 18 Medi 2017.
CYTUNWYD ar y canlynol:(i) bod yr adroddiad wedi dod i law ac wedi cael ei dderbyn;(ii) y byddai adroddiad, yn cynnwys data rhanbarthol, ar Fynediad Cynnar a Pherfformiad Cyfnod Allweddol 4, yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod o'r Cyd-bwyllgor yn y dyfodol.
7. LLYTHYR GAN Y PWYLLGOR CRAFFU
Dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor fod Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion pwyllgorau craffu pob un o'r chwe Awdurdod Lleol wedi cynnal eu cyfarfod chwemisol yng Ngheredigion, a hynny ar 27 Chwefror 2017. Daeth y casgliadau a'r argymhellion o'r cyfarfod i law y Pwyllgor.
Roedd y pynciau a drafodwyd yn ystod y cyfarfod yn cynnwys Rheoli Perfformiad, Categoreiddio Ysgolion, Arolygiad Estyn o ERW, yr ymgyrch i recriwtio athrawon, Addysg Ddewisol yn y Cartref a Llywodraethiant Ysgolion. Nodwyd y byddai'r grŵp yn croesawu ymateb i unrhyw un o'r pwyntiau a godwyd. Yn benodol, roeddent wedi amlygu y byddent yn falch o gael ymateb gan y Cyd-bwyllgor ynghylch pam nad oedd gan rai Awdurdodau Lleol y cwota llawn cytunedig o Ymgynghorwyr Her, a pha gamau oedd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â hyn.
Gofynnodd Aelodau'r Cyd-bwyllgor am i adroddiad ar y cwota o Ymgynghorwyr Her gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor, cyn ymateb i'r ymholiad penodol hwnnw.
CYTUNWYD ar y canlynol:
7.1 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;7.2 y byddai adroddiad ar y cwota o Ymgynghorwyr Her yn
cael ei gyflwyno i'r cyfarfod nesaf o'r Cyd-bwyllgor;7.3 bod ymateb yn cael ei ddrafftio i'r pwyntiau a godwyd gan y
Grŵp.
8. DATGANIAD O GYFRIFON ERW AR GYFER 2016-17
Eglurodd Swyddog Adran 151 ERW nad oedd Swyddfa Archwilio Cymru eto wedi llunio'r Archwiliad o'r Adroddiad ar y Datganiadau Ariannol (ISA 260), ac felly bod yn rhaid tynnu'r adroddiad yn ôl o'r cyfarfod. Nodwyd y byddai angen llofnodi'r Datganiad o Gyfrifon erbyn 30 Medi 2017, a gofynnwyd am gael cyfarfod ychwanegol o'r Cyd-bwyllgor yn ystod mis Medi, i ystyried yr adroddiad hwn.
Cytunwyd ar y canlynol:8.1 bod yr adroddiad yn cael ei dynnu'n ôl o gyfarfod y diwrnod hwnnw;8.2 bod cyfarfod ychwanegol o Gyd-bwyllgor ERW yn cael ei drefnu ar
gyfer mis Medi 2017.
9. DIWEDDARIAD ARIANNOL ERW – CHWARTER 1 2017-18
Cafodd y Pwyllgor wybod am y sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer blwyddyn 2017-18. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cyllidebau dangosol drafft ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018-19 a 2019-20, y cronfeydd wrth gefn a oedd ar gael i ranbarth ERW yn ystod y tair blynedd nesaf, lefel ddisgwyliedig cyllid grant Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2017-18, a gwybodaeth am nifer, rolau a chost y staff ar secondiad o'r ysgolion a'r Awdurdodau Lleol cyfansoddol. Nodwyd bod nifer y secondiadau yn risg i'r gwaith o drefnu'r tîm canolog rhanbarthol yn effeithiol.
Eglurwyd bod newidiadau wedi cael eu gwneud i'r Cytundebau Lefel Gwasanaeth, er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu gwir gost ERW, a bod costau bellach yn cael eu hadennill yn llawn. Nodwyd bod rolau'r swyddogion arweiniol yn dal i gael eu darparu'n rhad ac am ddim gan y rhanbarthau.
Nodwyd bod yr oedi o ran cadarnhau a thalu grantiau yn risg i'r rhanbarth. Eglurodd Swyddog Adran 151 fod yna randaliadau terfynol sylweddol o grantiau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 nad oeddent wedi dod i law o hyd. Roedd hyn yn rhoi pwysau ariannol ychwanegol ar y bancer arweiniol ar gyfer y rhanbarth, a hynny ar adeg pan oedd Awdurdodau Lleol o dan bwysau ariannol cynyddol. Nodwyd y byddai arian ERW wedi darfod pe byddai ganddo ei gyfrif banc ei hun. Eglurwyd bod Adran Addysg Llywodraeth Cymru wedi bod yn destun ailstrwythuro sylweddol, a bod hyn yn cynnwys cyllido. Dylai newidiadau o'r fath wella'r sefyllfa o ran talu grantiau mewn pryd, a byddai'r Pwyllgor yn gallu barnu'r flwyddyn ganlynol a fyddai gwelliannau wedi cael eu gwneud.
Nodwyd bod blaengynllunio yn anodd heb syniad bras o ddyraniad arian y grantiau dros gyfnod hirach. Nodwyd bod Gweinidogion Cymru yn ymwybodol o'r pryderon hyn, a'u bod yn ymchwilio i'r modd y dylid mynd i'r afael â nhw.
Eglurodd Swyddog Adran 151 y sefyllfa o ran cronfeydd wrth gefn, ac y byddai'r gyllideb ddisgwyliedig ar gyfer y tair blynedd nesaf yn arwain at wagio'r cronfeydd wrth gefn. Cytunodd y Pwyllgor i adolygiad ariannol gael ei gynnal.
CYTUNWYD ar y canlynol:9.1 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn, a bod diweddariad ariannol ERW
ar gyfer Chwarter 1 2017-18 yn cael ei nodi;9.2 bod y newidiadau i Gyllideb Refeniw Tîm Canolog ERW a chronfeydd
wrth gefn ERW ar gyfer 2017-18 i'w cymeradwyo;9.3 bod swm sylweddol yr incwm grant a oedd yn ddyledus i'r rhanbarth
yn ystod y flwyddyn ariannol honno yn cael ei nodi, ond mynegwyd pryder bod llythyrau cynnig terfynol yn dal heb ddod i law;
9.4 bod y risg sylweddol i'r rhanbarth, yn wyneb yr ansicrwydd a oedd yn parhau ynghylch cymeradwyo sawl ffrwd cyllid grant, yn cael ei nodi;
9.5 bod y risg sylweddol i'r rhanbarth, yn wyneb swm y cyllid craidd y mae'n ei gael, ynghyd â'r effaith ar gronfeydd wrth gefn y rhanbarth yn y tymor canolig, yn cael ei nodi;
9.6 bod adolygiad ariannol llawn yn cael ei gynnal o'r grantiau a'r cyllid craidd.
10. BARN SICRWYDD FLYNYDDOL PENNAETH ARCHWILIO MEWNOL CONSORTIWM ERW ar gyfer 2016-17
Cafodd y Cyd-bwyllgor Farn Sicrwydd Flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2016-17 o ran effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu, rheolaeth fewnol, rheoli risgiau a rheolaeth ariannol ERW. Nodwyd bod y Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2016-17 wedi cael ei gyflwyno yn unol â'r amserlen y cytunwyd arni gan y Pwyllgor. Roedd y rhaglen sicrhau ansawdd a gwella yn cadarnhau cydymffurfiaeth â gofynion gorfodol. Rhoddwyd sicrwydd sylweddol o ran digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau sydd ar waith. Nodwyd bod yna gyfleoedd ar gyfer gwella a oedd yn cael eu disgrifio'n fwy manwl yn yr Adroddiad Archwilio Mewnol.
CYTUNWYD bod Barn Sicrwydd Flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2016-17 yn cael ei nodi.
11. DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL CONSORTIWM ERW ar gyfer 2016-17
Eglurodd y swyddogion fod cysylltiad rhwng yr adroddiad a'r Cod Llywodraethu Corfforaethol Rhanbarthol diwygiedig a, chan fod angen gwneud mwy o waith ar y Cod, gofynnwyd am gael tynnu'r eitem hon yn ôl o'r cyfarfod. Cytunwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod ychwanegol y Cyd-bwyllgor ym mis Medi 2017.
Cytunwyd bod yr adroddiad yn cael ei dynnu'n ôl o'r cyfarfod a'i gyflwyno yng nghyfarfod ychwanegol y Cyd-bwyllgor.
12. ADRODDIAD ARCHWILIO MEWNOL CONSORTIWM ERW 2016-17
Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Archwilio Mewnol Consortiwm ERW 2016-2017, a oedd yn rhoi sicrwydd ynghylch effeithiolrwydd llywodraethu, rheolaeth fewnol, rheoli risgiau a threfniadau rheoli ariannol. Dywedodd y Pennaeth Archwilio Mewnol wrth y Pwyllgor ei bod yn bosibl rhoi sicrwydd sylweddol o ran digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau a oedd ar waith. Fodd bynnag, roedd yna sawl cyfle i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau a oedd yn bodoli. Nodwyd bod cynllun gweithredu wedi cael ei lunio i fynd i'r afael â'r meysydd i'w gwella a nodwyd yn yr adolygiad.
O ran cymorth i ysgolion, eglurwyd nad oedd y cymorth a ddarperid bob amser yn unol â'r gwelliannau a nodwyd, ac nad oeddid bob amser yn cyrraedd y targedau. Nodwyd bod y Pwyllgor eisoes wedi gofyn am wybodaeth am leoli Ymgynghorwyr Her, a chytunwyd i'r adroddiad gael ei estyn i gynnwys ansawdd a pherfformiad yr Ymgynghorwyr. Eglurodd Rheolwr Gyfarwyddwr ERW y byddai'n adrodd yn ôl gyda'r wybodaeth a oedd ar gael am berfformiad yr Ymgynghorwyr Her a'r safonau a ddisgwylid. Nodwyd y gallai rhanbarthau eraill symud ymlaen yn gynt â'r gwaith hwn gan mai'r consortia oedd rheolwyr llinell uniongyrchol yr Ymgynghorwyr Her; nid oedd hyn yn wir yn achos ERW.
Nodwyd yn yr adroddiad nad oedd y cymorth rhwng ysgolion yn cael ei ddatblygu'n gyson. Tynnwyd sylw at y ffaith bod rhannu arfer da rhwng ysgolion yn ddefnyddiol iawn, a darparwyd sawl enghraifft o hyn. Eglurwyd bod adborth hefyd yn cael ei roi i'r ysgolion hynny a oedd yn rhannu eu harfer da.
CYTUNWYD ar y canlynol:12.1 bod Adroddiad Archwilio Mewnol Consortiwm ERW ar gyfer
2016-17 yn cael ei nodi; 12.2 bod yr adroddiad ar y cwota o Ymgynghorwyr Her yn cael ei estyn i
gynnwys ansawdd, perfformiad a lleoliad yr ymgynghorwyr a'r staff cymorth, ynghyd ag argymhellion o ran sut i ymateb i'r risgiau a nodwyd yn yr Adroddiad Archwilio Mewnol.
13. Y COD LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL RHANBARTHOL
Nodwyd bod angen gwneud mwy o waith ar y Cod Llywodraethu Corfforaethol Rhanbarthol, a gofynnwyd am i'r adroddiad gael ei dynnu'n ôl o'r cyfarfod. Cytunwyd y byddai'n cael ei gyflwyno yng nghyfarfod ychwanegol y Cyd-bwyllgor, a oedd yn cael ei drefnu ar gyfer mis Medi 2017.
Cytunwyd bod yr adroddiad yn cael ei dynnu'n ôl a'i gyflwyno yng nghyfarfod ychwanegol y Cyd-bwyllgor.
14. GWERTH AM ARIAN
Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad diweddaru ar y rhaglen waith drefnedig o ran adolygiadau gwerth am arian ar gyfer 2017-18. Amlinellodd y swyddogion fod y fframwaith yr oedd y Pwyllgor wedi cytuno arno'n flaenorol yn cynnwys saith agwedd allweddol, a bod yr adroddiad yn cynnwys diweddariad o'r cynnydd ar
ddau linyn penodol, sef cymharu â rhanbarthau eraill a defnydd cynyddol o weithio digidol.
Eglurwyd bod sawl gweithgor gwahanol wedi cael eu sefydlu, a'u bod yn gweithio ar lefel gydweithredol ryngranbarthol i gymharu strategaethau, i ddysgu oddi wrth ei gilydd, ac i gynhyrchu deilliannau cadarnhaol yn y rhanbarth. Er enghraifft, roedd y grŵp cyllid wedi cwrdd i drafod strwythurau, adnoddau, modelau ariannu ac arfer gorau. Roedd rhannu arfer gorau a ffurfio fframwaith cyffredin wedi sicrhau bod y consortia yn gallu cynnal agwedd effeithiol at newid gan, ar yr un pryd, leihau defnydd unigolion o adnoddau a chyfyngu ar ddyblygu. Roedd Rheolwr Prosiectau Consortia wedi cael ei benodi, ac roedd hyn eto yn gwella gallu ERW i gymharu â rhanbarthau eraill ac i gydweithio. Nodwyd bod lefel uwch o gysondeb wedi bod yn amlwg wrth ddelio â Llywodraeth Cymru, a'r nod oedd parhau i sicrhau cyfarfodydd rheolaidd rhwng y grŵp a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru. Mynegwyd peth pryder y byddai hyn yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried y grŵp yn sefydliad cenedlaethol. Eglurwyd bod y grŵp yn deall ei rôl o ran gweithio ar y cyd, a bod llinynnau rhanbarthol clir yn bodoli. Nodwyd pwysigrwydd cydnabod beth oedd yn gweithio'n effeithiol.
Tynnwyd sylw at y ffaith y bu cynnydd yn y defnydd o weithio digidol o ran teithio, cynhaliaeth, deunyddiau ysgrifennu a gweinyddiaeth. Rhoddwyd enghreifftiau o effaith gadarnhaol y gwaith hwn, a oedd wedi arwain at fwy o allu a phrosesau integredig.
CYTUNWYD bod y diweddariad ar werth am arian yn cael ei nodi, a bod y rhaglen waith drefnedig ar gyfer gwerth am arian yn cael ei nodi.
15. ADRODDIAD GWERTHUSO Y PENAETHIAID
Ystyriodd y Cyd-bwyllgor adroddiad Gwerthuso y Penaethiaid, a oedd yn dadansoddi cyfweliadau â Phenaethiaid y rhanbarth, yn ogystal â holiaduron ar-lein, ynghylch eu canfyddiad o ERW a'r rôl y mae'n ei chwarae ym mywyd eu hysgol o ddydd i ddydd.
Eglurodd Rheolwr Gyfarwyddwr ERW fod holiadur y Penaethiaid mewn blynyddoedd blaenorol wedi bod yn darparu llun o adborth a oedd yn gwella, ond nad oedd hyn wedi bod yn gyson â thrafodaethau parhaus â Phenaethiaid a rhanddeiliaid eraill. Roedd ERW wedi comisiynu gwerthusiad annibynnol, mwy manwl, i gefnogi canfyddiadau'r holiadur.
Roedd yr adborth o'r gwaith hwn wedi dangos nad oedd meysydd allweddol o waith y rhanbarth yn gwella'n ddigon cyflym.
Roedd y negeseuon allweddol fel a ganlyn: Anghysondeb o ran ansawdd y cymorth a'r her gan yr Ymgynghorwyr Her. Roedd y trosiant Ymgynghorwyr Her ar gyfer pob ysgol yn rhwystr i
ddilyniant. Anghysondeb mewn canfyddiadau ledled y rhanbarth o ran beth yn union
yw swyddogaethau ERW, yn benodol lle roedd ymgynghorwyr a gyflogid gan Awdurdodau Lleol yn ymgysylltu ag ysgolion. Fel rhanbarth, nid oedd ERW yn symud ar hyd y continwwm gwella
ysgolion yn ddigon cyflym. Roedd hyn yn arwain at fwy o angen i rannu arfer da a gwaith ysgol i ysgol.
Nodwyd bod angen mwy o gysondeb o ran cymorth ysgol i ysgol ac o ran meithrin hyder ysgolion mewn gwasanaethau gwella ysgolion.Eglurwyd bod Tîm Canolog ERW, erbyn mis Medi, wedi paratoi'r gwelliannau canlynol o ran cyfathrebu:
Gwefan newydd, a ddylai arwain at well cyfathrebu ag ysgolion. Gwybodaeth benodol i'w hanfon trwy e-bost at Benaethiaid. Byddai gwybodaeth fwy cyffredinol yn cael ei dosbarthu trwy gylchlythyr
ERW. Byddai gan bob ysgol ddewislen cymorth, roedd dysgu proffesiynol ar
gael i sicrhau gwelliant yn y modd yr oedd anghenion yn cael eu bodloni, ac roedd yna well paratoi ar gyfer ymweliadau craidd.
Nododd yr Aelodau y dyfyniadau a'r sylwadau yn yr adroddiad a oedd yn amlygu'r pwysau ar Benaethiaid a'r swm cynyddol o waith papur. Nodwyd bod y pedwar rhanbarth yn cydweithio ar adnodd i Leihau Llwyth Gwaith Athrawon ar gyfer mis Medi.
CYTUNWYD bod Adroddiad Gwerthuso y Penaethiaid yn cael ei dderbyn.
16. Y MODEL CLWSTWR
Daeth adroddiad i law'r Cyd-bwyllgor ar y datblygiadau allweddol angenrheidiol i gyflawni Cynllun Busnes a Strategaeth ERW ac ymateb i flaenoriaethau allweddol y Llywodraeth, yn ogystal â gwella ansawdd yr addysgu a'r dysgu yn y rhanbarth. Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar fecanwaith cyflawni allweddol ar gyfer darparu cymorth i ysgolion a rhwng ysgolion.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai ERW yn ariannu pob clwstwr i gyflogi Arweinydd Dysgu, er mwyn cefnogi pob ysgol i wella ansawdd yr addysgu a'r dysgu, a gwella gallu arweinwyr ledled y clwstwr. Nodwyd bod y gwaith yn adeiladu ar arfer gorau o waith Arweinwyr Dysgu cyfredol mewn ysgolion uwchradd, a gwaith rhanbarthau eraill o ran ariannu cydweithio.
Holodd yr Aelodau am y risgiau a oedd yn gysylltiedig â'r gost gynyddol ar gyfer gwaith clwstwr, ac eglurwyd mai secondiadau mewn blynyddoedd i ddod, ac oedi o ran cadarnhau a thalu grantiau, oedd y risgiau. Mynegwyd pryder ynghylch bodloni gofynion ieithyddol mewn rhai clystyrau, a chadarnhawyd y byddai'r dyraniad sgiliau yn bodloni angen. Yn ogystal, nodwyd bod anghenion pob clwstwr o ran cymorth wedi cael eu mapio yn erbyn anghenion, a bod Pennaeth cyswllt wedi cael ei benodi i gefnogi pob rhwydwaith.
Gofynnwyd a oedd y gallu ar gael i lenwi swyddi'r Arweinwyr Dysgu, gan fod y rhanbarth yn cael trafferth recriwtio Ymgynghorwyr Her. Nodwyd bod athrawon brwdfrydig, hynod fedrus, wedi dangos diddordeb, a'u bod, mae'n debyg, o'r safon gywir ac yn ystyried y newidiadau i'r cwricwlwm yn gyfle da. Nodwyd hefyd mai'r Awdurdod Lleol, ac nid ERW yn ganolog, oedd yn gwneud y gwaith o recriwtio Ymgynghorwyr Her.
CYTUNWYD ar y canlynol:16.1 bod yr Adroddiad ar y Model Clwstwr yn cael ei dderbyn;
16.2 bod y gwaith o ddatblygu rhwydweithiau Addysgu a Dysgu ledled y rhanbarth yn cael ei gymeradwyo.
CADEIRYDD DYDDIAD
Tudalen 13
Eitem 4 ar yr Agenda
CYD-BWYLLGOR ERW21 MEDI 2017
Datganiad o Gyfrifon ERW ar gyfer 2016-17
Diben: Cymeradwyo a llofnodi Datganiad o Gyfrifon ERW ar gyfer2016-17
ARGYMHELLION/PENDERFYNIADAU ALLWEDDOL GOFYNNOL:
Cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor o Ddatganiad o Gyfrifon ERW ar gyfer 2016-17
Datganiad o Gyfrifon ERW ar gyfer 2016-17 i'w lofnodi gan Swyddog Adran 151 ERWa Chadeirydd y Cyd-bwyllgor
RHESYMAU: Cael cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor
Awdur yr Adroddiad:
Jon Haswell
Swydd:
Swyddog A151 ERW
Rhif Ffôn: 01437 775836
E-bost:[email protected]
CRYNODEB GWEITHREDOL CYD-BWYLLGOR ERW21 MEDI 2017
Datganiad o Gyfrifon ERW ar gyfer 2016-17
CRYNODEB BYR O DDIBEN YR ADRODDIAD(a) Y Cyd-bwyllgor i adolygu Datganiad o Gyfrifon ERW ar gyfer
2016-17 ac ystyried Archwiliad Swyddfa Archwilio Cymru o'r Adroddiad ar y Datganiadau Ariannol a'r Farn Archwilio (ISA260).
(b) Datganiad o Gyfrifon ERW ar gyfer 2016-17 i gael ei gymeradwyo a'i lofnodi gan Swyddog A151 ERW a Chadeirydd y Cyd-bwyllgor.
ADRODDIAD MANWL YNGHLWM? OES
GOBLYGIADAUPolisi, Trosedd ac Anhrefn a Chydraddoldebau
DIM
Cyfreithiol
OES
Cyllid
OES
Materion Rheoli Risgiau
OES
Goblygiadau Staffio
DIM
1. CyfreithiolFel y manylir arnynt yn yr adroddiad – gofyniad statudol i gymeradwyo Datganiad o Gyfrifon ERWar gyfer 2016-17 erbyn 30 Medi 2017.
2. CyllidGweler y manylion yn yr adroddiad.
3. Rheoli RisgiauGweler y manylion yn yr adroddiad.
YMGYNGORIADAURoedd Datganiad o Gyfrifon ERW 2016-17 ar gael i'r cyhoedd eu gweld am 20 o ddiwrnodau gwaith a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2017.
Adran 100D o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Mynediad at Wybodaeth Rhestr o Bapurau Cefndir a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r adroddiad hwn: MAE'R RHAIN WEDI'U RHESTRU ISOD
Teitl y Ddogfen Cyfeirnod y FfeilRhif
Lleoliadau lle mae'r papurau ar gael i'r cyhoedd eu gweld
Amh. Amh. Amh.
Archwiliad o'r Adroddiad ar y Datganiadau Ariannol – Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth ar WaithBlwyddyn yr Archwiliad: 2016-17
Dyddiad cyhoeddi: Awst 2017
Cyfeirnod y ddogfen: 477A2017
Tudalen 17 o 18 – Archwiliad o'r Adroddiad ar y Datganiadau Ariannol – Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth Ar Waith Pwyllgor
Paratowyd y ddogfen hon yn rhan o waith a gyflawnwyd yn unol â swyddogaethau statudol.
Yn achos cael cais am wybodaeth y gall y ddogfen hon fod yn berthnasol iddi, tynnir sylw at y Cod Ymddygiad a gyhoeddwyd o dan adran 45 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae Cod adran 45
yn amlinellu'r arfer o ran trafod ceisiadau a ddisgwylir gan awdurdodau cyhoeddus, yn cynnwys ymgynghori â thrydydd partïon perthnasol. Mewn perthynas â'r ddogfen hon, mae Archwilydd
Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn drydydd partïon perthnasol. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch datgelu neu ailddefnyddio'r ddogfen hon i Swyddfa Archwilio Cymru yn
We welcome correspondence and telephone calls in Welsh and English. Corresponding in Welsh will not lead to delay. Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg a
Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.
Cynnwys
Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi adroddiad archwilio diamod ar eich datganiadau ariannol. Mae yna rai materion i'w hadrodd i chi cyn iddynt gael eu cymeradwyo.
Adroddiad cryno
Cyflwyniad 4
Statws yr archwiliad 4
Adroddiad arfaethedig ar yr archwiliad 4
Materion arwyddocaol sy'n deillio o'r archwiliad 5
Argymhellion yn codi o'n gwaith archwilio ariannol 2016-17 6
Annibyniaeth a gwrthrychedd 6
Atodiadau
Atodiad 1 – Llythyr Terfynol o Gynrychiolaeth 7
Atodiad 2 – adroddiad archwilio arfaethedig yr Archwilydd Cyffredinol iGyd-bwyllgor Ein Rhanbarth Ar Waith 10
Atodiad 3 – crynodeb o'r cywiriadau i'w gwneud i'r Datganiadau Ariannol drafft y dylid tynnu sylw Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth ar Waith atynt
12
Atodiad 4 – argymhellion sy'n codi o'n gwaith archwilio ariannol ar gyfer 2016-17 13
Tudalen 4 o 18 – Archwiliad o'r Adroddiad ar y Datganiadau Ariannol – Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth Ar Waith
Adroddiad cryno
Cyflwyniad1 Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn gyfrifol am ddarparu barn ar a yw'r
DATGANIADAU ARIANNOL yn rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa ariannol Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth Ar Waith (ERW) (y Cyd-bwyllgor) ar 31 Mawrth 2017, a'i incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny.
2 Nid ydym yn ceisio cael sicrwydd absoliwt fod y datganiadau ariannol wedi'u datgan yn gywir, ond yn mabwysiadu'r cysyniad o berthnasedd. Wrth gynllunio a chynnal yr archwiliad, rydym yn ceisio nodi unrhyw gamddatganiadau perthnasol yn eich datganiadau ariannol, sef y rhai hynny a allai olygu bod darllenydd y cyfrifon yn cael ei gamarwain.
3 Mae'r lefelau meintiol lle rydym yn barnu bod camddatganiadau o'r fath yn berthnasol i'r Cyd-bwyllgor yn £1.3 miliwn. Mae materion meintiol penodol, er enghraifft gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol, a sensitifrwydd gwleidyddol, hefyd yn effeithio ar ba un a yw eitem yn cael ei barnu yn berthnasol ai peidio.
4 Mae'r Safon Ryngwladol ar Archwilio (ISA) 260 yn gofyn i ni adrodd am rai materion penodol sy'n codi o archwiliad o ddatganiadau ariannol, a hynny i'r rhai hynny sy'n gyfrifol am lywodraethu corff, ac mewn digon o amser i alluogi i gamau gweithredu priodol gael eu rhoi ar waith.
5 Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu, er ystyriaeth, y materion sy'n deillio o'r archwiliad o ddatganiadau ariannol y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2016-17, y mae angen adrodd amdanynt o dan ISA 260.
Statws yr archwiliad6 Daeth y datganiadau ariannol drafft ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2017 i law ar
2 Mehefin 2017, ddeuddydd wedi'n terfyn amser targed o 31 Mai 2017. Roedd hyn yn dal i fod ymhell cyn y terfyn amser statudol cyfredol, sef 30 Mehefin.
7 Rydym bellach wedi cwblhau'r gwaith archwilio yn sylweddol, ac yn adrodd ar y materion mwyaf arwyddocaol sy'n deillio ohono, materion y credwn y mae angen i chi eu hystyried cyn cymeradwyo'r datganiadau ariannol. Mae'r tîm archwilio eisoes wedi trafod y materion hyn â Swyddog Adran 151 y Cyd-bwyllgor a'i dîm.
Adroddiad archwilio arfaethedig8 Bwriad yr Archwilydd Cyffredinol yw cyhoeddi adroddiad archwilio diamod ar y
datganiadau ariannol pan fyddwch wedi ddarparu Llythyr o Sylwadau ar ein cyfer, sy'n seiliedig ar yr hyn a amlinellir yn Atodiad 1.
9 Mae'r adroddiad archwilio arfaethedig yn cael ei amlinellu yn Atodiad 2.
Tudalen 6 o 18 – Archwiliad o'r Adroddiad ar y Datganiadau Ariannol – Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth Ar Waith
Materion arwyddocaol sy'n codi o'r archwiliad
Camddatganiadau heb eu cywiro10 Nid oes unrhyw gamddatganiadau wedi'u nodi yn y datganiadau ariannol
sydd heb eu cywiro o hyd.
Camddatganiadau wedi'u cywiro11 Mae camddatganiadau yn bodoli sydd wedi cael eu cywiro gan y rheolwyr,
ond maent yn rhai y credwn ei bod yn ofynnol i ni ddwyn eich sylw atynt oherwydd eu perthnasedd i'ch cyfrifoldebau am y broses adrodd ariannol. Maent wedi cael eu hamlinellu, ynghyd ag esboniadau, yn Atodiad 3.
Materion arwyddocaol eraill sy'n codi o'r archwiliad12 Yn ystod yr archwiliad, rydym yn ystyried nifer o faterion, yn rhai meintiol ac
ansoddol, sy'n berthnasol i'r cyfrifon, ac yn adrodd wrthych am unrhyw faterion arwyddocaol sy'n deillio ohonynt. Eleni, roedd rhai materion yn codi yn y meysydd hyn:
Nid oes gennym unrhyw bryderon sylweddol am yr agweddau meintiol ar eich arferion cyfrifyddu a'ch gwaith adrodd ariannol, er bod lle i wella'r broses o gau'r cyfrifon. Nid oeddem wedi gallu cwblhau'r gwaith archwilio erbyn terfyn amser targed y Cyd-bwyllgor, sef 17 Gorffennaf 2017, a hynny am fod arnom angen amser ychwanegol i weithio gyda swyddogion i ddatrys camddatganiadau yn y cyfrifon drafft a gyflwynwyd ar gyfer eu harchwilio. Mae angen sicrhau gwelliannau i'r broses gau, fel y'u rhestrir yn ‘Materion sy'n codi 1’ yn Atodiad 4, a hynny er mwyn atal problemau rhag codi yn y dyfodol, ac er mwyn i'r Cyd-bwyllgor fod mewn lle da i gyrraedd terfynau amser cynharach.
Nid oeddem wedi dod ar draws unrhyw anawsterau sylweddol yn ystod yr archwiliad. Nid oeddem wedi cael ein cyfyngu yn ein gwaith, a chawsom yr wybodaeth yr oedd arnom ei hangen er mwyn cwblhau ein harchwiliad, er ein bod wedi profi ychydig o oedi o ran cael peth tystiolaeth. Byddwn yn parhau i weithio gyda swyddogion y Cyd-bwyllgor er mwyn egluro'r gofynion o ran ein papurau gweithio a'r amserlen cyflawni, i sicrhau bod llai o oedi yn y dyfodol.
Ni ohebwyd â'r rheolwyr, ac ni chafodd unrhyw faterion arwyddocaol eu trafod â nhw, y mae angen i ni adrodd amdanynt wrthych.
Mae yna un mater arall sydd o bwys i'r trosolwg o'r broses adrodd ariannol, y mae angen i ni adrodd wrthych amdano. Mae gwerth y gwariant canolog ar brosiectau ERW, a ariennir trwy grant
Tudalen 7 o 18 – Archwiliad o'r Adroddiad ar y Datganiadau Ariannol – Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth Ar Waith
Llywodraeth Cymru, wedi cynyddu'n sylweddol ers dechreuad y Cyd-bwyllgor. Roedd y gwariant hwn wedi dod i gyfanswm o £4.3miliwn yn 2016-17, gyda £0.31miliwn yn cael ei ddefnyddio i ariannu costau'r Tîm Canolog. Mae'r adroddiadau monitro ariannol ar gyfer y Cyd-bwyllgor a'r Bwrdd Gweithredol yn parhau i ganolbwyntio ar wariant y Tîm Canolog ar 'orbenion'. Nid yw'r dyraniadau grantiau yn cael eu rhannu rhwng y grantiau hynny sy'n cael eu talu i aelod awdurdodau a'r grantiau sy'n cael eu defnyddio i gefnogi'r prosiectau y mae ERW yn eu rhedeg yn ganolog. Mae'n ymddangos mai cyfyngedig yw trosolwg Aelodau o'r defnydd o gronfeydd a gynhelir yn ganolog.
Nid oeddem wedi nodi unrhyw wendidau arwyddocaol yn eich rheolaethau mewnol. Nid oes unrhyw faterion eraill y mae safonau archwilio yn ei gwneud
yn benodol ofynnol iddynt gael eu cyfathrebu i'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu.
Argymhellion sy'n codi o'n gwaith archwilio ariannol ar gyfer 2016-1713 Mae'r argymhellion sy'n codi o'n gwaith archwilio ariannol yn cael eu pennu yn
Atodiad 4. Mae'r rheolwyr wedi ymateb iddynt, a byddwn yn dilyn y cynnydd arnynt yn ystod archwiliad y flwyddyn nesaf. Lle bo unrhyw gamau heb eu cymryd, byddwn yn parhau i fonitro'r cynnydd, ac yn adrodd i chi amdano yn adroddiad y flwyddyn nesaf.
Annibyniaeth a gwrthrychedd14 Yn rhan o'r broses derfynu, mae'n ofynnol i ni ddarparu sylwadau ar
eich cyfer o ran ein hannibyniaeth.
15 Rydym wedi cydymffurfio â safonau moesegol ac, yn ein barn broffesiynol, rydym yn annibynnol ac nid yw ein gwrthrychedd wedi'i gyfaddawdu. Yn ein barn ni, nid oes unrhyw berthnasoedd rhwng Swyddfa Archwilio Cymru a'r Cyd-bwyllgor a fyddai'n dylanwadu ar ein gwrthrychedd a'n hannibyniaeth.
Tudalen 8 o 18 – Archwiliad o'r Adroddiad ar y Datganiadau Ariannol – Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth Ar Waith
Atodiad 1
Llythyr Terfynol o Sylwadau [Papur â phennawd y Cyd-bwyllgor]
Archwilydd Penodedig
Archwilydd Cyffredinol Cymru
Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ
21 Medi 2017
Sylwadau ar ddatganiadau ariannol 2016-17 Mae'r llythyr hwn yn cael ei ddarparu mewn cysylltiad â'ch archwiliad o ddatganiadau ariannol Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth ar Waith ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2017, a hynny i ddibenion mynegi barn o ran eu bod yn gywir ac yn deg, ac wedi'u paratoi'n briodol.
Rydym yn cadarnhau ein bod, hyd eithaf ein gwybodaeth a'n cred, a hynny'n dilyn gwneud ymholiadau a ystyrir gennym yn rhai digonol, yn gallu cyflwyno'r sylwadau canlynol ar eich cyfer.
Sylwadau gan y rheolwyr
Cyfrifoldebau
Rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau o ran:
paratoi'r datganiadau ariannol yn unol â'r gofynion deddfwriaethol a Chod Ymarfer CIPFA ar gyfer Cadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol yn y DU 2016-17; yn arbennig o ran bod y datganiadau ariannol yn rhoi darlun cywir a theg yn unol â hynny; a
cynllunio, gweithredu, cynnal ac adolygu'r rheolaeth fewnol i atal a chanfod twyll a chyfeiliornad.
Yr wybodaeth a ddarparwyd
Rydym wedi darparu'r canlynol ar eich cyfer:
Mynediad llawn i'r canlynol:
‒ yr holl wybodaeth yr ydym yn ymwybodol ei bod yn berthnasol i'r gwaith o baratoi'r datganiadau ariannol, er enghraifft llyfrau cyfrifon a dogfennaeth ategol, cofnodion cyfarfodydd, a materion eraill;
Tudalen 8 o 18 – Archwiliad o'r Adroddiad ar y Datganiadau Ariannol – Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth Ar Waith
‒ gwybodaeth ychwanegol yr ydych wedi gwneud cais i ni amdani i ddibenion yr archwiliad; a
‒ mynediad anghyfyngedig i staff yr oeddech wedi pennu ei bod yn angenrheidiol cael tystiolaeth ganddynt.
Canlyniadau ein hasesiad o'r risg y gallai'r datganiadau ariannol fod wedi cael eu camddatgan yn sylweddol o ganlyniad i dwyll.
Ein gwybodaeth am unrhyw dwyll neu amheuaeth o dwyll yr ydym yn ymwybodol ohono, ac sy'n effeithio ar Gyd-bwyllgor Ein Rhanbarth ar Waith, ac yn ymwneud â'r canlynol:
‒ rheoli;
‒ cyflogeion y mae ganddynt rolau o bwys o ran rheolaeth fewnol; neu
‒ eraill, lle gallai'r twyll gael effaith berthnasol ar y datganiadau ariannol.
Ein gwybodaeth am unrhyw honiadau o dwyll, neu amheuaeth o dwyll, sy'n effeithio ar y datganiadau ariannol y mae cyflogeion, cyn-gyflogeion, rheoleiddwyr ac eraill yn eu cyfathrebu.
Ein gwybodaeth am bob achos o ddiffyg cydymffurfiaeth neu amheuaeth o ddiffyg cydymffurfiaeth â deddfau a rheoliadau y dylid ystyried eu heffeithiau wrth baratoi datganiadau ariannol.
Hunaniaeth pob parti cysylltiedig, ynghyd â'r holl berthnasoedd a thrafodiadau parti cysylltiedig yr ydym yn ymwybodol ohonynt.
Sylwadau ar y datganiadau ariannol
Mae pob trafodiad, ased a rhwymedigaeth wedi cael eu cofnodi yn y cofnodion cyfrifyddu ac yn cael eu hadlewyrchu yn y datganiadau ariannol.
Mae rhagdybiaethau sylweddol a ddefnyddir i wneud amcangyfrifon cyfrifyddu, yn cynnwys y rhai hynny a fesurir ar werth teg, yn rhesymol.
Mae cyfrif priodol wedi'i roi am bob perthynas a thrafodiad parti cysylltiedig, a phob un wedi'i ddatgelu.
Mae pob digwyddiad a ddigwyddodd ar ôl y dyddiad adrodd, y mae'n ofynnol ei addasu neu ei ddatgelu, wedi cael ei addasu neu ei ddatgelu.
Mae pob achos o ymgyfreitha a hawliad gwirioneddol neu bosibl y gwyddys amdanynt, ac y dylid ystyried eu heffeithiau wrth baratoi datganiadau ariannol, wedi cael eu datgelu i'r archwilydd; rhoddwyd cyfrif amdanynt, ac maent wedi cael eu datgelu yn unol â'r fframwaith adrodd ariannol cymwys.
Nid oes unrhyw gamddatganiadau perthnasol yn y datganiadau ariannol, gan gynnwys hepgoriadau.
Tudalen 9 o 18 – Archwiliad o'r Adroddiad ar y Datganiadau Ariannol – Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth Ar Waith
Sylwadau gan y Cyd-bwyllgorRydym yn cydnabod bod y sylwadau a wnaed gan y rheolwyr, uchod, wedi cael eu trafod â ni.
Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb am baratoi datganiadau ariannol cywir a thegyn unol â'r fframwaith adrodd ariannol cymwys. Cafodd y datganiadau ariannol eu cymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor ar 21 Medi 2017.
Rydym yn cadarnhau ein bod wedi cymryd yr holl gamau y dylem fod wedi eu cymryd er mwyn sicrhau ein bod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol, ac i sefydlu bod hyn wedi cael ei drosglwyddo i chi. Rydym yn cydnabod nad oes, cyn belled ag yr ydym yn ymwybodol o hynny, unrhyw wybodaeth archwilio nad ydych yn ymwybodol ohoni.
Llofnodwyd gan: Llofnodwyd gan:
Swyddog Adran 151 Cadeirydd y Cyd-bwyllgor
Dyddiad: 21 Medi 2017 Dyddiad: 21 Medi 2017
Tudalen 10 o 18 – Archwiliad o'r Adroddiad ar y Datganiadau Ariannol – Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth Ar Waith
Adroddiad archwilio arfaethedig yr Archwilydd Cyffredinol i Gyd-bwyllgor Ein Rhanbarth ar Waith
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i AelodauCyd-bwyllgor Ein Rhanbarth ar WaithRwyf wedi archwilio datganiadau cyfrifyddu a nodiadau cysylltiedig Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth ar Waith ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2017 o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
Mae datganiadau cyfrifyddu Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth ar Waith yn cynnwys y Datganiad Symudiadau mewn Cronfeydd Wrth Gefn, y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr, y Fantolen a'r Datganiad Llif Arian.
Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw'r gyfraith gymwysadwy a Chod Ymarfer ar gyfer Cadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig 2016-17, yn seiliedig ar Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRSs).
Priod gyfrifoldebau'r swyddog ariannol cyfrifol ac Archwilydd CyffredinolCymru
Fel yr eglurir yn fanylach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau ar gyfer y Datganiad o Gyfrifon, y swyddog ariannol cyfrifol sy'n gyfrifol am baratoi'r datganiad o gyfrifon, sy'n rhoi darlun gwir a theg.
Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio'r datganiadau cyfrifyddu a'r nodiadau cysylltiedig yn unol â'r gyfraith gymwysadwy a'r Safonau Archwilio Rhyngwladol (y DU ac Iwerddon). Mae'r safonau hynny yn ei gwneud yn ofynnol i mi gydymffurfio â Safonau Moesegol y Cyngor Adrodd Ariannol ar gyfer Archwilwyr.
Cwmpas yr archwiliad o'r datganiadau cyfrifyddu
Mae archwiliad yn cynnwys casglu tystiolaeth am y symiau a'r datgeliadau yn y datganiadau cyfrifyddu a'r nodiadau cysylltiedig mewn ffordd sy'n ddigonol i roi sicrwydd rhesymol fod y datganiadau cyfrifyddu a'r nodiadau cysylltiedig yn rhydd o gamddatganiadau perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall. Mae hyn yn cynnwys asesu: a yw'r polisïau cyfrifyddu yn briodol i amgylchiadau Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth ar Waith ac wedi eu rhoi ar waith yn gyson a'u datgelu'n ddigonol; rhesymoldeb yr amcangyfrifon cyfrifyddu o bwys a wnaed gan y swyddog ariannol cyfrifol, a chyflwyniad cyffredinol y datganiadau cyfrifyddu a'r nodiadau cysylltiedig.
At hynny, rwy'n darllen yr holl wybodaeth ariannol ac anariannol yn yr Adroddiad Naratif er mwyn nodi anghysondebau perthnasol â'r datganiadau cyfrifyddu a'r nodiadau cysylltiedig archwiliedig, ac er mwyn nodi unrhyw wybodaeth yr ymddengys ei bod yn berthnasol anghywir, yn seiliedig ar yr wybodaeth a gasglwyd gennyf wrth gynnal yr archwiliad, neu'n berthnasol anghyson â'r wybodaeth honno. Os dof yn ymwybodol o unrhyw gamddatganiadau neu anghysondebau perthnasol ymddangosiadol, ystyriaf y goblygiadau i'm hadroddiad.
Tudalen 11 o 18 – Archwiliad o'r Adroddiad ar y Datganiadau Ariannol – Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth Ar Waith
Barn ar ddatganiadau cyfrifyddu Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth ar Waith
Yn fy marn i, mae'r datganiadau cyfrifyddu a'r nodiadau cysylltiedig:
yn rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa ariannol Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth ar Waith ar 31 Mawrth 2017, a'i incwm a'i wariant ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny; ac maent
wedi cael eu paratoi'n briodol, yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Cadw Cyfrifon Awdurdodau Lleolyn y Deyrnas Unedig 2016/2017.
Barn ar faterion eraill
Yn fy marn i, mae'r wybodaeth yn y Rhagair Esboniadol yn gyson â'r datganiadau cyfrifyddu a'r nodiadau cysylltiedig.
Materion yr wyf yn adrodd arnynt trwy eithriad
Nid oes gennyf ddim i'w adrodd mewn perthynas â'r materion canlynol, yr wyf yn adrodd arnynt os yw'r canlynol yn wir, yn fy marn i:
nid oes cofnodion cyfrifyddu digonol wedi cael eu cadw;
nid yw'r datganiadau cyfrifyddu yn gydnaws â'r cofnodion cyfrifyddu na'r ffurflenni;
nid wyf wedi cael yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae arnaf eu hangen ar gyfer fy archwiliad; neu
nid yw'r Datganiad Llywodraethu yn cydymffurfio â'r canllawiau.
Tystysgrif cwblhau archwiliad
Rwy'n cadarnhau fy mod wedi cwblhau'r archwiliad o gyfrifon Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth ar Waith yn unol â gofynion Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Ar ran Swyddfa Archwilio Cymru
Huw Vaughan Thomas 24 Heol y Gadeirlan
Archwilydd Cyffredinol Cymru Caerdydd
Medi 2017 CF11 9LJ
Atodiad 3
Tudalen 12 o 18 – Archwiliad o'r Adroddiad ar y Datganiadau Ariannol – Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth Ar Waith
Crynodeb o'r cywiriadau a wnaed i'r datganiadau ariannol drafft, y dylid tynnu sylw Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth ar Waith atyntYn ystod ein harchwiliad, nodwyd y camddatganiadau canlynol gennym, sydd wedi cael eu cywiro gan y rheolwyr, ond sy'n rhai y credwn y dylid tynnu eich sylw atynt oherwydd eu perthnasedd i'ch cyfrifoldebau o ran y broses adrodd ariannol.
Enghraifft 1: Crynodeb o'r cywiriadau a wnaed i'r datganiadau ariannol drafft.
Gwerth y cywiriad Natur y cywiriad Y rheswm dros y cywiriad£3,402,000 Nodyn 4.1 Grantiau Refeniw
Nid oedd grantiau Llywodraeth Cymrua drosglwyddwyd i aelod awdurdodau wedi eu llwyr fynegi, ac roedd taliadau i ysgolion am waith a chyflenwadau a gwasanaethau penodol wedi'u gorbwysleisio.
Cywiro'r camddosbarthu trafodiadau hynny lle bo Llywodraeth Cymru, yn hytrach na'r Cyd-bwyllgor, wedi pennu'r cyllid ar gyfer pob ysgol. Roedd hyn yn cynnwys taliadau a wnaed ar gyfer Ysgolion Arloesi Digidol, Her Ysgolion Cymru a Defnydd Anffurfiol o'r Gymraeg.
- Nodyn 4.4.1 Manylion taliadau cydnabyddiaeth
Mae cyflogai a oedd yn cael taliadau cydnabyddiaeth a oedd yn fwy na £60,000 wedi cael ei ddileu o'r nodyn gan y dylai staff ar secondiad gael eu dangos yng nghyfrifon yr aelod awdurdodau, nid yng nghyfrifon y Cyd-bwyllgor.
Cydymffurfio â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio Llywodraeth Leol (Cymru) 2014.
Tudalen 13 o 18 – Archwiliad o'r Adroddiad ar y Datganiadau Ariannol – Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth Ar Waith
Atodiad 4
Argymhellion sy'n codi o'n gwaith archwilio ariannol ar gyfer 2016-17Rydym yn amlinellu'r holl argymhellion sy'n codi o'n harchwiliad, ynghyd ag ymateb y rheolwyr iddynt. Byddwn yn olrhain y rhain y flwyddyn nesaf, ac yn cynnwys unrhyw faterion sy'n weddill yn adroddiad archwilio y flwyddyn nesaf:
Enghraifft 2: Mater sy'n codi 1
Mater sy'n codi 1 – Prosesau cau cyfrifonCanfyddiadau Nid oeddem wedi llwyddo i gwblhau'r archwiliad
erbyn y terfyn amser targed, sef 17 Gorffennaf 2017, a hynny oherwydd peth oedi o ran cael papurau gweithio ar ddechrau'r cyfnod archwilio. Roedd arnom hefyd angen amser ychwanegol i weithio gyda swyddogion er mwyn mynd i'r afael â nifer o gamddatganiadau yn y datganiadau ariannol drafft, a'u cywiro.
Blaenoriaeth Uchel
Argymhelliad Dylai'r prosesau cau cyfrifon gael eu hadolygu er mwyn sicrhau y gellir llunio datganiadau ariannol aphapurau gweithio mewn modd amserol. Dylai hyn gynnwys: adolygiad o'r modd y mae trafodiadau'n cael eu
cofnodi yn y cyfriflyfr er mwyn lleihau'r amser sy'n ofynnol i wirio a dyrannu trafodiadau, fesul llinell, fel rhan o'r prosesau cau;
egluro rolau a chyfrifoldebau rhwng swyddogion y Cyd-bwyllgor a swyddogion Cyngor Sir Penfro (fel yr awdurdod arweiniol ar gyfer Cyllid);
adolygu'r gwaith o ddosbarthu trafodiadau yn y cyfriflyfr, a chael sail resymegol o ran pan fo trafodiadau'n daliadau i ysgolion ar gyfer gwaith, cyflenwadau a gwasanaethau penodol, ac yn daliadau a wneir yn uniongyrchol i awdurdodau lleol; a
chytuno â Swyddfa Archwilio Cymru ar y gofynion o ran papurau gweithio ac amserlen cyflawni.;
Wedi'i dderbyn yn ei gyfanrwydd gan y rheolwyr
Wedi'i dderbyn.
Tudalen 14 o 18 – Archwiliad o'r Adroddiad ar y Datganiadau Ariannol – Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth Ar Waith
Ymateb y rheolwyr Gan mai datganiad o gyfrifon 2015-16 y corff hwn a gafodd ei archwilio a'i gymeradwyo gyntaf, mae'n siomedig bod oedi wedi bod o ran archwilio a chymeradwyo datganiad o gyfrifon 2016-17. Roedd yr oedi yn ganlyniad i newidiadau yn y personél cyfrifyddu yn ystod 2016-17, lefelau'r llwyth gwaith (swmp y gwaith, a hysbysiadau hwyr gan Lywodraeth Cymru o ran grantiau), a chapasiti cyfyngedig ar adeg cau a llunio'r datganiad o gyfrifon. Byddwn yn adolygu ac yn diweddaru'r prosesau cau cyfrifon i sicrhau bod datganiadau ariannol a phapurau gweithio o ansawdd uchel yn cael eu llunio mewn modd amserol yn y dyfodol.
Dyddiad gweithredu Tachwedd 2017
Enghraifft 3: Mater sy'n codi 2
Mater sy'n codi 2 – Trosolwg o'r Canfyddiadau o ran Gwariant Canolog y Cyd-bwyllgor
Canfyddiadau Mae gwariant canolog y Cyd-bwyllgor yn cynnwys y costau o redeg y Tîm Canolog, sydd, yn bennaf, wedi'i lunio o swyddogion cyflogedig parhaol a chostau rhedeg. Yn ychwanegol at hyn, eir i wariant wrth i'r Cyd-bwyllgor gyflawni prosiectau yn uniongyrchol. Mae'r costau hyn yn ymwneud ag amrywiaeth o drafodiadau, ond maent yn bennaf yn cynnwys y costau o secondio staff i'r Cyd-bwyllgor o aelod awdurdodau neu ysgolion, a chyllid ar gyfer ysgolion penodol i ymgymryd â phrosiectau penodol.Mae costau'r Tîm Canolog yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau monitro cyllidebau, sy'n cael eu hadolygu gan y Cyd-bwyllgor a/neu'r Bwrdd Gweithredol, ond prin iawn yw'r dadansoddiad yn yr adroddiadau hynny o ran y gwariant yr eir iddo ar brosiectau canolog.
Blaenoriaeth Uchel
Argymhelliad Dylai adroddiadau monitro cyllidebau gael eu hehangu i ddarparu gwybodaeth i Aelodau ar y gwariant yr eir iddo ar brosiectau sy'n cael eu cyflawni yn ganolog.
Wedi'i dderbyn yn ei gyfanrwydd gan y rheolwyr
Wedi'i dderbyn.
Ymateb y rheolwyr Bydd adroddiadau yn y dyfodol yn cynnwys gwariant y Tîm Canolog a gwariant ar brosiectau a gyflawnir gan y Tîm Canolog.
Dyddiad gweithredu Cyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor.
Tudalen 15 o 18 – Archwiliad o'r Adroddiad ar y Datganiadau Ariannol – Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth Ar WaithPwyllgor
Enghraifft 4: Mater sy'n codi 3
Mater sy'n codi 3 – Y Defnydd o Gyllid GrantCanfyddiadau Mae costau'r Tîm Canolog (cyflogau a chostau rhedeg, er
enghraifft ar gyfer cyfieithu) yn cael eu hariannu trwy gyfraniadau aelod awdurdodau, cronfeydd wrth gefn ac, yn gynyddol, cyllid grant.Fodd bynnag, nid yw rhai ffrydiau cyllid grant yn cael eu gwarantu am fwy nag un flwyddyn ariannol.
Blaenoriaeth Uchel
Argymhelliad Er nad ydym wedi nodi bod unrhyw gyllid o ran costau canolog yn ymddangos fel ei fod yn groes i'r telerau ac amodau, dylai'r Cyd-bwyllgor fod yn eglur o ran pa gostau penodol sy'n cael eu hariannu trwy'r defnydd o grantiau, gan sicrhau bod y dull hwn yn gynaliadwy ar gyfer costau ariannu penodol.
Wedi'i dderbyn yn ei gyfanrwydd gan y rheolwyr
Wedi'i dderbyn.
Ymateb y rheolwyr Mae unrhyw swyddi yn y Tîm Canolog sy'n cael eu cyllido gan grant yn rhai tymor penodol ar gyfer cyfnod y cyllid grant. Byddwn yn adolygu cynaliadwyedd cyfraniad cyllid grant i gostau'r Tîm Canolog. Mae'r risg hon wedi cael ei chydnabod a'i chynnwys yn Natganiad LlywodraethuBlynyddol ERW ar gyfer 2016-17.
Dyddiad gweithredu Tachwedd 2017
Enghraifft 5: Mater sy'n codi 4
Mater sy'n codi 4 – Dyrannu trafodiadau i flynyddoedd ariannol a thystiolaeth ategolCanfyddiadau Nodwyd un taliad gennym lle roedd gwerth llawn yr
anfoneb wedi cael ei gydnabod yn y cyfrifon, ond lle roedd y dystiolaeth ategol yn cadarnhau mai dim ond yn rhannol yr oedd y gwaith wedi'i gwblhau ar 31 Mawrth. Roeddem hefyd wedi nodi trafodiad arall lle roedd hi'n anodd cadarnhau a oedd y gwaith a wnaed ar ran y Cyd-bwyllgor wedi cael ei gwblhau cyn diwedd y flwyddyn ariannol ai peidio.
Blaenoriaeth Uchel
Tudalen 16 o 18 – Archwiliad o'r Adroddiad ar y Datganiadau Ariannol – Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth Ar Waith
Argymhelliad Mae angen i brosesau cau cyfrifon sicrhau mai dim ond trafodiadau sy'n berthnasol i waith a gwblhawyd cyn diwedd y flwyddyn ariannol sy'n cael eu cydnabod yn y gwariant mewn datganiadau ariannol.Mae angen gofyn i ddarparwyr am dystiolaeth gadarn o waith wedi'i gwblhau, a dylid cadw'r dystiolaeth honno i ddibenion archwilio, yn arbennig pan fo'r Cyd-bwyllgor yn defnyddio amcangyfrifon i bennu gwerth y gwariant sydd i'w gydnabod.
Wedi'i dderbyn yn ei gyfanrwydd gan y rheolwyr
Wedi'i dderbyn.
Ymateb y rheolwyr Byddwn yn cydnabod ac yn diweddaru prosesau cau cyfrifon er mwyn sicrhau mai dim ond trafodiadau sy'n berthnasol i waith a gwblhawyd cyn diwedd y flwyddyn ariannol sy'n cael eu cydnabod yn y gwariant mewn datganiadau ariannol, ac i sicrhau y gwneir cais i ddarparwyr am dystiolaeth gadarn o waith wedi'i gwblhau, a bod y dystiolaeth honno'n cael ei chadw i ddibenion archwilio, yn arbennig lle byddwn yn defnyddio amcangyfrifon i sefydlu gwerth y gwariant sydd i'w gydnabod.
Dyddiad gweithredu Tachwedd 2017
Enghraifft 6: Mater sy'n codi 5
Mater sy'n codi 5 – Datganiadau Parti/Gwrthdrawiad Buddiannau CysylltiedigCanfyddiadau Nodwyd gennym nad oedd datganiadau
gwrthdrawiad buddiannau ar gael i bob aelod o'r Cyd-bwyllgor a'r Bwrdd Gweithredol adeg yr archwiliad. Mae'r rhain i gael eu coladu yn nhymor yr hydref 2017.Blaenoriaeth Canolig
Argymhelliad Dylai ffurflenni datganiadau buddiannau gael eu llenwi gan bob aelod o'r Cyd-bwyllgor a'r Bwrdd Gweithredol cyn i'r datganiad o gyfrifon blynyddol gael ei baratoi. Dylai hyn sicrhau y gall unrhyw ddatgeliadau perthnasol gael eu gwneud yn y cyfrifon.
Wedi'i dderbyn yn ei gyfanrwydd gan y rheolwyr
Wedi'i dderbyn.
Ymateb y rheolwyr Bydd yn ofynnol i bob aelod o'r Cyd-bwyllgor a'r Bwrdd Gweithredol gwblhau a/neu ddiweddaru eu cofrestr o ddatganiadau buddiannau.
Dyddiad gweithredu Tachwedd 2017
Wales Audit Office24 Cathedral RoadCardiff CF11 9LJ
Ffôn: 029 2032 0500
Fax: 029 2032 0600Textphone.: 029 2032 0660
E-mail: [email protected]: www.audit.wales
Swyddfa Archwilio Cymru24 Heol y GadeirlanCaerdydd CF11 9LJ
Ffôn: 029 2032 0500Ffacs: 029 2032 0600
Ffôn testun: 029 2032 0660
E-bost: [email protected]: www.archwilio.cymru
Datganiad o Gyfrifon ERW ar gyfer 2016-17
Y Cyfarwyddwr Cyllid(Swyddog A151 ERW)
ADOLYGIAD O DDATGANIAD O GYFRIFON ERW ar gyfer 2016-17
1. Roedd y Cyd-bwyllgor wedi bwriadu cyhoeddi ei gopi drafft o Ddatganiad o Gyfrifon 2016-17 erbyn 31 Mai 2017, ac iddynt gael eu harchwilio a'u cymeradwyo erbyn 31 Gorffennaf 2017. Y terfynau amser gofynnol gan Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 oedd 30 Mehefin 2017 a 30 Medi 2017, yn y drefn honno.
2. Cafodd yr Adroddiad Monitro Cyllideb Alldro ar gyfer 2016-17 ei ystyried gany Cyd-bwyllgor ar 20 Chwefror 2017. Cafodd y copi drafft o Ddatganiad o Gyfrifon 2016-17 eu cyhoeddi ar 2 Mehefin 2017, ac mae wedi bod yn destun archwiliad gan archwilwyr allanol ERW, sef Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cwblhau ei waith archwilio ac wedi cyhoeddi ei Archwiliad o'r Adroddiad ar y Datganiadau Ariannol a'r Farn Archwilio (ISA260), y mae copi ohonynt yn atodedig yn yr Atodiad, ar gyfer eu hystyried gan y Cyd-bwyllgor.
3. Mae angen i'r Cyd-bwyllgor adolygu a chymeradwyo'n ffurfiol y Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2016-17, y mae copi ohono'n atodedig ar ffurf Atodiad.
4. Mae'n rhaid i Ddatganiad o Gyfrifon ERW gydymffurfio â Chod Ymarfer CIPFA ar gyfer Cadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol (y Cod), sy'n seiliedig ar Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS), a hefyd ofynion rheoliadau cyfrifyddu ac ariannol y Llywodraeth. Mae'r IFRS yn daprau fframwaith cynhwysfawr o ofynion gorfodol o ran cyhoeddi datganiadau ariannol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac mae'r fframwaith hwn yn cael ei fireinio'n barhaus.
5. Mae sefyllfa ariannol gyffredinol ERW yn cael ei chydnabod mewn nifer o ddatganiadau allweddol yn y Datganiad o Gyfrifon, sef y Dadansoddiad o Wariant a Chyllid, y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr, y Datganiad Symudiadau mewn Cronfeydd, a'r Fantolen.
Mae manylion pellach am y rhain, a datganiadau eraill yn y Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2016-17 yn cael eu hamlinellu isod:
Adroddiad Naratif (Y Rhagair Esboniadol mewn blynyddoedd blaenorol) – diben yr Adroddiad Naratif yw darparu sylwebaeth ar y Datganiad o Gyfrifon. Mae'n cynnwys esboniad ar y digwyddiadau allweddol a'u heffaith ar y Datganiad o Gyfrifon.
Dadansoddiad o Wariant a Chyllid (yn cael ei gategoreiddio fel datganiad ariannol craidd ar gyfer 2016-17) – mae'r datganiad hwn yn dangos y cysoni o ran sut y mae'r gwariant blynyddol yn cael ei ddefnyddio a'i ariannu o adnoddau (sail arian parod) gan ERW, o
gymharu â'r adnoddau hynny a ddefnyddir neu a enillir gan yr Awdurdod, yn unol ag arferion cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol (sail IFRS).
Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (CIES) – mae hwn yn adrodd am y modd yr oedd ERW wedi perfformio yn ystod y flwyddyn, ac a oedd ei weithrediadau wedi arwain at warged neu at ddiffyg. Mae'n dangos y gost economaidd yn ystod y flwyddyn o ddarparu gwasanaethau. Mae'n dadansoddi gwariant ERW o ddydd i ddydd ar sail grwpiau Cod Ymarfer CIPFA ar Adrodd am Wasanaeth (SeRCOP) (yn cynnwys costau pensiynau yn y dyfodol, ac ati), a hynny ar sail strwythur sefydliadol.
Datganiad Symudiadau mewn Cronfeydd – mae Cronfeydd Wrth Gefn ERW yn cynrychioli gwerth net ERW ac yn dangos ei bŵer gwario. Maent yn cael eu dadansoddi i ddau gategori, defnyddiadwy ac annefnyddiadwy.
Mantolen – mae'r fantolen yn “giplun” o sefyllfa ariannol ERW ar bwynt penodol mewn amser, ac yn dangos beth y mae'n berchen arno (asedau) ac yn atebol amdanynt (rhwymedigaethau) ar 31 Mawrth.
Datganiad Llif Arian – mae hwn yn amlinellu derbynebau a thaliadau ERW yn ystod y flwyddyn, gan eu dadansoddi yn weithgareddau gweithredu, buddsoddi ac ariannu.
6. Dylai adolygiad y Cyd-bwyllgor o'r Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2016-17 ganolbwyntio ar y materion canlynol:
(a) Safonau Adrodd Ariannol
Mae'r Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol, a Safonau Eraill a gyhoeddwyd, wedi eu cymhwyso'n unol â'r Cod.
Mae'r Cod Ymarfer yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod ddatgelu gwybodaeth am effaith newid o ran cyfrifyddu, a fydd yn ofynnol o dan safon newydd sydd wedi ei chyhoeddi ond heb ei mabwysiadu eto gan y Cod, ar gyfer y flwyddyn ariannol dan sylw.
Mae'r safonau a gyflwynwyd yng Nghod 2017/18, ac sy'n berthnasol, fel a ganlyn:
Diwygiadau i IFRS10 Datganiadau Ariannol Cyfunol IFRS 12 Datgelu Buddiannau mewn Endidau Eraill
Mae'n annhebygol y bydd effaith y newidiadau uchod yn arwyddocaol, ond byddant yn arwain at rai newidiadau o ran y cyflwyniad, a bydd y rhain yn cael eu datgelu yn Natganiad o Gyfrifon 2017/18.
Paratowyd y Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2016-17 yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Cadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol ar gyfer 2016/17.
4
(b) Cysyniadau Cyfrifyddu
Defnyddiwyd y cysyniadau cyfrifyddu penodol canlynol wrth baratoi'r Datganiadau Cyfrifyddu Craidd:
Croniadau Busnes gweithredol
Mae nodweddion ansoddol gwybodaeth ariannol yn parhau i gael eu defnyddio:
Arwyddocâd Cymaroldeb Natur wiriadwy Amseroldeb Eglurder Arwyddocâd Sylwadau Cywir
Cyflawnder Niwtraledd Heb wallau
Goruchafiaeth gofynion deddfwriaethol
(c) Dyfarniadau Beirniadol wrth Gymhwyso Polisïau Cyfrifyddu ac Amcangyfrif o Risg
Wrth gymhwyso'r polisïau cyfrifyddu a amlinellir yn y Datganiad o Gyfrifon argyfer 2016-17, mae'r Cyd-bwyllgor wedi gwneud dyfarniadau ynghylch y trafodion cymhleth a'r rheiny lle ceir ansicrwydd o ran y dyfodol.
Er bod cryn ansicrwydd o ran lefel y cyllid ar gyfer llywodraeth leol yn y dyfodol, hyd yma mae Addysg wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Felly, er ei bod yn bosibl y caiff rhai grantiau eu cwtogi, ac o gofio mai nifer bach o gyflogeion a gyflogir yn uniongyrchol gan ERW, nid oes tystiolaeth ddigonol i gasglu y bydd yna effaith andwyol ar weithgareddau'r Cyd-bwyllgor ac y cânt eu lleihau mewn blynyddoedd i ddod.
Mewn rhai achosion, bu'n rhaid amcangyfrif y newidiadau a wnaed yn y cyfrifon trwy ddefnyddio profiad hanesyddol, tueddiadau cyfredol, ac ati. Gall y gwir ganlyniadau fod yn wahanol i'r tybiaethau a wneir ac, o ganlyniad, gallant effeithio ar y taliadau a godir yng nghyfrifon y blynyddoedd i ddod.
Nodir y prif feysydd risg yn y tablau canlynol:
Materion sy'n ymwneud ag eitemau yn y Datganiad o Gyfrifon cyfredol:Eitem Risg Effaith Bosibl
RhwymedigaethauContractiol
Meintoliadau anghywira her gyfreithiol
Codi tâl ychwanegol ar y Cyd-bwyllgor a'i Awdurdodau Partner
Cyllid Grant Hawlio gwariant anghymwys
Colli grant, gyda'r gwarianti'w ariannu o gyllid craidd neu drwy adfachu grantiauRhwymedigaeth
PensiwnTybiaethau actiwaraidd anghywir
Cyfraniadau CyflogwrCynyddol yn y dyfodol
Materion a allai effeithio ar y Datganiad o Gyfrifon yn y dyfodol:Eitem Ris
gEffaith Bosibl
Cadarnhad o'r Sefyllfa Ranbarthol fel Mecanwaith Cyflawni ar gyfer Gwella Ysgolion
Rhagor o arian gan Lywodraeth Cymru, a disgwyliadau dilynol
Anallu i ymateb i ddisgwyliadau cynyddol o ran gwaith rhanbarthol
Newidiadau o ran BlaenoriaethauGwleidyddol
Cwtogi cyllid Cwtogi gwasanaethau, neuwaith rhanbarthol yn dod i ben
Deilliannau Addysgol Nid yw Cyrhaeddiad Disgyblionyn Gwella ar y cyflymder gofynnol
Colli cyllid grant yn y dyfodol /Awdurdodau Lleol yn gorfod newid eu lefelau o gymorth i ERW
Cyllid Grant Hawlio gwariantanghymwys
Colli grant, gyda'rgwariant i gael ei ariannu o gyllid craidd neu drwy adfachu grantiau
Oedi cyn Cael Arian CyllidGrant
Gwariantymrwymedig yn anghymwys. Cynllunio gwael
Colli grant, gyda'rgwariant i gael ei ariannu o gyllid craidd neu drwy adfachu grantiau
Newid Demograffig Tybiaethau anghywir Costau uwch o rangwasanaethau a chontractau
Arian Grant/Brexit Colli grantiau gan Lywodraeth Cymru ac Ewrop
Cwtogi'r gwasanaethau a ddarperir
Llywodraethu Penderfyniadau ddim yn cael eu gwneud mewn modd amserol
Oedi o ran gwneud gwelliannau
Tanwario/gorwario o ran ygyllideb, a cholli cyllid grant
5
6
Gweddnewid/Darparu GwasanaethAmgen
Dulliau gwahanol oweithio ddim yn arwain at yr arbedion ariannol a dybiwyd
Tanwario/gorwario o ran y gyllideb
Trefniadau cyfrifyddu ar wahân
Materion a allai effeithio ar y Datganiad o Gyfrifon yn y dyfodol:Eitem Ris
gEffaith Bosibl
Safon y Gymraeg Tybiaeth anghywir Costau uwch o rangwasanaethau a chontractauDeddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol Peidio ag ystyried y ddeddf wrth wneud penderfyniadau
Cost camau unioni
Cyllid grant wedi'i atal ganLywodraeth Cymru
ERW ddim yn glynu wrthnatur ranbarthol amodau'r grant
Ni fydd ysgolion yn caely cymorth gofynnol
(d) Polisïau Cyfrifyddu
Mae'r polisïau cyfrifyddu a ddefnyddiwyd i baratoi'r Datganiadau Cyfrifyddu Craidd, y Nodiadau Ategol a'r Datganiadau Ariannol Atodol wedi cael eu hadolygu gan ddefnyddio'r Cod ar gyfer 2016/17.
(e) Materion o ran Rheolaeth Fewnol
Mae Barn Sicrwydd Flynyddol Pennaeth Archwilio Mewnol Consortiwm ERW ar gyfer 2016-17, a ystyriwyd gan y Cyd-bwyllgor ar 17 Gorffennaf 2017, yn cadarnhau nad oes yna unrhyw faterion sylweddol yn bodoli o ran rheolaeth fewnol a allai gael effaith ar y Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2016-17.
(f) Swyddfa Archwilio Cymru
Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cwblhau ei archwiliad o'r Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2016-17 ac wedi cyhoeddi ei Archwiliad o'r Adroddiad ar y Datganiadau Ariannol a'i Farn Archwilio (ISA 260), y mae copi'n atodedig ar ffurf Atodiad, i'w ystyried gan y Cyd-bwyllgor.
7. Bydd y Cyfarwyddwr Cyllid (Swyddog A151 ERW) a'r Pennaeth Cyllid a Gwasanaethau Busnes (Dirprwy Swyddog A151 ERW) yn cefnogi'r Cyd-bwyllgor yn y cyfarfod o ran adolygu'r Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2016-17 a'r materion a amlygir uchod.
8. ARGYMHELLION
(a) Bod y Cyd-bwyllgor yn adolygu Datganiad o Gyfrifon ERW ar gyfer 2016-17 ac yn ystyried Archwiliad Swyddfa Archwilio Cymru o'r Adroddiad ar y Datganiadau Ariannol a'i Farn Archwilio (ISA 260).
(b) Bod Datganiad o Gyfrifon ERW ar gyfer 2016-17 yn cael eu cymeradwyo a'u llofnodi.
7
Ein Rhanbarth Ar Waith
Consortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru
Datganiad o Gyfrifon Drafft
2016/17
8
MYNEGAI TUDALEN
ADRODDIAD NARATIF – CRYNODEB O BERFFORMIAD ARIANNOL 3-8
TYSTYSGRIF YR ARCHWILYDD 9-10
DATGANIAD O GYFRIFON Datganiad o Gyfrifoldebau ar gyfer y Datganiad o Gyfrifon
1.0 Datganiadau Ariannol Craidd – Egwyddorion Sylfaenol1.1 Safonau Adrodd Ariannol1.2 Cysyniadau Cyfrifyddu1.3 Dyfarniadau Beirniadol wrth Gymhwyso Polisïau Cyfrifyddu ac Amcangyfrif Risg1.4 Datganiad o Bolisïau Cyfrifyddu
11 - 12
1313
13-15
15-20
2.0 Datganiadau Ariannol Craidd – Elfennau a Manylion2.1 Dadansoddiad o Wariant a Chyllid2.2 Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr 2.3 Datganiad Symudiadau mewn Cronfeydd Wrth Gefn2.4 Mantolen2.5 Datganiad Llif Arian
2121-22
232427
3.0 Nodiadau i'r Dadansoddiad o Wariant a Chyllid3.1 Nodiadau i'r Dadansoddiad o Wariant a Chyllid 28
4.0 Nodiadau i'r Cyfrif Incwm a Gwariant Cynhwysfawr4.1 Grantiau Refeniw4.2 Costau Pensiwn4.3 Costau eithriadol 4.4 Manylion Taliadau Cydnabyddiaeth4.5 Ffioedd archwilio4.6 Partïon Cysylltiedig4.7 Dyrannu Adnoddau
5.0 Nodiadau i'r Datganiad Symudiadau mewn Cronfeydd Wrth Gefn5.1 Addasiad rhwng y Sail Gyfrifyddu a'r Sail Gyllido Reoleiddiol 5.2 Cronfeydd Wrth Gefn Defnyddiadwy5.3 Cronfeydd Wrth Gefn Annefnyddiadwy
6.0 Nodiadau i'r Fantolen6.1 Dyledwyr a Chredydwyr6.2 Arian Parod a'r Hyn sy'n Cyfateb i Arian Parod6.3 Cronfa Bensiwn Wrth Gefn
29-3031-32
3232-33
3333
33-37
383839
40-414243
ADRODDIAD NARATIF
Mae ERW yn gynghrair o chwe Awdurdod Lleol, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Powys, Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe. Mae ERW yn darparu gwasanaeth gwella ysgolion proffesiynol cyson ac integredig ledled y chwe Awdurdod Lleol.
Gweledigaeth ERW yw cael rhwydwaith o ysgolion sy'n perfformio'n uchel yn gyson ar draws y rhanbarth, gyda phob ysgol yn un dda ac yn cynnig safonau addysgu uchel dan arweinyddiaeth dda, a chyda'r holl ddysgwyr yn cyrraedd eu llawn botensial. Er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon, byddwn yn meithrin gallu ysgolion trwy gefnogi, herio ac ymyrryd, er mwyn iddynt ddod yn sefydliadau sy'n hunanwella, sy'n gadarn, ac sy'n gwella deilliannau'n barhaus i'r holl ddysgwyr.
Mae trefniadau llywodraethu sefydledig ar waith yn rhanbarth ERW, ac mae Cyd-bwyllgor a gyfansoddwyd yn gyfreithiol yn dwyn y gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol i gyfrif am ei berfformiad wrth wella deilliannau i ddysgwyr. Mae aelodau'r Cyd-bwyllgor yn cynnwys Arweinwyr y chwe Awdurdod Lleol. Caiff Cyd-bwyllgor ERW ei gynghori gan y Bwrdd Gweithredol. Mae'r Bwrdd yn cynnwys Cyfarwyddwyr y chwe Awdurdod Lleol, arbenigwyr gwella ysgolion allanol, cynrychiolwyr Penaethiaid, a'r Rheolwr Gyfarwyddwr.
Sefydlwyd y Cyd-bwyllgor trwy gytundeb cyfreithiol a lofnodwyd ac a gwblhawyd gan bob Cyngor cyfansoddol ar 16 Gorffennaf 2014, ac mae'n gweithredu'n unol â'r cytundeb hwnnw.
Penodwyd Cyngor Sir Penfro yn arweinydd cyllid ar gyfer y rhanbarth. Felly, mae ERW yn gweithredu'n unol â Rheoliadau Ariannol, Polisïau Treth Cyflogwyr a Chofrestru ar gyfer TAW, Cynlluniau Pensiwn, Polisïau Adnoddau Dynol (sy'n berthnasol i staff craidd a gyflogir yn ganolog) a holl bolisïau cyfrifyddu perthnasol Cyngor Sir Penfro.
Dilynir polisïau Caffael Cyngor Sir Powys; mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn arwain ar Wasanaethau Llywodraethu a Phwyllgorau; mae Cyngor Sir Ceredigion yn arwain ar ddyletswyddau'r Swyddog Cyfreithiol a Monitro; mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn arwain ar Reoli Risg; ac mae Sir Abertawe yn arwain ar Graffu.
9
10
CRYNODEB O BERFFORMIAD ARIANNOL 2016/17
Mae'r crynodeb o berfformiad ariannol yn rhoi trosolwg lefel uchel o sefyllfa ariannol y Consortiwm fel yr oedd ar 31 Mawrth 2017. Yn y paragraffau canlynol, caiff yr alldro terfynol ar gyfer 2016/17 ei gymharu â'r amcangyfrif gwreiddiol y cytunwyd arno gan Gyd-bwyllgor ERW ar 5 Chwefror 2016, a rhoddir ystyriaeth i gyllideb ddrafft y Tîm Canolog a'r sefyllfa gyllido ar gyfer 2017/18 a gymeradwywyd ar 20 Chwefror 2016.
1. GWARIANT REFENIW
Y Tîm Canolog
2016/17 2016/17 2016/17 2015/16
Y Tîm Canolog Grantiau Cyfanswm Cyfanswm
Amcangyfrif
Gwreiddiol £000
Gwariant Gwirioneddol
£000
Gwariant Gwirioneddol
£000
Gwariant Gwirioneddol
£000
Gwariant Gwirioneddo
l £000
Gwariant Gros
Cyflogeion 402 376 1,116 1,492 1,199
Adeiladau 33 32 - 32 28
Cludiant 10 3 32 35 23
Cyfieithu 35 1 90 91 93
Cyflenwadau a Gwasanaethau 61 91 1,488 1,579 1,934
Taliadau i ysgolion trwy'r Awdurdodau Lleol ar gyfer gwaith penodol - 4,816 4,816 -
Hwyluso 10 8 165 173 9
Grantiau a Drosglwyddwyd i ALlau - - 60,125 60,125 62,883
Cyfanswm y Gwariant Gros 551 511 67,832 68,343 66,169
Incwm
Cyfraniadau gan Aelod-Awdurdodau (250) (250) - (250) (250)
Grant Llywodraeth Cymru (150) (310) (67,658) (67,968) (65,893)
Cyngor Chwaraeon Cymru - - - - -
Incwm Grant Arall - - (174) (174) (86)
Incwm Amrywiol - (21) - (21) -
Cyfanswm yr Incwm (400) (581) (67,832) (68,413) (66,229)
Gwariant Net (70) - (70) (60)
Dyraniad o'r Gronfa Wrth Gefn (151) - - - (10)
Dyraniad i'r Gronfa Wrth Gefn - 70 - 70 70
Y GYLLIDEB DDRAFFT A'R SEFYLLFA GYLLIDO, 2017/18
Y Tîm Canolog
2017/18
Gwariant Amcangyfrifedig
£000
Gwariant Gros
Cyflogeion 439
11
12
Adeiladau 33
Cludiant 5
Cyfieithu 35
Cyflenwadau a Gwasanaethau 94
Hwyluso -
Grantiau a Drosglwyddwyd i ALlau -
Cyfanswm y Gwariant Gros 606
Incwm
Cyfraniadau gan Aelod-Awdurdodau (250)
Grant Llywodraeth Cymru (150)
Incwm Amrywiol (12)
Cyfanswm yr Incwm (412)
Gwariant Net 194
Dyraniad o'r Gronfa Wrth Gefn (194)
1.1 Sylwadau ar Berfformiad Refeniw 2016/17Cyfanswm gwariant gros Consortiwm ERW ar gyfer 2016/17 oedd £68.34 miliwn, a oedd yn cynnwys gwerth £60.12 miliwn o grantiau a drosglwyddwyd yn uniongyrchol i'r chwe Awdurdod Lleol cyfansoddol.
Cyflwynwyd adroddiadau rheolaidd ar y gyllideb i Gyd-bwyllgor a Bwrdd Gweithredol ERW gydol y flwyddyn, a chawsant yr wybodaeth ddiweddaraf am adnoddau grant ychwanegol wrth iddynt ddod ar gael. Mae holl adroddiadau'r Cyd-bwyllgor i'w gweld ar wefan ERW www.erw.cymru.
Mae'r Tîm Canolog, ynghyd â'i allu i gefnogi'r rhanbarth, wedi cynyddu trwy gydol 2016/17. Mae'r Tîm Canolog wedi cael ei gefnogi gan weithwyr proffesiynol arbenigol a gafodd eu secondio o'r chwe awdurdod lleol yn ystod y flwyddyn ar gost o £904,000, a ariannwyd o ffrydiau arian grant amrywiol. Darparwyd adnoddau ychwanegol sylweddol i'r rhanbarth yn ystod y flwyddyn, a hynny'n gymharol fyr rybudd, ac heb fod yn gymorth i gynllunio rhesymegol, fodd bynnag mae hyn wedi ei gwneud yn bosibl i gyflogau proffesiynol gael eu hariannu trwy grantiau, ac wedi helpu i leihau'r gorbenion craidd sy'n gysylltiedig â darparu'r gwasanaeth, er enghraifft costau cludiant a chyfieithu. Mae hyn wedi galluogi'r rhanbarth i fanteisio ar bob cyfle i feithrin a chryfhau ei allu i arwain newid, arloesi a chefnogi ysgolion i ddod yn sefydliadau cryf sy'n hunanwella. O ganlyniad, mae mwy o daliadau wedi cael eu rhoi i ysgolion i wella eu gallu.
Roedd Cyflenwadau a Gwasanaethau yn uwch na'r gyllideb yn ystod 2016/17, a hynny o ganlyniad i daliadau ychwanegol am Argraffu a Deunydd Ysgrifennu gwerth cyfanswm o £10,000 ar gyfer arolygiad ERW, ynghyd ag amrywiaeth o ddeunyddiau hyfforddi eraill na ellid eu dosrannu i arian grant oherwydd cyfyngiadau ar gostau gweinyddol. Buddsoddwyd cyfanswm o £13,000 yn y seilwaith TG, a oedd yn cynnwys cael offer newydd ar gyfer aelodau staff a oedd ar secondiad. Hefyd, roedd angen cyflogi gweithwyr proffesiynol arbenigol i ddarparu gwasanaethau i'r rhanbarth na allem eu prynu'n fewnol. Roedd hyn wedi costio £7,000, nad oedd yn y gyllideb yn wreiddiol.
Casglwyd gwerth £250,000 o gyfraniadau Awdurdodau Lleol ar gyfer 2016/17 gan y chwe phartner. Yn wahanol i gonsortia eraill, nid yw ERW yn cyflogi Ymgynghorwyr Her Gwella Ysgolion yn uniongyrchol. Cânt eu cyflogi gan bob Awdurdod Lleol, ac maent yn cydweithio ledled y tri hwb ardal, yn ogystal â'r rhanbarth cyfan, fel y bo angen, i ddarparu gwasanaeth effeithiol. Felly, dim ond tîm gweinyddol canolog bach, ond tîm sy'n tyfu, sy'n cael ei gyflogi'n uniongyrchol gan ERW, ac mae'r tîm hwn yn cefnogi'r Rheolwr Gyfarwyddwr. Mae'r model yn hwn yn caniatáu mwy o hyblygrwydd na chyflogi pob Ymgynghorydd Her yn uniongyrchol, o ystyried yr ardal ddaearyddol y mae'r rhanbarth yn ei chwmpasu.
Rhannwyd y cyfraniadau at gostau'r Tîm Canolog rhwng y chwe Awdurdod Lleol yn ôl niferoedd y disgyblion ar gyfer 2016/17:
Awdurdod Lleol % y Disgyblion yn y Rhanbarth
Cyfraniad
Sir Gaerfyrddin 21.0% £52,500Ceredigion 7.4% £18,500Castell-nedd Port Talbot 16.0% £40,000Sir Benfro 13.9% £34,750Powys 14.2% £35,500Dinas a Sir Abertawe 27.5% £68,750
Cyfanswm 100.0% £250,000
Defnyddiwyd y canrannau hyn hefyd i ddyrannu cronfeydd wrth gefn ledled y chwe Awdurdod Lleol.
Ariannwyd £310,000 o gostau'r Tîm Canolog trwy amrywiol grantiau gan Lywodraeth Cymru.
Yn ystod 2016/17, cafwyd cadarnhad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru y byddai'n mynnu ad-daliad o £10,000 mewn perthynas â grant penodol ar gyfer 2015/16 a oedd heb ei hawlio gan Awdurdodau Lleol.
1.2 Goblygiadau a Risgiau
Ni ddisgwylir bod unrhyw ymrwymiadau na rhwymedigaethau nas cyllidebwyd ar eu cyfer yn deillio o 2016/17 na all y Consortiwm eu talu. Fodd bynnag mae nifer a chwmpas y gwahanol ffrydiau ariannu grantiau yn parhau i gynyddu, ac mae ffurf a statws y sefydliad ar gyfer y dyfodol yn dibynnu'n rhannol ar ganlyniad trafodaethau Llywodraeth Cymru ynghylch cydweithio a gweithio mewn partneriaeth yn y dyfodol o ganlyniad i'r papur gwyn diweddar.
2. BUDDSODDIAD CYFALAF
13
14
Ni fu unrhyw wariant cyfalaf yn 2016/17. Caiff grantiau cyfalaf gan Lywodraeth Cymru eu trosglwyddo'n uniongyrchol i'r Awdurdod Lleol perthnasol.
3. ASEDAU A RHWYMEDIGAETHAU
3.1 Asedau Cyfredol a Rhwymedigaethau CyfredolRoedd cyfanswm dyledwyr ERW yn werth £10.152 miliwn, sef incwm grant a oedd yn ddyledus gan Lywodraeth Cymru yn bennaf. Ni nodwyd unrhyw faterion mewn perthynas â lleihad yng ngwerth yr asedau hyn nac unrhyw asedau cyfredol eraill.
Ni nodwyd unrhyw faterion mewn perthynas â setlo rhwymedigaethau cyfredol.
3.2 Rhwymedigaeth Pensiynau Mae ERW yn rhan o ddau gynllun pensiwn – Cronfa Bensiwn Dyfed a'r Cynllun Pensiwn Athrawon.
3.2.1 Mae Cynllun Pensiwn Dyfed, a weinyddir gan Gyngor Sir Caerfyrddin, yn gynllun buddion diffiniedig a ariennir, y mae cyflogeion a Chyd-bwyllgor ERW fel cyflogwr yn talu cyfraniadau iddo. O fis Ebrill 2014, mae pensiynau'n seiliedig ar gyfartaledd gyrfa yn hytrach na chyflog terfynol (ar gyfer yr elfen ôl-Ebrill 2014 yn unig).
Cafodd cyfradd cyfraniadau gyfansawdd y cyflogwr, a ddefnyddiwyd yn 2015/16 ((cyfradd y cyflogwr 15.4%) cyfradd y cyflogai 5.5% i 12.5%), ei chyfrifo gan actiwari'r Gronfa yn seiliedig ar y prisiad ar 31 Mawrth 2013 ar gyfer holl gyflogeion ERW (Cyngor Sir Penfro) sy'n rhan o'r cynllun. Bydd cyfradd gyfansawdd newydd ar gyfer cyfraniadau'r cyflogwr yn cael ei defnyddio o fis Ebrill 2017 ((cyfradd y cyflogwr 15.5%) cyfradd y cyflogai 5.5% i 12.5%) ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18, yn seiliedig ar brisiad y Gronfa ym mis Mawrth 2016.Prisiwyd y Gronfa ar 31 Mawrth 2016 ac mae canlyniadau'r prisiad hwn wedi'u hadlewyrchu yng Nghyfrifon 2016/17.
Mae'r cynllun yn destun prisiadau actiwaraidd statudol bob tair blynedd er mwyn sicrhau y gall y gronfa fodloni rhwymedigaethau yn y dyfodol. Cynhaliwyd y prisiad diwethaf yn 2016. Mae Cronfa Dyfed wedi gweld cynnydd yn ei diffyg net.
3.2.2 Goblygiadau a RisgiauO dan y Compact rhwng Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru, un o'r adolygiadau polisi arfaethedig oedd ystyried nifer y cronfeydd pensiwn yng Nghymru a'u strwythur trefniadol.
Yn ystod 2017 cyflwynwyd system o gofrestru staff yn awtomatig ar gyfer y Cynllun.
Mae'r prif risgiau sy'n wynebu Cyd-bwyllgor ERW yn ymwneud â'r canlynol:
Nifer cyffredinol y cyfranwyr at y gronfa, o gymharu â nifer y pensiynwyr, yn lleihau'n sylweddol, gan arwain at gyfraddau uwch yng nghyfraniadau cyflogwyr.
Unrhyw gynnydd canlyniadol yng nghyfraddau cyfraniadau cyflogwyr yn sgil y diwygiadau a amlinellir uchod neu berfformiad economaidd gwael buddsoddiadau Cronfa Dyfed.
Bydd Pŵl Buddsoddi Cymru Gyfan yn cael ei greu o ganlyniad i Gytundeb Cenedlaethol â'r Trysorlys er mwyn cynyddu maint cronfeydd buddsoddi a lleihau costau gweinyddu. Bydd y gronfa hon yn cael ei gweinyddu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, a daw i rym o fis Ebrill 2018. Bydd y gronfa newydd yn gyfrifol am fuddsoddi cyllid yr wyth cronfa bensiwn Llywodraeth Leol gyfredol. Bydd pob cronfa bensiwn gyfredol sy'n rhan o Bŵl Buddsoddi Cymru Gyfan yn parhau i allu pennu ei meini prawf a'i strategaethau buddsoddi ei hun.
Gan mai nifer bach o gyflogeion a gyflogir gan ERW, mae'r risg yn fach i ERW yn hyn o beth.
3.2.3 Y Cynllun Pensiwn AthrawonGweinyddir y cynllun gan yr Adran Addysg. Ni chaiff y cynllun hwn ei gyllido. Mae hyn yn golygu nad oes yna unrhyw asedau buddsoddi wedi cronni i dalu costau pensiwn cyn iddynt godi, ac felly ni fydd unrhyw asedau na rhwymedigaethau cyllido yn ymddangos ym Mantolen Cyd-bwyllgor ERW.
3.2.4 Goblygiadau a RisgiauCyflwynodd y Llywodraeth ddiwygiadau i bensiynau Athrawon o fis Ebrill 2015. Yn y dyfodol, bydd pensiynau yn seiliedig ar gyfartaledd gyrfa yn hytrach na chyflog terfynol.
Mae'r prif risg sy'n wynebu Cyd-bwyllgor ERW yn ymwneud â:
Y cynnydd canlyniadol yng nghyfraddau cyfraniadau cyflogwyr yn sgil cymarebau cyfrannwr/pensiynwr is a'r diwygiadau a amlinellir uchod.
3.3 Cronfeydd Wrth Gefn Defnyddiadwy a Balansau
3.3.1 Cronfeydd Cyffredinol Wrth GefnMae'r gronfa wrth gefn hon yn cynnwys balans gweithio ERW, a chaiff ei chynnal i dalu am ddigwyddiadau gweithredol posibl o ddydd i ddydd.
3.3.2 Cronfeydd Wrth Gefn a GlustnodwydMae'r rhain yn cynnwys balansau a ddelir ar ddiwedd blwyddyn at ddibenion penodol, a chânt eu defnyddio yn unol â'r gofynion penodol hynny. Cafodd cronfa weithio wrth gefn werth £100,000 ei chreu yn 2016/17 er mwyn darparu lefel ddigonol o gyllid i ddelio ag unrhyw wariant annisgwyl.
4. BUDDIANNAU O BWYSMae'n ofynnol i aelodau Cyd-bwyllgor ERW, Swyddogion Arweiniol a Swyddogion y Bwrdd Gweithredol ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau posibl sy'n deillio o gyflogaeth a threfniadau eraill. Nid oes unrhyw wrthdaro buddiannau i'w gofnodi.
5. TALIADAU I ARCHWILWYRAmcangyfrifir y bydd £13,000 yn cael ei dalu i Swyddfa Archwilio Cymru am y gwaith o archwilio datganiadau ariannol 2016/17. Bydd yr holl waith o ardystio grantiau yn destun Archwiliad Mewnol, fel sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru.
6. DIGWYDDIADAU ÔL-FANTOLENNi fu unrhyw ddigwyddiad, a ystyrir yn berthnasol i sefyllfa ariannol ERW ar 31 Mawrth 2017, ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol ond cyn y dyddiad adrodd cychwynnol, sef 5 Mai 2017.
Bydd unrhyw ddigwyddiadau rhwng 5 Mehefin 2017 a 17 Gorffennaf 2017, sef y dyddiad y bydd y Datganiad o Gyfrifon archwiliedig yn cael ei awdurdodi i'w gyhoeddi gan y Swyddog A151, yn cael eu hadrodd a'u cymeradwyo gan Gyd-bwyllgor ERW. Nid oes unrhyw ddigwyddiadau i'w cofnodi.
15
16
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i Aelodau Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth ar Waith
Rwyf wedi archwilio datganiadau cyfrifyddu a nodiadau cysylltiedig Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth ar Waith ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2017 o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
Mae datganiadau cyfrifyddu Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth ar Waith yn cynnwys y Datganiad Symudiadau mewn Cronfeydd Wrth Gefn, y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr, y Fantolen a'r Datganiad Llif Arian. Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw'r gyfraith gymwysadwy a Chod Ymarfer ar gyfer Cadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig 2016-17, yn seiliedig ar Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol.
Priod gyfrifoldebau'r swyddog ariannol cyfrifol ac Archwilydd Cyffredinol CymruFel yr eglurir yn fanylach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau ar gyfer y Datganiad o Gyfrifon ar dudalennau 11 a 12, y swyddog ariannol cyfrifol sy'n gyfrifol am baratoi'r datganiad o gyfrifon, sy'n rhoi darlun gwir a theg.Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio'r datganiadau cyfrifyddu a'r nodiadau cysylltiedig yn unol â'r gyfraith gymwysadwy a'r Safonau Archwilio Rhyngwladol (y DU ac Iwerddon). Mae'r safonau hynny yn ei gwneud yn ofynnol i mi gydymffurfio â Safonau Moesegol i Archwilwyr y Cyngor Adrodd Ariannol.
Cwmpas yr archwiliad o'r datganiadau cyfrifydduMae archwiliad yn cynnwys casglu tystiolaeth am y symiau a'r datgeliadau yn y datganiadau cyfrifyddu a'r nodiadau cysylltiedig mewn ffordd sy'n ddigonol i roi sicrwydd rhesymol fod y datganiadau cyfrifyddu a'r nodiadau cysylltiedig yn rhydd o gamddatganiadau perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall. Mae hyn yn cynnwys asesu: a yw'r polisïau cyfrifyddu yn briodol i amgylchiadau Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth ar Waith ac wedi eu rhoi ar waith yn gyson a'u datgelu'n ddigonol; rhesymoldeb yr amcangyfrifon cyfrifyddu o bwys a wnaed gan y swyddog ariannol cyfrifol, a chyflwyniad cyffredinol y datganiadau cyfrifyddu a'r nodiadau cysylltiedig.At hynny, rwy'n darllen yr holl wybodaeth ariannol ac anariannol yn yr Adroddiad Naratif er mwyn nodi anghysondebau perthnasol â'r datganiadau cyfrifyddu a'r nodiadau cysylltiedig archwiliedig, ac er mwyn nodi unrhyw wybodaeth yr ymddengys ei bod yn berthnasol anghywir, yn seiliedig ar yr wybodaeth a gasglwyd gennyf wrth gynnal yr archwiliad, neu'n berthnasol anghyson â'r wybodaeth honno. Os dof yn ymwybodol o unrhyw gamddatganiadau neu anghysondebau perthnasol ymddangosiadol, ystyriaf y goblygiadau i'm hadroddiad.
Barn ar ddatganiadau cyfrifyddu Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth ar Waith
Yn fy marn i, mae'r datganiadau cyfrifyddu a'r nodiadau cysylltiedig:
yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth Ar Waith fel yr oedd ar 31 Mawrth 2017, ac o'i incwm a gwariant am y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny; acwedi'u paratoi'n briodol yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Cadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig 2016/17.Barn ar faterion eraillYn fy marn i, mae'r wybodaeth yn y Rhagair Esboniadol yn gyson â'r datganiadau cyfrifyddu a'r nodiadau cysylltiedig.
Materion yr wyf yn adrodd arnynt trwy eithriadNid oes gennyf ddim i'w adrodd mewn perthynas â'r materion canlynol, yr wyf yn adrodd arnynt os yw'r canlynol yn wir, yn fy marn i:
nid oes cofnodion cyfrifyddu digonol wedi'u cadw; nid yw'r datganiadau cyfrifyddu yn gydnaws â'r cofnodion cyfrifyddu na'r ffurflenni; neu nid wyf wedi cael yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae eu hangen arnaf ar gyfer fy
archwiliad; ac nid yw'r Datganiad Llywodraethu yn cydymffurfio â'r canllawiau.
Tystysgrif cwblhau archwiliadRwy'n cadarnhau fy mod wedi cwblhau'r archwiliad o gyfrifon Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth ar Waith yn unol â gofynion Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Ar gyfer ac ar ranHuw Vaughan ThomasArchwilydd Cyffredinol CymruSwyddfa Archwilio Cymru24 Heol y GadeirlanCaerdydd CF11 9LJ21 Medi 2017
17
18
DATGANIAD O GYFRIFON
CYD-BWYLLGOR CONSORTIWM DE-ORLLEWIN A CHANOLBARTH CYMRU, ERW
DATGANIAD O GYFRIFOLDEBAU AM Y DATGANIAD
Cyfrifoldebau Cyd-bwyllgor ERW
Mae'n ofynnol i Gyd-bwyllgor ERW wneud y canlynol:
Gwneud trefniadau i weinyddu ei faterion ariannol mewn modd priodol a sicrhau bod un o'i swyddogion yn gyfrifol am weinyddu'r materion hynny. Yn y Cyd-bwyllgor ERW hwn, y swyddog hwnnw yw Cyfarwyddwr Cyllid Cyngor Sir Penfro. Rheoli ei faterion i sicrhau defnydd darbodus, effeithlon ac effeithiol o adnoddau, ac i ddiogelu ei asedau. Cymeradwyo'r Datganiad o Gyfrifon.
Cyfrifoldebau'r Cyfarwyddwr CyllidY Prif Swyddog Cyllid sy'n gyfrifol am baratoi Datganiad o Gyfrifon y Cyd-bwyllgor yn unol â'r arferion priodol a nodir yng Nghod Ymarfer CIPFA/LASAAC ar gyfer Cadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig (y Cod).
Wrth baratoi'r Datganiad o Gyfrifon hwn, mae'r Cyfarwyddwr Cyllid wedi:
Dewis polisïau cyfrifyddu addas a'u cymhwyso'n gyson; Gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon rhesymol a doeth; Cydymffurfio â'r Cod.
Mae'r Cyfarwyddwr Cyllid hefyd wedi: Cadw cofnodion cyfrifyddu priodol a chyfredol; Cymryd camau rhesymol i atal a datgelu twyll ac achosion eraill o afreoleidd-dra.
TYSTYSGRIF Y CYFARWYDDWR CYLLID
Mae Datganiad o Gyfrifon Cyd-bwyllgor Consortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru, ERW, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2017 wedi ei gynnwys ar dudalennau 13 i 36, ac fe'i lluniwyd yn unol â gofynion Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio Llywodraeth Leol (Cymru) 2014. Mae'r Rheoliadau yn rhagnodi cynnwys y Datganiad o Gyfrifon, a dim ond ar sail y cynnwys y caiff y farn Archwilio ei mynegi.
Rwy'n cadarnhau bod y cyfrifon yn rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa ariannol Cyd-bwyllgor Consortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru, ERW, ar 31 Mawrth 2017, ynghyd â'i incwm a'i wariant ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2017, ac rwy'n llofnodi'r Datganiad yn unol â Rheoliad 10(1).
J HASWELL FCCA
Y Cyfarwyddwr Cyllid19
20
Dyddiad: 21.09.2007
ADRODD A CHYMERADWYO
Cyflwynir y cyfrifon hyn, a gyhoeddwyd yn gyntaf ar 5 Mai 2017, i Gyd-bwyllgor Consortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru, ERW, i'w cymeradwyo yn dilyn casgliad yr Archwiliad Blynyddol ar 17 Gorffennaf 2017. Dangosir y dystysgrif archwilio ar dudalennau 9 a 10.
Cadeirydd Cyd-bwyllgor Consortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru, ERW
Enw: Y Cyng. Ellen Ap Gwynn
Cyfeiriad y Swyddfa:Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ
Dyddiad: 21.09.2017
21
22
1.0 DATGANIADAU ARIANNOL CRAIDD – EGWYDDORION SYLFAENOL
Nodir y safonau cyfrifyddu, y cysyniadau, y dyfarniadau beirniadol a'r risgiau cynhenid, ynghyd â'r polisïau cyfrifyddu a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r datganiadau ariannol craidd, ar y tudalennau canlynol.
1.1 SAFONAU ADRODD ARIANNOL
Mae'r Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol, a Safonau Eraill a gyhoeddwyd, wedi eu cymhwyso'n unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Cadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol. Mae'r Cod Ymarfer yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod ddatgelu gwybodaeth am effaith newid o ran cyfrifyddu, a fydd yn ofynnol o dan safon newydd sydd wedi ei chyhoeddi ond heb ei mabwysiadu eto gan y Cod, ar gyfer y flwyddyn ariannol dan sylw. Mae'r safonau sy'n berthnasol, a gyflwynwyd yng Nghod 2017/18, fel a ganlyn: Diwygiadau i IFRS10 Datganiadau Ariannol Cyfunol IFRS12 Datgelu Buddiannau mewn Endidau Eraill
Ni fydd effaith y newidiadau uchod yn berthnasol.
Paratowyd y Datganiad o Gyfrifon a nodir ar dudalennau 13 i 35 yn unol â Chod Ymarfer ar gyfer Cadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol 2016/17.
1.2 CYSYNIADAU CYFRIFYDDUDefnyddiwyd y cysyniadau cyfrifyddu penodol canlynol wrth baratoi'r Datganiadau Cyfrifyddu Craidd:
Sail croniadau Busnes gweithredol
Mae nodweddion ansoddol gwybodaeth ariannol yn parhau i gael eu defnyddio:
Arwyddocâd Cymaroldeb Natur wiriadwy Amseroldeb Eglurder Perthnasedd Cynrychiolaeth Gywir
Cyflawnder Niwtraledd Heb wallau
Goruchafiaeth gofynion deddfwriaethol
1.3 DYFARNIADAU BEIRNIADOL WRTH GYMHWYSO POLISÏAU CYFRIFYDDU AC
AMCANGYFRIF RISG
Wrth gymhwyso'r polisïau cyfrifyddu a amlinellir isod yn Adran 1.4, mae Cyd-bwyllgor ERW wedi gwneud dyfarniadau ynglŷn â'r trafodion cymhleth a'r rheiny lle ceir ansicrwydd ynghylch y dyfodol.
Er bod cryn ansicrwydd ynghylch lefel y cyllid ar gyfer llywodraeth leol yn y dyfodol, hyd yma mae Addysg wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Felly, er ei bod yn bosibl y caiff rhai grantiau eu cwtogi, ac o gofio mai nifer bach o gyflogeion a gyflogir yn uniongyrchol gan ERW, nid oes tystiolaeth ddigonol i gasglu y bydd yna effaith andwyol ar weithgareddau'r Cyd-bwyllgor nac y cânt eu lleihau mewn blynyddoedd i ddod.
Mewn rhai achosion, bu'n rhaid amcangyfrif y newidiadau a wnaed yn y cyfrifon trwy ddefnyddio profiad hanesyddol, tueddiadau cyfredol, ac ati. Gall y gwir ganlyniadau fod yn wahanol i'r tybiaethau a wneir ac, o ganlyniad, gallant effeithio ar y taliadau a godir yng nghyfrifon y blynyddoedd i ddod.
Nodir y prif feysydd risg yn y tabl canlynol:
Materion sy'n ymwneud ag eitemau yn y set gyfredol o gyfrifon:
Eitem Risg Effaith Bosibl
Rhwymedigaethau Cytundebol
Meintoliadau anghywir a her gyfreithiol
Cost ychwanegol i'r Cyd-bwyllgor a'i Awdurdodau Partner
Arian Grant Gwariant anghymwys a hawliwyd
Colli grant gyda'r gwariant i gael ei ariannu trwy adfachu craidd neu grantiau
Rhwymedigaeth Pensiwn
Tybiaethau actiwaraidd anghywir
Cynnydd yng Nghyfraniadau Cyflogwyr yn y dyfodol
Materion a allai effeithio ar y cyfrifon yn y dyfodol
Eitem Risg Effaith Bosibl
Cadarnhau safle’r rhanbarth fel mecanwaith cyflawni ar gyfer gwella ysgolion
Cyllid cynyddol gan Lywodraeth Cymru a disgwyliadau dilynol
Anallu i ymateb i ddisgwyliadau cynyddol o ran gwaith rhanbarthol.
Newidiadau o ran Blaenoriaethau Gwleidyddol
Cwtogi Cyllid Lleihau gwasanaethau, neu roi'r gorau i Waith Rhanbarthol
23
24
Deilliannau Addysgol
Nid yw Cyrhaeddiad disgyblion yn Gwella
Colli arian grant yn y dyfodol/ Awdurdodau Lleol yn gorfod cynyddu cyllid
Arian Grant Gwariant anghymwys a hawliwyd
Colli grant gyda'r gwariant i gael ei ariannu trwy adfachu craidd neu grantiau
Oedi cyn cael arian grant
Ymrwymo i wariant anghymwys. Diffyg cynllunio
Colli grant gyda'r gwariant i gael ei ariannu trwy adfachu craidd neu grantiau
Newid Demograffig
Tybiaethau anghywir
Costau uwch o ran gwasanaethau a chontractau
Arian Grant/Brexit
Colli grantiau gan Lywodraeth Cymru ac Ewrop
Lleihau'r gwasanaethau a ddarperir
Trefn Lywodraethol
Penderfyniadau ddim yn cael eu gwneud mewn modd amserol
Oedi o ran gwneud gwelliannau
Tanwario/gorwario yn y gyllideb a cholli arian grant
Trawsnewid/ Darparu Gwasanaethau Eraill
Nid yw dulliau gwahanol o weithio yn arwain at yr arbedion ariannol a dybiwyd
Tanwario/gorwario
Trefniadau cyfrifyddu ar wahân
Safon y Gymraeg Tybiaeth anghywir
Costau uwch o ran gwasanaethau a chontractau
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Peidio ag ystyried y Ddeddf wrth wneud penderfyniadau
Cost camau unioni
Cyllid grant yn cael ei wrthod gan Lywodraeth Cymru
ERW ddim yn glynu wrth natur ranbarthol amodau’r grant
Nid yw ysgolion yn cael y cymorth y mae arnynt ei angen.
1.4 POLISÏAU CYFRIFYDDU
Mae'r polisïau cyfrifyddu a ddefnyddiwyd i baratoi'r Datganiadau Cyfrifyddu Craidd a'r Nodiadau Ategol a Datganiadau Ariannol Atodol canlynol wedi'u hadolygu gan ddefnyddio Cod Ymarfer ar gyfer Cadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol 2016/17.
1.4.1 Egwyddorion CyffredinolNod y polisïau cyfrifyddu a fabwysiedir fydd sicrhau bod y Datganiad o Gyfrifon yn rhoi darlun "gwir a theg" o sefyllfa ariannol Cyd-bwyllgor ERW.
Caiff y cyfrifon eu paratoi yn unol â'r Cod Ymarfer diweddaraf gyfer Cadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) (y Cod), ac yn unol â'r Safonau ac Arferion Adrodd Ariannol perthnasol, oni nodir fel arall.
Caiff ffigurau eu cynnwys yn y Datganiadau Ariannol gan ddefnyddio'r confensiwn cost a bennir gan y safon gyfrifyddu briodol.
25
26
Caiff y polisïau cyfrifyddu eu diwygio, yn ôl y galw, ar sail polisïau'r flwyddyn flaenorol, er mwyn adlewyrchu newidiadau mewn gofynion adrodd, a chaiff unrhyw gyfryw newidiadau eu datgelu.
1.4.2 Busnes Gweithredol, Eitemau Eithriadol ac Arbennig, Addasiadau'r Flwyddyn Flaenorol a Digwyddiadau ar ôl y Cyfnod AdroddCaiff y Datganiadau Ariannol eu paratoi ar sail busnes gweithredol oni bai fod y Llywodraeth yn bwriadu dod â'r gwasanaethau i ben.
Eitemau arbennig – Ni chaiff yr un eitem o incwm neu wariant ei thrin yn arbennig. Felly, caiff pob eitem ei chynnwys ar y llinellau penodol ar gyfer Gwarged neu Ddiffyg ar Ddarparu Gwasanaethau neu Incwm a Gwariant Cynhwysfawr Arall.
Eitemau eithriadol – Pan fydd eitemau o incwm a gwariant yn berthnasol, caiff eu natur a'u swm eu datgelu ar wahân, naill ai yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr neu yn y nodiadau i'r cyfrifon.
Oni fydd y Cod yn caniatáu fel arall, bydd addasiadau perthnasol cyn y cyfnod yn arwain at ailddatgan ffigurau'r flwyddyn flaenorol a datgelu'r effaith.
Bydd digwyddiadau perthnasol sy'n digwydd ar ôl diwedd y cyfnod adrodd, os ydynt yn gymwys ar ddyddiad y Fantolen, yn diwygio'r Datganiad o Gyfrifon. Caiff digwyddiadau eraill eu datgelu gydag amcangyfrif o'r effaith ariannol debygol. Os caiff ei ddiwygio ar ôl ei gyhoeddi, cyn i'r archwiliad ddod i ben, bydd y swyddog ariannol cyfrifol yn ail-ardystio’r Datganiad o Gyfrifon diwygiedig i nodi ei fod yn disodli'r un a gyhoeddwyd yn flaenorol. Diffinnir perthnasedd fel y swm a amcangyfrifwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru mewn unrhyw flwyddyn.
1.4.3 Lesoedd a Threfniadau TebygCydnabod a Dosbarthu
Caiff lesoedd a threfniadau ariannol tebyg eu dosbarthu naill ai'n lesoedd cyllid neu'n lesoedd gweithredol. Diffinnir lesoedd cyllid fel trefniadau lle mae'r holl risgiau a buddion sy'n deillio o berchenogaeth yn trosglwyddo i raddau helaeth i'r lesddeiliad ond lle na chaiff y teitl ei drosglwyddo o reidrwydd. Diffinnir lesoedd gweithredol yn yr un modd â'r holl drefniadau eraill sy'n debyg i les. Wrth ystyried lesoedd eiddo, caiff tir ac adeiladau eu hystyried ar wahân i ddibenion dosbarthu, a chaiff tir ag oes ddiderfyn ei gydnabod, yn gyffredinol, fel les weithredol.
Lesoedd Cyllid – cânt eu cofnodi yn y Fantolen fel asedau a rhwymedigaethau cyfartal yn y categori priodol, a hynny ar sail gwerth teg yr eiddo neu, os yw'n llai, werth presennol y taliadau les sylfaenol – gyda chyfradd y gostyngiad a gymhwysir ymhlyg yn y les. Felly mae asedau yn destun ailbrisiad a dibrisiant. Codir y ffi cyllid ar y cyfrif refeniw yn gyson dros oes y les.
Lesoedd Gweithredol – bydd y rhent cyfan sy'n daladwy o dan lesoedd gweithredol yn cael ei godi ar y cyfrif refeniw ar sail llinell syth dros oes y les.
1.4.4 Cronfeydd Wrth Gefn (Balansau Gweithio) Cyd-bwyllgor ERWDosbarthuCaiff cronfeydd wrth gefn eu dosbarthu'n rhai defnyddiadwy, sydd ar gael i gefnogi gwariant yn y dyfodol, neu'n rhai annefnyddiadwy, sef y rheini sydd ar gael at ddibenion cyfrifyddu ariannol.
Cronfeydd Wrth Gefn Defnyddiadwy
Cyd-bwyllgor ERW fydd yn gyfrifol am reoli a defnyddio'r holl gronfeydd wrth gefn.
Caiff y gwariant a ariennir o gronfeydd wrth gefn ei ddangos, pan gaiff ei ysgwyddo, o dan yr adran wasanaeth briodol yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr.Bydd yr amgylchiadau canlynol yn caniatáu i symiau gael eu cadw'n ôl o'r refeniw:
i. Ymrwymiadau perthnasol sy'n bodoli ar gyfer nwyddau a gwasanaethau nas cafwyd neu nas talwyd amdanynt erbyn 31 Mawrth
ii. Hwyluso'r gwaith o drosglwyddo arian i flynyddoedd i ddod er mwyn sicrhau defnydd costeffeithiol o adnoddau, a chaniatáu ar gyfer amrywiadau yn y galw am wasanaeth o flwyddyn i flwyddyn
iii. Neilltuo adnoddau ar gyfer datblygiadau neu ddigwyddiadau annisgwyl yn y dyfodol
Cronfeydd Wrth Gefn AnnefnyddiadwyCaiff y cronfeydd wrth gefn canlynol eu cynnal:
i. Cronfa Bensiwn Wrth Gefn – i adlewyrchu sefyllfa Cronfa'r Cynllun.ii. Cyfrif Absenoldebau a Gronnwyd – i adlewyrchu cost yr hawl i absenoldeb â
thâl sy'n ddyledus ond heb ei gymryd ar 31 Mawrth.
AdroddCaiff dyraniadau i mewn ac allan o gronfeydd wrth gefn eu cofnodi yn y Datganiad Symudiadau mewn Cronfeydd Wrth Gefn.
1.4.5 Incwm a Gwariant Costau a Buddion CyflogeionCodir cyflogau yn erbyn y cyfnodau y maent yn berthnasol iddynt a, lle y bo angen, amcangyfrifir croniadau yn seiliedig ar gyfnodau talu blaenorol. Gwneir addasiad yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr i ystyried hawl i absenoldeb a gronnwyd.
Costau pensiwn – gweler polisi 4.7 isod.
Cyflenwadau a Gwasanaethau, ac atiMae Cyd-bwyllgor ERW yn gweithredu system o groniadau a thaliadau a droswyd. Caiff credydwyr eu cronni ar ddiwedd cyfnod a bennwyd ymlaen llaw yn y flwyddyn ganlynol, a thrwy gynnwys amcangyfrifon ar gyfer eitemau o bwys sy'n parhau heb eu talu ar yr adeg hon, yn seiliedig ar ddyfynbrisiau neu gostau blaenorol. Mae eithriad i'r egwyddor hon yn ymwneud â thaliadau trydan a thaliadau cyfnodol tebyg, a godir ar ddyddiad darllen mesurydd yn hytrach na chael eu dosrannu rhwng blynyddoedd ariannol. Caiff y polisi hwn ei gymhwyso'n gyson bob blwyddyn ac felly, nid yw'n cael effaith berthnasol ar gyfrifon unrhyw flwyddyn.
Incwm Rhoddir cyfrif am yr holl incwm sy'n ddyledus i Gyd-bwyllgor ERW ar y dyddiad y mae'n ddyledus, a chaiff ei gydnabod ar sail gwerth teg.
1.4.6 Grantiau'r Llywodraeth a Chyfraniadau Eraill CyffredinolRhoddir cyfrif am grantiau'r Llywodraeth a chyfraniadau eraill ar sail croniadau, a hynny pan fydd yr amodau ar gyfer eu cael wedi'u bodloni a phan fydd sicrwydd rhesymol y daw'r grant neu gyfraniad i law.
Grantiau Refeniw a ChyfraniadauLle bydd grant refeniw neu gyfraniad wedi'i gael, a lle bydd yr amodau'n parhau heb eu bodloni ar ddyddiad y Fantolen, caiff y grant neu gyfraniad ei gydnabod fel derbyniad
27
28
ymlaen llaw. Pan fydd amodau'r grant wedi'u bodloni, caiff ei gydnabod yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr fel incwm, a'i nodi yn y cyfrifon refeniw gwasanaeth ochr yn ochr â'r gwariant y mae'n berthnasol iddo.
Ad-daliadYn achos ad-daliad, caiff hwn ei gymhwyso'n gyntaf at unrhyw dderbyniad neu gyfraniad a gafwyd ymlaen llaw. I'r graddau y mae'r ad-daliad yn fwy na'r derbyniad ymlaen llaw, neu lle nad oes derbyniad ymlaen llaw yn bodoli, caiff yr ad-daliad ei gydnabod yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr fel eitem o wariant.
1.4.7 Costau a Buddion CyflogeionBuddion yn ystod Cyflogaeth
Caiff costau taliadau cydnabyddiaeth arferol eu codi fel traul yn y cyfnod y maent yn berthnasol iddo.
Gwneir croniad diwedd blwyddyn yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr mewn perthynas ag unrhyw gostau perthnasol sy'n deillio o hawl i wyliau sydd heb eu cymryd. Fodd bynnag, gan nad yw'n daliad, at ddibenion trethiant, caiff ei dynnu allan yn y Datganiad Symudiadau mewn Cronfeydd Wrth Gefn.
Buddion Terfynu
Codir buddion terfynu yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr pan fydd Cyd-bwyllgor ERW yn amlwg yn ymrwymedig i derfynu cyflogaeth.
Costau Pensiwn
Caiff y cyfraniadau pensiwn a delir gan Gyd-bwyllgor ERW eu codi ar sail croniadau ar y cyfrif refeniw gwasanaeth priodol ac, ynghyd â'r cyfraniadau a wnaed gan gyflogeion, eu trosglwyddo i'r gronfa briodol.
Cronfa Bensiwn Dyfed – Caiff y polisïau cyfrifyddu sy'n berthnasol i'r Gronfa eu pennu gan yr awdurdod gweinyddu, sef Cyngor Sir Caerfyrddin, sy'n cadw cyfrifon y Gronfa ac yn trefnu i wybodaeth actiwaraidd gael ei darparu i awdurdodau sy'n rhan o'r gronfa.
Bydd Cyngor Sir Penfro, fel awdurdod cyflogi i Gyd-bwyllgor ERW, yn cynnwys costau gwasanaeth cyfredol pensiynau, a gyfrifwyd gan actiwari'r Gronfa, o dan gostau gwasanaethau, yn unol â gofynion Safon Adrodd Ariannol IAS19, gan fod hyn yn cael ei gyfrif fel cynllun buddion diffiniedig.
Caiff y taliadau hyn eu tynnu allan yn y Datganiad Symudiadau mewn Cronfeydd Wrth Gefn, a chaiff y cyfraniadau gwirioneddol a dalwyd i'r Gronfa eu cynnwys er mwyn sicrhau y caiff y gost gywir ei chodi ar Gyd-bwyllgor ERW.
Caiff asedau a rhwymedigaethau sy'n ymwneud â Chyd-bwyllgor ERW eu datgelu ar y Fantolen.
Y Cynllun Pensiwn Athrawon – Yn achos athrawon, ni chaiff pensiynau "eu cyllido", a chânt eu talu o gyfraniadau blynyddol, felly ni fydd unrhyw rwymedigaeth am fuddion yn y dyfodol yn cael ei chydnabod yn y Fantolen. Rhoddir cyfrif am y cynllun fel cynllun cyfraniadau diffiniedig, a chaiff y cyfraniadau sy'n daladwy eu cynnwys yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr.
1.4.8 Stociau a Gwaith sy'n Mynd RhagddoCaiff stociau a ddelir gan Gyd-bwyllgor ERW eu prisio ar sail yr isaf o'r gost a'r gwerth dichonadwy net.
1.4.9 Dyledwyr, Drwgddyled a ChredydwyrCaiff Dyledwyr Cyffredinol eu cydnabod yn y Fantolen a'u mesur yn ôl gwerth teg y swm sy'n dderbyniadwy ar ôl i'r refeniw gael ei gydnabod. Yn y mwyafrif o achosion, bydd gwerth teg yn gyfystyr â'r gwerth arian parod, ond yn achos dyledwyr hirdymor, caiff y gwerth ei ostwng yn ôl y gyfradd briodol i adlewyrchu gwerth teg. Caiff yr addasiad ei wneud yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr, ond gan nad yw'n daliad priodol
i Gyd-bwyllgor ERW, caiff ei dynnu allan yn y Datganiad Symudiadau mewn Cronfeydd Wrth Gefn a'i gynnwys yn y Cyfrif Addasiad Offerynnau Ariannol.
Dyledion Heb eu Talu'n Llawn Caiff lwfansau cyffredinol eu gwneud ar gyfer dyledion heb eu talu'n llawn yn y Fantolen gan ddefnyddio'r canllawiau canlynol (neu o dan amgylchiadau penodol ar sail y cytunwyd arni â'r Swyddog A151).
Oedran y Ddyled % oedran y ddyled a ddarparwydLlai na blwyddyn 50%1 i 2 flynedd 90%2 i 3 blynedd 100%
Caiff y lwfans drwgddyled ei adolygu ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol yn erbyn y dyledion heb eu casglu, a chaiff addasiadau eu gwneud yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr fel y bo'n briodol.
Caiff Credydwyr Cyffredinol eu cydnabod yn y Fantolen, a'u mesur yn ôl gwerth teg y swm sy'n daladwy ar ôl i nwyddau gael eu dosbarthu neu wasanaethau gael eu darparu. Yn y mwyafrif o achosion, bydd gwerth teg yn gyfystyr â'r gwerth arian parod, ond yn achos credydwyr hirdymor, caiff y gwerth ei ostwng yn ôl y gyfradd briodol i adlewyrchu gwerth teg. Caiff yr addasiad ei wneud yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr ond, gan nad yw'n daliad priodol i gronfa Cyd-bwyllgor ERW, caiff ei dynnu allan yn y Datganiad Symudiadau mewn Cronfeydd Wrth Gefn a'i gynnwys yn y Cyfrif Addasiad Offerynnau Ariannol.
1.4.10 TAWCaiff trafodion eu dangos heb gynnwys TAW, i'r graddau y mae'n adenilladwy/daladwy.
1.4.11 Partïon Cysylltiedig Caiff y datgeliadau canlynol eu gwneud mewn perthynas â thrafodion perthnasol â phartïon cysylltiedig nad ydynt wedi eu datgan mewn man arall yn y Datganiad o Gyfrifon:
i. Natur y berthynas rhwng Cyd-bwyllgor ERW â phartïon cysylltiedig, a dylanwad y naill neu'r llall ar ei gilydd
ii. Cyfanswm y trafodion yn ystod y flwyddyn, gan ddangos symiau taladwy a derbyniadwy ar wahân
iii. Balansau sy'n ddyledus ar 31 Mawrth.
2.0 DATGANIADAU ARIANNOL CRAIDD – ELFENNAU A MANYLIONMae'r datganiadau ariannol craidd, a baratoir gan ddefnyddio Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS), yn cynnwys:
Y Dadansoddiad o Wariant a Chyllid – sy'n dangos y cysoniad rhwng sut y caiff gwariant blynyddol ei ddefnyddio a'i gyllido o adnoddau (grantiau'r llywodraeth, rhenti, y dreth gyngor ac ardrethi busnes) gan awdurdodau lleol, fel yr adroddir i’r
rheolwyr, o gymharu â'r adnoddau hynny a ddefnyddir neu a enillir gan awdurdodau, yn unol ag arferion cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol (yn seiliedig ar IFRS), fel y dangosir yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr.
Y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr – sy'n dangos cost cyfrifyddu darparu gwasanaethau yn ystod y flwyddyn yn seiliedig ar IFRS, yn hytrach na'r gost a chyllidwyd mewn gwirionedd o drethiant. Dangosir y cysoniad â'r sefyllfa drethiant, a gynrychiolir gan yr arian gwirioneddol sydd ar gael i Gyd-bwyllgor ERW, yn y Datganiad Symudiadau mewn Cronfeydd Wrth Gefn yn adran 2.3.
29
30
Datganiad Symudiadau mewn Cronfeydd Wrth Gefn – sy'n dangos y symudiadau ar y cronfeydd wrth gefn gwahanol a ddelir gan yr awdurdod, wedi'u dadansoddi rhwng cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy a chronfeydd wrth gefn annefnyddiadwy, a ddelir at ddibenion adrodd ariannol.
Y Fantolen – sy'n nodi'r sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth o ran gwerth asedau a rhwymedigaethau a gydnabyddir gan Gyd-bwyllgor ERW, a'r cronfeydd wrth gefn a ddelir gan y Cyd-bwyllgor.
Y Datganiad Llif Arian – sy'n crynhoi'r mewnlifau a'r all-lifau arian parod, a'r hyn sy'n cyfateb i arian parod, â thrydydd partïon, sy'n deillio o drafodion refeniw a chyfalaf.
Nodiadau Ategol a Datganiadau Ariannol Atodol
Mae'r rhain yn cynnwys:
Nodiadau i'r datganiadau ariannol craidd.
2.1 DADANSODDIAD O WARIANT A CHYLLIDMae'r datganiad hwn yn dangos y cysoniad rhwng sut y caiff gwariant blynyddol ei ddefnyddio a'i gyllido o adnoddau (grantiau'r llywodraeth, rhenti, y dreth gyngor ac ardrethi busnes) gan awdurdodau lleol, fel yr adroddir i'r rheolwyr, o gymharu â'r adnoddau hynny a ddefnyddir neu a enillir gan awdurdodau, yn unol ag arferion cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol (yn seiliedig ar IFRS). Mae hefyd yn dangos sut y dyrennir y gwariant hwn at ddibenion gwneud penderfyniadau rhwng gwasanaethau'r Cyngor. Caiff incwm a gwariant y rhoddir cyfrif amdanynt fel arferion cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol eu cyflwyno'n llawnach yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr.
2015/16 2016/17
Gwariant Net £000
Addasiadau rhwng y Sail
Gyllido a'r Sail Gyfrifyddu £000
Gwariant Net yn y Datganiad
Incwm a Gwariant
Cynhwysfawr £000 Gwariant
Net £000
Addasiadau rhwng y Sail
Gyllido a'r Sail Gyfrifyddu
£000
Gwariant Net yn y Datganiad
Incwm a Gwariant
Cynhwysfawr £000
Gwariant
1,199 35 1,234 Cyflogeion 1,492 25 1,517
28 - 28 Adeiladau 32 - 32
23 - 23 Cludiant/Milltiredd 35 - 35
93 -
93 Cyfieithu 91 - 91
271 - 271 Cyflenwadau a Gwasanaethau 1,192 - 1,192
132 - 132 Ymgynghori 162 - 162
30 - 30 Gwasanaethau Cymorth 30 - 30
1,362 - 1,362
Taliadau i ysgolion trwy'r Awdurdodau Lleol ar gyfer gwaith penodol 1,608 - 1,608
148 - 148 Hyfforddiant/Cynadleddau 174 - 174
62,883 -
62,883
Grantiau a drosglwyddwyd i Awdurdodau Lleol 63,527 - 63,527
66,169 35 66,204 Cyfanswm y Gwariant 68,368 25 68,368
Incwm
(250) - (250)Cyfraniadau gan Aelod-Awdurdodau (250) - (250)
(65,893) - (65,893) Grant Llywodraeth Cymru (67,802) - (67,802)
- - - Cyfraniadau gan gonsortia (33) - (33)
eraill
(2) - (2) Incwm Grant Arall (307) - (307)
(84) - (84) Incwm Grant Amrywiol (21) - (21)
(66,229) - (66,229) Cyfanswm yr Incwm (68,413) - (68,413)
- - - Grant LlC a Drosglwyddwyd i Aelod-Awdurdodau - - -
(60) 35 (25)(Gwarged)/Diffyg ar Weithrediadau Parhaus (70) 25 (45)
Incwm a Gwariant Cyllido a Buddsoddi
18 18 Llog Pensiynau Net 18 18
(42) 35 (7)(Gwarged) neu Ddiffyg ar Ddarparu Gwasanaethau (52) 25 (27)
(42) 35 (7)
CYFANSWM YR INCWM A GWARIANT CYNHWYSFAWR (52) 25 (27)
2.2 DATGANIAD INCWM A GWARIANT CYNHWYSFAWR Mae'r datganiad hwn yn dangos cost economaidd darparu gwasanaethau yn ystod y flwyddyn, yn unol ag arferion cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol.
Gellir crynhoi'r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr fel a ganlyn: Gwarged/Diffyg ar Weithrediadau Parhaus – yn dadansoddi, fesul grwpiau goddrychol, incwm a gwariant o ddydd i ddydd ar eitemau megis taliadau cydnabyddiaeth cyflogeion, costau rhedeg gwasanaethau, grantiau gwasanaeth penodol, ffioedd a thaliadau.
Yn unol â gofynion y Cod, mae incwm a gwariant gweithredol gwasanaethau yn cynnwys y costau "tybiannol" canlynol a gaiff eu "tynnu allan" yn y Datganiad Symudiadau mewn Cronfeydd Wrth Gefn:
costau pensiwn gwasanaeth cyfredol.
Incwm a Gwariant Cynhwysfawr Arall – mae hwn yn dangos y gwarged neu'r diffyg sy'n deillio o ailfesur asedau a rhwymedigaethau pensiwn.
DATGANIAD INCWM A GWARIANT
CYNHWYSFAWR
Nodyn2015/16 2016/17
Gwariant Gros £000
Incwm £000
Gwariant Net £000
Gwariant Gros £000
Incwm £000
Gwariant Net £000
Cyf. y Dud.
Gwariant
Cyflogeion 1,234 - 1,234 1,517
- 1,517
Adeiladau 28 - 28 32
- 32
Cludiant/Milltiredd 23 - 23 35
- 35
Cyfieithu 93 - 93 91
- 91
Cyflenwadau a Gwasanaethau 271
- 271 1,192
- 1,192
Ymgynghori 132 - 132 162
- 162
Gwasanaethau Cymorth 30 - 30 30
- 30
Taliadau i ysgolion trwy'r Awdurdodau Lleol ar gyfer gwaith penodol 1362
- 1362 1,608
- 1,608
Hyfforddiant/Cynadleddau 148 - 148 174
- 174
Cyfanswm y Gwariant 3,321 - 3,321 4,841
- 4,841
Incwm
Cyfraniadau gan Aelod-Awdurdodau - (250) (250) - (250) (250)
Grant Llywodraeth Cymru - (3,010) (3,010) - (4,2750 (4,275)
Cyfraniadau gan gonsortia eraill -
- - -
(33)
(33)
Incwm Grant Arall - (2) (2) - (307) (307)
Incwm Grant Amrywiol - (84) (84) - (21) (21)
Cyfanswm yr Incwm - (3,346) (3,346) - (4,886) (4,886)
Grant LlC a Drosglwyddwyd i Aelod-Awdurdodau 27
Sir Gaerfyrddin 12,946 (12,946) - 13,265 13,265 -
Ceredigion 4,544 (4,544) - 4,477 (4,477) -
Castell-nedd Port Talbot 10,679 (10,679) - 11,107 (11,107) -
Sir Benfro 8,967 (8,967) - 8,583 (8,583) -
Powys 7,964 (7,964) - 8,158 (8,158) -
Dinas a Sir Abertawe 17,783 (17,783) - 17,935 (17,935) -
62,883 (62,883) - 63,527 (63,527) -
(Gwarged)/Diffyg ar Weithrediadau Parhaus 66,204 (66,229) (25) 68,368 (68,413) (45)
Incwm a Gwariant Cyllido a Buddsoddi
Llog Pensiynau Net 29 18 18
(Gwarged) neu Ddiffyg ar Ddarparu Gwasanaethau (7) (27)
CYFANSWM YR INCWM A GWARIANT CYNHWYSFAWR
(7)
(27)
2.3 DATGANIAD SYMUDIADAU MEWN CRONFEYDD WRTH GEFNMae'r Datganiad hwn yn dangos y symudiadau yn ystod y flwyddyn ar y cronfeydd wrth gefn gwahanol a ddelir gan Gyd-bwyllgor ERW, wedi eu dadansoddi rhwng cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy (y rheini y gellir eu cymhwyso at wariant cronfa) a chronfeydd wrth gefn eraill sy'n annefnyddiadwy. Mae'r cronfeydd wrth gefn annefnyddiadwy yn cynnwys cronfeydd wrth gefn sy'n dal enillion a cholledion heb eu gwireddu, a gaiff eu gwireddu dim ond pan gaiff asedau eu gwerthu, a chronfeydd wrth gefn sy'n dal gwahaniaethau cyfrifyddu y mae eu hangen i gysoni'r gwahaniaethau rhwng adrodd ar sail gyfrifyddu IFRS a'r sail gyllido statudol.
Mae'r (Gwarged)/Diffyg ar ddarparu gwasanaethau yn adlewyrchu cost economaidd darparu gwasanaethau Cyd-bwyllgor ERW. Ceir rhagor o fanylion am hynny yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr ar y dudalen ganlynol.
Gwirioneddol 2016/17Cronfeydd Wrth Gefn
Defnyddiadwy
Balans Gweithio
Cyffredinol
Cronfeydd Wrth Gefn
Annefnyddiadwy
Cyfanswm Cronfeydd Wrth Gefn
ERW £000 ERW £000 ERW £000 ERW £000
Balans 1 Ebrill 2016 (472) -
93 (379)
(Gwarged)/Diffyg ar Ddarparu Gwasanaethau
(27) - -
(27)
Cyfanswm yr Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (gweler tudalen 24)
(27) - -
(27)
Trosglwyddo i Falans Gweithio Cyffredinol ERW
100 (100) -
Addasiadau rhwng y Sail Gyfrifyddu a'r Sail Gyllido Reoleiddiol (gweler nodyn 3) (43) 43
-
(Cynnydd)/Gostyngiad yn ystod y Flwyddyn 30 (100) 43 (27)
Balans 31 Mawrth 2017 (442) (100) 136 (406)
2.4 Y FANTOLEN Mae'r Datganiad hwn yn dangos gwerth yr asedau a'r rhwymedigaethau a gydnabyddir gan Gyd-bwyllgor ERW ar ddyddiad y Fantolen. Mae'r canlynol yn cyfateb i'r asedau net (asedau llai rhwymedigaethau): Cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy sy'n cynnwys cronfeydd cyffredinol wrth gefn a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd. Cronfeydd wrth gefn annefnyddiadwy sy'n cynnwys cronfeydd wrth gefn sy'n hwyluso'r addasiadau y
mae eu hangen rhwng y sail gyfrifyddu a ddefnyddiwyd i baratoi'r Datganiad o Gyfrifon a'r sail gyllido dan reoliad statudol.
MANTOLEN AR 31 MAWRTH Cyf. y
Dud.
2015/16 2016/17
£000 £000 £000 £000
ASEDAU CYFREDOL:
Dyledwyr Byrdymor a Rhagdaliadau 33 1,720 10,152
Arian Parod a'r Hyn sy'n Cyfateb i Arian Parod 34 56
Cyfanswm yr Asedau Cyfredol 1,776 10,152
CYFANSWM YR ASEDAU
RHWYMEDIGAETHAU CYFREDOL
Credydwyr Byrdymor 33 (1,298) (8,390)
Taliad Ymlaen Llaw (6) (378)
Gorddrafft (842)
Cyfanswm y Rhwymedigaethau Cyfredol (1,304) (9,610)
CYFANSWM YR ASEDAU LLAI RHWYMEDIGAETHAU CYFREDOL 472 542
Rhwymedigaeth Cronfa Bensiwn Net 35 (93) (136)
CYFANSWM Y RHWYMEDIGAETHAU HIRDYMOR (93) (136)
ASEDAU NET 379 406
Cronfeydd Wrth Gefn Defnyddiadwy
– Cronfa Gyffredinol Wrth Gefn y Cyd-bwyllgor 32 (472) (442)
– Cronfa Weithio Wrth Gefn Gyffredinol ERW 32 (100)
– Cronfa Gyffredinol Wrth Gefn y Cyd-bwyllgor a Glustnodwyd 32
Cronfeydd Wrth Gefn Annefnyddiadwy
– Cronfa Bensiwn Wrth Gefn 32 93 136
CYFANSWM Y CRONFEYDD WRTH GEFN (379) (406)
2.5 DATGANIAD LLIF ARIAN Mae'r Datganiad Llif Arian yn dangos y newidiadau mewn arian parod a'r hyn sy'n cyfateb i arian parod yn ystod y cyfnod adrodd, gan ddangos y modd y mae Cyd-bwyllgor ERW yn cynhyrchu ac yn defnyddio arian parod a'r hyn sy'n cyfateb i arian parod trwy ddosbarthu llifau arian yn weithgareddau gweithredol, buddsoddi ac ariannu.
Mae swm y llifau arian net sy'n deillio o weithgareddau gweithredol net yn ddangosydd allweddol o'r graddau y caiff gweithrediadau eu cyllido trwy incwm grant neu gan y sawl sy'n cael y gwasanaethau a ddarperir gan Gyd-bwyllgor ERW.
Caiff pob trafodyn arian parod ei weinyddu gan Gyngor Sir Penfro gan nad yw Cyd-bwyllgor Consortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru ERW yn gweithredu ei gyfrif banc ei hun.
DATGANIAD LLIF ARIAN
2015/16 2016/17
£000 £000 £000 £000
Cysoni'r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr
â'r Llif Arian Refeniw Net
(Gwarged)/Diffyg Net ar ddarparu gwasanaethau (7) (27)
Addasiadau i warged neu ddiffyg net ar ddarparu gwasanaethau ar gyfer symudiadau anariannol
Addasiadau i'r gronfa bensiwn (53) (43)
Symudiadau mewn dyledwyr, credydwyr, stociau refeniw, ac ati. 151 98 968 925
Llif Arian Net o Weithgareddau Gweithredol 91 898
(CYNNYDD)/GOSTYNGIAD NET MEWN ARIAN PAROD A'R HYN SY'N CYFATEB I ARIAN PAROD 91 898
Arian Parod a'r Hyn sy'n Cyfateb i Arian Parod ar ddechrau'r cyfnod adrodd 147 56
Arian Parod a'r Hyn sy'n Cyfateb i Arian Parod ar ddiwedd y cyfnod adrodd 56 (842)
(CYNNYDD/GOSTYNGIAD MEWN ARIAN PAROD A'R HYN SY'N CYFATEB I ARIAN PAROD (91) (898)
3.0 NODIADAU I'R DADANSODDIAD O WARIANT A CHYLLID
2016/17
Newid net ar gyfer yr
Addasiadau Pensiynau
Gwahaniaethau Eraill
Cyfanswm yr Addasiadau
(Gwarged)/Diffyg ar Weithrediadau Parhaus 25 25
Gwariant Gweithredu Arall
Incwm a Gwariant Cyllido a Buddsoddi 18 18
Trethiant ac incwm grant amhenodol
Y gwahaniaeth rhwng gwarged neu ddiffyg y Gronfa Gyffredinol a Gwarged neu Ddiffyg y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr ar Ddarparu Gwasanaethau
43 - 43
2015/16
Newid Net ar gyfer yr
Addasiadau Pensiynau
Gwahaniaethau eraill
Cyfanswm yr Addasiadau
(Gwarged)/Diffyg ar Weithrediadau Parhaus 35 35
Gwariant Gweithredu Arall
Incwm a Gwariant Cyllido a Buddsoddi 18 18
Trethiant ac incwm grant amhenodol
Gwahaniaeth rhwng gronfa gyffredinol gwarged neu ddiffyg a incwm cynhwysfawr a gwariant datganiad gwarged neu ddiffyg ar ddarpariaeth gwasanaethau
53 - 53
3.1 Newid Net ar gyfer Addasiadau PensiynauNewid net ar gyfer tynnu cyfraniadau pensiwn ac ychwanegu incwm a gwariant sy'n ymwneud â buddion pensiwn IAS 19 Buddion Cyflogeion:• Ar gyfer gwasanaethau mae hyn yn golygu tynnu cyfraniadau pensiwn cyflogwr a wneir gan yr
awdurdod fel sy'n cael ei ganiatáu gan statud, a chyflwyno costau gwasanaeth cyfredol a chostau gwasanaeth blaenorol yn eu lle.
• Ar gyfer incwm a gwariant cyllido a buddsoddi –- codir llog net ar y rhwymedigaeth buddion diffiniedig i'r CIES.
4.0 NODIADAU I'R DATGANIAD INCWM A GWARIANT CYNHWYSFAWR
4.1 GRANTIAU REFENIW
Mae'r tabl isod yn nodi incwm grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru a Chyrff Dyfarnu Grantiau eraill a drosglwyddwyd yn ddiweddarach i Aelod-Awdurdodau.
Grantiau Refeniw2015/16
Grantiau a Ddyrannwyd
yn Uniongyrchol i Awdurdodau
Grantiau a Ddelir
yn Ganolog
2016/17
Grantiau a Ddyrannwyd
yn Uniongyrchol i Awdurdodau
Grantiau a Ddelir
yn Ganolog
£000 £000 £000 £000 £000 £000
Y Grant Amddifadedd Disgyblion (21,008) (20,953) (55) (22,758) (22,683) (85)
Y Cymhwyster Cenedlaethol ar gyfer Penaethiaid (49) - (49) (169) - (169)
DPP Dysgu yn y Gymru Ddigidol (71) - (71) (142) - (142)
Meithrin Gallu Dysgu yn y Gymru Ddigidol (83) - (83)
Llwybrau Dysgu 14-19 (1) (1) 0 - - -
Llythrennedd a Rhifedd ar gyfer Ysgolion Arbennig (50) - (50) (25) - (25)
Y Gronfa Cydweithredu Rhanbarthol (358) (348) (10) - - -
Trawsgwricwlaidd Bl9 TGAU (70) - (70) - - -
TGAU – Tranche 2 - 0 (775) - (775)
Cymorth i Benaethiaid (42) (42) 0 (21) (21)
TGAU/Milan (679) - (679) (240) - (240)
Llythrennedd Corfforol 0 - - -
TGAU Drama a Cherddoriaeth (26) (26) 0 - - -
Bagloriaeth Cymru (50) - (50) (28) - (28)
Llythrennedd, Rhifedd ac Ieithoedd Tramor Modern (255) - (255) - - -
Y Grant Gwella Addysg (40,419) (39,137) (1,282) (38,938) (37,277) (1,661)
Diogelu Asesiadau Athrawon (33) - (33) (14) - (14)
Ysgol Ragorol ITM (121) - (121) (119) (57) (62)
Y Fargen Newydd (857) (857)
Her Ysgolion Cymru – Tranche 1 (571) (529) (42) -
Her Ysgolion Cymru – Tranche 2 (1,455) (1,359) (96) (780) (754) (26)
Profion Rhifedd Cenedlaethol Bl 6 (5) - (5) - 0
Ysgolion Arloesi Digidol (488) (488) (1,575) (1,412) (163)
Digwyddiadau Mathemateg (45) - (45) - - -
Cymedroli Athrawon Newydd Gymhwyso - - - (62) - (62)
Gweithredu Dyfodol Llwyddiannus - - - - - -
Grant y British Council - - (4) (4)
CALU (28) (28) - - -
Her Ysgolion Cymru – Tranche 3 - - - (1,100) (924) (176)
Defnydd Anffurfiol o'r Gymraeg - - - (196) (194) (2)
Anghenion Dysgu Ychwanegol - - - (296) (226) (70)
Cyfanswm y Grantiau Refeniw (65,907) (62,883) (3,024) (68,109 (63,527) (4,582)
Grantiau i Gefnogi Gweithgarwch – Heb fod yn Gysylltiedig â CLGau (7) - (7) - - -
Cyfanswm yr Holl Grantiau a Gynigiwyd i ERW (65,914) (62,883) (3,031) (68,109) (63,527) (4,582)
Rhoddwyd cyfrif am y grantiau refeniw uchod fel a ganlyn yn ystod y flwyddyn:
Grantiau Refeniw
2015/16
Grantiau a Ddyrannwyd
yn Uniongyrchol i Awdurdodau
Grantiau a Ddelir
yn Ganolog
2016/17
Grantiau a Ddyrannwyd
yn Uniongyrchol i Awdurdodau
Grantiau a Ddelir
yn Ganolog
£000 £000 £000 £000 £000 £000
Grantiau Llywodraeth Cymru a Gafwyd (65,829) (62,883) (2,946) (67,802) (63,527) (4,275)
Cymwysterau Cymru (50) - (50) (28) (28)
Y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (33) - (33) (13) (13)
Llwybrau at Ieithoedd (1) - (1) -
Consortiwm GwE (1) - (1) -
Cyngor y Gweithlu Addysg - - - (62) (62)
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - - - (200) (200)
British Council - - - (4) (4)
Grantiau a Gredydwyd fel Incwm yn ystod y Flwyddyn (65,914) (62,883) (3,031) (68,109) (63,527) (4,582)
4.2 COSTAU PENSIWN
Mae Cyd-bwyllgor ERW yn rhan o ddau gynllun pensiwn:
4.2.1. Mae Cynllun Pensiwn Dyfed, a weinyddir gan Gyngor Sir Caerfyrddin, yn gynllun buddion diffiniedig a ariennir y mae cyflogeion a Chyd-bwyllgor ERW, trwy Gyngor Sir Penfro fel cyflogwr, yn talu cyfraniadau iddo. Mae'r cynllun yn gweithredu'n unol â'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Phensiynau Llywodraeth Leol.
Cafodd cyfradd cyfraniadau gyfansawdd y cyflogwr, a ddefnyddiwyd yn 2016/17, ei chyfrifo gan actiwari'r Gronfa yn seiliedig ar y prisiad ar 31 Mawrth 2016 ar gyfer holl gyflogeion Cyd-bwyllgor ERW sy'n rhan o'r cynllun.
Prisiwyd y Gronfa ar 31 Mawrth 2016 ac mae canlyniadau'r prisiad hwn wedi'u hadlewyrchu yng Nghyfrifon 2016/17.
Mae'r datgeliadau isod yn ofynnol o dan Safon Gyfrifyddu Ryngwladol 19 (IAS 19), sy'n defnyddio tybiaethau ychydig yn wahanol i'r rhai a ddefnyddiwyd yn y prisiad actiwaraidd, ac fe'u cynhyrchir gan actiwari'r Gronfa ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol.
Mae IAS 19 yn ei gwneud yn ofynnol i'r rhan fwyaf o asedau gael eu prisio ar sail "gwerthoedd dichonadwy" h.y. gwerthoedd cynigion, yn hytrach na "gwerthoedd teg" (gwerthoedd canol y farchnad, mewn gwirionedd)
Llog ar Asedau Dyma'r llog ar asedau a ddelir ar ddechrau'r cyfnod a llifau arian sy'n digwydd yn ystod y cyfnod, a gyfrifir gan ddefnyddio'r gyfradd ostyngol ar ddechrau'r flwyddyn. Cyfrifir Cost Llog Net fel llog ar rwymedigaethau pensiwn llai'r llog ar asedau.
Cydnabod Enillion a Cholledion ActiwaraiddCydnabyddir yr holl enillion a cholledion actiwaraidd yn y flwyddyn y digwyddant trwy Incwm a Gwariant Cynhwysfawr Arall. Caiff enillion a cholledion actiwaraidd ar rwymedigaethau, oherwydd newidiadau i dybiaethau actiwaraidd, eu rhannu rhwng effaith newidiadau i dybiaethau ariannol a newidiadau i dybiaethau demograffig.
TreuliauCydnabyddir treuliau gweinyddol fel eitem ar wahân fel rhan o'r gost pensiwn. Caiff treuliau buddsoddi eu trin fel colled ar ased, ac felly fe'u cydnabyddir trwy Incwm a Gwariant Cynhwysfawr Arall.
4.2.2 Y Cynllun Pensiwn AthrawonGweinyddir y cynllun gan yr Adran Addysg. Ni chaiff y cynllun hwn ei gyllido. Mae hyn yn golygu nad oes yna unrhyw asedau buddsoddi wedi cronni i dalu costau pensiwn cyn iddynt godi, ac felly ni fydd unrhyw asedau na rhwymedigaethau cyllido yn ymddangos ym Mantolen Cyd-bwyllgor ERW.
Cyflwynodd y Llywodraeth ddiwygiadau i bensiynau Athrawon o fis Ebrill 2015. Yn y dyfodol, bydd pensiynau yn seiliedig ar gyfartaledd gyrfa yn hytrach na chyflog terfynol.
Mae'r prif risg sy'n wynebu Cyd-bwyllgor ERW yn ymwneud â: Y cynnydd canlyniadol yng nghyfraddau cyfraniadau cyflogwyr yn sgil y cymarebau
cyfrannwr/pensiynwr is a'r diwygiadau a amlinellir uchod.
Trafodion RefeniwCofnodion yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr a gaiff eu
cynnwys mewn Gwariant Gweithredol
2015/16 2016/17
Net£000 £000 £000 £000
Llog ar Rwymedigaethau Pensiwn 98 98
Llog ar Asedau'r Cynllun (80) (80)
18 18
Cost y Gwasanaeth Cyfredol 88 77
- 106
- 95
Datganiad o Symudiadau ar Gofnodion Mantolen Cronfa'r Cyngor
Tynnu'r Cofnodion IAS 19 Uchod yn Ôl: (106) (95)
Taliadau Gwirioneddol a Dalwyd yn ystod y Flwyddyn
Y Swm Gwirioneddol a Godwyd ar gyfer y Cyfnod 53 52
53 52
Addasiad Net Gofynnol - (53)
- (43)
4.3 COSTAU EITHRIADOLNi aethpwyd i unrhyw gostau eithriadol yn ystod y cyfnod.
4.4 MANYLION TALIADAU CYDNABYDDIAETH 4.4.1 Mae'r tablau canlynol yn nodi'r datgeliad o daliadau cydnabyddiaeth ar gyfer Uwch-staff Cyd-
bwyllgor ERW fel a ganlyn: Y Rheolwr Gyfarwyddwr ac Uwch-staff Eraill, gan gynnwys cyfraniadau pensiwn neu daliadau cyfatebol. Roedd cyfanswm y gyfradd cyfraniadau ar gyfer cyfraniadau pensiwn y cyflogwr yn 15.4% ar gyfer 2015/16 ac yn 15.5% ar gyfer 2016/17. Cyflogeion eraill a gafodd taliadau cydnabyddiaeth gwerth £60,000 neu fwy (heb gynnwys cyfraniadau pensiwn y cyflogwr) mewn bandiau o £5,000.
Uwch-swyddogion Bl.Cyflog Gros, Ffioedd ac
Enillion Eraill
Cyfraniadau Pensiwn y Cyflogwr at Gynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol
Buddion mewn da
Rheolwr Gyfarwyddwr 2015/16 79,430 12,221
-
Rheolwr Gyfarwyddwr 2016/17 81,614 12,650
-
Cyflogeion Eraill Nifer y Cyflogeion
Band Cydnabyddiaeth 2015/16 2016/17
£60,000 - £64,999 - -
£60,000 - £64,999 1 -
Mae yna uwch-swyddogion eraill ar Gyd-bwyllgor Consortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru ERW nad ydynt yn gyflogedig gan y Consortiwm, ac nad ydynt yn cael unrhyw daliadau cydnabyddiaeth trwy'r rolau ychwanegol y maent yn eu cyflawni ar ran y rhanbarth. Maent yn cynnwys
Y Prif Weithredwr Arweiniol – Sir GaerfyrddinY Cyfarwyddwr Addysg Arweiniol – Castell-nedd Port TalbotA151/Y Cyfarwyddwr Cyllid – Sir BenfroY Swyddog Monitro – CeredigionHefyd ar y Bwrdd Gweithredol y mae'r pum Cyfarwyddwr Addysg arall o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Powys ac Abertawe. I gael gwybodaeth am daliadau cydnabyddiaeth yr unigolion uchod ac aelodau staff ar secondiad, dylai defnyddwyr gyfeirio at ddatganiadau o gyfrifon yr Awdurdod Lleol priodol.
4.4.2 Buddion Terfynu Ni fu unrhyw derfyniadau yn ystod 2015/16 neu 2016/17.
4.5 FFIOEDD ARCHWILIO
Amcangyfrifir bod y symiau canlynol yn daladwy i Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn:
2015/16
£000
2016/17
£000
Ffioedd sy'n daladwy i Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â gwasanaethau archwilio allanol a ddarparwyd gan yr Archwilydd Penodedig ar gyfer y flwyddyn
13 13
Cyfanswm 13 13
4.6 PARTÏON CYSYLLTIEDIG
Mae Partïon Cysylltiedig yn cyfeirio at gyrff neu unigolion sydd â'r potensial i reoli neu ddylanwadu ar Gyd-bwyllgor ERW, neu i gael eu dylanwadu neu eu rheoli gan Gyd-bwyllgor ERW, a thrwy hynny atal gallu Cyd-bwyllgor ERW neu'r parti arall rhag gweithredu'n annibynnol.Mae yna achosion eraill lle gall Aelodau'r Bwrdd Gweithredol, swyddogion arweiniol ac Aelodau o Gyd-bwyllgor ERW fynd i gyfarfodydd y cyrff trydydd parti, ond nid oes ganddynt y gallu uniongyrchol i arfer rheolaeth. Fodd bynnag, gall eu barn ddylanwadu ar benderfyniadau a pholisi.
4.6.1 Cysylltiadau Perthnasol
Mae'r cysylltiadau perthnasol canlynol wedi'u nodi lle mae dylanwad perthnasol yn bodoli.4.6.1.1 Llywodraeth y DU a Llywodraeth CymruLlywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y fframwaith statudol ac sy'n darparu'r rhan fwyaf o gyllid Cyd-bwyllgor ERW, y mae llawer ohono'n ddarostyngedig i delerau ac amodau penodol. Felly, gall y cyrff arfer rheolaeth effeithiol dros weithrediadau Cyd-bwyllgor ERW. Nodir manylion y grantiau a gafwyd yn nodyn 4.1. Nodir y grantiau a oedd heb eu cael ar 31 Mawrth 2017 yn nodyn 6.1.3.
4.7 SYMIAU A GOFNODWYD AR GYFER PENDERFYNIADAU YNGHYLCH DYRANNU ADNODDAUCaiff y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr ei baratoi gan ddefnyddio'r polisïau cyfrifyddu a nodir yn nodyn 1.4 i fodloni gofynion y Cod Ymarfer ar gyfer Cadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol.
Mae'r Cyd-bwyllgor yn gwneud penderfyniadau ynghylch dyrannu adnoddau ar sail adroddiadau cyllideb a baratoir ar sail wahanol gan ddefnyddio'r grwpiau o wasanaethau a nodir yn SERCOP.
Yn benodol:
Mae cost buddion ymddeol yn seiliedig ar lifau arian (taliadau cyfraniadau pensiwn y cyflogwr) yn hytrach na chost gwasanaeth cyfredol buddiannau a gronnwyd yn ystod y flwyddyn.
4.7.1 Cost Net Gwasanaethau wedi'i Dadansoddi yn ôl y Math o Incwm a GwariantMae'r cysoniad hwn yn dangos y modd y mae'r ffigurau yn y Crynodeb Refeniw Net yn gysylltiedig â'r symiau yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (nodyn 2.2).
Gwariant Gwirioneddol 2016/17
Gwariant Tîm Canolog ERW
£000
Gwariant Grantiau Penodol ERW
£000
Cyfanswm y Gwariant
£000
Cyfraniadau Awdurdodau Lleol (250)
- (250)
Grantiau'r Llywodraeth (310) (67,492) (67,968)
Incwm Grant Arall (21) (307) (195)
Cyfraniadau gan Gonsortias Eraill (33) (33)
Cyfanswm yr Incwm (581) (67,832) (68,413)
Costau Cyflogeion 376 1,116 1,492
Costau Gweithredu Eraill 105 1,581 1,686
Gwasanaethau Cymorth 30 - 30
Taliadau i ysgolion Trwy'r Awdurdodau Lleol ar gyfer gwaith penodol - 1,608 1,608
Grantiau a Drosglwyddwyd i ALlau - 63,527 63,527
Cyfanswm y Costau 511 67,832 68,343
Cost Net Gwasanaethau (70) - (70)
Cysoni â Chost Net Gwasanaethau yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr
Cost Net Gwasanaethau (70)
Ychwanegu Addasiadau Ariannol nas cynhwyswyd mewn adroddiadau rheoli 43
Tynnu symiau nas cynhwyswyd yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr -
Cost Net Gwasanaethau yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr
(27)
Gwariant Gwirioneddol 2015/16
Gwariant Tîm Canolog ERW
£000
Gwariant Grantiau Penodol ERW
£000
Cyfanswm y Gwariant
£000
Cyfraniadau Awdurdodau Lleol (250)
- (250)
Grantiau'r Llywodraeth (288) (65,605) (65,893)
Incwm Grant Arall (2) (84) (86)
Cyfanswm yr Incwm (540) (65,689) (66,229)
Costau Cyflogeion 349 850 1,199
Costau Gweithredu Eraill 101 1,956 2,057
Gwasanaethau Cymorth 30 - 30
Grantiau a Drosglwyddwyd i - 62,883 62,883
ALlau
Cyfanswm y Costau 480 65,689 66,169
Cost Net Gwasanaethau (60) - (60)
Cysoni â Chost Net Gwasanaethau yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr
Cost Net Gwasanaethau (60)
Ychwanegu Addasiadau Ariannol nas cynhwyswyd mewn adroddiadau rheoli 53
Tynnu symiau nas cynhwyswyd yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr -
Cost Net Gwasanaethau yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr
(7)
4.7.2 Cysoni (Gwarged)/Diffyg yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr
Mae'r cysoniad hwn yn dangos y modd y mae'r ffigurau yn y tabl blaenorol yn gysylltiedig â dadansoddiad goddrychol o'r Gwarged neu Ddiffyg o ran costau Darparu Gwasanaethau sy'n rhan o'r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr.
Cysoni (Gwarged)/Diffyg yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr
Gwariant Gwirioneddol
2016/17
Dadansoddi Gwasanaethau
£000
Addasiadau Ariannol
£000
Heb ei Gynnwys yn y Datganiad
Incwm a Gwariant
Cynhwysfawr £000
Dyrannu Aildaliadau
£000
Cost Net Gwasanaethau
£000
Symiau Corfforaethol
£000
Cyfanswm £000
Cyfraniadau Awdurdodau Lleol (250)
- - - (250) - (250)
Llog ac Incwm Buddsoddi -
- - - - - -
Grantiau a Chyfraniadau'r Llywodraeth (67,968)
- - - (67,968) - (67,968)
Incwm Amrywiol (21) (21) (21)
Incwm Grant Arall (174)
- - - (174) - (174)
Cyfanswm yr Incwm (68,413)
- - - (68,413) - (68,413)
Costau Cyflogeion 1,492 25 - - 1517 - 1,517
Costau Gweithredu Eraill 1,879
- - 31 1,910 - 1,910
Gwasanaethau Cymorth 31
- - (31) - - -
Taliadau i ysgolion trwy'r Awdurdodau Lleol ar gyfer gwaith penodol 4,816
- - - 4,816 - 4,816
Grantiau a Drosglwyddwyd i ALlau 60,125
- - - 60,125 - 60,125
Llog a Dalwyd - - - - - 18 18
Cyfanswm y Costau 68,343 25 - - 68,368 18 68,386
(Gwarged)/Diffyg ar Ddarparu Gwasanaethau
(70) 25 - - (45) 18 (27)
Cysoni (Gwarged)/Diffyg yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr
Gwariant Gwirioneddol
2015/16
Dadansoddi Gwasanaethau
£000
Addasiadau Ariannol
£000
Heb ei Gynnwys yn y Datganiad
Incwm a Gwariant
Cynhwysfawr £000
Dyrannu Aildaliadau
£000
Cost Net Gwasanaethau
£000
Symiau Corfforaethol
£000
Cyfanswm £000
Cyfraniadau Awdurdodau Lleol (250)
- - - (250) - (250)
Llog ac Incwm Buddsoddi -
- - - - - -
Grantiau a Chyfraniadau'r Llywodraeth (65,893)
- - - (65,893) - (65,893)
Incwm Grant Arall (86)
- - - (86) - (86)
Cyfanswm yr Incwm (66,229)
- - - (66,229) - (66,229)
Costau Cyflogeion 1199 35 - - 1234 - 1234
Costau Gweithredu Eraill 2,057
- - 30 2,087 - 2087
Gwasanaethau Cymorth 30
- - (30) - - -
Grantiau a Drosglwyddwyd i ALlau 62,883
- - - 62,883 - 62,883
Llog a Dalwyd - - - - - 18 18
Cyfanswm y Costau 66,169 35 - - 66,204 18 66,222
(Gwarged)/Diffyg ar Ddarparu Gwasanaethau
(60) 35 - - (25) 18 (7)
5.0 NODIADAU I'R DATGANIAD SYMUDIADAU MEWN CRONFEYDD WRTH GEFN
5.1. ADDASIADAU RHWNG Y SAIL GYFRIFYDDU A'R SAIL GYLLIDO REOLEIDDIOL
Gwariant Gwirioneddol
2015/16 2016/17
Cronfeydd Wrth Gefn
Defnyddiadwy ERW £000
Cronfeydd Wrth Gefn
Annefnyddiadwy ERW £000
Cronfeydd Wrth Gefn
Defnyddiadwy ERW £000
Cronfeydd Wrth Gefn
Annefnyddiadwy ERW £000
Symiau sydd wedi'u cynnwys yng Nghyfanswm yr Incwm a Gwariant Cynhwysfawr y mae'n ofynnol o dan y rheoliadau eu heithrio er mwyn canfod y sefyllfa ariannol
Addasiad i Gostau Pensiwn (106) 106 (95) 95
Symiau sydd wedi'u heithrio yng Nghyfanswm yr Incwm a Gwariant Cynhwysfawr y mae'n ofynnol o dan y rheoliadau eu cynnwys er mwyn canfod y sefyllfa ariannol
Cyfraniad y Cyflogwyr i Gynllun Pensiwn 53 (53) 52 (52)
Addasiad Net Gofynnol (53) 53 (43) 43
5.2 CRONFEYDD WRTH GEFN DEFNYDDIADWY
Cronfeydd Wrth Gefn Defnyddiadwy
Balans 1 Ebrill 2016
£000
Cyfraniad o Gyfrifon Refeniw
£000
Cyfraniad i Gyfrifon Refeniw
£000
Balans 31 Mawrth
2017 £000
Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd
-
-
-
-
Cronfa Gyffredinol Wrth Gefn (472) 30
- (442)
Cronfa Weithio Wrth Gefn Gyffredinol ERW
- (100)
- (100)
Cyfanswm y Cronfeydd Wrth Gefn Defnyddiadwy (472) (70)
- (542)
5.3 CRONFEYDD WRTH GEFN ANNEFNYDDIADWYMae'r trafodion yng nghyfrifon y cronfeydd wrth gefn annefnyddiadwy, a grynhoir isod, i'w gweld mewn rhagor o fanylder yn nodyn 6.3.
Cronfeydd Wrth Gefn Annefnyddiadwy
Balans 1 Ebrill 2016 £000
Symudiadau yn ystod y Flwyddyn
£000
Balans 31 Mawrth 2017
£000
Cronfa Bensiwn Wrth Gefn 93 43 136
Cyfanswm y Cronfeydd Wrth Gefn Annefnyddiadwy 93 43 136
6.0 NODIADAU I'R FANTOLEN6.1 DYLEDWYR A CHREDYDWYR 6.1.1 Dyledwyr a RhagdaliadauDangosir yr holl symiau a nodwyd fel asedau yn ôl gwerth (teg) y farchnad.
Net 1 Ebrill 2016 £000
Gros 31 Mawrth
2016 £000
Lwfans ar gyfer Lleihad
mewn Gwerth
£000
Net 31 Mawrth 2017
£000
Symiau sy'n ddyledus mewn blwyddyn:
Llywodraeth Cymru 1,720 10,152 - 10,152
Awdurdodau Lleol ac Ysgolion -
-
-
-
Dyledwyr Eraill -
-
-
-
Cyfanswm y Dyledwyr 1,720 10,152 - 10,152
6.1.2 Credydwyr
Balans 31 Mawrth 2017
Credydwyr Byrdymor
£000
Grantiau Refeniw a
Dderbyniwyd Ymlaen Llaw
£000
Grantiau Cyfalaf a
Dderbyniwyd Ymlaen Llaw
£000
Cyfanswm y Credydwyr
£000
Symiau sy'n ddyledus mewn blwyddyn:
Llywodraeth Cymru - -
-
-
Awdurdodau Lleol ac Ysgolion (8,390) (378) - (8,768)
Credydwyr Eraill - - 0
Cyfanswm y Credydwyr (8,390) (378) - (8,768)
Balans 1 Ebrill 2016
Credydwyr Byrdymor
£000
Grantiau Refeniw a
Dderbyniwyd Ymlaen Llaw
£000
Grantiau Cyfalaf a
Dderbyniwyd Ymlaen Llaw
£000
Cyfanswm y Credydwyr
£000
Symiau sy'n ddyledus mewn blwyddyn:
Llywodraeth Cymru - -
-
-
Awdurdodau Lleol ac Ysgolion (1,298) (6) - (1,304)
Credydwyr Eraill - -
-
-
Cyfanswm y Credydwyr (1,298) (6) - (1,304)
6.1.3 Dadansoddiad Pellach o Gredydwyr Byrdymor
Dadansoddiad o Gredydwyr Byrdymor2015/16
£0002016/17
£000
Y Grant Amddifadedd Disgyblion 5 6,729
Y Cymhwyster Cenedlaethol ar gyfer Penaethiaid 11 46
Rhaglen DPP Dysgu yn y Gymru Ddigidol 6 27
Llwybrau Dysgu 14-19 3
Llythrennedd a Rhifedd ar gyfer Ysgolion Arbennig 35
Y Gronfa Cydweithredu Rhanbarthol 197
TGAU – Tranche 2 95
TGAU/Milan 82
Llythrennedd Corfforol 6 5
TGAU Drama a Cherddoriaeth 26
Bagloriaeth Cymru 6 5
Y Grant Gwella Addysg 225 593
Ysgol Ragorol ITM 10 10
Y Fargen Newydd 114
Her Ysgol Cymru – Tranche 2 670
Ysgolion Arloesi Digidol 316
Cymedroli Athrawon Newydd Gymhwyso 15
Grant y British Council 1
Her Ysgolion Cymru – Tranche 3 331
Defnydd Anffurfiol o'r Gymraeg 4
Anghenion Dysgu Ychwanegol 63
Cyfanswm Rhwymedigaethau Cyfredol y Grantiau Refeniw 1,282 8,354
Y Tîm Canolog 16 26
Tanwariant Abertawe i'w ddychwelyd i Lywodraeth Cymru 10
Cyfanswm y Credydwyr y mae Arian yn Ddyledus Iddynt 31 Mawrth 2015 1,298 8,390
6.2. ARIAN PAROD A'R HYN SY'N CYFATEB I ARIAN PAROD
Balans 31 Mawrth 2016
£000
Balans 31 Mawrth
2017 £000
Arian yn y Banc/Mewn Llaw 56 -
Cyfrifon Galw Banc - -
Arian a Ordynnwyd - (842)
Cyfanswm yr Arian Parod a'r Hyn sy'n Cyfateb i Arian Parod 56 (842)
6.3 PENSIYNAU WRTH GEFNMae'r Gronfa Bensiwn Wrth Gefn yn ymwneud â Chynllun Pensiwn Dyfed (gweler nodyn 2.2.1), ac mae'n amsugno'r gwahaniaethau o ran amseru sy'n deillio o'r trefniadau gwahanol ar gyfer rhoi cyfrif am fuddion ôl-gyflogaeth a buddion cyllido, yn unol â darpariaethau statudol.
Mae balans y ddyled ar y Gronfa Bensiwn Wrth Gefn yn adlewyrchu'r diffyg ar adeg benodol rhwng buddion a enillwyd gan gyflogeion blaenorol a chyflogeion presennol, a'r adnoddau o ran asedau'r gronfa bensiwn sy'n ofynnol i'w talu. Dylai'r trefniadau statudol ar gyfer rheoli'r Gronfa sicrhau y bydd cyllid wedi'i neilltuo pan fydd angen talu'r buddion.
2015/16
£000
2016/17
£000
Balans 1 Ebrill 40 93
Ailfesur Rhwymedigaethau ac Asedau Pensiwn - -
Tynnu'n ôl eitemau i'w priodoli i'r gwarged/diffyg ar ddarparu gwasanaethau yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr 106 95
Cyfraniadau pensiwn y cyflogwr a thaliadau uniongyrchol eraill yn ystod y flwyddyn (53) (52)
Balans 31 Mawrth 93 136
Eitem 5 ar yr Agenda
CYD-BWYLLGOR ERW21 MEDI 2017
Datganiad Llywodraethu Blynyddol Consortiwm ERW ar gyfer 2016-17
Diben: Darparu ar gyfer y Cyd-bwyllgor ganfyddiadau'r adolygiad blynyddol o'r trefniadau Llywodraethu ar gyfer Consortiwm ERW ar gyfer 2016-17.
ARGYMHELLION/PENDERFYNIADAU ALLWEDDOL GOFYNNOL:
Cymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2016-17. RHESYMAU: Gofyniad statudol.
Awdur yr Adroddiad: Jo Hendy
Teitl: Pennaeth Archwilio Mewnol
Rhif Ffôn: 01437 776213
E- bost:[email protected]. uk
Tudalen 76
CRYNODEB GWEITHREDOL CYD-BWYLLGOR ERW
21 MEDI 2017
Datganiad Llywodraethu Blynyddol Consortiwm ERW ar gyfer 2016-17
CRYNODEB BYR O DDIBEN YR ADRODDIADDarparu ar gyfer y Cyd-bwyllgor ganfyddiadau'r adolygiad blynyddol o'r trefniadau Llywodraethu ar gyfer Consortiwm ERW ar gyfer 2016-17, a chytuno ar y blaenoriaethau ar gyfer Gwella.
ADRODDIAD MANWL YNGHLWM? OES
GOBLYGIADAU
Polisi, Trosedd ac Anhrefn a Chydraddoldebau DIM
Cyfreithiol
OES
Cyllid
OES
Materion Rheoli Risgiau
DIM
Goblygiadau Staffio
DIM
1. CyfreithiolMae'r gwaith o adolygu a diweddaru Cytundeb Cyfreithiol ERW wedi cael ei gynnwys fel Blaenoriaeth ar gyfer Gwella.
2. CyllidMae ERW yn dibynnu'n helaeth ar gyllid grant gan Lywodraeth Cymru. Mae oedi o ran cadarnhad gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chyllid ar gyfer 2016-17 yn arwain at anawsterau o ran cynllunio busnes ystyrlon. Bu yna hefyd oedi o ran talu cyllid grant o'r flwyddyn flaenorol, sydd wedi arwain at bwysau ariannol ar y Bancer Arweiniol.Ar hyn o bryd, nid yw Cynllun Busnes ERW yn gyson â'r model ariannol. Mae hyn yn peri pryder o ran gallu cyflawni'r cynllun gyda'r adnoddau cyfredol.
YMGYNGORIADAUMae manylion unrhyw ymgyngoriadau sydd i'w cynnal i gael eu cynnwys yma.
Adran 100D o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Mynediad at WybodaethRhestr o Bapurau Cefndir a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r
adroddiad hwn: MAE'R RHAIN WEDI'U RHESTRU ISODTeitl y Ddogfen Cyfeirnod y
FfeilRhif
Lleoliadau lle mae'r papurau ar gael i'r cyhoedd eu gweld
Datganiad LlywodraethuBlynyddol 2016-17
Annual GovernanceStatement 2016-17
Tudalen 78
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2016-17
Cyflwyniad
Mae ERW yn gynghrair o chwe Awdurdod Lleol a lywodraethir gan Gyd-bwyllgor sydd â chyfansoddiad cyfreithiol. Un gwasanaeth effeithiolrwydd ysgolion proffesiynol, rhanbarthol ac integredig yw ERW, sy'n hybu gwella ysgolion a chyflawniad dysgwyr ar draws ardal gyfunol y chwe awdurdod lleol yn rhanbarth De-orllewin a Chanolbarth Cymru, a hynny o fewn tri hwb:
Sir Gaerfyrddin/Sir Benfro Ceredigion/Powys Castell-nedd Port Talbot/Abertawe
Gweledigaeth
"rhwydwaith o ysgolion, ledled y rhanbarth, sy'n perfformio'n uchel yn gyson, gyda phob ysgol yn un dda, sy'n cynnig safonau addysgu uchel dan arweinyddiaeth dda, a lle mae'r holl ddysgwyr yn gwireddu eu llawn botensial"
Datganiad Cenhadaeth
"meithrin gallu ysgolion trwy gefnogi, herio ac ymyrryd, fel eu bod yn dod yn sefydliadau sy'n hunanwella, sy'n gadarn, ac sy'n gwella deilliannau'n barhaus i'r holl ddysgwyr"
Adolygu Trefniadau Llywodraethu
Beth yw Llywodraethu?Mae ERW yn gyfrifol am sicrhau bod ei fusnes yn cael ei gynnal yn unol â chyfreithiau,rheoliadau a'i safonau moesegol. Y fframwaith llywodraethu yw'r broses, y diwylliant, y gwerthoedd a'r systemau trwy ba rai y mae hyn yn cael ei gyflawni.
Er mwyn cyflawni gwaith llywodraethu da o fewn llywodraeth leol, mae'n rhaid i ERW a'i Swyddogion geisio sicrhau bod amcanion ERW yn cael eu cyflawni, a'u bod yn gweithredu bob amser er budd y cyhoedd. Mae gweithredu er budd y cyhoedd yn awgrymu bod ystyriaeth sylfaenol yn cael ei rhoi i'r buddiannau i gymdeithas, sy'n golygu y dylai hyn arwain at ddeilliannau cadarnhaol ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill.
Mae'r ddwy dudalen nesaf yn amlinellu'r Cylch Cynllunio Busnes a'r Strwythur Llywodraethu sydd ar waith i fonitro a darparu her i'r gwaith o gyflawni deilliannau bwriadedig.
Y Cylch
Cynllunio a Gwerthuso
Adolygu + Strategaeth
CynllunioGwerthuso
Cylch Cynllunio a
Y Cyd-bwyllgor
GwerthusoY Bwrdd Gweithredol
Strategaeth
ERW + ALl Lefel 1
Y Bwrdd Gweithredol
Adolygu Cynllunio
AdolyguLefel f
Cefnogi Dysgu
Y Broses Atebolrwydd
Y Fframwaith Llywodraethu
Cynllun Busnes ERWMae Cynllun Busnes tair blynedd ar waith i gefnogi'r egwyddorion ar y cyd a'r camau gweithredu ar gyfer Consortiwm ERW. Mae'r Cynllun Busnes yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru yn flynyddol. Mae Cynllun Busnes 2016-2019 yn egluro sut y bydd ERW yn gwella ac yn datblygu'r Model Cenedlaethol o Wella Ysgolion, ac yn cyflawni blaenoriaethau'r Gweinidog yn ‘Cymwys am Oes’.
Y Cyd-bwyllgorMae'r Cyd -bwyllgor wedi'i ffurfio o Arweinwyr y chwe Awdurdod Lleol, yn cael eu cefnogi gan y chwe Phrif Weithredwr, ac mae'n cael ei gynghori gan y Bwrdd Gweithredol, Swyddogion Statudol, arbenigwyr gwella ysgolion allanol, a chynrychiolwyr y Penaethiaid. Mae'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol a Swyddfa Archwilio Cymru yn adrodd yn annibynnol i'r Cyd-bwyllgor.
Y Bwrdd GweithredolMae'r Bwrdd Gweithredol yn cynnwys Cyfarwyddwyr Addysg pob un o'r chwe Awdurod Lleol, ynghyd â’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Swyddog Adran 151, ac aelodau allanol.
CraffuMae pob llif gwaith a gweithgaredd, yn lleol ac yn rhanbarthol, yn cael eu llywio gan y Cyd-bwyllgor ac yn atebol yn lleol. Mae Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau Craffu ar Addysg y chwe Awdurdod Lleol yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn fel Grŵp Craffu i ystyried y cynlluniau ar gyfer gwaith craffu ac i wneud ceisiadau'n uniongyrchol i'r Cyd-bwyllgor.
Bwrdd Cynrychiolwyr y PenaethiaidMae Bwrdd Cynrychiolwyr y Penaethiaid yn cynnwys y Cadeirydd neu Gynrychiolydd o bob cymdeithas Penaethiaid yn y chwe Awdurdod Lleol. Ei nod yw gweithredu fel cyfeirbwynt i ERW wrth iddo gysylltu ag arweinwyr ysgolion.
Swyddogion StatudolMae rolau statudol yn cael eu rhannu ledled yr Awdurdodau Lleol. Swyddogion Statudol yn ystod 2016-17: Y Prif Swyddog Gweithredol Arweiniol – Mark James, Cyngor Sir CaerfyrddinY Cyfarwyddwr Addysg Arweiniol – Aled Evans, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port TalbotSwyddog Adran 151 – Jon Haswell, Cyngor Sir PenfroSwyddog Monitro – Elin Prysor, Cyngor Sir Ceredigion
Archwilio MewnolCyngor Sir Penfro, fel yr Awdurdod Arweiniol ar gyfer Cyllid, sy'n darparu'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol i ERW. Rôl y gwasanaeth Archwilio Mewnol yw rhoi sicrwydd annibynnol ynghylch effeithiolrwydd y trefniadau sydd ar waith o ran llywodraethu, rheolaeth fewnol, rheolaeth ariannol, a rheoli risgiau. Yn unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus, cytunwyd â Swyddog Adran 151 a'r Rheolwr Gyfarwyddwr ar gynllun gwaith sy'n seiliedig ar risgiau, ac fe'i cymeradwywyd gan y Cyd-bwyllgor ym mis Tachwedd 2016. Daeth y Pennaeth Archwilio Mewnol i'r casgliad, yn amodol ar amrywiad rhwng meysydd archwilio unigol a'r angen am welliant a datblygiad pellach mewn rhai meysydd, y gellir, yn gyffredinol, roi sicrwydd sylweddol ynghylch effeithiolrwydd y trefniadau sydd ar waith o ran llywodraethu, rheolaeth fewnol, rheolaeth ariannol, a rheoli risgiau.
Archwilio a Rheoleiddwyr AllanolPenodwyd Swyddfa Archwilio Cymru yn archwilwyr allanol ar gyfer ERW. Mae Estyn yn darparu gwasanaeth archwilio a chynghori ar wahân ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant a ddarperir yng Nghymru. Ym mis Medi 2016, roedd Estyn, mewn cydweithrediad â Swyddfa Archwilio Cymru, wedi cyhoeddi adroddiad ar 'Ansawdd y Gwasanaethau Gwella Ysgolion a ddarperir gan Gonsortiwm ERW'.
Adolygu Effeithiolrwydd
Mae ERW yn gyfrifol am gynnal, o leiaf yn flynyddol, adolygiad o effeithiolrwydd ei fframwaith llywodraethu, yn cynnwys y system rheolaeth fewnol. Roedd yr adolygiad o effeithiolrwydd ar gyfer 2016-17 yn cael ei lywio gan hunanasesiad o gydymffurfiaeth â dogfen CIPFA, Delivering Good Governance in Local Government: Framework (2016), a hynny gan y Rheolwr Gyfarwyddwr. Darparwyd sicrwydd ychwanegol gan Farn Sicrwydd Flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol, a hynny'n seiliedig ar y gwaith a wnaed gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn 2016-17; Adroddiad Arolwg Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru Medi 2016, a chofnodion gan Gyd-bwyllgor a Bwrdd Gweithredol ERW. Cafodd canlyniad yr adolygiad ei gylchredeg i Swyddogion Statudol ERW, er mwyn iddynt ei ystyried a rhoi sylwadau arno. Mae'r diagram ar y dudalen nesaf yn amlinellu pa sicrwydd oedd yn ofynnol, pa ffynonellau sicrwydd oedd ar gael o dan y Strwythur Llywodraethu cyfredol, y ffynonellau sicrwydd a ddarparwyd, a'r meysydd i'w gwella a nodwyd.Ni chafodd unrhyw Faterion Llywodraethu Sylweddol eu nodi; fodd bynnag, mae yna nifer o Flaenoriaethau ar gyfer Gwella. Mae'r cynllun gweithredu ar dudalen 8 yn darparu manylion ychwanegol, ynghyd â chamau gweithredu ac amserlen i fynd i'r afael â nhw.
Adolygiad o Drefniadau Llywodraethu ERW ar gyfer 2016-17
Mae Sicrwydd yn ofynnol o ran
Cyflawni amcanion;
Glynu wrth safonau moesegol;
Cydymffurfio â chyfreithiau, rheoliadau, a pholisïau a gweithdrefnau mewnol;
Safonau ymddygiad; Rheolaeth ariannol, yn
cynnwys cyflawni gwerth am arian;
Cynaliadwyedd; Ansawdd y
gwasanaeth a ddarperir;
Rheoli risgiau; Atebolrwydd.
Ffynonellau Sicrwydd
Cytundeb Cyfreithiol ERW; Y Cyd-bwyllgor; Y Bwrdd Gweithredol; Craffu; Grŵp Cynrychiolwyr y Penaethiaid Polisïau; Cynllun Busnes a
Strategaethau; Cynlluniau Ariannol; Adroddiadau Archwilio Mewnol; Adroddiadau Allanol ac Adroddiadau'r Rheoleiddiwr; Adroddiad Hunanwerthuso; Swyddogion Statudol; Polisïau a
gweithdrefnau
Adnoddau Dynol; Adroddiad ar yr Effaith; Adolygiadau Gwerth am Arian; Cofrestrau Risgiau.
Sicrwydd a Ddaeth i Law
Adroddiad Arolwg Estyn ;
Llythyr gan y Pwyllgor Craffu ; Yr Adroddiad Archwilio Mewnol; Y Datganiad o Gyfrifon; Pennaeth y Farn Archwilio
Fewnol Cofnodion y
Cyd-bwyllgor ; Cofnodion y
Bwrdd Gweithredol .
Meysydd i'w Gwella
Nid yw ymrwymiad ERW i Fframwaith Llywodraethu Da diweddaraf CIPFA wedi cael ei ddiffinio;
Trefniadau Cyllid Grant ar y cyd â Llywodraeth Cymru; Mae'n rhaid i'r Cynllun
Busnes gael ei gysoni â'r model cenedlaethol;
Nid yw'r cymorth a ddarperir iysgolion yn cael ei ddarparu'n gyson â'r anghenion.
Blaenoriaethau ar gyfer Gwella 2016-17
Blaenoriaeth ar gyfer Gwella Camau Gweithredu
Amserlen a Swyddog ArweiniolMae angen ailysgrifennu'r Cod Llywodraethu Corfforaethol Lleol ar
gyfer ERW yn unol â dogfen CIPFA, Delivering Good Governance in Local Government: Framework (2016).
Drafftio Cod Llywodraethu Corfforaethol diwygiedig.
Y Rheolwr Gyfarwyddwr
Mis Hydref Mae angen adolygu a diweddaru Cytundeb Cyfreithiol ERW, a fyddai'n cynnwys manylion y Cytundebau Lefel Gwasanaeth rhwng ERW ac awdurdodau perthnasol, a hynny mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro, Swyddog Adran 151, a'r Cyfarwyddwr Arweiniol.
Y diwygiadau a'r diweddariadau yn aros am y cyfle i'wcyflwyno i'r Cyd-bwyllgor.
Y Rheolwr Gyfarwyddwr.
Yn dibynnu ar gyngor yPrif Weithredwr
ArweiniolMae ERW yn dibynnu ar gyllid grant gan Lywodraeth Cymru.Mae oedi o ran talu'r grantiau a oedd yn ddyledus o 2016-17 wedi arwain at bwysau ariannol ar y Bancer Arweiniol. Mae hefyd oedi wedi bod o ran Llywodraeth Cymru yn cadarnhau cyllid ar gyfer 2017-18, sy'n rhoi pwysau ar y gwaith cynllunio, a'r gallu i gyflawni'r cynllun busnes. Mae unrhyw swyddi sy'n dibynnu ar gyllid grant hefyd yn cynrychioli risg ariannol i ERW pe byddai'r cyllid yn dod i ben.
Parhau i amlygu hyn yn y Gofrestr Risgiau a sicrhaubod y sgyrsiau â LlC ar y materion hyn yn mynd ymlaen rhwng y Rheolwr Gyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Addysg LlC.
Y Rheolwr Gyfarwyddwr
parhaus
Dylai cynllun busnes ERW gael ei gysoni â model ariannol yConsortiwm er mwyn galluogi cynllunio effeithiol gyda'r adnoddau sydd ar gael.
Gweler uchod. Ar hyn o bryd, nid yw'n bosibl cysonicynllun busnes ERW yn llwyr â'r
model cenedlaethol.
Y Rheolwr Gyfarwyddwr
parhausMae angen i'r cymorth a roir i ysgolion gan yr Ymgynghorwyr Hergael ei ddarparu'n gyson, yn unol â'r angen dynodedig, a'i gofnodi fel y gellir mesur effaith y cymorth mewn modd effeithiol.
Mae cydymffurfiaeth ac adrodd ar ansawdd i'r Bwrdd Gweithredol yn eitem
sefydlog ar yr agenda. Bydd pob mater o ran cydymffurfiaeth yn cael ei godi'n unigol gyda'r
Cyfarwyddwr Addysg. (Yr Awdurdodau Lleol sy'n cyflogi, lleoli a rheoli perfformiad Ymgynghorwyr Her.)
Y Cyfarwyddwyr Addysg
Mis Medi 2017
Tudalen 85
Rydym yn ymrwymedig i weithredu'r gwelliannau a amlinellir uchod er mwyn hyrwyddo ein gallu i gyflawni'r deilliannau bwriadedig. Rydym yn fodlon y bydd y camau hyn yn mynd i'r afael â'r meysydd i'w gwella a nodwyd gan ein darparwyr sicrwydd mewnol ac allanol.
Llofnodwyd gan Betsan O’Connor, Rheolwr Gyfarwyddwr ERW
Dyddiad:
Llofnodwyd gan Mark James, Prif Weithredwr Arweiniol
Dyddiad:
Llofnodwyd gan y Cyng. Ellen ap Gwynn, Cadeirydd y Cyd-bwyllgor
Dyddiad:
Bwriadwyd i'r dudalen hon fod yn wag
Tudalen 87
Eitem 6 ar yr Agenda
CYD-BWYLLGOR ERW21 MEDI 2017
Y Cod Llywodraethu Corfforaethol Rhanbarthol
DIBEN: Cyflwyno'r adroddiad a'r Cod Llywodraethu Corfforaethol Rhanbarthol i'r Cyd-bwyllgor.
ARGYMHELLION/PENDERFYNIADAU ALLWEDDOL GOFYNNOL:
Bod y Cyd-bwyllgor yn cael yr adroddiad
RHESYMAU:Sicrwyddau ychwanegol i gyd-fynd â'r adroddiad Archwilio MewnolAwdur yr Adroddiad:
Betsan O’Connor
Swydd:
Y Rheolwr Gyfarwyddwr
Rhif Ffôn: 01267 676840
E- bost: [email protected]
CRYNODEB GWEITHREDOL CYD-BWYLLGOR ERW 21 MEDI 2017 Y Cod Llywodraethu Corfforaethol Rhanbarthol
CRYNODEB BYR O DDIBEN YR ADRODDIADMae'r adroddiad wedi cael ei rannu i'r Egwyddorion Craidd canlynol, yn unol ag Egwyddorion Craidd Gwasanaeth Archwilio Mewnol Cyngor Sir Penfro:Egwyddor Graidd A: Ymddwyn yn onest, gan amlygu ymrwymiad cadarn i werthoedd moesegol, a pharchu'r rheol gyfreithiol. Egwyddor Graidd B: Sicrhau didwylledd ac ymgysylltiad eang â rhanddeiliaid. Egwyddor Graidd C: Diffinio deilliannau yn nhermau buddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cynaliadwy.Egwyddor Graidd D: Pennu'r ymyraethau sy'n angenrheidiol i wneud y gorau o'r gallu i gyflawni'r deilliannau bwriadedig. Egwyddor Graidd E: Datblygu gallu ERW, gan gynnwys gallu ei harweinyddiaeth a'r unigolionsy'n rhan o'r arweinyddiaeth honno. Egwyddor Graidd F: Rheoli risgiau a pherfformiad trwy reolaeth fewnol gadarn a rheolaeth ariannol gyhoeddus gref.Egwyddor Graidd G: Rhoi arferion da ar waith o ran tryloywder, adrodd ac archwilio, er mwyn sicrhau atebolrwydd effeithiol.Yn achos pob egwyddor graidd, mae ffynonellau o dystiolaeth i sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn cael eu nodi. Mae swmp mawr o dystiolaeth wedi'i leoli ar fewnrwydi Cyngor Sir Penfro ac ERW, fel ei gilydd.
ADRODDIAD MANWL YNGLHWM? OES
GOBLYGIADAUPolisi, Trosedd ac Anhrefn aChydraddoldebauDIM
Cyfreithiol
DIM
Cyllid
DIM
Materion Rheoli Risgiau
OES
Goblygiadau Staffio
DIM1. Rheoli RisgiauMae'r Cod Llywodraethu Corfforaethol yn haen ychwanegol o sicrwydd ar gyfer y Gwasanaeth Archwilio Mewnol, ac mae methiant i gydymffurfio â'u hargymhellion yn cael ei nodi fel risg ar y Gofrestr Risgiau Ganolog.
YMGYNGORIADAUAmh.
Adran 100D o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Mynediad at WybodaethRhestr o Bapurau Cefndir a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r adroddiad hwn: MAE'R RHAIN WEDI'U RHESTRU ISODTeitl y Ddogfen Cyfeirnod y Ffeil Lleoliadau lle mae'r papurau ar gael i'r cyhoedd eu gweldAmh. Amh. Amh.
Y Cod Llywodraethu Corfforaethol RhanbartholERW
Gorffennaf 2017
1
Mae Cod Llywodraethu Corfforaethol Rhanbarthol ERW wedi cael ei ddatblygu yn unol â Delivering Good Governance inLocal Government: Framework (CIPFA/Solace, 2016) ('y Fframwaith').
Y nod cyffredinol yw sicrhau bod adnoddau yn cael eu cyfeirio yn unol â pholisi cytunedig ac yn ôl blaenoriaethau, bod y broses gwneud penderfyniadau yn un gadarn a chynhwysol, a bod atebolrwydd eglur i'w gael o ran defnyddio'r adnoddau hynny, er mwyn cyflawni'r deilliannau a ddymunir ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a chymunedau. Mae'r Fframwaith yn gosod y gwaith o gyflawni deilliannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cynaliadwy yn ffocws allweddol ym mhrosesau a strwythurau llywodraethu, sydd yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae llywodraethu yn cynnwys rhoi'r trefniadau ar waith er mwyn sicrhau bod y deilliannau bwriadedig ar gyfer rhanddeiliaid yn cael eu diffinio a'u cyflawni. Er mwyn sicrhau llywodraethu da yn y sector cyhoeddus, mae'n rhaid i endidau geisio cyflawni amcanion eu hendid, ond gan weithredu er budd y cyhoedd bob amser. Mae gweithredu er budd y cyhoedd yn awgrymu bod ystyriaeth sylfaenol yn cael ei rhoi i'r buddiannau i gymdeithas, sy'n golygu y dylai hyn arwain at ddeilliannau cadarnhaol ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill.
2
Egwyddor Graidd A: Ymddwyn yn onest, gan amlygu ymrwymiad cadarn i werthoedd moesegol, a pharchu'r rheol gyfreithiol.
Fel sefydliad, rydym yn atebol nid yn unig o ran faint yr ydym yn ei wario, ond hefyd o ran sut yr ydym yn defnyddio ein hadnoddau. Mae hyn yn cynnwys atebolrwydd am allbynnau, yn rhai cadarnhaol a negyddol, ac am y deilliannau a gyflawnir o ganlyniad. Yn ychwanegol at hyn, mae gennym gyfrifoldeb trosfwaol i wasanaethu er budd y cyhoedd, a hynny trwy lynu wrth ofynion deddfwriaethol a pholisïau llywodraeth. At ei gilydd, mae'n hanfodol ein bod yn gallu arddangos priodoldeb ein holl gamau gweithredu ym mhob gweithgaredd, a bod gennym fecanweithiau ar waith i annog a gorfodi ymlyniad wrth werthoedd moesegol a pharch at y rheol gyfreithiol.
3
Is-egwyddor: Ymddwyn yn OnestGofyniad Cyfarwyddyd Lleol Ffynonellau SicrwyddSicrhau bod Swyddogion yn ymddwyn yn onest, ac yn arwain diwylliant lle bo gweithredu er budd y cyhoedd bob amser yn cael ei arddangos mewn modd gweladwy a chyson, gan felly warchod enw da ERW.
Ymsefydlu ar gyfer Swyddogion ac Aelodau Cyfarwyddyd gan y Swyddog Monitro a
Swyddog Adran 151 Polisi Cyfle Cyfartal Gwerthoedd a Nodau ERW
Gwerthuso perfformiad Datganiadau mewn cyfarfodydd Cyhoeddi Penderfyniadau Dirprwyedig Cofnodion y Bwrdd Gweithredol a
chyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Cofnodion cyfarfodydd Datganiadau o fuddiant Cynnal cyfarfodydd Y Swyddog Monitro Swyddog Adran 151 Swyddog Statudol arall Cofrestr rhoddion a lletygarwch
Sicrhau bod Swyddogion yn arwain y gwaith o sefydlu gwerthoedd ar gyfer ERW a'i staff, a bod y gwerthoedd hynny yn cael eu mynegi a'u deall. Dylai'r rhain adeiladu ar Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (egwyddorion Nolan).
Cytundeb Cyfreithiol Cod Llywodraethu Corfforaethol Rhanbarthol Gwerthoedd a Nodau ERW Cod Ymddygiad Polisi Cyfle Cyfartal
Amlygu, mynegi a sefydlu'r gwerthoedd trwy bolisïau a phrosesau priodol, sy'n cael eu hadolygu yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio'n effeithiol.
Polisïau Adnoddau Dynol Cytundeb Cyfreithiol Cod Llywodraethu Corfforaethol Rhanbarthol Gwerthoedd a Nodau ERW Cod Ymddygiad Polisi Cyfle Cyfartal
Is-egwyddor: Amlygu ymrwymiad cadarn i werthoedd moesegolGofyniad Cyfarwyddyd Lleol Ffynonellau SicrwyddCeisio sefydlu, monitro a chynnal safonau a pherfformiad moesegol ERW.
Polisi Cwynion Cod Ymddygiad Polisi Cyfle Cyfartal
Cynllun a chofnodion gwaith craffu Swyddogaeth craffu Rôl y Swyddog Monitro Cwynion a Chanmoliaeth Gwerthuso Perfformiad y Tîm
Tanategu ymddygiad personol gydagwerthoedd moesegol, a sicrhau
Disgrifiadau swydd Trefniadau Ymsefydlu
4
eu bod yn treiddio i bob agwedd arddiwylliant a gweithrediadau ERW.
Swyddogion Statudol Annibynnol Polisi Cyfle Cyfartal
Canolog Adolygiadau Darparwyr Sicrwydd
Mewnol ac Allanol Cytundebau Partneriaeth/Cytundebau Lefel Gwasanaeth Hunanwerthuso
Datblygu a chynnal polisïau a gweithdrefnau cadarn, sy'n pwysleisio gwerthoedd moesegol cytunedig.
Cyngor a Chyfarwyddyd y Swyddog Monitro Polisi Cyfle Cyfartal Polisi'r Gymraeg
Sicrhau ei bod yn ofynnol i ddarparwyr allanol sy'n cyflawni gwasanaethau ar ran ERW ymddwyn yn onest a chydymffurfio â'r safonau moesegol a ddisgwylir gan ERW.
Contractau Manylebau Caffael a Thendro, a'r
broses o'u Gwerthuso. Ffurflenni Awdurdodi ar gyfer Penderfyniadau Gofynnol
Cytundebau Lefel Gwasanaeth Hyfforddiant a datblygu, cyfarwyddyd ac
adborth i staff cyflogedig yr Awdurdodau Lleol sy'n gweithio i ERW.
Is-egwyddor: Parchu'r rheol gyfreithiolGofyniad Cyfarwyddyd Lleol Ffynonellau Sicrwydd
Cadw at gyfarwyddyd statudol Monitro a Gwerthuso Adborth Adroddiadau Archwilio Mewnol ac Allanol
Sicrhau bod aelodau a staff yn amlygu ymrwymiad cadarn i'r rheol gyfreithiol, yn ogystal â glynu wrth ddeddfau a rheoliadau perthnasol.
Darpariaethau Statudol Cyngor a chyfarwyddyd y Swyddog Monitro Cod Ymddygiad Polisi Cyfle Cyfartal
Creu'r amodau i sicrhau body swyddogion statudol, deiliaid swyddi allweddol eraill, ac aelodau, yn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau yn unol â gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol.
Disgrifiadau swydd Cefnogaeth y Cyd-bwyllgor
Ymdrechu i wneud y gorau o'r defnydd o'r pwerau llawn sydd ar gael er budd dinasyddion, cymunedau
Cyngor a chyfarwyddyd gan y Gwasanaethau Cyfreithiol Y Swyddog Monitro
5
a rhanddeiliaid eraill.Sicrhau yr eir i'r afael yn effeithiol â llygredd a'r camddefnydd o bŵer.
6
Egwyddor Graidd B: Sicrhau didwylledd ac ymgysylltiad eang â rhanddeiliaid.
Mae ERW yn cael ei redeg er budd y cyhoedd, a dylem sicrhau didwylledd yn ein holl weithgareddau. Dylai sianeli cyfathrebu ac ymgynghori eglur a dibynadwy gael eu defnyddio i ymgysylltu'n effeithiol â phob grŵp o randdeiliaid, er enghraifft dinasyddion unigol a defnyddwyr gwasanaethau, yn ogystal â rhanddeiliaid sefydliadol.
Is-egwyddor: Ymgysylltu'n eang â rhanddeiliaid sefydliadol
7
Gofyniad Cyfarwyddyd Lleol Ffynonellau SicrwyddYmgysylltu'n effeithiol ârhanddeiliaid sefydliadol er mwyn sicrhau bod y diben, yr amcanion a'r deilliannau bwriadedig ar gyfer pob rhanddeiliad yn eglur, fel bod y deilliannau yn cael eu cyflawni mewn modd llwyddiannus a chynaliadwy.
Cyfarwyddyd Lleol/Cenedlaethol Cyd-gynllun ar gyfer Gweithio'n Rhanbarthol
(ERW, GwE, EAS, CSC) Amodau grantiau
Cynllun Gwaith Craffu Cytundeb Cyfreithiol Cyd-gynllun Amodau Grantiau Fframwaith Deilliannau'r Grant Gwella Addysg
Datblygu partneriaethau ffurfiol ac anffurfiol er mwyn i adnoddau gael eu defnyddio mewn modd mwy effeithlon, ac i ddeiliannau gael eu cyflawni mewn modd mwy effeithiol. Sicrhau bod partneriaethau yn seiliedig ar:
Ymddiriedaeth Ymrwymiad ar y cyd i
newid Diwylliant sy'n hyrwyddo ac
yn derbyn her ymysg partneriaid, ac yn un lle mae'r gwerth ychwanegol o weithio mewn partneriaeth yn amlwg.
Cyfarwyddyd Lleol/Cenedlaethol Cyd-gynllun ar gyfer Gweithio'n Rhanbarthol Amodau grantiau
8
Is-egwyddor: DidwylleddGofyniad Cyfarwyddyd Lleol Ffynonellau SicrwyddSicrhau diwylliant didwyll trwy arddangos, dogfennu a mynegi ymrwymiad ERW i fod yn ddidwyll.
Cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Cyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol
Gwefan Hysbysiadau Cyhoeddus Cynllun Dirprwyo Cofnod Penderfyniadau gan y Bwrdd Gweithredol/Cyfarwyddwyr Cyhoeddi Adroddiadau'r Cyd-bwyllgor a'r Bwrdd
Gweithredol Calendr blynyddol o ddigwyddiadau a chyfarfodydd Calendr ariannol blynyddol o derfynau
amser a chyfarwyddyd ar gydymffurfiaeth Arolwg Blynyddol y Penaethiaid
Gwneud penderfyniadau sy'n ddidwyll ynghylch camau gweithredu, cynlluniau, y defnydd o adnoddau, rhagolygon, allbynnau a deilliannau. Y rhagdybiaeth yw bod yn ddidwyll. Osnad yw hynny'n wir, rhaid cyfiawnhau'r rheswm dros gadw penderfyniad yn gyfrinachol. Darparu gwaith rhesymu a thystiolaeth eglur dros benderfyniadau, a hynny mewn cofnodion cyhoeddus ac esboniadau i randdeiliaid, gan fod yn ddiamwys ynghylch y meini prawf, y rhesymeg a'r ystyriaethau a ddefnyddiwyd. Maes o law, sicrhau bod effaith a chanlyniadau'r penderfyniadau hynny yn eglur.
Cyfarfodydd Pwyllgorau Cyngor y Swyddog Monitro Templedi Adrodd y Gwasanaethau Democrataidd Cofrestr Risgiau
Gwneud defnydd o waith ymgynghori ac ymgysylltu ffurfiol ac anffurfiol i bennu'r ymyraethau/camau gweithredu mwyaf priodol ac effeithiol.
Polisi Cwynion Adborth gan Fwrdd y Penaethiaid Swyddogaeth y Bwrdd Gweithredol Hunanwerthuso Rôl y Swyddog Ymchwil a Gwerthuso
9
Egwyddor Graidd C: Diffinio deilliannau yn nhermau buddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cynaliadwy.
Mae natur ac effaith hirdymor Cyfrifoldebau ERW yn golygu y dylem ddiffinio a chynllunio deilliannau, a sicrhau eu bod yn gynaliadwy. Dylai penderfyniadau hyrwyddo diben ERW, cyfrannu at y buddiannau a deilliannau bwriadedig, a chadw o fewn terfynau awdurdod ac adnoddau. Mae mewnbwn gan bob grŵp o randdeiliaid, gan gynnwys dinasyddion, defnyddwyr gwasanaethau, a rhanddeiliaid sefydliadol, yn hanfodol i lwyddiant y broses hon, ac o ran cydbwyso galwadau wrth bennu blaenoriaethau ar gyfer yr adnoddau y mae pen draw iddynt.
10
Is-egwyddor: Diffinio deilliannauGofyniad Cyfarwyddyd Lleol Ffynonellau SicrwyddBod â gweledigaeth eglur sydd ynddatganiad ffurfiol cytunedig o ddiben a deilliannau bwriadedig ERW, ac sy'n cynnwys dangosyddion perfformiad priodol, gan roi sail i strategaeth a gwaith cynllunio cyffredinol ERW, a'i benderfyniadau eraill.
Gwerthoedd a Nodau Cynllun Busnes Blynyddol Strategaeth ERW Cytundeb Cyfreithiol
Cylch Gwella Blynyddol Cofrestrau Risgiau a threfniadau
Pennu'r effaith fwriadedig ar randdeiliaidneu'r newidiadau i randdeiliaid, gan gynnwys dinasyddion a defnyddwyr gwasanaethau. Gallai hyn fod ar unwaith, neu yn ystod blwyddyn neu fwy.
Strategaeth Gyfathrebu
Nodi a rheoli risgiau igyflawni deilliannau.
Cofrestr Risgiau
Cyflawni deilliannau diffiniedig ar sail gynaliadwy, a hynny gyda'r adnoddau a fydd ar gael. Rheoli disgwyliadau defnyddwyr gwasanaethau mewn modd effeithiol o ran pennu blaenoriaethau a gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael.
Cynllun Ariannol
11
Is-egwyddor: Buddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cynaliadwyGofyniad Cyfarwyddyd Lleol Ffynonellau SicrwyddYstyried a chydbwyso effaitheconomaidd, gymdeithasol ac amgylcheddol gyfunol polisïau a chynlluniau wrth wneud penderfyniadau ar ddarparu gwasanaethau.
Gofynion deddfwriaethol Y Model Cenedlaethol ar gyfer Gweithio'n Rhanbarthol Amodau Grantiau
Cofnod o ran gwneud penderfyniadau a deunyddiau ategol
Cwynion a Chanmoliaeth Adborth ar y Gwasanaeth COFRESTR RISGIAU Strategaeth a Chynllun Busnes ERW
Mabwysiadu golwg mwy hirdymor mewn perthynas â gwneud penderfyniadau, gan ystyried risgiau, a gweithredu mewn modd tryloyw pan fydd unrhyw wrthdaro yn bosibl rhwng deilliannau bwriadedig ERW a ffactorau byrdymor, er enghraifft y cylch gwleidyddol neu gyfyngiadau ariannol.
Cynlluniau Sengl a Chynlluniau Corfforaethol pob ALl Cynllun Busnes Strategaeth ERW Amodau Grantiau Cytundeb Cyfreithiol
Pennu budd ehangach y cyhoeddsy'n gysylltiedig â chydbwyso gwrthdaro buddiannau rhwng cyflawni'r buddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol amrywiol, a hynny trwy ymgyngoriadau, lle bo hynny'n bosibl, er mwyn sicrhau cyfnewidiadau priodol.
Arolwg y Penaethiaid a'r adborth iddo Ymgysylltu parhaus â Bwrdd Penaethiaid ERW Sesiwn Holi ac Ateb yr Hwb
Sicrhau mynediad teg i wasanaethau.
Polisi Cyfle Cyfartal Polisi'r Gymraeg Ymsefydlu Staff
12
Egwyddor Graidd D: Pennu'r ymyraethau sy'n angenrheidiol i wneud y gorau o'r gallu i gyflawni'r deilliannau bwriadedig.
Yn ERW rydym yn cyflawni deilliannau bwriadedig trwy ddarparu cymysgedd o ymyraethau cyfreithiol, rheoleiddiol ac ymarferol (camau gweithredu). Mae pennu'r cymysgedd cywir o'r camau gweithredu hyn yn ddewis strategol hanfodol bwysig sydd gan ERW er mwyn sicrhau bod deilliannau bwriadedig yn cael eu cyflawni.
Mae mecanweithiau gwneud penderfyniadau ar waith i sicrhau y gellir cyflawni'r deilliannau diffiniedig mewn modd sy'n darparu'r cyfnewidiad gorau rhwng y mewnbynnau amrywiol o adnoddau, gan sicrhau, yr un pryd, fod y gweithrediadau yn rhai effeithiol ac effeithlon. Mae angen adolygu'r penderfyniadau a wneir yn rheolaidd, er mwyn sicrhau y gwneir y gorau o'r gallu i gyflawni'r deilliannau.
15
Is-egwyddor: Pennu ymyraethauGofyniad Cyfarwyddyd Lleol Ffynonellau SicrwyddSicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn cael dadansoddiad gwrthrychol a thrylwyr o amrywiaeth o opsiynau sy'n dynodi sut y byddai deilliannau bwriadedig yn cael eu cyflawni, ynghyd â'r risgiau cysylltiedig. Felly, sicrhau bod y gwerth gorau yn cael i gyflawni, ni waeth sut y mae'r gwasanaethau'n cael eu darparu.
Protocolau gwneud penderfyniadau Blaengynlluniau gwaith
Adroddiadau agenda, a chofnodion cyfarfodydd
Cipio data cymorth i ysgolion (Rhwyd)
Dadansoddiad o'r cofnod cymorth Cofnod penderfyniadau gan y Bwrdd Gweithredol
Ystyried adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau wrth wneud penderfyniadau ynghylch gwelliannau i wasanaethau, neu lle nad yw gwasanaethau bellach yn ofynnol, a hynny er mwyn blaenoriaethu galwadau cystadleuol lle bo adnoddau cyfyngedig ar gael, yn cynnwys pobl a sgiliau, a chan gadw effeithiau yn y dyfodol mewn cof.
Cynadleddau Penaethiaid Arolwg Blynyddol y Penaethiaid Adborth i'r cylchlythyr, a gwybodaeth o arolygon a
holiaduron yn dilyn digwyddiadau
Is-egwyddor: Cynllunio ymyraethauGofyniad Cyfarwyddyd Lleol Ffynonellau SicrwyddSefydlu a gweithredu cylchoedd cynllunio a rheoli cadarn, sy'n cwmpasu cynlluniau, blaenoriaethau a thargedau strategol a gweithredol.
Amserlen cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor COFRESTR RISGIAU Cynllun Busnes
Cofnodion cyfarfodydd Cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor a'r Bwrdd
Gweithredol Amserlen Cynllunio Gwelliannau
16
Cynlluniau Gwasanaethau/Prosiectau Adroddiadau i Bwyllgorau Cytundebau Partneriaeth COFRESTR RISGIAU Cynllun Busnes Protocolau cynllunio Cynlluniau Gwella Gwasanaethau Adroddiad perfformiad chwarterol
Ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol wrth bennu sut y dylai gwasanaethau a chamau gweithredu eraill gael eu cynllunio a'u darparu.
Rhaglen Waith y Gwasanaeth Archwilio Mewnol
Ystyried a monitro risgiausy'n wynebu pob partner wrth gydweithredu,gan gynnwys risgiau a rennir.
Cofrestr Risgiau
Adroddiadau Pwyllgorau Craffu Monitro'r Gyllideb Monitro Lleihau Costau/Effeithlonrwydd Cynlluniau Gwella Corfforaethol a Chynlluniau Gwella
Gwasanaethau
Sicrhau bod trefniadau yn hyblygac ystwyth fel y gellir addasu'r mecanweithiau ar gyfer darparu nwyddau a gwasanaethau i amgylchiadau newidiol.
Cynlluniau Gwella Gwasanaethau
Sefydlu dangosyddion perfformiad allweddol priodol yn rhan o'r broses gynllunio, er mwyn nodi sut y mae perfformiad gwasanaethau a phrosiectau i gael ei fesur.
Cynlluniau Gwella Gwasanaethau Cynlluniau Prosiectau
Sicrhau bod gallu yn bodoli ilunio'r wybodaeth sy'n ofynnol i adolygu safon y gwasanaeth yn rheolaidd.
Cynlluniau Gwella Gwasanaethau a MonitroPerfformiad
Paratoi cyllidebau yn unol ag amcanion, strategaethau a'r cynllunariannol tymor canolig.
Rheoliadau Ariannol
Llywio gwaith cynllunio adnoddau yn y tymor canolig a'r hirdymor, a hynny trwy lunio amcangyfrifon realistig o wariant a chyfalaf refeniw a fwriadwyd i ddatblygu strategaeth ariannu gynaliadwy.
Rheoliadau Ariannol
17
Is-egwyddor: Gwneud y gorau o'r gwaith o gyflawni deilliannau bwriadedigGofyniad Cyfarwyddyd Lleol Ffynonellau SicrwyddSicrhau bod y strategaeth ariannoltymor canolig yn integreiddio ac yn cydbwyso blaenoriaethau'r gwasanaeth, fforddiadwyedd, a chyfyngiadau eraill ar adnoddau.
Proses Cynllunio Gwasanaethau Adolygiad parhaus o'r Cynllun AriannolTymor Canolig
Proses Pennu'r Gyllideb Flynyddol Adroddiad Cyllideb Blynyddol Cofnodion Pwyllgorau
Sicrhau bod y broses gyllidebu yn Proses Cynllunio Gwasanaethau
hollgynhwysol, ac yn rhoi ystyriaethi gostau llawn gweithrediadau yn ystod y tymor canolig a'r hirdymor.
Adroddiadau Integredig Chwarterol
Sicrhau bod y strategaeth ariannoltymor canolig yn pennu cyd-destun penderfyniadau parhaus o ran materion cyflawni o bwys neu o ran ymatebion i newidiadau i'r amgylchedd allanol a all godi yn ystod y cyfnod cyllidebu, a hynny er mwyn i ddeilliannau gael eu cyflawni, tra gwneir y gorau, ar yr un pryd, o'r defnydd o adnoddau.
Rheoliadau Ariannol
Sicrhau bod 'gwerth cymdeithasol'yn cael ei gyflawni trwy gynlluniogwasanaethau a chomisiynu.
Cydymffurfiaeth â 10 Egwyddor Polisi CaffaelCyhoeddus Cymru, fel y manylir arnynt yn NatganiadPolisi Caffael Cymru Llywodraeth Cymru.
18
Egwyddor Graidd E: Datblygu gallu ERW, gan gynnwys gallu ei arweinyddiaeth a'r unigolion sy'n rhan o'r arweinyddiaeth honno.
Yn ERW, mae arnom angen strwythurau ac arweinyddiaeth briodol, yn ogystal â phobl sydd â'r sgiliau cywir, a'r cymwysterau a'r meddylfryd priodol, fel eu bod yn gweithredu mewn modd effeithiol ac effeithlon, ac yn cyflawni'r deilliannau bwriadedig o fewn y cyfnodau penodedig. Yn ERW mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym y gallu i fodloni ein mandad ein hunain ac i sicrhau bod yna bolisïau ar waith i warantu bod gan y rheolwyr y gallu gweithredol ar gyfer ERW yn ei gyfanrwydd. Gan y bydd yr unigolion a'r amgylchedd y mae ERW yn gweithredu ynddo yn newid dros amser, bydd yna angen parhaus i ddatblygu ein gallu, yn ogystal â sgiliau a phrofiad aelodau unigol o'r staff. Mae'r arweinyddiaeth yn cael ei chryfhau trwy gyfranogiad pobl o nifer o gefndiroedd gwahanol, gan adlewyrchu strwythur ac amrywiaeth cymunedau.
17
Is-egwyddor: Datblygu gallu'r endidGofyniad Cyfarwyddyd Lleol Ffynonellau SicrwyddAdolygu gweithrediadau, perfformiada'r defnydd o asedau yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn effeithiol.
Rheoli Perfformiad Proses Werthuso
Pwyllgorau Craffu Gwerthusiadau Defnyddio ymarferion ymchwil a
meincnodiGwella'r defnydd o adnoddau trwygymhwyso technegau fel meincnodi, ac opsiynau eraill, mewn modd priodol, a hynny er mwyn pennu sut y mae adnoddau'n cael eu dyrannu fel bod deilliannau diffiniedig yn cael eu cyflawni mewn modd effeithiol ac effeithlon.
Pwyllgor Craffu
Cydnabod buddiannau gweithio mewn partneriaeth a chydweithio lle y gellir cyflawni gwerth ychwanegol.
Cydgynllun ar gyfer Gweithio'n rhanbarthol
Datblygu a chynnal cynllun gweithlu effeithiol i hyrwyddo'r gallu ddyrannu adnoddau mewn moddstrategol.
Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu
18
Is-egwyddor: Datblygu gallu arweinyddiaeth ERW ac unigolion eraillGofyniad Cyfarwyddyd Lleol Ffynonellau SicrwyddDatblygu protocolau i sicrhau bod arweinwyr etholedig a phenodedig yn negodi â'i gilydd o ran eu priod rolau yn gynnar yn y berthynas, a bod dealltwriaeth gyffredin o'r rolau a'r amcanion yn cael ei chynnal.
Cytundeb Cyfreithiol Gwerthoedd a Nodau ERW Ymsefydlu Aelodau
Disgrifiadau swydd Cofrestr o benderfyniadau dirprwyedig Cofnodion Cyfarfodydd (Y Bwrdd
Gweithredol a'r Cyd-bwyllgor ) Ymsefydlu, a rhaglen hyfforddi a
datblygu barhaus Trefniadau ar gyfer cynllunio olyniaeth Strategaeth gyfathrebu Adolygiadau o Berfformiad Rheolwyr Adolygiadau o Berfformiad Cyflogeion Cynlluniau hyfforddi a datblygu Polisïau Adnoddau Dynol Iechyd Galwedigaethol
Cyhoeddi datganiad sy'n amlinellu'rmathau o benderfyniadau sy'n cael eu dirprwyo, a'r rhai sy'n cael eu cadw ar gyfer proses gwneud penderfyniadau gyfunol y corff llywodraethu.
Cytundeb Cyfreithiol Cofrestr o benderfyniadau dirprwyedig Rheoliadau Ariannol
Sicrhau bod gan yr Arweinydd a'r PrifWeithredwr rolau arweinyddiaeth neilltuol, sydd wedi'u diffinio'n glir, a hynny o fewn strwythur lle bo'r Prif Weithredwr yn arwain o ran gweithredu strategaethau a rheoli'r gwaith o gyflawni gwasanaethau ac allbynnau eraill a bennir gan aelodau, a lle bo'r naill yn gwirio ac yn cydbwyso awdurdod y llall.
Cytundeb Cyfreithiol Gwerthoedd a Nodau ERW
19
Datblygu galluoedd aelodau a'r uwch-reolwyr i ddarparu arweinyddiaeth effeithiol, ac i alluogi ERW i ymateb yn llwyddiannus i alwadau newidiol o ran y gyfraith a pholisi, yn ogystal â newidiadau a risgiau economaidd, gwleidyddol ac amgylcheddol, a hynny trwy:
sicrhau bod gan aelodau a staff fynediad i broses ymsefydlu briodol i'w rôl, a bod cyrsiau hyfforddi a datblygu parhaus, sy'n cydweddu â gofynion unigol a sefydliadol, ar gael ac yn cael eu hannog.
sicrhau bod gan aelodau a swyddogion y sgiliau, yr wybodaeth, yr adnoddau a'r cymorth priodol i gyflawni eu rolau a chyfrifoldebau, a'u bod yn galludiweddaru eu gwybodaeth yn barhaus.
sicrhau bod datblygiad personol, sefydliadol a ledled y system ar gael trwy ddysgu ar y cyd, a'i fod yn cynnwys gwersi a ddysgwyd o wendidau llywodraethu mewnol ac yn allanol, fel ei gilydd.
Ymsefydlu Rhaglenni Hyfforddi Pwyllgorau Rhaglen Dysgu a Datblygu Disgrifiadau Swydd a Recriwtio Canllaw Arfer Da Strategaeth Cynllunio Gweithlu
Sicrhau bod strwythurau ar waith iannog cyfranogiad y cyhoedd.Cymryd camau i ystyried Rheoli Perfformiad
20
effeithiolrwydd yr arweinyddiaeth ei hun, a sicrhau bod arweinwyr yn agored i adborth adeiladol o ganlyniad i adolygiadau cyd-weithwyr ac arolygiadau.Dal staff i gyfrif trwy adolygiadau perfformiad rheolaidd, sy'n rhoi ystyriaeth i anghenion hyfforddi a datblygu.
Gwerthuso Perfformiad
Sicrhau bod trefniadau ar waithi gynnal iechyd a lles y gweithlu, ac i gefnogi unigolion i gynnal eu lles corfforol a meddyliol eu hunain.
Polisïau a Gweithdrefnau Adnoddau Dynol
21
Egwyddor Graidd F: Rheoli risgiau a pherfformiad trwy reolaeth fewnol gadarn, a gwaith rheoli ariannol cyhoeddus cryf.
Yn ERW, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y sefydliadau a'r strwythurau llywodraethu yr ydym yn eu goruchwylio wedi rhoi system rheoli perfformiad effeithiol ar waith sy'n hwyluso'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cynlluniedig effeithiol ac effeithlon, ac yn ei chynnal.
Mae rheoli risgiau a rheolaeth fewnol yn rhannau pwysig ac anhepgor o'r system rheoli perfformiad, ac yn hanfodol i gyflawni deilliannau. Dylai risg gael ei hystyried ym mhob gweithgaredd gwneud penderfyniadau, a dylid mynd i'r afael â hi.
Mae system rheolaeth ariannol gref yn hanfodol ar gyfer rhoi polisïau ar waith ac er mwyn cyflawni'r deilliannau bwriadedig, a hynny am y bydd yn gorfodi disgyblaeth ariannol, lleoli adnoddau yn strategol, darparu gwasanaethau mewn modd effeithlon, ac atebolrwydd.
Mae hefyd yn hanfodol bod diwylliant a strwythur ar gyfer craffu ar waith, a hynny'n rhan allweddol o brosesau gwneud penderfyniadau, llunio polisi ac adolygu atebol. Mae diwylliant gweithio sy'n derbyn, yn hyrwyddo ac yn annog her adeiladol yn hanfodol i ddarparu gwaith craffu llwyddiannus a gwasanaeth llwyddiannus.
Yn bwysig iawn, nid yw'r diwylliant hwn yn digwydd yn awtomatig. Mae arno angen ymrwymiad cyhoeddus gan y rhai mewn awdurdod, a hynny'n rheolaidd.
22
Is-egwyddor: Rheoli risgiauGofyniad Cyfarwyddyd Lleol Ffynonellau SicrwyddCydnabod bod rheoli risgiau ynrhan annatod o bob gweithgaredd, ac y dylid ei ystyried ym mhob agwedd ar brosesau gwneud penderfyniadau.
Cofrestr Risgiau Cofrestrau Risgiau Cynlluniau Busnes
Gweithredu trefniadau rheoli risgiau cadarn ac integredig, a sicrhau eu bod yn gweithio'n effeithiol.
COFRESTR RISGIAU Cynllun Busnes
Sicrhau bod cyfrifoldebau am reoli risgiau unigol yn cael eu dyrannu'n eglur.
COFRESTR RISGIAU Cynllun Busnes
Is-egwyddor: Rheoli perfformiadGofyniad Cyfarwyddyd Lleol Ffynonellau SicrwyddMonitro'r gwaith o ddarparu gwasanaethau yn effeithiol, gan gynnwys cynllunio, manylebau, gweithredu ac adolygiad annibynnol ar ôl gweithredu.
Cynlluniau Gwella Gwasanaethau Rheoli Perfformiad
Cynlluniau Archwilio Cyhoeddi dogfennaeth cyfarfodydd
y Cyd-bwyllgor a'r Bwrdd Gweithredol
Cytuno ar yr wybodaeth angenrheidiol a'r amserlenni
Trafodaeth rhwng aelodau a swyddogion ar yr wybodaeth y mae ar aelodau ei hangen i gefnogi'r gwaith o wneud penderfyniadau.
Cylch Gorchwyl y PwyllgorCraffu
Agenda a chofnodion y cyfarfodydd Craffu
Gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddadansoddiad a chyngor gwrthrychol, perthnasol ac eglur, gan dynnu sylw at y goblygiadau a'r risgiau sy'n gynhenid yn sefyllfa a rhagolygon ariannol, cymdeithasol ac amgylcheddol ERW.
Templedi Adrodd ar gyfer Pwyllgorau Blaenraglenni Gwaith
23
Tystiolaeth o ganlyniad i graffu Hyfforddiant i aelodau Adroddiadau pwyllgorau Adroddiadau Cyllideb
Sicrhau bod swyddogaeth craffu neu drosolwg effeithiol ar waith, sy'n darparu her adeiladol a thrafodaeth ar bolisïau ac amcanion cyn i benderfyniadau gael eu gwneud, wrth iddynt gael eu gwneud, ac wedi iddynt gael eu gwneud, gan felly wella
Cyd-bwyllgor Craffu
23
perfformiad ERW, ynghyd âpherfformiad unrhyw sefydliad y mae'n gyfrifol amdano. Darparu adroddiadau rheolaidd ar gyfer aelodau ac uwch-reolwyr ar gynlluniau darparu gwasanaethau, ac ar gynnydd tuag at gyflawni deilliannau.
Blaenraglenni Gwaith Cyd-bwyllgor Craffu
Sicrhau bod cysondeb rhwng cyfnodau manylebau (er enghraifft, cyllidebau) ac adroddiadau ôl-gweithredu (e.e. datganiadau ariannol).
Rheoliadau Ariannol
Is-egwyddor: Rheolaeth fewnol gadarnGofyniad Cyfarwyddyd Lleol Ffynonellau SicrwyddCysoni'r strategaeth a'r polisïau rheoli risgiau ar reolaeth fewnol â chyflawni amcanion.
Cofrestr Risgiau Cofrestrau risgiau Cynllun archwilio Adroddiadau archwilio Adroddiadau i'r Pwyllgor Craffu Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2015-16 Datganiad Sicrwydd Blynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol
Gwerthuso a monitro'r broses rheoli risgiau a rheolaeth fewnol yn rheolaidd.
Cofrestr Risgiau
Sicrhau bod trefniadau gwrth-dwyll agwrth-lygredd ar waith.
Polisi Chwythu'r Chwiban
Sicrhau bod sicrwydd ychwanegol yn cael ei ddarparugan yr archwilydd mewnol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd cyffredinol y fframwaith llywodraethu a rheoli risgiau.
Cynllun Busnes Adroddiadau Archwilio Mewnol
24
Is-egwyddor: Rheoli dataGofyniad Cyfarwyddyd Lleol Ffynonellau SicrwyddSicrhau bod trefniadau effeithiol arwaith i gasglu, storio, defnyddio a rhannu data yn ddiogel, yn cynnwys prosesau i ddiogelu data personol.
Polisi Diogelu Data Polisi Rhyddid Gwybodaeth
Polisi a Gweithdrefn Diogelu Data Cytundeb rhannu data Cofrestr rhannu data Trefniadau prosesu data Gweithdrefnau ac adroddiadau ansawdd data Adroddiadau Archwilio Mewnol
Sicrhau bod trefniadau effeithiol arwaith ac yn gweithredu'n effeithiol wrth rannu data â chyrff eraill.
Polisi Diogelwch TGCh a'r Rhyngrwyd
Adolygu ac archwilio ansawdd a chywirdeb y data a ddefnyddir i wneud penderfyniadau a monitro perfformiad, a hynny'n rheolaidd.
Polisi Rhyngrwyd a Diogelwch TGCh
Is-egwyddor: Rheolaeth ariannol gyhoeddus grefGofyniad Cyfarwyddyd Lleol Ffynonellau SicrwyddSicrhau bod y rheolaeth ariannol yncefnogi'r gwaith o gyflawni deilliannau yn yr hirdymor apherfformiad ariannol a gweithredol byrdymor.
Rheoliadau Ariannol Adroddiad Alldro Blynyddol Adroddiadau Monitro Cyllidebau
Sicrhau bod rheolaeth ariannolsydd wedi'i datblygu'n dda yn cael ei hintegreiddio ar bob lefel o'r gwaith cynllunio a rheoli, yn cynnwys rheoli risgiau a rheolaethau ariannol.
Rheoliadau Ariannol
25
Egwyddor Graidd G: Rhoi arferion da ar waith o ran tryloywder, adrodd ac archwilio, er mwyn sicrhau atebolrwydd effeithiol.
Mae atebolrwydd yn golygu bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac yn cyflawni gwasanaethau yn atebol amdanynt. Nid yn unig y mae atebolrwydd effeithiol yn ymwneud ag adrodd am gamau gweithredu a gwblhawyd, ond y mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod rhanddeiliaid yn gallu deall ac ymateb wrth i ERW gynllunio a rhoi ei weithgareddau ar waith mewn modd tryloyw.
Mae gwaith archwilio mewnol ac allanol yn cyfrannu at atebolrwydd effeithiol.
26
Is-egwyddor: Rhoi arfer da ar waith o ran tryloywderGofyniad Cyfarwyddyd Lleol Ffynonellau SicrwyddYsgrifennu a throsglwyddo adroddiadauar gyfer y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill mewn arddull deg, gytbwys a dealladwy, sy'n briodol ar gyfer y gynulleidfa arfaethedig, a sicrhau eu bod yn hawdd eu cyrchu a'u cwestiynu.
Cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Cyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol
Gwefan Cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor a'r Bwrdd
Gweithredol Cyfarfodydd Craffu ar y Cyd Cynllun Cyfathrebu
Sicrhau cydbwysedd rhwngdarparu'r swm cywir o wybodaeth i fodloni gofynion tryloywder a gwella gwaith craffu'r cyhoedd, heb iddo fod yn rhy llafurus i'w ddarparu ac i ddefnyddwyr ei ddeall.
Cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Craffu ar y Cyd
Is-egwyddor: Rhoi arfer da ar waith wrth adroddGofyniad Cyfarwyddyd Lleol Ffynonellau SicrwyddMewn modd amserol a dealladwy, a hynny o leiaf yn flynyddol,adrodd am berfformiad, gwerth am arian a stiwardio adnoddau.
Cytundeb Cyfreithiol Datganiad o Gyfrifon Blynyddol Datganiad Llywodraethu Blynyddol Adolygiad Archwilio Mewnol Datganiad Llywodraethu Blynyddol Cytundebau Partneriaeth
Sicrhau bod aelodau a'r uwch-reolwyr yn cydnabod y canlyniadau yr adroddir amdanynt.
Cytundeb Cyfreithiol
27
Sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith ar gyfer asesu'r graddau y mae'r egwyddorion sy'n cael eu cynnwys yn y Fframwaith hwn wedi cael eu cymhwyso, a chyhoeddi'r canlyniadau ar yr asesiad hwn, gan gynnwys cynllun gweithredu ar gyfer gwella, a thystiolaeth i arddangos llywodraethu da.Sicrhau bod y Fframwaith hwn yn cael ei gymhwyso i sefydliadau sy'n cael eu rheoli ar y cyd neu sy'n rhannu gwasanaethau, fel y bo'n briodol.
Cyd-gynllun Rhanbarthol
Sicrhau bod yr wybodaeth ar berfformiad sy'n cyd-fynd â'r datganiadau ariannol yn cael ei pharatoi mewn modd cyson ac amserol, a bod y datganiadau yn galluogi i gymariaethau â sefydliadau eraill, tebyg, gael eu gwneud.
Rheoliadau Ariannol
Is-egwyddor: Sicrwydd ac atebolrwydd effeithiolGofyniad Cyfarwyddyd Lleol Ffynonellau SicrwyddSicrhau bod argymhellion ar gyfer camau unioni a wneir gan wasanaeth archwilio allanol yn cael eu rhoi ar waith.
Adroddiadau Archwilio Mewnol Pwyllgorau Craffu Datganiad Sicrwydd Blynyddol y Pennaeth Archwilio
Mewnol Datganiadau Llywodraethu Blynyddol Cofrestrau Risgiau
Sicrhau bod gwasanaeth archwilio mewnol effeithiol ar waith, y gall aelodau ei gyrchu yn uniongyrchol, sy'n darparu sicrwydd mewn perthynas â threfniadau llywodraethu, a bod argymhellion yn cael eu rhoi ar waith.
Adroddiadau Archwilio Mewnol
28
Croesawu her gan gyd-weithwyr, ac adolygiadau ac arolygiadau gan gyrff rheoleiddiol, a rhoi argymhellion ar waith.
Adroddiadau Archwilio Mewnol
Cael sicrwydd o ran risgiausy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau trwy drydydd
Cofrestr Risgiau
partïon, a bod hyn yn cael ei amlygu yn y datganiad llywodraethu blynyddol.Sicrhau, wrth weithio mewn partneriaeth, fod trefniadau ar gyfer atebolrwydd wedi cael eu nodi a'u bodloni.
Cynllun Cydweithio
29
Cymhwyso a Monitro
Er mwyn amlygu ysbryd ac ethos llywodraethu da, mae'n rhaid i werthoedd ERW a rennir gael eu hadlewyrchu yn ymddygiad Swyddogion ac Aelodau, yn ogystal ag mewn Polisi, er mwyn integreiddio i mewn i'r Diwylliant.
Yn rhan o'r adolygiad o'r Broses Lywodraethu Flynyddol, bydd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn ymgymryd ag asesiad annibynnol o Gydymffurfiaeth â'r Cod Llywodraethu Corfforaethol Rhanbarthol hwn. Bydd hyn hefyd yn dibynnu ar waith a wneir yn ystod y flwyddyn gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol, Swyddfa Archwilio Cymru, a Chyrff Rheolaethol eraill.
Bydd yn ofynnol i Gyfarwyddwyr a Swyddogion Statudol gwblhau hunanasesiad o'r gwaith o gymhwyso'r Cod Llywodraethu Corfforaethol Rhanbarthol ym maes eu cyfrifoldeb.
Bydd deilliannau'r asesiadau hyn, ar y cyd â Datganiad Sicrwydd Blynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol, yn llywio'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Bydd unrhyw feysydd y mae angen eu gwella ymhellach yn cael eu cynnwys yn Fater Llywodraethu o Bwys neu Flaenoriaeth ar gyfer Gwella.
Bydd y Cod Llywodraethu Corfforaethol Rhanbarthol yn destun adolygiad a diweddariad blynyddol, a hynny er mwyn adlewyrchu newidiadau i arferion a pholisïau gweithio.
30
Bwriadwyd i'r dudalen hon fod yn wag
Eitem 7 ar yr Agenda
CYD-BWYLLGOR ERW21 MEDI 2017
Adolygiad o Drefniadau Ariannol ERW
Diben:Mewn ymateb i gais yn y cyfarfod diwethaf, amgaeir papur adolygu. Y diben yw dwyn ynghyd wybodaeth allweddol sy'n ymwneud â threfniadau ariannol ERW, a chynnig ffordd ymlaen.
ARGYMHELLION/PENDERFYNIADAU ALLWEDDOL SY'N OFYNNOL:Derbyn canfyddiadau'r adroddiad, a chefnogi camau gweithredu i alluogi'r rhanbarth i ddatblygu ac esblygu ymhellach ac adeiladu ar ei gryfderau. Rydym yn ceisio caniatâd er mwyn mynd ati i sicrhau'r gwelliannau y mae eu hangen arnom i gryfhau sefyllfa hyderus y rhanbarth i fwrw ymlaen â'r holl argymhellion, ond yn benodol i:
➢ Gyfarwyddo'r Prif Weithredwr Arweiniol, y Swyddog Adran 151, y Rheolwr Gyfarwyddwr a Thîm y Rhaglen i baratoi cynllun prosiect sy'n dwyn ynghyd y gwaith o esblygu'r rhanbarth trwy'r holl grantiau erbyn mis Ebrill 2018, yn ogystal ag adnoddau eraill, gan gynnwys staff, o fis Medi 2018. Dylai cwmpas a chynllun Tîm y Rhaglen gynnwys y canlynol:
Rhoi cynlluniau eglur ar waith i sicrhau a chynnal dulliau cyfathrebu effeithiol â chyfarwyddwyr a phenaethiaid ledled y sefydliad, a sicrhau bod y Cynllun Busnes yn cael ei weithredu'n gyson.
Egluro, cytuno a chofnodi rolau ac atebolrwydd yr awdurdodau lleol a'r rhanbarth mewn perthynas â'r holl swyddogaethau a gwasanaethau Gwella Ysgolion.
Datblygu a chostio model darparu sefydliadol i fodloni'r blaenoriaethau a nodwyd, wedi'i gefnogi gan gynllun gweithredu cynhwysfawr wedi'i gostio.
Diogelu'n briodol Uwch-dîm Rheoli Canolog cyfredol ERW, a datblygu gallu strategol a gweithredol.
RHESYMAU Er mwyn galluogi'r rhanbarth i ddatblygu ac esblygu ymhellach ac adeiladu ar ei gryfderau.
Awdur yr Adroddiad: Betsan O’Connor
Swydd: Y Rheolwr Gyfarwyddwr
Rhif Ffôn: 01267 24 5640
E- bost: [email protected]
CRYNODEB GWEITHREDOL CYD-BWYLLGOR ERW21 MEDI 2017
CRYNODEB BYR O DDIBEN YR ADRODDIAD
Mae'r adolygiad, a gynhaliwyd yn dilyn cais gan Gadeirydd y Cyd-bwyllgor yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf 2017, yn casglu ac yn dadansoddi gwaith ariannol allweddol rhanbarth ERW.
Mae'r papur amgaeedig yn trafod trefniadau dirprwyo grantiau y consortiwm, yn ogystal â lefel y ddibyniaeth ar gyllid grant, ac unrhyw freuder y mae hyn yn ei greu yn system ERW.
➢ Cyfarwyddo'r Prif Weithredwr Arweiniol, y Swyddog Adran 151, y Rheolwr Gyfarwyddwr a Thîm y Rhaglen i baratoi cynllun prosiect sy'n dwyn ynghyd y gwaith o esblygu'r rhanbarth trwy'r holl grantiau erbyn mis Ebrill 2018, yn ogystal ag adnoddau eraill, gan gynnwys staff, o fis Medi 2018. Dylai cwmpas a chynllun Tîm y Rhaglen gynnwys y canlynol:
Rhoi cynlluniau eglur ar waith i sicrhau a chynnal dulliau cyfathrebu effeithiol â chyfarwyddwyr a phenaethiaid ledled y sefydliad, a sicrhau bod y Cynllun Busnes yn cael ei weithredu'n gyson.
Egluro, cytuno a chofnodi rolau ac atebolrwydd yr awdurdodau lleol a'r rhanbarth mewn perthynas â'r holl swyddogaethau a gwasanaethau Gwella Ysgolion.
Datblygu a chostio model darparu sefydliadol i fodloni'r blaenoriaethau a nodwyd, wedi'i gefnogi gan gynllun gweithredu cynhwysfawr wedi'i gostio.
Diogelu'n briodol Uwch-dîm Rheoli Canolog cyfredol ERW, a datblygu gallu strategol a gweithredol.
ADRODDIAD MANWL YNGHLWM? OES
GOBLYGIADAU
CyllidOES
Materion Rheoli RisgOES
1. CyllidBydd yr argymhellion yn eu hanfod yn cael effaith ar y broses o ariannu ERW
2. Rheoli RisgY rhesymeg y tu ôl i'r papur hwn yw gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwasanaeth gwella ysgolion ERW. Mae methiant i sicrhau'r gwelliannau hyn yn cyflwyno risg i ERW o ran arafu cyflymder y gwelliant.
YMGYNGORIADAU Mae manylion unrhyw ymgyngoriadau i'w cynnwys yma
Adran 100D o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Mynediad at WybodaethRhestr o Bapurau Cefndir a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r adroddiad hwn: MAE'R RHAIN WEDI'U RHESTRU ISODTeitl y Ddogfen Cyfeirnod y
FfeilRhif
Lleoliadau lle mae'r papurau ar gael i'r cyhoedd eu gweld
Bwriadwyd i'r dudalen hon fod yn wag
Adroddiad y Cyd-bwyllgorTrefniadau Ariannol ERW
Trosolwg o drefniadau ariannol consortiwm ERW
Rhagair.
Diben yr adroddiad hwn yw ymateb i benderfyniad Cyd-bwyllgor ERW:
'bod adolygiad ariannol llawn yn cael ei gynnal o'r grantiau cyllid craidd' (cofnod 9.6 Cyd-bwyllgor ERW Gorffennaf 2017)
Dull
Lluniwyd yr adroddiad gan ddefnyddio gwybodaeth a gyflwynwyd yn flaenorol i'r Cyd-bwyllgor gan y Swyddog Adran 151, gwybodaeth a gafwyd yn uniongyrchol gan swyddogion cyllid yr Awdurdodau Lleol, a chan Uwch-gyfrifydd ERW. Mae'r rhain yn cynnwys:
Datganiad o Gyfrifon 2016-17 a 2017-18
Y Gofrestr Risgiau
Y Gyllideb Refeniw ac Adroddiadau Monitro Ariannol
Adroddiad Archwilio Mewnol y Consortiwm 2016 a 2017
Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru
Telerau ac amodau grantiau perthnasol
Jon Haswell a Betsan O'Connor Medi 2017
1. Cyflwyniad a Diben
Diben yr adroddiad hwn yw rhoi trosolwg o drefniadau ariannol consortiwm ERW.
2. Cyd-destun
Yn 2013, aeth Robert Hill ati i gynnal adolygiad o wasanaethau addysg yng Nghymru. Bwriad yr adolygiad hwn oedd helpu i lywio rhaglen diwygio addysg Cymru trwy osod model cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion wrth wraidd addysg. Datblygwyd y model yn seiliedig ar weledigaeth o gonsortia rhanbarthol ar gyfer gwella ysgolion a fydd yn gweithio ar ran awdurdodau lleol i arwain, trefnu a chydlynu gwelliannau, ac yn
'arwain, trefnu a chydlynu gwelliannau ym mherfformiad ysgolion ac yn addysg ein pobl ifanc. ' (Model cenedlaethol ar gyfer gweithio’n rhanbarthol 126/2014).
Roedd y model yn galluogi'r Awdurdod Lleol i gadw'r cyfrifoldeb statudol dros ysgolion a gwella ysgolion, ond trwy ymgymryd â rôl comisiynydd a sicrhau ansawdd, yn hytrach na'r darparwr gwasanaethau traddodiadol.
Cafwyd cytundeb rhwng arweinwyr pob un o'r 22 o awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a'r Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, i glustnodi cyllid ar gyfer gwella ysgolion. Ar ôl trosglwyddo, mae rhai consortia eraill wedi gallu lleihau'r cyllid hwn mewn ffordd a gynlluniwyd dros gyfnod o 2-4 blynedd.
Ar 1 Ebrill 2014, cytunodd yr Arweinwyr Cynghorau i drosglwyddo cyllid gwella ysgolion a nodwyd yn uniongyrchol i'r awdurdod ariannol arweiniol ar gyfer y Rhanbarth, a fyddai, yn ei dro yn sicrhau ei fod ar gael yn llawn i'r consortiwm. Yn ogystal, byddai prif grantiau Llywodraeth Cymru ac arian cyfatebol cysylltiedig yr Awdurdodau Lleol yn cael eu trosglwyddo hefyd. Fodd bynnag, ni ddigwyddodd hyn yn ERW.
Ar adeg sefydlu ERW, gwnaeth yr awdurdodau partner y penderfyniad cadarnhaol i gyflwyno model sefydliadol newydd er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl. Aethpwyd ati i ymdrin â rheolaeth ariannol a dosbarthu grantiau yn yr un modd. O ganlyniad, mae awdurdodau ERW wedi parhau i reoli, dosbarthu a monitro adnoddau gan ddefnyddio systemau ariannol sefydledig eu hawdurdodau lleol yn hytrach na symudi fodel ariannol rhanbarthol gyda chyllidebau gwella ysgolion cyfun a ffordd gyffredin o ymdrin â threfniadau grant.
Dros y 4 blynedd diwethaf, bu cynnydd cyson ond di-baid yn y galwadau ar y consortiwm. Wrth i Lywodraeth Cymru ddod yn fwy cyfarwyddol yn ei disgwyliad y dylai gwasanaethau, mentrau ac adnoddau Gwella Ysgolion gael eu darparu'n rhanbarthol ac yn unol â'r Model Cenedlaethol ar gyfer gwaith rhanbarthol, mae trefniadau ariannol cyfredol ERW yn dod yn fwyfwy anghynaliadwy.
3. Cyllideb Graidd ERW
Nododd y Model Cenedlaethol ar gyfer Gwella Ysgolion y cyfraniad gofynnol gan Awdurdodau Lleol i'r consortiwm yn seiliedig ar asesiad gwariant safonol Ysgolion Prif Ffrwd 2014-15. Y cyfanswm ar gyfer rhanbarth ERW oedd £5,322,639
Tabl 1
Y cyfraniad gofynnol gan Awdurdodau Lleol ar gyfer 2014-15, yn seiliedig ar asesiad gwariant safonol Ysgolion Prif Ffrwd 2014-15.
Awdurdod Lleol Cyfraniad
ERW
Powys £786,048£414,511£759,950£1,141,069£1,370,773£850,288
CeredigionSir BenfroSir GaerfyrddinAbertaweCastell-nedd Port TalbotIs-gyfanswm £5,322,639 *
* Cyfrifir y cyfraniad yn ôl niferoedd disgyblion a darperir gan Stats Cymru, a'i gymhwyso ar sail pro rata.
Ar adeg sefydlu ERW, cytunodd Awdurdodau Lleol y rhanbarth yn hytrach na throsglwyddo'r cyllid a nodir i'r Tîm Canolog, y byddai pob Awdurdod Lleol yn dal gafael ar ei gyllid Gwella Ysgolion unigol, ac yn gwneud cyfraniad ar y cyd o £250,000 i gefnogi costau cynnal y consortiwm. Ni fu unrhyw newid yn y ffigur hwn ers y 3 blynedd diwethaf.
Tabl 2
Cyfraniad yr Awdurdodau Lleol at gostau cynnal ERW yn 2017-18
Awdurdod Lleol Cyfraniad %Sir Gaerfyrddin £52,500 21%Ceredigion £18,500 7.4%Castell-nedd Port Talbot £40,250 16.1%Sir Benfro £34,250 13.7%Powys £35,000 14.0%Abertawe £69,500 27.8%Cyfanswm £250,000 100%
Tabl 3Cyllideb Refeniw y Tîm Canolog ar gyfer 2017-18 yw £725,000 (Mehefin 2017).
GWARIANT BLYNYDDOL CYLLIDEB GRAIDD Y TÎM CANOLOG
2017-18Cyllideb
Gymeradwy Chwefror 2017
£000oedd
2017-18Cyllideb Alldro Ddisgwyliedig fel yr oedd ym mis Mehefin
2017£000oedd
1. COSTAU STAFFIOCyflogau 439 477
Teithio, Cynhaliaeth, Hyfforddiant a Datblygiad 5 4
444 481
2. COSTAU CYNNAL
Llety 33 42
Deunyddiau ysgrifennu/Ffôn/Argraffu/Copïo/Offer/TG
21 10
Cyfieithu 35 20
Datblygiadau Rhwyd a Dolen 0 44
89 116
3. HWYLUSO
Cytundebau Lefel Gwasanaeth 73 128
73 128
CYFANSWM Y GWARIANT AMCANGYFRIFEDIG £606 £725
INCWM BLYNYDDOL
Cyfraniadau Awdurdodau Lleol 250 250
Incwm/Grantiau eraill 12 4
Gweinyddu Cyllid Grant 150 326
CYFANSWM YR INCWM AMCANGYFRIFEDIG £412 £580
GWARIANT NET 194 145
Dyraniad o'r Gronfa Wrth Gefn (194) (145)
Rhaid nodi bod y Gyllideb Alldro Ddisgwyliedig, (Mehefin 2017) a gyflwynwyd i'r Cyd-bwyllgor gan y Swyddog Adran 151 ar gyfer ERW, yn cynnwys y cyfraniad o £250,000 gan yr awdurdodau lleol ac, er mwyn mantoli'r gyllideb, £145,000 o gronfa wrth gefn yr awdurdodau lleol. Dywedodd y Swyddog Adran 151, yn y dyfodol, y bydd angen cynyddu'r cyfraniad gan y chwe awdurdod lleol (o fewn y cyllid wedi'i glustnodi) gan y bydd ychydig iawn yn weddill yng nghronfeydd wrth gefn yr awdurdodau lleol. (Mae hyn wedi'i nodi mewn blynyddoedd blaenorol hefyd)
Cyllideb Graidd Gwella Ysgolion yr Awdurdodau Lleol
Mae pob awdurdod lleol yn rheoli ei gyllideb graidd ei hun ar gyfer gwella ysgolion, ac yn 2016-17 (Tabl 4) gwariwyd cyfanswm o tua £5,480,000 ar weithgarwch gwella ysgolion nas dirprwywyd ledled y chwe awdurdod lleol (Ffynhonnell: swyddogion cyllid yr awdurdodau lleol, Mawrth 2017).
Fodd bynnag, gan na fu unrhyw gytundeb ynghylch pa swyddogaethau y dylid eu cynnwys mewn gwasanaeth Gwella Ysgolion, mae pob un yn gweithredu ychydig yn wahanol, gan ddarparu swyddogaethau tebyg ond gwahanol. Rhaid ystyried hyn wrth edrych ar ffigurau cyllidebau yr awdurdodau lleol unigol. Mae hyn hefyd yn ei gwneud yn anodd cymharu a phwyso a mesur effeithlonrwydd neu werth am arian.
Tabl 4 Cyllideb Graidd yr Awdurdodau Lleol ar gyfer Gwella Ysgolion 2016-17
Awdurdod Lleol Cyllideb Graiddar gyfer Gwella Ysgolion
2016-17
Sir Gaerfyrddin £1,290,309Abertawe £1,353,485Castell-nedd Port Talbot £709,920Powys £920,920Sir Benfro £556,732Ceredigion £648,642
Cyfanswm
£5,480,008 Ffynhonnell: swyddogion cyllid yr awdurdodau lleol, Mawrth 2017
RISGIAU
❖ Nid yw cyfraniad cyfunol yr awdurdodau lleol, a bennwyd yn 2014, i gyllideb refeniw tîm canolog ERW, yn cefnogi swyddogaethau'r consortiwm na'r galwadau sydd arno mwyach❖ Nodwyd y risg ariannu i'r sefydliad gan:
Y Swyddog Adran 151Yr Adroddiad Archwilio Mewnol BlynyddolY Gofrestr RisgiauYr Adroddiad Hunanwerthuso
❖ Mae'r diffyg cyllido craidd wedi arwain at orddibyniaeth ar grantiau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y consortiwm yn gallu cyflawni'r Agenda cenedlaethol.❖ Mae'r gwasanaeth yn ddibynnol ar 'gronfeydd wrth gefn yr awdurdodau lleol' i fantoli'rgyllideb❖ Bydd rhaid cynyddu'r cyfraniadau gany chwe awdurdod yn y blynyddoedd i ddod. Dros 2-4 blynedd, mae dau o'r consortia eraill wedi cyflawniarbedion ar gyfraniadau'r awdurdodau lleol ar y sail bod cyllid model cenedlaethol wedi'i glustnodi.❖ Mae'r gyllideb graidd fach yn atal y Rheolwr Gyfarwyddwr rhag gwneud penodiadau sefydlogac mae hyn yn ychwanegu at ansefydlogrwydd y tîm canolog bach.❖ Ni fu unrhyw resymoli ar y cyd o ran swyddi, meithrin gallu, narhannu adnoddau ledled y rhanbarth, gan arwain at ddyblygu aphryder ynghylch gwerth am arian.
4. Grantiau.
Yn 2017-18, rhagwelir y bydd ERW yn cael £68m o incwm grant. Y ddau brif grant a dargedir at wella deilliannau addysg ar gyfer pob plentyn, yw'r Grant Gwella Addysg a'r Grant Amddifadedd Disgyblion, sydd wedi'u datganoli i raddau helaeth yn uniongyrchol i ysgolion. . Yn 2017-18, mae'r rhain yn dod i gyfanswm o £40,941,220 (gan gynnwys arian cyfatebol yr awdurdodau lleol) a £22,799,300, yn y drefn honno. Nid yw'r grantiau hyn yn cael eu rheoli na'u gweinyddu'n ganolog, ond eu dosbarthu i awdurdodau lleol unigol i'w defnyddio yn unol â'u eu blaenoriaethau lleol. Nid oes dull rhanbarthol na fformiwlâu y cytunwyd arnynt o ran y modd y caiff cyllid ei ddirprwyo i ysgolion, ac o ganlyniad mae'r adnoddau gwella ysgolion a'r cymorth i ysgolion ledled y rhanbarth yn amrywio. Mae hyn yn creu anghysondebau sy'n achos pryder i Benaethiaid. (Ffynhonnell:Arolwg Penaethiaid 2017).
Y Grant Gwella Addysg
Mae'r Grant Gwella Addysg yn darparu cymorth ariannol i ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol er mwyn gwella deilliannau addysgol ar gyfer pob dysgwr. Mae angen cyfradd ddirprwyo ofynnol i ysgolion o 80% o gyfanswm y cyllid gros (gan gynnwys yr elfen arian cyfatebol) (2017-18). Gellir cadw hyd at 0.75% o gyfanswm y grant gros at ddibenion gweinyddu a rheoli.
Yn y flwyddyn ariannol gyfredol (2017-18), cyfanswm y Grant Gwella Addysg ar gyfer y Rhanbarth yw £40,941,887 (gan gynnwys arian cyfatebol yr awdurdodau), y mae £1,094,000 ohono wedi'i ddyrannu i ERW. Mae'r grant yn cael ei ddosbarthu i'r chwe Awdurdod Lleol yn seiliedig ar fformiwla y cytunwyd arno gan yr holl Gyfarwyddwyr, ac mae gan bob un ohonynt
fformiwla leol ar gyfer dosbarthu'r 80% gofynnol i ysgolion. Gwerth cyfraniad gweinyddol i ERW yw £8,000.
Pan sefydlwyd y tîm canolog yn 2014, roedd pum aelod o staff cyfwerth ag amser llawn, yn ogystal â chydgysylltydd yn cefnogi'r Rheolwr Gyfarwyddwr. Ym mis Gorffennaf 2017, mae cyfanswm o 34 o weithwyr, sydd, ac eithrio'r Rheolwr Gyfarwyddwr a chwe aelod o staff cymorth, ar gontractau dros dro a ariennir gan grantiau. Felly, mae'r costau hyn yn ychwanegol at Gyllideb Refeniw y Tîm Canolog. Mae'r orddibyniaeth hon ar gyllid grant i gefnogi swyddi wedi bod yn hanfodol er mwyn bodloni'r gofynion a osodwyd ar y consortiwm gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae hyn yn creu ansefydlogrwydd ac yn gwneud y tîm yn fregus gan nad oes gan y Rheolwr Gyfarwyddwr yr adnoddau i wneud penodiadau sefydlog.
Tabl 5.a.
Y Grant Gwella Addysg (Gan Gynnwys Arian Cyfatebol)
Awdurdod Lleol Grant Gwella Addysg 2016/17
Gweinyddol 1%
Y Grant Gwella Addysg 2017/18
Gweinyddol 75%
Sir Gaerfyrddin 8,445,042 84,450 8,310,800 62,331
Ceredigion 3,375,652 33,757 3,322,206 24,917
Castell-nedd Port Talbot
6,163,771 61,638 6,065,708 45,493
Sir Benfro 5,714,902 57,149 5,624,464 42,183
Powys 6,133,896 61,339 6,036,899 45,277
Abertawe 10,656,862 106,569 10,486,255 78,647
ERW 801,770 8,017 1,094,887 8,212
CYFANSYMIAU £41,291,895 £412,919 £40,491,219 £307,060
Mae Tabl 5a yn dangos dosbarthiad y Grant Gwella ledled y rhanbarth (Ebrill 2016 ac Ebrill2017), y cyfrannau a ddyrannwyd i bob awdurdod lleol, a'r swm a ganiateir ar gyfer monitro a gweinyddu.
Tabl 5.b.Y Grant Gwella Addysg 2016-17
Awdurdod Lleol
Gwerth y grant Gwariant y Grant Gwella Addysg ar Staff Awdurdodau Lleol 16/17
Sir Gaerfyrddin 8,445,042 649,202
Ceredigion 3,375,652 131,295
Castell-nedd Port Talbot
6,163,771 679,565
Sir Benfro 5,714,902 406,751
Powys 6,133,896 296,310
Abertawe 10,656,862 372,672
CYFANSYMIAU £40,490,125 £2,535,795
Mae Tabl 5b yn dangos y grant, ynghyd â'r arian cyfatebol, a ddosbarthwyd i'r awdurdodau lleol, gan gynnwys gwariant y Grant Gwella Addysg ar gostau staff yr awdurdodau lleoli, fel y nodwyd gan swyddogion cyllid yr awdurdodau lleol ym mis Mawrth 2017.
Mae ERW yn llenwi ffurflenni datganiad chwarterol ar gyfer Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nid yw'n monitro gwariant ysgolion gan fod hyn yn cael ei wneud ar lefel leol. Mae'r swyddog adran 151 a'r Rheolwr Gyfarwyddwr wedi sefydlu mesurau priodol er mwyn sicrhau y gallant fod yn sicr bod pob un o'r chwe awdurdod lleol yn cydymffurfio. Er bod hyn yn dderbyniol o safbwynt ariannol efallai, nidyw'n sicrhau bod ysgolion yn cael eu monitro'n agosach o ran y ffordd y caiff y grantiau eu gwario, sy'n elfen hanfodol bwysig.
Y Grant Plant sy'n Derbyn Gofal
Diben y Grant Amddifadedd Disgyblion yw cael effaith hirhoedlog ar ddeilliannau dysgwyr dan anfantais.
Pan gyflwynwyd y Model Cenedlaethol ar gyfer Gwella Ysgolion, roedd y grant Plant sy'n Derbyn Gofaly tu hwnt i gylch gwaith y consortia. Fodd bynnag, newidiodd hyn yn2014-15 pan ddaeth plant sy'n derbyn gofal yn rhan annatod o'r Grant Amddifadedd Disgyblion. Mae amodau'r grant yn datgan yn eglur y dylai'r elfen plant sy'n derbyn gofal gael ei chadw a'i rheoli'n ganolog gan y consortiwm. Fodd bynnag, yn ERW, mae awdurdodau lleol unigol yn parhau i reoli a gweinyddu'r rhan fwyaf wariant grantiau.
Yn 2016-17, yr elfen plant sy'n derbyn gofal o'r Grant Amddifadedd Disgyblion a ddyrannwyd i'r Rhanbarth oedd £1,068,350, gyda £75,365 wedi'i ddyrannu'n uniongyrchol i dîm canolog ERW. Cafodd y gweddill ei ddosbarthu ledled y chwe awdurdod lleol a'i ddefnyddio'n bennaf i gyflogi staff. Mae aelod o staff wedi'i secondio o un o'r awdurdodau lleol cyfansoddol i weithio fel aelod o'r tîm canolog, ac mae'r gweddill yn gweithio i'r chwe awdurdod lleol, ac yn cael eu cyfarwyddo ganddynt. Mae'r trefniadau cyfredol yn anghyson â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru i holl Reolwyr Cyfarwyddwyr y Consortia –
“cymryd cyfrifoldeb personol dros sicrhau bod cyllid grant yn cael ei ddefnyddio fel y bwriadwyd. Byddwn yn craffu'n ofalus ar gynlluniau Consortia pan fyddant yn cael eu cyflwyno, a bydd angen i ni fod yn fodlon eu bod yn gyson â'r dull rhanbarthol a argymhellir gan Lywodraeth Cymru. (Llywodraeth Cymru Gorffennaf 2017).
Grantiau Eraill
Rhagwelir y bydd y rhanbarth yn cael 31 o grantiau pellach, a fydd yn dod i gyfanswm o £7,500,000 (2017-18). Mae'r grantiau hyn wedi'u cynllunio er mwyn cefnogi a bwrw ymlaen â Pholisi Cenedlaethol, ac yn wahanol i'r Grant Gwella Addysg a'r Grant Amddifadedd Disgyblion, maent yn cael eu rheoli a'u gweinyddu'n ganolog. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddyrannu £100 miliwn ychwanegol o gyllid Addysg yn ystod tymor y Cynulliad cyfredol (tan fis Mai 2021). Yn 2017-18dyrannwyd £9,500,000 ledled Cymru, i'w reoli a'i ddosbarthu trwy'r consortia rhanbarthol atebol. Mae hyn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ariannu'r consortia i ddarparu gwasanaethau yn hytrach nag awdurdodau lleol. Yn yr un modd, yr amodau tynnach ar gonsortia i ddefnyddio ac i fod yn atebol am grantiau yn rhanbarthol. Rhagwelir y bydd ERW yn cael £3,071,337 yn ystod y flwyddyn ariannol hon, a disgwylir i grantiau rhanbarthol sylweddol pellach ddod i law hyd at 2021. Mae'n hanfodol bod y rhanbarth yn sefydlu gallu priodol i reoli'r atebolrwydd sylweddol hwn yn effeithiol.
Tabl 6Ffigurau grant dangosol ar gyfer 2017-18
Rhif Adnabod
EnwCYFANSWM ERW
Rheolir gan ERW
Yn uniongyrchol iAwdurdodau Lleol/Ysgolion
1 Y Grant Gwella Addysg 37,751,710 1,094,887 36,656,8232 Y Grant Amddifadedd Disgyblion 22,799,300 75,000 22,724,3003 Rhaglen Cyfoethogi a Phrofiad i Ysgolion 25,000 25,000 04 Her Ysgolion Cymru 20,513 20,513 05 Cyllid wedi'i Dargedu 313,118 313,118 06 Grant Rhaglen Gymorth TGAU 724,935 724,935 07 Cyflenwi Addysgu a Dysgu 264,126 264,126 08 Grant Arloeswyr 2,336,944 806,944 1,530,000
9Fframwaith Defnyddio'r Gymraeg (gan gynnwys y Siarter Iaith (ysgolion cyfrwng Cymraeg) 243,000 243,000 0
10 Dysgu yn y Gymru Ddigidol – Cam II Datblygiad Proffesiynol Parhaus
142,109 142,109 0
11100 miliwn gweinidogol wedi'i ymrwymo i Wella Ysgolion 3,071,337 3,071,337 0
12 Arloesi ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol 360,000 60,000 300,000
£68,052,092 £6,840,969 £61,211,123
RISGIAU
❖ Nid yw trefniadau rheoli grantiau cyfredol y consortiwm yn adlewyrchugofynion a disgwyliadau Llywodraeth Cymru❖ Nad oes dull rhanbarthol cyson ar gyfer gweinyddu na dosbarthucyllid grant❖ Oni bai y rheolir y grantiau yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru, maerisg sylweddol y bydd cyllid hanfodol ar gyfer Gwella Ysgolion yn cael ei ddal yn ôl.❖ Nid yw effaith yn cael ei gwerthuso o gwbl ar lefel ranbarthol❖ Mae nifer sylweddol o staff yr awdurdodau lleol yn cael eu hariannu trwy'r Grant Gwella Addysg, nad oes sicrwydd ohono.❖ Mae anghysondeb, yn ogystal â'r posibilrwydd o ddyblygu, yn y ffordd y maeelfen plant sy'n derbyn gofal y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei defnyddio ledled y Rhanbarth.❖ Mae'r Rheolwr Gyfarwyddwr wedi cael atebolrwydd penodol am reoli grantiau'n rhanbarthol, ond nid yw hyn yn ymarferol o dan y strwythur cyfredol.
Casgliadau
❖ Nid yw cyfraniad cyfunol yr awdurdodau lleol, a bennwyd yn 2013-14, i gyllideb refeniw tîm canolog ERW, yn cefnogi swyddogaethau'r consortiwm na'r galwadau syddarno mwyach
❖ Nodwyd y risg o ran cyllid i'r sefydliad gan y canlynol:▪ Y Swyddog Adran 151▪ Yr Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol▪ Y Gofrestr Risgiau
❖ Y costau cyflog a gyllidebwyd ar gyfer ERW yn 2017-18 yw £3,075,000. £83,000 o'r gyllideb graidd, a chyfanswm o £2,992,000 o gyllid grant.❖ Mae diffyg cyllid craidd wedi arwain at orddibyniaeth ar ffrydiau cyllid granter mwyn sicrhau bod y consortiwm yn gallu cyflawni'r Agenda Cenedlaethol.❖ O ganlyniad i ofyniad y Swyddog Adran 151 i fantoli'r gyllideb, ychydig iawn sy'n weddill yng Nghronfeydd wrth Gefn yr Awdurdodau Lleol ❖ Os yw ERW am barhau i fod yn hyfyw yn ariannol, ac ymateb i'r angen cynyddol amwasanaethau cymorth (fel Cyllid, Adnoddau Dynol) bydd yn ofynnol i awdurdodau lleolgynyddu eu cyfraniad i'r gyllideb graidd yn unol â'r cyllid a neilltuwyd y cytunwyd arno.
❖ Mae anghysondeb, yn ogystal â'r posibilrwydd o ddyblygu, yn y ffordd y mae
elfen plant sy'n derbyn gofal y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei defnyddio ledled y Rhanbarth.❖ Mae'r angen am reolaeth strategol a chadarn wrth wraidd y
consortiwm yn cael ei danseilio, ar hyn o bryd, gan orddibyniaeth ar gyllid grant ar gyferstaff craidd a'r defnydd helaeth o gontractau dros dro sy'n llesteirio darpar ymgeiswyr dawnus.❖ Nid yw trefniadau rheoli grantiau cyfredol y consortiwm yn adlewyrchugofynion a disgwyliadau Llywodraeth Cymru y bydd elfen plant sy'n derbyn gofal y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei rheoli a'i gweinyddu'n rhanbarthol.❖ Mae'r Gofrestr Risgiau (Mehefin 2017), yn tynnu sylw at y risg (risg13) y gallai cyllid grantgael ei ddileu.❖ Nid oes llinell atebolrwydd uniongyrchol rhwng Ymgynghorwyr Her sy'n gyfrifolam fonitro'r defnydd o gyllid grant ar lefel ysgol a'r tîm canolog.❖ Mae prosesau anghyson o ran rheoli grantiau ledled y rhanbarth yn arwain at fynediad amrywiol i ysgolion a disgyblion i gyllid gwella ysgolion❖ Mae nifer sylweddol o staff ERW a'r awdurdodau lleol yn cael eu talu trwy ffrydiau cyllid grantnad oes sicrwydd ohonynt.❖ Mae diffyg arian craidd yn atal y Rheolwr Gyfarwyddwr rhag gwneud penodiadau sefydlog acmae hyn yn ychwanegu at ansefydlogrwydd y tîm canolog.❖ Ni fu unrhyw resymoli ar y cyd o ran swyddi, meithrin gallu, na rhannu adnoddau ledled y rhanbarth, gan arwain at ddyblygu a phryder ynghylch gwerth am arian
Argymhellion
Mae'r Cyd-bwyllgor yn cytuno i wneud y canlynol:
➢ Cyfarwyddo'r Prif Weithredwr Arweiniol, y Swyddog Adran 151 a'r Rheolwr Gyfarwyddwr i sefydlu Tîm Rhaglen sydd â strwythurau llywodraethu addas a mynediad i wybodaeth ariannol ac adnoddau dynol briodol, a hynny er mwyn rheoli'r prosiect o egluro ac alinio trefniadau cyllid craidd a grant fel y gall y Consortiwm ddarparu un gwasanaeth Gwella Ysgolion effeithiol, a chydymffurfio'n llwyr â gofynion LlC.
➢ Cyfarwyddo'r Prif Weithredwr Arweiniol, y Swyddog Adran 151 a'r Rheolwr Gyfarwyddwr a Thîm y Rhaglen i baratoi cynllun prosiect sy'n dwyn ynghyd y gwaith o ddatblygu'r rhanbarth erbyn mis Ebrill 2018, a hynny gyda'r holl grantiau, yn ogystal ag adnoddau eraill, gan gynnwys staff o fis Medi 2018. Dylai chwmpas a chynllun Tîm y Rhaglen gynnwys y canlynol:
Rhoi cynlluniau eglur ar waith i sicrhau a chynnal dulliau cyfathrebu effeithiol â chyfarwyddwyr a phenaethiaid ledled y sefydliad, a sicrhau bod y Cynllun Busnes yn cael ei weithredu'n gyson.
Egluro, cytuno a chofnodi rolau ac atebolrwydd yr awdurdodau lleol a'r rhanbarth mewn perthynas â'r holl swyddogaethau a gwasanaethau Gwella
Ysgolion. Datblygu a chostio model darparu sefydliadol i fodloni'r blaenoriaethau a nodwyd, wedi'i gefnogi gan gynllun gweithredu cynhwysfawr wedi'i gostio.
Diogelu'n briodol Uwch-dîm Rheoli Canolog cyfredol ERW, a datblygu gallu strategol a gweithredol.
➢ Cyfarwyddo'r Prif Weithredwr Arweiniol, y Swyddog Adran 151 a'r Rheolwr Gyfarwyddwr i greu fformiwla gyllido gyffredin i ysgolion ar gyfer y Grant Gwella Addysg.
➢ Cyfarwyddo'r Rheolwr Gyfarwyddwr i sicrhau bod yr argymhellion uchod yn cael eu gweithredu ochr yn ochr â chanfyddiadau'r adroddiad ar allu Ymgynghorwyr Her.
CYD-BWYLLGOR ERW21 MEDI 2017
Eitem 8 ar yr Agenda
SICRHAU GALLU YMGYNGHORWYR HERDiben: Yn dilyn cais cychwynnol gan y Cyd-grŵp Cynghorwyr Craffu, gofynnodd y Cyd-bwyllgor am ragor o fanylion am allu'r rhanbarth o ran Ymgynghorwyr Her.ARGYMHELLION/PENDERFYNIADAU ALLWEDDOL GOFYNNOL:Derbyn canfyddiadau'r adroddiad, a chefnogi camau i alluogi'r rhanbarth i ddatblygu ymhellach ac adeiladu ar ei gryfderau.
Rydym yn gwneud cais am ganiatâd i gyflawni'r gwelliannau. Mae angen i ni gryfhau sefyllfa hyderus y rhanbarth, a bydd angen gwneud cynnydd o ran yr holl argymhellion, ond yn benodol o ran y canlynol:
➢ Cyfarwyddo'r Prif Weithredwr Arweiniol, Swyddog Adran 151 a'r Rheolwr Gyfarwyddwr a Thîm y Rhaglen i baratoi cynllun prosiect sy'n dwyn ynghyd y gwaith o ddatblygu'r rhanbarth erbyn mis Ebrill 2018, a hynny gyda'r holl grantiau, yn ogystal ag adnoddau eraill, gan gynnwys staff o fis Medi 2018. Dylai cwmpas a chynllun Tîm y Rhaglen gynnwys y canlynol:
Rhoi cynlluniau eglur ar waith i sicrhau a chynnal gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol â Chyfarwyddwyr a phenaethiaid ledled y sefydliad, ac i ofalu bod y Cynllun Busnes yn cael ei roi ar waith mewn modd cyson.
Sicrhau eglurder o ran rolau ac atebolrwydd priodol yr ALlau a'r rhanbarth, cytuno arnynt a'u dogfennu, a hynny mewn perthynas â'r holl swyddogaethau a gwasanaethau Gwella Ysgolion.
Datblygu a chostio model cyflawni sefydliadol i fodloni blaenoriaethau dynodedig, a hynny gyda chymorth cynllun gweithredu cynhwysfawr, sydd wedi'i gostio.
Cynnal tîm cyfredol Uwch-reolwyr Canolog ERW, a hynny mewn modd priodol, a datblygu gallu strategol a gweithredol.
RHESYMAU:galluogi'r rhanbarth i ddatblygu ymhellach ac adeiladu ar ei gryfderau.
Awdur yr Adroddiad:
Betsan O’Connor
Swydd:
Y Rheolwr Gyfarwyddwr
Rhif Ffôn: 01267 24 5640
E- bost: [email protected]
CRYNODEB GWEITHREDOL CYD-BWYLLGOR ERW
21 MEDI 2017CRYNODEB BYR O DDIBEN YR ADRODDIAD
Mae'r adroddiad wedi cael ei rannu i'r adrannau canlynol:
1. Niferoedd y Staff2. Cysondeb a Chydymffurfiaeth3. Atebolrwydd a Rheolaeth Llinell4. Bodloni Safonau Cenedlaethol5. Arbenigwyr Pwnc
Dyma'r argymhellion:
➢ Cyfarwyddo'r Prif Weithredwr Arweiniol, Swyddog Adran 151 a'r Rheolwr Gyfarwyddwr a Thîm y Rhaglen i baratoi cynllun prosiect sy'n dwyn ynghyd y gwaith o ddatblygu'r rhanbarth erbyn mis Ebrill 2018, a hynny gyda'r holl grantiau, yn ogystal ag adnoddau eraill, gan gynnwys staff o fis Medi 2018. Dylai cwmpas a chynllun Tîm y Rhaglen gynnwys y canlynol:
Rhoi cynlluniau eglur ar waith i sicrhau a chynnal gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol â Chyfarwyddwyr a phenaethiaid ledled y sefydliad, ac i ofalu bod y Cynllun Busnes yn cael ei roi ar waith mewn modd cyson.
Sicrhau eglurder o ran rolau ac atebolrwydd priodol yr ALlau a'r rhanbarth, cytuno arnynt a'u dogfennu, a hynny mewn perthynas â'r holl swyddogaethau a gwasanaethau Gwella Ysgolion.
Datblygu a chostio model cyflawni sefydliadol er mwyn cyflawni blaenoriaethau dynodedig, a hynny gyda chymorth cynllun gweithredu cynhwysfawr, sydd wedi'i gostio.
Cynnal tîm cyfredol Uwch-reolwyr Canolog ERW, a hynny mewn modd priodol, a datblygu gallu strategol a gweithredol.
ADRODDIAD MANWL YNGHLWM? OES
Tudalen 141
GOBLYGIADAUCyfreithiolOES
CyllidOES
Materion Rheoli RisgiauOES
Goblygiadau StaffioOES
1. CyfreithiolMae'r mater o gyflogi Ymgynghorwyr Her yn cael ei godi yng Nghytundeb Cyfreithiol ERW. Gallai argymhellion ar gyfer newidiadau yn yr adroddiad hwn hwyluso diwygiadau dilynol i'r Cytundeb Cyfreithiol.
2. CyllidUnrhyw argymhelliad o'r adroddiad sy'n gysylltiedig â newid y gyflogaeth a'r broses leoli
3. Rheoli RisgiauMae unrhyw fater sy'n ymwneud â diffyg gallu, cydymffurfiaeth neu gysondeb o ran Ymgynghorwyr Her y rhanbarth yn peri risg i fusnes craidd ERW o wella ysgolion.
4. Goblygiadau StaffioMae trafodaethau gan Awdurdodau Lleol ar allu Ymgynghorwyr Her, ynghyd â'r broses o'u cyflogi, yn gysylltiedig, yn y bôn, â staffio.
YMGYNGORIADAUMae manylion unrhyw ymgyngoriadau i'w cynnwys yma
Adran 100D o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Mynediad at WybodaethRhestr o Bapurau Cefndir a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r adroddiad hwn:
MAE'R RHAIN WEDI'U RHESTRU ISODTeitl y Ddogfen Cyfeirnod y
FfeilRhif
Lleoliadau lle mae'r papurau ar gael i'r cyhoedd eu gweld
Bwriadwyd i'r dudalen hon fod yn wag
Adroddiad i'r Cyd-bwyllgor arAllu Ymgynghorwyr Her
1. Cyflwyniad
Paratowyd yr adroddiad hwn mewn ymateb i gais gan y Cyd-bwyllgor ar 17 Gorffennaf 2017. Y cais oedd i goladu darlun cyflawn o allu Ymgynghorwyr Her ledled y rhanbarth i ddarparu gwasanaethau gwella ysgolion effeithiol, ac i gynnig argymhellion ar gyfer gwelliant.
Cafodd y Cyd-bwyllgor ohebiaeth gan y Cadeirydd Craffu mewn perthynas â nifer yr Ymgynghorwyr Her sy'n cael eu cyflogi yn y rhanbarth, a gofynnodd am adroddiad ar y materion. O ganlyniad i ystyried y Gofrestr Risgiau, cytunodd y Cyd-bwyllgor y dylai'r adroddiad gael ei estyn i gynnwys safon a pherfformiad Ymgynghorwyr Her a staff cymorth, a'r broses o'u lleoli, ynghyd ag argymhellion o ran sut i ymateb i'r risgiau a nodwyd yn yr Adroddiad Archwilio Mewnol.
Mae'r adroddiad yn amlygu meysydd allweddol i'w datblygu, ynghyd ag argymhellion ar gyfer y Cyd-bwyllgor. Mae wedi cael ei lywio gan ddogfennau'r Cyd-bwyllgor, y Gofrestr Risgiau ac adborth o arolygon diweddar y Penaethiaid a'r Ymgynghorwyr Her.
2. Cyd-destun
Mae'r adroddiad wedi cael ei lywio gan ddogfennau a ystyriwyd gan y Cyd-bwyllgor sy'n ymwneud â'r Gofrestr Risgiau, yr Adroddiad Archwilio Mewnol ac ymatebion i Arolwg y Penaethiaid ym mis Gorffennaf 2017.
Mae Cofrestr Risgiau ERW yn cynnwys y risgiau canlynol ar lefel y Tîm Canolog:
• Roedd yr Arolwg (gan Estyn) o'r rhanbarth wedi canfod bod y safonau, y ddarpariaeth a'r arweinyddiaeth yn llai na digonol
• Gallu annigonol o ran y Tîm Canolog a Thîm yr Ymgynghorwyr Her i gyflawni'r Cynllun Busnes i safonau uchel, ynghyd ag i gynnal lefelau'r cynnydd a welwyd yn ERW yn y blynyddoedd diwethaf
• Mae sylfaen lywodraethu ERW yn aneffeithiol o ran sicrhau gwelliant cyson ledled pob ALlau, gan gydnabod bod rhai ALl yn gwneud cynnydd da
• Methiant i fynd i'r afael â meysydd allweddol Cynllun Busnes ERW, nac i'w rhoi ar waith
• Mae'r gallu cyfyngedig mewn perygl o danseilio gallu ERW i ymateb gyda bwrlwm ac effaith i'r Model Cenedlaethol newydd
• Llythyrau gan Lywodraeth Cymru sy'n mynegi pryderon nad yw rhanbarthau yn defnyddio grantiau rhanbarthol o fewn ysbryd a thelerau ac amodau y grantiau. Mae yna risg y gall y cyllid gael ei dynnu'n ôl
• Nid yw ALlau unigol yn cydymffurfio â Thelerau ac Amodau grantiau.
Ar lefel yr Awdurdodau Lleol, mae'r Gofrestr Risgiau yn cynnwys y risgiau canlynol, sy'n berthnasol i'r chwe awdurdod sy'n adrodd, serch bod ganddynt i gyd asesiadau mymryn yn wahanol o ran tebygolrwydd ac effaith:
• Anghysondebau yn y cymorth i ysgolion oherwydd yr amrywiadau yng ngwaith yr Ymgynghorwyr Her
• Barnau categoreiddio yn cael eu tanseilio am nad oedd cyfran o'r Ymgynghorwyr Her yn dilyn prosesau
• Ysgolion sy'n peri pryder heb gael eu monitro'n ddigonol, a heb gael digon o gymorth
• Staff yr ALlau (gan gynnwys yr Ymgynghorwyr Her) yn ymgymryd â gweithgareddau y tu allan i'r strategaeth ranbarthol, heb fod angen
• Methiant o ran codi safonau, yn arbennig ar gyfer disgyblion eFSM
Roedd Barn Archwilio a Datganiad Sicrwydd Mewnol 2015-16 yn cynnwys y canlynol:
• Nid oedd y cymorth y cytunwyd arno gan Ymgynghorwyr Her yn dilyn ymweliadau bob amser yn unol â'r argymhellion a wnaed/meysydd i'w gwella a nodwyd. Mae angen rhagor o welliant i sicrhau bod argymhellion cryno, targededig yn cael eu llunio
• Nid yw'r cymorth sy'n cael ei ddarparu gan Ymgynghorwyr Her bob amser yn unol â'r pecyn cymorth y cytunwyd arno fel rhan o'r Ymweliad Craidd, a nodwyd amrywiadau hefyd rhwng yr hawl i gymorth a nifer y dyddiau a ddarparwyd mewn gwirionedd.
• Gan nad yw camau gweithredu/cynlluniau gwella Awdurdodau Lleol yn dod i law Tîm Canolog ERW yn gyson, mae'n anodd pennu a yw'r cymorth yn cael ei dargedu'n gywir i gynorthwyo gwelliant yn yr ysgolion hyn yn llawn
Mae'r prif faterion o ran gwelliant a amlinellwyd yn Arolwg y Penaethiaid, ac yr adroddwyd amdano i'r Cyd-bwyllgor ym mis Gorffennaf 2017, wedi cael eu crynhoi fel a ganlyn:
• Nid yw'r cymorth wedi'i deilwra'n ddigonol i ddiwallu anghenion ysgolion; dim ond 61% o'r ymatebwyr oedd yn credu ei fod yn bodloni hawliau dyrannu y broses gategoreiddio yn dda. Roedd 31% arall yn credu bod y cymorth yn ddigonol yn unig.
• Mae yna angen am ragor o rwydweithio ysgol i ysgol, rhannu arfer da, a mwy o wybodaeth am ysgolion a ddylai gael eu defnyddio fel meincnodau
• Mae yna drosiant Ymgynghorwyr Her uchel mewn ysgolion, sy'n tarfu ar gynnydd a datblygiad yr ysgolion. Mewn rhai achosion, roedd hyn yn cael ei ddwysáu gan y model o Benaethiaid wedi'u comisiynu.
• Mae angen i bob Ymgynghorydd Her fod wedi paratoi'n dda ymlaen llaw cyn ymweld ag ysgolion.
• Mae angen mwy o gysondeb yng ngwaith Ymgynghorwyr Her ar lefel yr Awdurdodau
Lleol, a ledled y Consortiwm. Mae yna raniad o ran y profiad y mae ysgolion mewn awdurdodau lleol gwahanol wedi ei gael. Mae arolygon yn dangos hyn.
• Dywedyd bod rhai Ymgynghorwyr Her yn canolbwyntio gormod ar gwestiynu'r data, ac nad oeddent yn ymgysylltu â gwaith yr ysgol. Er gwaethaf hyn, roedd 84% o'r Penaethiaid yn credu bod yr ymweliadau craidd gan yr Ymgynghorwyr Her yn deall cryfderau a gwendidau'r ysgol yn dda iawn, ac roedd 84% yn credu bod y broses gategoreiddio yn cael ei chyflawni mewn modd effeithiol. Fodd bynnag, mae yna amrywiad ym mhob ALl o ran y farn hon.
•Mae yna ddiffyg cysondeb a dealltwriaeth ranbarthol o rôl ERW a'r hyn y mae'n ei olygu.
Dylid nod bod Tîm Canolog y Consortiwm ac awdurdodau partner yn parhau i fynd i'r afael â phryderon y Penaethiaid, a'r risgiau a nodwyd gan y Cyd-bwyllgor. Gall y Consortiwm a'i awdurdodau partner arddangos arfer da mewn nifer mawr o feysydd, ynghyd â deilliannau ac arloesedd rhagorol, sydd i gyd yn sicrhau effaith gadarnhaol ar gyfer dysgwyr. Diben yr adroddiad hwn yw nodi cyfleoedd i adeiladu gallu a systemau'r Consortiwm er mwyn sicrhau bod y perfformiad gorau yn dod yn safon sy'n cael ei chyflawni ledled y rhanbarth, fel bod disgyblion ym mhob lleoliad yn cael cyfle i ragori.
Mae'r pryderon a'r meysydd i'w gwella a nodwyd uchod wedi helpu i siapio'r adroddiad hwn ar y trefniadau rhanbarthol ar gyfer Ymgynghorwyr Her a staff gwella ysgolion eraill. Mae'r adroddiad yn mynd i'r afael â niferoedd staffio, cysondeb a chydymffurfiaeth, atebolrwydd a rheolaeth llinell, y safonau cenedlaethol a staff gwella ysgolion eraill.
3. Niferoedd Staffio
Pan gafodd ERW ei sefydlu, gwnaed cytundeb rhwng y cyfarwyddwyr y byddai 58 oYmgynghorwyr Her Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE) yn cael eu cyflogi rhwng y chwe Awdurdod Lleol, er mwyn galluogi ERW i gyflawni ei waith monitro, cefnogi, herio ac ymyrryd mewn ysgolion.
Cytunwyd ar y niferoedd canlynol:
ALl Cyfwerth ag Amser Llawn
Sir Gaerfyrddin 12.48
Sir Benfro 7.73
Ceredigion 5.99
Powys 10.28
Cafodd y cytundeb gwreiddiol a wnaed ym mis Mawrth 2012 ei ailddatgan gan y Cyfarwyddwyr ym mis Medi 2015.
Mae nifer y staff sy'n cael eu cyflogi yn amrywio o dymor i dymor oherwydd y trosiant staff a'r defnydd o secondiadau, gan gynnwys penaethiaid wedi'u comisiynu. Yn ystod blwyddyn academaidd 2016-17, roedd nifer yr Ymgynghorwyr Her a oedd yn gweithio yn y rhanbarth yn amrywio
rhwng 39 a 45. Ym mis Gorffennaf 2017, roedd nifer yr Ymgynghorwyr Her Cyfwerth ag Amser Llawn a gyflogwyd i weithio ym mis Medi 2017 yn 41.7.
ALl FTECyfredol
Swyddi gwag
Staff parhaol Tymor penodol
Staff wedi'u secondio
Penaethiaid wedi'u comisiynu
Ymgynghorwyr
Sir Benfro 6 1.73 3.5 1 1.5 0
Sir Gaerfyrddin
7 5.48 3
Castell-nedd Port Talbot
7 .5 1.95 6 0 1 0
Abertawe 8 6.52 4.2 1 1.7 0.1
Ceredigion 5.7 0.29 4.9 0 0.8 0 0
Powys 8 2.28 8 0 0 0 0
Cyfanswm 41.7 18.25 26.6 1 3.5 1.7 0.1
Yn seiliedig ar wybodaeth a gafwyd gan yr ALlau, mae'r tabl uchod yn amlinellu niferoedd yr Ymgynghorwyr Her cyfredol ym mhob ALl.
Yn hanesyddol, mae Ceredigion a Chastell-nedd Port Talbot wedi bod yn agos at y cwota llawn, neu wedi cyrraedd y cwota llawn.
Mae yna hefyd bedwar Ymgynghorydd Her yn cael eu cyflogi'n rhan-amser gan Dîm Canolog ERW, a hynny er mwyn cefnogi ysgolion uwchradd yn Sir Benfro a Phowys. Mae'r rhain yn ychwanegol at Ymgynghorwyr Her yr Awdurdodau Lleol, ac mae ganddynt brofiad diweddar o arwain ysgol, sy'n ychwanegu at allu'r tîm lleol.
Castell-nedd Port Talbot 8.95
Abertawe 12.52
Yr Awdurdodau Lleol sy'n ymgymryd â'r broses o gyflogi a lleoli Ymgynghorwyr Her, a hynny'n annibynnol ar Dîm Canolog ERW, gan olygu bod yna amrywiaeth o ran dull gweithredu'r awdurdodau a'r ysgolion. Yn rhy aml, mae'n aneglur a yw'r aelodau hyn o staff yn bodloni'r safonau cenedlaethol gofynnol ar gyfer Ymgynghorwyr Her.
Mae rhai Ymgynghorwyr Her hefyd yn ymgymryd â rolau eraill am gyfran o'u hamser. Mae'r cyfrannau hyn yn cael eu pennu gan yr awdurdodau sy'n cyflogi, ac yn tueddi i gael eu dehongli mewn modd synhwyrol. Gan nad oes yna unrhyw system ranbarthol ar gyfer dosbarthu amser Ymgynghorwyr Her, ni ellir bod yn sicr ynghylch yr oriau sy'n cael eu neilltuo ar gyfer gweithgarwch Ymgynghorwyr Her, a does dim sail yn bodoli i lunio barn am gynhyrchiant y staff a gyflogir.
ERW yw'r unig gonsortiwm yng Nghymru nad yw'n cyflogi, yn lleoli nac yn rheoli perfformiad Ymgynghorwyr Her rhanbarthol yn uniongyrchol. Nid yw ymdrechion gorau Tîm Canolog y Consortiwm a'i chwe awdurdod partner i gyflawni dull gweithredu cyson wedi bod yn gwbl lwyddiannus hyd yma. Er bod peth cynnydd wedi cael ei gyflawni trwy hyfforddiant sy'n cael ei reoli a'i ddarparu yn rhanbarthol, nid oedd pob Ymgynghorydd Her wedi bod yn bresennol. Yn ychwanegol at hyn, mae yna drosiant penaethiaid uwchradd uchel yn y tîm, sy'n effeithio ar barhad. Mae hyn yn effeithio ar bresenoldeb mewn sesiynau hyfforddi, fel y mae ymrwymiadau eraill y tu allan i 'wella ysgolion'. Heblaw hynny, mae yna ddiffyg o ran dull rhanbarthol i ymsefydlu rolau parhaol, rhan-amser a dros dro.
Mae nifer yr ysgolion yn ERW wedi gostwng yn ystod y cyfnod 2012-2017, ond nid oes unrhyw gytundeb ffurfiol wedi'i lunio i adolygu'r lleiafswm anostyngadwy o ran Ymgynghorwyr Her. Gan nad oes unrhyw wybodaeth ar y cyd ar gael am gynhyrchiant Ymgynghorwyr Her, nid yw'r data sy'n ofynnol i adolygu'r niferoedd rhanbarthol yn gywir yn bodoli. Ar hyn o bryd, mae Capasiti Ymgynghorwyr Her ERW yn 16.3 FTE o dan y 'lleiafswm anostyngadwy', a hynny hyd yn oed o dybio bod yr Ymgynghorwyr Her yn cyflawni'r canran cytunedig o ran yr amser sy'n cael ei ddyrannu iddynt.
495 = 2017
532 = 2012
4. Cysondeb a Chydymffurfiaeth
Nid oes yna unrhyw ddull unffurf o fabwysiadu'r safonau cenedlaethol ar gyfer Ymgynghorwyr Her ac, o ganlyniad, mae hyn yn arwain at anghysondebau o ran disgwyliadau a lleoli. Nid oes unrhyw ddisgrifiadau swydd cyffredin i'w cael ledled y rhanbarth, sy'n galluogi hyblygrwydd lleol ac sy'n cynnal arferion blaenorol a oedd wedi lleihau yr effaith ar ysgolion. Mae trafodaethau ar anghysondebau wedi cael eu cynnal, a chymorth ychwanegol bellach ar gael. Mae adroddiadau rheolaidd ar gydymffurfiaeth wedi cael eu rhoi gerbron y Bwrdd Gweithredol er mwyn amlygu'r materion hyn.
Fodd bynnag, mae hyn wedi cyfaddawdu'r cyfleoedd ar gyfer datblygu arferion rhanbarthol mwy cyson, o ran sicrhau dealltwriaeth mewn perthynas ag eglurder rolau, ac er mwyn cyflwyno prosesau cydlynol ar gyfer rheoli perfformiad a datblygu staff. Mae'r anghysondebau hyn hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn y ffaith bod staff yn ymgymryd â rolau tebyg ar delerau gwahanol.
Mae Tîm Canolog ERW yn darparu arweiniad i bob Ymgynghorydd Her i geisio gwella'r cysondeb yn eu dulliau o ran cymorth, her ac ymyrraeth mewn ysgolion. Mae hyn yn cynnwys rhannu strategaethau effeithiol i gefnogi ysoglion sy'n peri pryder a sefydlu disgwyliadau uchel cyson ymhlith Penaethiaid ledled y rhanbarth. Fodd bynnag, mae'r pwysau dyddiol ar Ymgynghorwyr Her sy'n ymgymryd â rolau ychwanegol a gwahanol, dan gyfarwyddyd rheolwyr Awdurdodau Lleol, yn golygu bod effaith ymdrechion canolog i sefydlu cysondeb a chefnogi safonau uchel yn cael eu tanseilio, yn arbennig pan fo gormod o Ymgynghorwyr Her yn methu mynychu digwyddiadau hyfforddi a briffio sy'n cael eu trefnu.
Mae adroddiadau cyfunol yn cael eu darparu'n flynyddol gan arweinwyr Hwb, a hynny er mwyn dwyn ynghyd y themâu allweddol o ymweliadau'r Ymgynghorwyr Her. Mae adolygiad o'r ddogfennaeth hon gan y Tîm Canolog yn amlygu bod angen lefelau uchel o gymorth i sicrhau bod adroddiadau o safon addas i'w cyhoeddi; yn rhy aml, mae'r adroddiadau yn disgrifio data, ac nid ydynt yn llunio dyfarniadau pendant. Nid yw coetsio na hyfforddiant pellach wedi cael yr effaith ofynnol, yn arbennig pan nad yw'r Ymgynghorwyr yn bodloni'r safonau angenrheidiol pan fyddant yn cael eu penodi. Nodwyd amrywiadau ac anghysondeb sylweddol, er enghraifft bod yn rhy hael o ran dyfarniadau (Estyn 2016) a pheidio â dilyn y cyfarwyddyd yn llawlyfr yr Ymgynghorwyr Her. Yn ychwanegol at yr anghysondebau o ran adrodd, mae'r broses Sicrwydd Ansawdd wedi nodi bod trefniadau i sicrhau cymorth cytunedig a Gweithredu gan yr Ysgol yn cael eu darparu, ond nad yw'r camau dilynol yn cael eu gweithredu mewn modd digon manwl gywir.
Mae defnyddio Penaethiaid ar secondiad fel Ymgynghorwyr Her yn gyfle pwysig i sicrhau profiad diweddar a pherthnasol o ysgol. Mae Penaethiaid ac Ymgynghorwyr Her ymgynghorol eraill yn arwain at heriau ychwanegol i reolwyr llinell, ac mae hyn yn gofyn am seilwaith cadarn, trefn ymsefydlu effeithiol, a phrosesau eglur i sicrhau bod yr ysgolion yn cael y cymorth a nodir ar eu cyfer. Mae'r amrywiadau yng ngwaith Ymgynghorwyr Her yn ymddangos hyd yn oed yn fwy pan fydd ymgynghorwyr sydd wedi'u comisiynu'n allanol yn ymgymryd â'r rôl. Mae penaethiaid yn croesawu cefnogaeth eu cyd-weithwyr, ond mae trefniadau rhanbarthol mwy effeithiol yn ofynnol i alluogi a chefnogi'r adnodd talentog (cost uchel) hwn sydd yn yr Ymgynghorwyr Her. Mae angen i gymorth effeithiol gan Ymgynghorwyr Her gael ei ddarparu yn rhan o broses gydgysylltiedig a systematig, y mae ei hansawdd wedi'i sicrhau, fel bod y dyfarniadau am gynnydd ysgolion ledled y rhanbarth yn awdurdodol, yn ddiogel ac yn gyson.
Mae sicrhau bod grantiau Gwella Ysgolion (y Grant Gwella Addysg, y Grant Amddifadedd Disgyblion, Plant sy'n Derbyn Gofal) sydd wedi'u dyrannu i ysgolion yn cael eu dosbarthu yn unol â'r cynlluniau Datblygu Ysgol, yn gyfrifoldeb allweddol i'r Ymgynghorydd Her. Mae LlC, fwy a mwy, yn gosod yr atebolrwydd am wario grantiau ar gonsortia, ond yn rhanbarth ERW mae awdurdodau lleol yn parhau i gyflawni'r swyddogaeth hon. Mae absenoldeb cyswllt effeithiol rhwng goruchwyliaeth yr Ymgynghorwyr Her o ddefnydd ysgolion o'r grantiau allweddol, a'r Tîm Canolog, yn cyfyngu ar allu'r Consortiwm i ddarparu'r atebolrwydd gweithredol ac ariannol allweddol hwn ar gyfer rheoli grantiau.
Mae'r trefniadau hyn hefyd yn cyfrannu at amrywiadau yn y cyllid grant a'r disgwyliadau rhwng ysgolion. Mae'n anochel bod diffyg cysondeb yn y meysydd hyn yn cyfrannu at amrywiaeth ym mherfformiad ysgolion.
Mae'r anghysondebau hyn yn llesteirio gallu ERW i wella ymhellach ac i ddatblygu'r rhanbarth mewn modd cadarn a chydlynol, gan adeiladu ar sylfaen a chynnydd solet diweddar.Mae yna risg o greu difrod i enw da ERW, a fyddai'n tanseilio ei holl bartneriaid. Mae arolwg diweddar y Penaethiaid hefyd yn adlewyrchu dryswch canlyniadol rhai Penaethiaid mewn perthynas â dibenion allweddol y Consortiwm ac atebolrwydd priodol ERW a'r Awdurdodau Lleol. Mae bron traean o'r Penaethiaid yn ERW yn teimlo bod y cyfathrebu yn llai nag effeithiol. Mewn rhanbarthau eraill yng Nghymru, mae'r atebolrwydd yn fwy eglur.
5. Atebolrwydd a Rheolaeth Llinell
Yr Awdurdodau Lleol partner sy'n atebol am gyflogi Ymgynghorwyr Her. Er bod yr Awdurdodau Lleol wedi sefydlu hybiau gweithredol o awdurdodau pâr i reoli daearyddiaeth y rhanbarth, mae'r gwaith o leoli a rheoli perfformiad Ymgynghorwyr Her yn cael ei wneud gan bob Awdurdod Lleol, ac mae dull gweithredu pob un yn wahanol.
Mae sicrhau ansawdd gwaith yr Ymgynghorwyr Her yn gyfrifoldeb i reolwyr llinell eu Hawdurdodau Lleol, y ddau Bennaeth Hwb, a'r Prif Ymgynghorwyr Her. Mae Penaethiaid Hwb yn arwain ac yn lleoli staff yn yr awdurdodau lleol pâr, gyda Phrif Ymgynghorwyr Her yn cael eu penodi gan awdurdodau i ymgymryd â rolau cymhleth neu oruchwyliol ychwanegol. Fodd bynnag, nid oes yna gysondeb ledled y rhanbarth.
Ar hyn o bryd, mae Tîm Canolog ERW wedi cyfyngu ar y gwaith o oruchwylio'r Ymgynghorwyr Her. Mae prosesau sicrhau ansawdd, a gyflawnir gan uwch-reolwr yn ERW, yn canolbwyntio bron yn llwyr ar adroddiadau Ymgynghorwyr Her ar ymweliadau ag ysgolion, ynghyd â chynnydd yn erbyn argymhellion a wneir o ganlyniad i arolygiadau Estyn ac ymweliadau craidd. Er bod i'r broses hon ei chyfyngiadau, mae'n ddigonol i amlygu anghysondebau o ran y gwaith o gefnogi ysgolion, cyflawni blaenoriaethau cenedlaethol, ac ymateb i danberfformiad ysgolion. Mae hyn yn cyd-fynd â'r profiadau yr adroddodd y Penaethiaid amdanynt.
Ar hyn o bryd, mae Ymgynghorwyr Her yn meddwl amdanynt eu hunain yn nhermau eu cyflogwr, sef yr awdurdod lleol. Mae'r cysylltiadau gwan ag ERW, a'r diffyg rheolaeth llinell uniongyrchol o Dîm Canolog ERW yn atal y gwaith o ddatblygu a darparu arfer gwella cyson o ran yr Ymgynghorwyr Her ledled y rhanbarth.
O safbwynt y Consortiwm, mae'r gadwyn wybodaeth, cyfathrebu a rheoli yn rhy hir, a'r dolenni'n rhy wan. O safbwynt y Penaethiaid, mae safon y cymorth yn amrywiol. Dywedodd 60% o'r ymatebwyr o blith y Penaethiaid eu bod wedi cael dewislen cymorth dda a pherthnasol o ganlyniad i ymweliad yr ymgynghorydd â'u hysgol. Mae'r diffyg cysondeb yn y ffocws rhanbarthol yn cael ei amlygu ymhellach pan fydd Ymgynghorwyr Her gwahanol sy'n ymweld â'r un ysgol (o ganlyniad i drosiant neu ddiffyg staff craidd) yn mabwysiadu dulliau gwahanol sy'n seiliedig ar eu harbenigedd eu hunain yn hytrach nag ar anghenion yr ysgol, a phan fo'r adborth yn cael ei
ddadansoddi ar lefel yr ALl.
Mae yna enghreifftiau o waith effeithiol yn cael ei gyflawni gan Ymgynghorwyr Her rhagorol a phrofiadol, ond mae'r perfformiad ledled y rhanbarth yn anghyson. Nid oes fawr ddim amheuaeth bod hwn yn ffactor cyfrannol yn yr amrywiadau cyfredol ym mherfformiad ysgolion. Tra bydd yr Ymgynghorwyr Her yn parhau i fod yn atebol i'r chwe Awdurdod Lleol partner, ac yn cael eu lleoli ganddynt, bydd anghysondeb o ran dulliau, blaenoriaethau ac effaith yn parhau. Mae trefniadau wedi cael eu rhoi ar waith i gefnogi cyd-weithwyr i ddysgu oddi wrth arferion ei gilydd. Mae'r rhain yn cynnwys hyfforddiant ar ddefnyddio arfer gorau a gwaethaf wrth ysgrifennu, a dosbarthiadau meistr ar ysgrifennu mewn modd gwerthusol i ddadansoddi data. Yn ychwanegol at hyn, mae cyfleoedd i gysgodi wedi bod ar gael ledled yr awdurdodau partner. Fodd bynnag, nid yw llawer o Ymgynghorwyr Her wedi manteisio ar y cyfleoedd hyn. Yn yr un modd, mae adborth ar ddyfarniadau Ymgynghorwyr Her yn cael ei ddarparu mewn digwyddiadau cymedroli rhanbarthol ar gyfer categoreiddio. Fodd bynnag, unwaith eto, nid yw'r ymgynghorwyr yn ymateb i'r adborth sy'n cael ei roi yn systematig, ac nid yw'r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio'n gyson i reoli a gwell perfformiad.
6. Bodloni Safonau Cenedlaethol
Mae i'r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Ymgynghorwyr Her bedair agwedd, pob un â'i grŵp penodol o sgiliau sy'n gysylltiedig â'r agwedd honno. Disgwylir i bob Ymgynghorydd Her gydymffurfio â'r safonau.
Bob blwyddyn, bydd yr Ymgynghorwyr Her yn llenwi hunanasesiad dienw yn erbyn y safonau cenedlaethol. Mae hyn yn helpu Tîm Canolog ERW i siapio'r hyfforddiant ac i ddarparu cyfarwyddyd a dysgu proffesiynol pellach.
Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae'r ymgynghorwyr wedi dweud eu bod yn hyderus neu'n llai hyderus am yr agweddau canlynol ar y safonau. Yn 2017, mae'r Ymgynghorwyr Her:
yn fwy hyderus o ran eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u hyder pan fyddant yn cefnogi ac yn herio ysgolion ar hunanwerthuso.
yn gallu adeiladau perthnasoedd yn effeithiol ac annog arweinwyr mewn ysgolion, ac maent yn hyderus wrth wneud hynny
yn llai hyderus wrth gymryd rhan mewn sgyrsiau anodd, er bod y sgiliau a'r hyder wedi gwella ychydig dros dair blynedd.
yn llai hyderus wrth ysgrifennu adroddiadau eglur a chryno, er bod y sgiliau a'r hyder wedi gwella dros dair blynedd.
yn dod yn fwy hyderus yn eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u hyder wrth drefnu cymorth ac ymyrraeth; fodd bynnag, mae cynnydd yn y maes hwn wedi bod yn arafach na chefnogi gwaith hunanwerthuso a datblygu arweinyddiaeth ysgolion.
yn fwy hyderus wrth nodi adnoddau a mesur effaith y cymorth a ddarperir.
yn llai hyderus wrth drefnu cymorth a hwyluso cymorth ysgol i ysgol.
yn eithaf cyfforddus wrth goetsio a chefnogi lefelau arweinyddiaeth gwahanol yn yr ysgolion.
lyn llai hyderus wrth ddatblygu lefelau o atebolrwydd ar y cyd a herio arweinyddiaeth. Mae'r Ymgynghorwyr Her yn llai hyderus pan fyddant yn gweithio gydag ymarferwyr arweiniol mewn ysgolion i hwyluso taith o welliant mewn ysgolion eraill.1
Felly, mae hunanwerthusiad o'r gwaith craidd sy'n cael ei wneud ledled y rhanbarth yn amlygu nad yw elfennau o'r sgiliau a'r wybodaeth, sy'n ofynnol er mwyn mynd i'r afael ag agweddau allweddol ar gymorth a her i ysgolion, yn gwella ar gyflymder digonol, ac mae perfformiad yr Ymgynghorwyr Her yn parhau i fod yn rhy amrywiol.
Eleni, (2017), roedd gwerthusiadau o'n gwaith ledled y rhanbarth wedi amlygu nad oedd cynnydd o ran mynd i'r afael ag agweddau allweddol ar gymorth a her i ysgolion yn gwella ar gyflymder digonol, a bod perfformiad Ymgynghorwyr Her yn rhy amrywiol. Yn dilyn hyn, daeth yr arolwg hunanwerthuso yn un personol fel ei fod yn dod yn erfyn mwy perthnasol a defnyddiol i fesur hunanasesiad yn erbyn perfformiad gwirioneddol. Mae angen datblygu 30% o'r ymgynghorwyr yn y meysydd craidd hyn.
Mae i'r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Ymgynghorwyr Her bedair agwedd, pob un â grŵp penodol o sgiliau sy'n gysylltiedig â'r agwedd honno. Disgwylir i bob Ymgynghorydd Her gydymffurfio â'r safonau.
7. Staff Gwella Ysgolion Eraill
Yn ogystal â'r Ymgynghorwyr Her a'u chwe strwythur rheoli yn yr Awdurdodau Lleol, mae yna amrywiaeth o staff sy'n gweithio i Wella Ysgolion. Mae Awdurdodau Lleol hefyd yn cyflogi ymgynghorwyr pwnc arbenigol ar gyfer cyfnodau gwahanol, yn ogystal ag Athrawon Bro, arbenigwyr y Blynyddoedd Cynnar, Plant sy'n Derbyn Gofal, cymorth i Leiafrifoedd Ethnig, TGCh, Arweinwyr Digidol, Swyddogion Lles, Cymorth i Lywodraethwyr, a staff Rheoli Data.
1 Adroddiad cyfunol ar hunanwerthusiad yr Ymgynghorwyr Her yn erbyn Safonau Cenedlaethol 2014-16.
Mae arbenigwyr pwnc yn gweithio ledled y rhanbarth i gefnogi meysydd penodol sydd i'w gwella. Mae teitlau swyddi, swydd-ddisgrifiadau, rolau a chyflogau yn amrywio ledled yr Awdurdodau Lleol. Mae effaith eu gwaith, ynghyd â'i ansawdd, hefyd yn amrywiol. Mae hyn yn cael ei nodi trwy'r cofnod cymorth ar fewnrwyd ERW, sy'n amlygu anghysondebau, diffyg rhannu arfer da, a dyblygu posibl.
Mae cynrychiolwyr pwnc arbenigol o bob Awdurdod Lleol yn mynychu gweithgorau ERW ac yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r ddewislen cymorth. Yn ychwanegol at hyn, mae arbenigwyr pwnc ledled y rhanbarth yn cydweithio i ddatblygu pecynnau cymorth ar gyfer ysgolion, er mwyn gwella cysondeb y
neges. Fodd bynnag, nid yw Tîm Canolog ERW yn gallu monitro, targedu na chyfarwyddo gwaith arbenigwyr pwnc unigol. O ganlyniad, mae safon y cymorth sy'n cael ei ddarparu i ysgolion yn amrywio ledled y rhanbarth. Mae hyn yn fater o bwys ar gyfer ysgolion sy'n achosi pryder.
Mae safon y gwaith ysgrifennu adroddiadau a'r broses o lenwi'r cofnod cymorth yn rhy amrywiol ar gyfer ysgolion sy'n peri pryder, gan ei gwneud yn anodd i Dîm Canolog ERW fonitro'r gweithgarwch cymorth mewn ysgolion. Yn ychwanegol at hyn, mae nifer sylweddol o arbenigwyr pwnc yn datblygu adnoddau yn annibynnol ar ERW, ac nid ydynt yn rhannu'r adnoddau hyn mewn modd amserol â chyd-weithwyr ym mhob ALl. Mae hyn yn arwain at ragor o ddyblygu ac anghysondeb. Yn rhy aml, nid yw'r gwaith hwn yn ddiweddar nac yn berthnasol, ac nid yw'n rhoi ystyriaeth i'r sefyllfa na'r cyfarwyddyd cenedlaethol diweddaraf.
Lle bo arbenigwyr pwnc hynod alluog a dylanwadol yn cael eu nodi, mae'r strwythurau cyfredol yn cyfyngu ar eu cyfleoedd i gael effaith, ac mae'r posibiliadau ar gyfer gwelliant rhanbarthol yn cael eu llesteirio. Mae'r adborth o sesiynau cymorth sy'n cael eu darparu gan arbenigwyr pwnc yn parhau i amrywio gormod, er gwaethaf datblygiad pecynnau cyffredin. Yn ychwanegol at hyn, mae yna enghreifftiau o swyddogion Awdurdodau Lleol yn cynnig cyngor i ysgolion sy'n gwrthdaro yn erbyn y negeseuon sy'n cael eu trosglwyddo gan Arweinwyr Dysgu ERW. Mae hwn yn achos rhwystredigaeth mawr ymysg Penaethiaid, ac yn cael effaith andwyol ar hygrededd pawb dan sylw.
Mae'r anghysondebau hyn o ran arferion, cyfleoedd coll ar gyfer cydweithio, a meysydd o ddyblygu posibl hefyd yn debygol o fod yn berthnasol, i ryw raddau, i'r gwaith o reoli a lleoli'r grwpiau eraill o staff Gwella Ysgolion a nodwyd. Mae ymgymryd ag asesiad ffurfiol o'r buddiannau posibl sy'n deillio o ddod â'r staff hyn o dan un strwythur rheoli y tu hwnt i gwmpas yr adroddiad hwn. Fodd bynnag, wrth i'r trefniadau ar gyfer aildrefnu'r trefniadau ar gyfer Ymgynghorwyr Her fynd yn eu blaenau, dylai'r prosesau ar gyfer ailddiffinio'r rôl ranbarthol o ran Gwella Ysgolion gynnwys y posibilrwydd i grwpiau eraill drosglwyddo i fod dan reolaeth uniongyrchol y Consortiwm.
Mae'n rhaid i unrhyw drefniadau trosglwyddo hefyd gymryd i ystyriaeth y gofynion ieithyddol a'r disgwyliadau diwylliannol, ynghyd â chyfleoedd a chyfyngiadau daearyddol y rhanbarth. Er nad yw'n ymddangos bod strwythurau cyfredol yr Hwb yn cyflawni'r gwelliannau rhanbarthol gofynnol, mae'n debygol y bydd rhyw ffurf ar strwythurau cyflawni is-ranbarthol, ac iddi atebolrwydd eglur i'r Tîm Canolog, yn ofynnol i gydbwyso'r angen am well deilliannau a chysondeb rhanbarthol â threfniadau ymarferol sy'n lleihau amserau teithio y grwpiau gwerthfawr hyn o staff, ynghyd â'r amserau pan nad ydynt yn yr ysgol.
8. Casgliadau
Ers iddo gael ei sefydlu, mae ERW wedi gwneud yn dda iawn o ran llywio gwelliant ym mherfformiad ysgolion. Mae hyn i'w ddathlu. Fodd bynnag, mae yna anghysondebau ac angen i adolygu swyddogaeth, cyllid a strwythur ERW er mwyn bodloni anghenion y dyfodol a disgwyliadau LlC.
Pan gafodd y rhanbarth ei sefydlu, cytunwyd ar drefniadau i gyflogi a lleoli Ymgynghorwyr Her, a hynny ar sail rhesymeg eglur i warchod perthnasoedd rhwng Ymgynghorwyr Her ac ysgolion, ac i sicrhau nad oedd cysylltiadau Awdurdodau Lleol ag ysgolion yn cael eu tanseilio. Mae'r trefniant hwnnw wedi arwain at rai llwyddiannau, ond nid yw bellach yn addas i'r diben.
Er mai cwmpas yr adroddiad hwn oedd nodi gallu a safon yr Ymgynghorwyr Her cyfredol, mae'n eglur nad yw'r cynllun sefydliadol presennol yn sicrhau gwaith cyson ac effeithiol o ran recriwtio, lleoli a rheoli perfformiad. Mae amrywiadau yn cael effaith andwyol ar berfformiad, hygrededd a hyder y Penaethiaid.
Efallai y bydd rhai camau i fynd i'r afael â'r diffygion a nodwyd yn yr adroddiad hwn yn bosibl o fewn y trefniadau sefydliadol presennol. Fodd bynnag, dim ond trwy waith ad-drefnu, sy'n gwneud y Consortiwm yn atebol am gyflogi a lleoli Ymgynghorwyr Her, y gellir cyflawni, mewn modd effeithiol, raddfa'r newidiadau sy'n ofynnol ledled y chwe awdurdod partner. Dylai'r Awdurdodau Lleol ddod yn gomisiynwyr yn hytrach nag yn ddarparwyr gwasanaethau craidd ar gyfer gwella ysgolion.
Wrth ymgymryd ag adolygiad o'r trefniadau ar gyfer y swyddi Ymgynghorwyr Her allweddol hyn, mae'n anochel y bydd angen mynd i'r afael â'r effaith ar staff Gwella Ysgolion a rolau Awdurdod Lleol gweddilliol eraill. Dylai'r adolygiad hefyd gynnal archwiliad manwl o'r defnydd cyfredol o gyllid grant i gefnogi swyddi Gwella Ysgolion ledled y rhanbarth. Mae'r trefniadau cyfredol yn orddibynnol ar gyllid grant ac nid ydynt yn wydn.
Mae'r gredyd i'r rheolwyr, y staff a'r Penaethiaid cyfredol fod enghreifftiau yn parhau o gynnydd da disgyblion, er gwaethaf y cymhlethdodau sefydliadol cyfredol a'r strwythurau atebolrwydd gwasgarog.
Dylai'r newidiadau sy'n ofynnol i'r prosesau rheoli adeiladu ar gryfderau presennol a chael eu datblygu mewn ymgynghoriad â phartneriaid allweddol, sefydliadau addysgu a chynrychiolwyr staff.
Bydd cwmpas a ffurf y newid yn gofyn am ystyriaeth ofalus gan bob rhanddeiliad. Mae datblygu opsiynau allweddol bellach yn angenrheidiol trwy'r camau datblygu nesaf, ochr yn ochr â phenderfyniadau ar gyllid.
9. Argymhellion
Mae'r Cyd-bwyllgor yn cytuno i:
➢ Gyfarwyddo'r Prif Weithredwr Arweiniol, Swyddog Adran 151 a'r Rheolwr Gyfarwyddwr i sefydlu Tîm Rhaglen sydd â strwythurau llywodraethu addas a mynediad i wybodaeth ariannol ac adnoddau dynol briodol, a hynny er mwyn rheoli'r prosiect o eglurbeto, sefydlu a siapio'r trefniadau atebolrwydd ar gyfer cyflogi a lleoli staff Gwella Ysgolion, gan gynnwys Ymgynghorwyr Her, fel y gall y Consortiwm ddarparu un gwasanaeth Gwella Ysgolion effeithiol, a chydymffurfio'n llwyr â gofynion LlC.
➢ Cyfarwyddo'r Prif Weithredwr Arweiniol, Swyddog Adran 151, y Rheolwr Gyfarwyddwr a Thîm y Rhaglen i baratoi cynllun prosiect sy'n dwyn ynghyd y gwaith o ddatblygu'r rhanbarth gyda'r holl grantiau erbyn mis Ebrill 2018, yn ogystal ag adnoddau eraill, gan gynnwys staff o fis Medi 2018 ymlaen. Dylai trefniant a chynllun Tîm y Rhaglen gynnwys y canlynol:
Rhoi cynlluniau eglur ar waith i sicrhau a chynnal gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol â Chyfarwyddwyr a Phenaethiaid ledled y sefydliad, a sicrhau bod y Cynllun Busnes yn cael ei roi ar waith mewn modd cyson.
Egluro rolau ac atebolrwydd perthnasol yr ALlau a'r rhanbarth mewn perthynas â phob swyddogaeth a gwasanaeth Gwella Ysgolion, gan gytuno arnynt a'u dogfennu.
Datblygu a chostio model cyflawni sefydliadol i fodloni blaenoriaethau dynodedig, a hynny gyda chymorth cynllun gweithredu cynhwysfawr, sydd wedi'i gostio.
Cynnal tîm cyfredol Uwch-reolwyr Canolog ERW, a hynny mewn modd priodol, a datblygu gallu strategol a gweithredol.
➢ Cyfarwyddo'r Rheolwr Gyfarwyddwr i sicrhau yr ymgymerir â'r argymhellion uchod ochr yn ochr â chanfyddiadau'r adroddiad, Adolygiad o'r Trefniadau Ariannol.
Bwriadwyd i'r dudalen hon fod yn wag
Tudalen 157
Eitem 9 ar yr Agenda
CYD-BWYLLGOR ERW21 MEDI 2017
Canlyniadau TGAU
Diben: Rhoi diweddariad ar newidiadau i fesurau perfformiad, a gwybodaeth am berfformiad disgyblion yn ERW, yn ogystal â ledled Cymru.
ARGYMHELLION/PENDERFYNIADAU ALLWEDDOL GOFYNNOL:Er gwybodaeth yn unig
RHESYMAU:
Awdur yr Adroddiad: Alan Edwards Yan James
Swydd:Pennaeth Addysgu a DysguPennaeth ArweinyddiaethRhif Ffôn: E-bost:[email protected]@erw.org.uk
CRYNODEB GWEITHREDOL
CYD-BWYLLGOR ERW21 MEDI 2017
Canlyniadau TGAU
CRYNODEB BYR O DDIBEN YR ADRODDIADMae'r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o ddeilliannau cenedlaethol ar lefel TGAU.
Mae hefyd yn darparu'r brif wybodaeth allweddol o ran newidiadau i gymwysterau a mesurau perfformiad.
Y prif ffigurau cenedlaethol.
O gymharu â chanlyniadau haf 2016 ar gyfer pob ymgeisydd:
mae'r gyfran a gyflawnodd A* yn ddigyfnewid, sef 6.1% mae'r gyfran a gyflawnodd A* ac A wedi gostwng 1.5 pwynt canran i 17.9% mae'r gyfran a gyflawnodd A*-C wedi gostwng 3.8 pwynt canran i 62.8% mae'r gyfran a gyflawnodd A*-G wedi gostwng 1.8 pwynt canran i 96.9%
Perfformiad yn ERW
Mae perfformiad yn ERW wedi dirywio o ran pob un o'r dangosyddion allweddol. Mae perfformiad o ran trothwy Lefel 2 Gynhwysol wedi gostwng wyth pwynt canran, ac yn is na'r perfformiad yn 2014.
GOBLYGIADAU
Polisi, Trosedd ac Anhrefn a ChydraddoldebauDIM
Cyfreithiol
DIM
Cyllid
DIM
Materion Rheoli Risgiau
OES
Goblygiadau Staffio
DIM
1. Rheoli RisgiauBydd angen ystyried effaith y perfformiad hwn ym mhob Awdurdod Lleol ac ysgol. Ar hyn o bryd, mae tîm canolog ERW yn dadansoddi data ar lefel ysgolion, yn ogystal ag ar lefel disgyblion, er mwyn nodi a thargedu cymorth ar gyfer y tymor hwn.
AmherthnasolYMGYNGORIADAU
Adran 100D o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Mynediad at WybodaethRhestr o Bapurau Cefndir a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r adroddiad hwn: MAE'R RHAIN WEDI'U RHESTRU ISODTeitl y Ddogfen Cyfeirnod y
FfeilLleoliadau lle mae'r papurau ar gael i'r cyhoedd eu gweld
Data perfformiad
Adroddiad y Cyd-bwyllgor
Awst 2017
Canlyniadau
TGAU
Cyflwyniad
Nod yr adroddiad hwn yw amlygu'r prif newidiadau sydd wedi effeithio ar ganlyniadau TGAU eleni. Bydd yr adroddiad hefyd yn nodi ffigurau a data pwnc ar lefel genedlaethol ar gyfer Cymru. Mae'r adroddiad hwn er gwybodaeth yn unig.
Crynodeb o Ganlyniadau TGAU 2017 ar gyfer Cymru Gyfan
Dylid ystyried nifer o newidiadau i fesurau perfformiad a chymwysterau yng Nghymru wrth ddehongli'r prif ffigurau. Dyma'r newidiadau:
cyflwynwyd cymwysterau newydd ar gyfer Cymraeg a Saesneg Iaith a Llenyddiaeth
cyflwynwyd cymwysterau newydd ar gyfer Mathemateg a Mathemateg a Rhifedd – mae hyn yn golygu bod disgyblion bellach yn astudio ar gyfer dau gymhwyster Mathemateg (ac yn sefyll dau arholiad); a
bu cynnydd yn nifer y disgyblion a gofrestrwyd yn gynnar ar gyfer y cymwysterau hyn. Bydd hyn wedi effeithio ar ffiniau graddau a chanlyniadau.
Y Prif Ffigurau
O gymharu â chanlyniadau haf 2016 ar gyfer pob ymgeisydd:
mae'r gyfran a gyflawnodd A* yn ddigyfnewid, sef 6.1%
mae'r gyfran a gyflawnodd A* ac A wedi gostwng 1.5 pwynt canran i 17.9%
mae'r gyfran a gyflawnodd A*-C wedi gostwng 3.8 pwynt canran i 62.8%
mae'r gyfran a gyflawnodd A*-G wedi gostwng 1.8 pwynt canran i 96.9%
Ffactor pwysig sydd wedi cyfrannu at y gostyngiad hwn yw'r newid sylweddol o ran patrymau cofrestru, yn arbennig, cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion Blwyddyn 10 a gofrestrwyd, a’r ffaith bod nifer sylweddol o ddisgyblion Blwyddyn 11 wedi cyflawni eu cymwysterau Mathemateg ym mis Tachwedd.
Mae'r duedd gynyddol o ran cofrestru disgyblion yn gynnar yn golygu bod mwy o ddisgyblion wedi sefyll arholiadau yn gynnar, wedi 'bancio' canlyniad a heb ddychwelyd i sefyll yr arholiad eto yr haf hwn – bydd llawer ohonynt yn ddisgyblion sydd wedi cyflawni Gradd C neu uwch a fyddai fel arall yn ymddangos yng nghanlyniadau'r haf hwn. O ganlyniad, ni ellir dod i gasgliadau dibynadwy ar sail y cymariaethau uniongyrchol rhwng canlyniadau haf 2017 a haf 2016, nac ychwaith wneud cymariaethau uniongyrchol rhwng canlyniadau'r haf ledled y DU.
TGAU Mathemateg
Oherwydd yr amrywiaeth o batrymau cofrestru, ni ellir dod i gasgliadau dibynadwy ar sail y cymariaethau uniongyrchol rhwng canlyniadau haf 2017 a haf 2016. O ystyried maint y newid rhwng yr hen TGAU Mathemateg a'r ddau gymhwyster TGAU Mathemateg newydd, ynghyd â'r ceisiadau niferus i gofrestru disgyblion yn gynnar, nid oes modd gwneud cymariaethau manwl rhwng canlyniadau blynyddoedd blaenorol a chanlyniadau eleni.
Yn y tabl isod, mae'r deilliannau gorau ar gyfer disgyblion 16 oed yn y flwyddyn academaidd hon o gymharu â blynyddoedd academaidd 2015/2016 a 2014/2015 wedi'u dangos, gan mai'r deilliannau hyn sy'n darparu'r cymharydd mwyaf cyson:
% gronnus 2014/2015 % gronnus 2015/2016
% gronnus 2016/2017
Y gwahaniaeth rhwng 2016 a 2017
A* 6.8 7.5 10.8 +3.3A*-A 16.0 17.4 20.2 +2.8A*-C 63.7 65.5 63.8 - 1.7A*-G 97.9 98.7 98.0 - 0.7
TGAU Saesneg Iaith
Rhwng 2016 a 2017 bu cynnydd sylweddol o 67% yn nifer cyffredinol y disgyblion a gofrestrwyd ar gyfer TGAU Saesneg Iaith. Mae'r cynnydd sylweddol hwn i'w briodoli i nifer y disgyblion Blwyddyn 10 a gofrestrwyd yr haf hwn.
Eleni, dim ond yng nghyfres yr haf y gallai disgyblion sefyll y cymhwyster newydd, felly mae angen bod yn ofalus wrth gymharu data ar gyfer yr haf hwn â data ar gyfer blynyddoedd blaenorol.
O ystyried y newid sylweddol o ran patrymau cofrestru ar gyfer y cymhwyster hwn, ni ellir dod i gasgliadau dibynadwy ar sail y cymariaethau rhwng canlyniadau'r holl ddisgyblion ar gyfer haf 2017 a haf 2016. Felly, rydym wedi defnyddio deilliannau disgyblion 16 oed fel yr unig gymharydd cyson.
Mae'r deilliannau ar gyfer disgyblion 16 oed eleni, o gymharu â blynyddoedd academaidd 2014/2015 a 2015/2016, i'w gweld yn y tabl isod:
% gronnus 2014/2015
% gronnus2015/2016
% gronnus 2016/2017
Y gwahaniaeth rhwng 2016 a 2017
A* 3.1 2.8 3.2 +0.4A*-A 13.8 13.6 14.0 +0.4A*-C 64.5 64.2 64.5 +0.3A*-G 99.2 99.2 98.6 - 0.6
Mae'n amlwg, yn genedlaethol ac yn rhanbarthol, fod llawer o ddisgyblion Blwyddyn 10 wedi perfformio'n dda o ran y dangosydd Lefel 2. Mewn nifer o achosion, maent yn rhagori ar ddisgyblion yn y Flwyddyn 11 gyfredol. Mae yna nifer o resymau tebygol dros hyn.
Roedd yr ysgol wedi addasu ei Chynllun gwaith ar gyfer Cyfnod Allweddol 3, felly bydd disgyblion Blwyddyn 10 wedi cael blwyddyn ychwanegol o addysgu sgiliau â ffocws.
Roedd yr oedi o ran rhyddhau'r fanyleb wedi golygu nad oedd ysgolion wedi paratoi’n ddigonol i addysgu disgyblion yn y Flwyddyn 11 gyfredol yn effeithiol.
Bydd athrawon wedi gwella a datblygu eu harddull addysgu a bydd disgyblion Blwyddyn 10 wedi cael mwy o amser i elwa ar hyn.
Mae disgyblion Blwyddyn 10 wedi cael dwy flynedd ychwanegol o brofion llythrennedd cenedlaethol a'r FFLlRh.
TGAU Llenyddiaeth Saesneg
Mae'r deilliannau ar gyfer disgyblion 16 oed sydd wedi cyflawni TGAU Saesneg Llenyddiaeth (gan sefyll yr arholiad naill ai ym Mlwyddyn 10 neu Flwyddyn 11), i'w gweld yn y tabl isod:
% gronnus 2015/2016 % gronnus 2016/2017 Y gwahaniaeth rhwng 2016 a 2017
A* 4.3 4.1 - 0.2A*-A 19.8 19.9 +0.1A*-C 77.5 77.1 -0.4A*-G 99.3 99.3 =
TGAU Cymraeg Iaith
O ran TGAU Cymraeg Iaith, mae nifer cyffredinol y disgyblion a gofrestrwyd ar gyfer TGAU Cymraeg Iaith wedi cynyddu, a hynny oherwydd cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblionBlwyddyn 10 a gofrestrwyd. O ystyried y newid sylweddol o ran patrymau cofrestru ar gyfer y cymhwyster hwn, ni ellir dod i gasgliadau dibynadwy ar sail y gymhariaeth rhwng canlyniadau'r holl ddisgyblion yn haf 2017 a haf 2016.
Mae'r deilliannau ar gyfer disgyblion 16 oed eleni o gymharu â blwyddyn academaidd 2015/2016 i'w gweld yn y tabl isod:
% gronnus 2015/2016 % gronnus 2016/2017 Y gwahaniaeth rhwng 2016 a 2017
A* 3.9 4.0 +0.1A*-A 15.4 15.6 +0.2A*-C 73.9 73.6 -0.3A*-G 99.8 99.6 -0.2
TGAU Llenyddiaeth Gymraeg
Mae'r deilliannau ar gyfer disgyblion 16 oed eleni o gymharu â 2015/2016 i'w gweld yn y tabl isod:
% gronnus 2015/2016 % gronnus 2016/2017 Y gwahaniaeth rhwng 2016 a 2017
A* 8.2 9.0 +0.8A*-A 23.4 24.2 +0.8A*-C 74.5 75.1 -0.6
A*-G 99.9 99.9 =
TGAU Gwyddoniaeth
Bydd y cymwysterau TGAU Gwyddoniaeth newydd yn cael eu dyfarnu am y tro cyntaf y flwyddyn nesaf, ac maent ar hyn o bryd yn cael eu hastudio gan ddisgyblion Blwyddyn 10. Felly, mae hyn yn golygu y bu gostyngiad sylweddol o 78% yn nifer y disgyblion a gofrestrwyd eleni ar gyfer yr hen TGAU Gwyddoniaeth, a safwyd, yn hanesyddol, gan ddisgyblion Blwyddyn 10. Mae'r newid sylweddol hwn yn nifer y disgyblion a gofrestrwyd yn golygu na ellir gwneud cymariaethau wrth ddehongli'r canlyniadau o flwyddyn i flwyddyn. Yn sgil newid mawr o'r fath, mae'r canlyniadau hefyd yn wahanol iawn, gyda 34.8% o'r ymgeiswyr yn ennill graddau A*-C.
Ar gyfer Gwyddoniaeth Ychwanegol, gwelwyd cynnydd o 26.2% yn nifer y disgyblion a gofrestrwyd, ynghyd â gostyngiad o 1.6 a 6.0 phwynt canran ar gyfer graddau A*-A ac A*-C, yn y drefn honno (o 69.9% i 63.9%, ar gyfer yr olaf o'r rhain).
Ar gyfer Bioleg, mae'r canlyniadau A* ac A*-A yn debyg i 2016, gyda gostyngiad o 2.3 pwynt canran yn nifer y graddau A*-C. Ar gyfer Cemeg a Ffiseg, gwelwyd gostyngiad o 1.3 a 0.8 pwynt canran, yn y drefn honno, yn nifer y graddau A*-C, yn ogystal â gostyngiad yn nifer y graddau A* ac A*-A ar gyfer Ffiseg.
Cymraeg Ail Iaith
Mae'r canlyniadau wedi aros yn sefydlog ar gyfer y cwrs llawn o ran graddau A*-C, ond maent wedi gwella 1.7 a 1.8 pwynt canran, yn y drefn honno, o ran graddau A* ac A*-A. Eleni, gwelwyd gostyngiad o 2,000 yn nifer y disgyblion a gofrestrwyd ar gyfer y cwrs byr (sef 12,450 erbyn hyn), ond cynnydd o 500 yn nifer yr ymgeiswyr 15 oed. Ar gyfer y 5,100 hyn o ymgeiswyr iau, mae'r deilliannau ychydig yn well (gyda 17.1% yn ennill graddau A*-A a 61.9% yn ennill graddau A*-C) na'r rheiny ar gyfer yr holl ymgeiswyr yn gyffredinol.
Ieithoedd Tramor Modern
Mae'r canlyniadau wedi gwella'n sylweddol ar gyfer Almaeneg, a hynny o 5.1, 11.9 ac 8.3 pwynt canran ar gyfer graddau A*, A*-A ac A*-C, yn y drefn honno, gan wrthdroi'r canlyniadau gwannach a welwyd o ran y graddau uwch y llynedd. Mae'r canlyniadau ar gyfer Sbaeneg yn debyg iawn i ganlyniadau'r flwyddyn flaenorol, gyda mân welliannau o ran nifer y graddau A*, A*-B ac A*-C, ond mae'r canlyniadau ar gyfer Ffrangeg yn sylweddol is o ran y graddau uchaf (e.e. 2.5 a 3.7 pwynt canran, yn y drefn honno o ran graddau A*-A ac A*-B).
Fodd bynnag, ym mhob un o'r pynciau hyn, mae ymhell dros 70% o'r ymgeiswyr yn parhau i ennill graddau A*-C.
24/8/17
Bwriadwyd i'r dudalen hon fod yn wag
Perfformiad Cyfnod Allweddol 4 yn ERW
(Data dros dro)
Mae perfformiad yn ERW wedi dirywio o ran yr holl Ddangosyddion Allweddol. Isod ceir crynodeb o berfformiad y disgyblion o ran y dangosyddion allweddol. Mae'r crynodeb hwn yn seiliedig ar ddata dros dro a heb eu gwirio.
L2+ 2015
(%)
2016
(%)
2017
(%)
Y gwahaniaeth rhwng
2016 a 2017
(%)Powys 64 65 61 -4
Ceredigion 63 70 62 -8
Sir Benfro 54 59 55 -4
Sir Gaerfyrddin 61 65 56 -9
Abertawe 64 65 57 -8
Castell-nedd Port Talbot 58 61 50 -11
ERW 61 64 56 -8
Y ffigur ar gyfer Lefel 2 gynhwysol (pum cymhwyster Lefel 2, yn cynnwys Cymraeg/Saesneg a Mathemateg)
Mae perfformiad o ran y ffigur ar gyfer Lefel 2 gynhwysol wedi bod yn fwy amrywiol ledled ysgolion ERW yn 2017. Mae llawer o'r ysgolion wedi gweld dirywiad o ran y dangosydd allweddol hwn, a dim ond yn 11 o'r ysgolion y gwelwyd gwelliant ym mherfformiad disgyblion er 2016. Hefyd, ym mhob un o'r chwe Awdurdod Lleol gwelwyd gostyngiad yng nghyfran y disgyblion sy'n cyflawni'r mesur hwn.
Mae perfformiad yn ERW yn parhau i fod yr uchaf o blith y pedwar consortiwm. Fodd bynnag, mae'r gostyngiad o 8 pwynt canran yn destun pryder. At hynny, mae perfformiad yn ERW o ran y dangosydd hwn yn is na'r perfformiad yn 2014.
Cymraeg
2017 yw'r flwyddyn gyntaf lle nad yw cyrhaeddiad disgyblion mewn Llenyddiaeth
Gymraeg wedi'i gynnwys yn y dangosydd perfformiad ar gyfer Cymraeg. Fodd bynnag, wrth ddadgyfuno Llenyddiaeth Gymraeg, nid yw'n cael fawr ddim effaith ar y canlyniadau.
Cymraeg 2015
(%)
2016
(%)
2017
(%)
Y gwahaniaeth rhwng 2016 a
2017 (%)
Powys 74.3 65.2 69.7 +4.5
Ceredigion 74.8 73.5 78.8 +5.3
Sir Benfro 78.4 88.7 81.3 -7.4
Sir Gaerfyrddin 74.4 72.8 71.7 -1.1
Abertawe 83.9 82.7 85.2 +2.5
Castell-nedd Port Talbot
71.7 68.5 72.1 +3.6
ERW 75.8 75.0 75.9 +0.9
Mae perfformiad o ran Cymraeg Iaith wedi gwella'n briodol mewn pedwar o'r chwe Awdurdod Lleol. Mae perfformiad yn ERW wedi gwella 0.9 pwynt canran. Fodd bynnag, mae deilliannau'r disgyblion wedi gostwng mewn dau o'r chwe Awdurdod Lleol.
Saesneg
2017 yw'r flwyddyn gyntaf lle nad yw cyrhaeddiad disgyblion mewn Llenyddiaeth Saesneg wedi'i gynnwys yn y dangosydd perfformiad ar gyfer Saesneg.
Saesneg 2016 2017 Y gwahaniaeth rhwng 2016 a 2017
Prif frwd yn unig Yn cynnwys Llen
Heb gynnwys Llen
Iaithyn
unig
Yn cynnwys Llen 2016
Heb gynnwys Llen 2016
Powys 75 70 73 -2 +3
Ceredigion 77 74 69 -8 -5
Sir Benfro 70 60 65 -5 +5
Sir Gaerfyrddin 74 70 63 -11 -7
Abertawe 70 65 66 -4 +1
Castell-nedd Port Talbot 69 65 61 -8 -4
ERW 72 67 66 -6 -1
Mae perfformiad o ran Saesneg yn amrywio ledled ERW. Wrth gymharu ffigurau 2016 â ffigurau 2017 ar gyfer y mesur Saesneg, gwelir bod perfformiad wedi dirywio ym mhob un o'r chwe Awdurdod Lleol. Fodd bynnag, wrth eithrio Llenyddiaeth Saesneg o ffigurau 2016, gwelir bod perfformiad yn hanner yr Awdurdodau Lleol yn ERW wedi gwella, a pherfformiad yn hanner yr awdurdodau hynny wedi dirywio.
Mae perfformiad yn ERW wedi dirywio o 2016 ymlaen.
Mathemateg
Yn 2017, astudiodd y disgyblion ddau gymhwyster TGAU mewn mathemateg. Mae’r tabl yn amlinellu perfformiad o ran Mathemateg, Mathemateg a Rhifedd, a'r gorau o blith y ddau gymhwyster. Oherwydd y newidiadau sylweddol i'r cymhwyster Mathemateg a Rhifedd, dim ond rhwng Mathemateg a'r gorau o blith y ddau gymhwyster y gwneir cymhariaeth yn 2017.
Mathemateg 2016
(%)
2017
(%)
Y gwahaniaeth rhwng 2016 a 2017
(%)Mathemateg
Rhifedd Y gorau o blith y
Mathemateg Y gorau o blith y
Powys 72 63 63 68 -9 -4
Ceredigion 75 64 63 69 -11 -6
Sir Benfro 65 59 53 62 -6 -3
Sir Gaerfyrddin 71 55 51 58 -16 -13
Abertawe 72 61 58 64 -11 -8
Castell-nedd Port Talbot 67 56 52 59 -11 -8
ERW 70 59 56 63 -11 -7
Mae perfformiad o ran Mathemateg wedi dirywio yn sylweddol yn 2017. Wrth ystyried Mathemateg yn unig, a'r gorau o blith y ddau gymhwyster mathemateg, mae perfformiad wedi dirywio ym mhob un o'r chwe Awdurdod Lleol.
Mae perfformiad disgyblion o ran Mathemateg ledled ERW wedi dirywio o 2016 ymlaen.
Trothwy Lefel 2
2015
(%)
2016
(%)
2017
(%)
Y gwahaniaeth rhwng
2016 a 2017
Powys 88.7 86.6 74.0 -9.6
Ceredigion 89.9 91.4 80.7 -10.7
Sir Benfro 83.0 84.5 65.9 -18.6
Sir Gaerfyrddin 87.0 89.2 73.3 -15.9
Abertawe 88.9 86.9 67.7 -19.2
Castell-nedd Port Talbot
92.0 89.0 63.7 -25.3
ERW 88.2 87.7 69.9 -17.8
Mae perfformiad o ran trothwy Lefel 2 wedi dirywio ym mhob un o'r Awdurdodau Lleol yn 2017. Dyma'r flwyddyn gyntaf i'r rheol 40% ar gyfer pynciau galwedigaethol gael ei chymhwyso. Mae perfformiad o ran y dangosydd hwn wedi dirywio'n sylweddol yn ERW.
Trothwy Lefel 1
L1 2015(%)
2016(%)
2017(%)
Y gwahaniaeth rhwng
2016 a 2017
(%)Powys 97 96 97 -1
Ceredigion 97 96 96 0
Sir Benfro 95 96 94 -2
Sir Gaerfyrddin 96 97 97 0
Abertawe 97 97 95 -2
Castell-nedd Port Talbot
96 95 92 -3
ERW 96 96 95 -1
Mae perfformiad yn ERW o ran trothwy Lefel 1 wedi gostwng un pwynt canran er 2015. Mae perfformiad o ran y dangosydd hwn wedi aros yn gyson ledled ERW.