Upload
others
View
1
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
CYLCHLYTHYR
YSGOL GLANTWYMYN
NEWSLETTER
Tymor yr Hydref 2017
Autumn Term 2017
Croeso / Welcome
Croeso cynnes i Miss Manon Evans a Mrs Nia Bleddyn
Jones atom fel athrawon Cyfnod Allweddol 2 yn yr ysgol.
A very warm welcome to Miss Manon Evans and Mrs Nia
Bleddyn Jones as Key Stage 2 teachers.
Cyngor Ysgol /School Council
Dyma aelodau’r cyngor ysgol am eleni. These are the school
council representatives for this academic year.
Llongyfarchiadau / Congratulations
Llongyfarchiadau mawr i Mrs Morris a’i gºr Bedwyr ar
enedigaeth ei merch fach, Gwenno Alaw yn ystod
gwyliau’r haf.
Congratulations to Mrs Morris and her husband Bedwyr
on the birth of their baby girl, Gwenno Alaw, during the
summer.
Llysgenhadon Ifanc Efydd / Young Bronze Ambassadors
Llongyfarchiadau i Morgan Harding, Rhun Lewis, Dicw
Pritchard a Gethin Davies am gael eu hethol i fod yn
Lysgenhadon Ifanc Efydd.
Congratulations to Morgan Harding, Rhun Lewis, Dicw Pritchard
and Gethin Davies on being voted as the new sports
ambassadors of the school.
Gemau Olympaidd Bach / Mini Olympics
Aeth disgyblion Blynyddoedd 1 a 2 i gystadleuaeth
‘Gemau Olympaidd Bach’ ym mis Hydref.
Pupils in years 1 and 2 enjoyed a day of Mini Olympics at
Bro Ddyfi Leisure Centre in October.
Mr Urdd
Braf oedd croesawu David Oliver a Mr Urdd i’r ysgol ym
mis Medi. Daeth Mr Urdd i weld y plant, a daeth David
Oliver i ffarwelio gyda’r plant. Diolch iddo am ei waith
caled, a phob hwyl iddo yn ei swydd newydd.
Mr Urdd and David Oliver popped in to see the children at
the school. We thanked David Oliver for his work with the
school, and wished him all the best in his new job.
Dillad Pêl-droed a Phêl-rwyd / Football and Netball Kit
Diolch yn fawr iawn i gwmni Tai Dyfi Homes a Mid Wales
Removals am noddi ein dillad pêl-droed a phêl-rwyd
newydd. Mae’r plant
wrth eu boddau yn
chwarae yn y cit
newydd.
A big thank you to Tai
Dyfi Homes and Mis
Wales Removals for
sponsoring our new
football and netball
kits; the children are
over the moon with
their new kit.
Gwasanaethau /Assemblies
Daeth y Parchedig Roland Barnes atom i gynnal
gwasanaethau ’Agor y Llyfr’. Rydym yn dymuno pob hwyl
i Mr. Barnes fydd yn symud i blwyf newydd.
Rev. Roland Barnes joined us for a special ’Open the Book’
assembly. We wish Mr Barnes all the best as he moves to
a new parish.
Cyfarfod Diolchgarwch/Thanksgiving Service
Cynhaliwyd ein gwasanaeth Diolchgarwch blynyddol ar
brynhawn dydd Mawrth, 24ain o Hydref. Diolch yn fawr
iawn i bawb am eu haeloni – casglwyd £230 ar gyfer Apêl
Seren a Water Aid.
Our Thanksgiving Service was held on the afternoon of
Tuesday, 24th of October. Thank you to everyone for their
generosity – we raised £230 for Seren’s Appeal and
WaterAid.
Mach Maethlon / Edible Mach
Diolch i Mair Tomos am lwyddo i gael grant gan y Loteri
Cenedlaethol ar gyfer cynnal gweithdai gyda Mach
Maethlon. Mae’r tîm Mach Maethlon yn gweithio gyda
disgyblion yr
ysgol yn tyfu a
phlannu llysiau
yn yr ardd.
Thanks to Mair Tomos who applied for a National Lottery
grant for the school to work with Edible Mach.
The children have enjoyed opportunities during the term
to plant and grow their own vegetables in the garden.
Bro Hyddgen
Mae disgyblion Blwyddyn 6 wedi mwynhau’r cyfleodd a
gawsant i dreulio diwrnodau pontio yn Ysgol Bro
Hyddgen, Campws Uwchradd.
Pupils in Year 6 have enjoyed the opportunities they’ve
had at Ysgol Bro Hyddgen, Secondary Campus during the
term.
Gala Nofio
Da iawn i bawb wnaeth gymryd rhan yng Nghala Nofio’r
Urdd yn y Drenewydd. Llongyfarchiadau i Caspar Rose,
Gwenno Dafydd a Nela Dafydd a ddaeth yn gyntaf yn eu
rasys. Aeth y tri i nofio yn yr ail rownd ar ddiwedd mis
Tachwedd, a’r tri wedi perfformio yn ardderchog.
Llongyfarchiadau mawr i Gwenno Wigley ddaeth yn ail yn
y ras Dull Rhydd i ferched Bl. 3 a 4.
Well done to everyone who competed at the Urdd
Swimming Gala in Newtown. Congratulations to Gwenno
Wigley, Cari Jones and Nela Dafydd who won their races
and went on to the second round. They all swam
brilliantly; congratulations to Gwenno who came 2nd in
the Freestyle for Year 3 and 4 girls.
Pêl-Droed a Phêl-Rwyd / Football and Netball
Ym mis Hydref aeth disgyblion 4, 5 a 6 i’r Ganolfan
Hamdden ym Machynlleth, i gystadlu yn nghystadlaethau
Pêl-droed a Phêl-rwyd yr Urdd.
Llongyfarchiadau mawr i Tîm Rhun a ddaeth yn gyntaf yn
y gystadleuaeth pêl-rwyd ac i dîm Ed ddaeth yn ail yn y
gystadleuaeth pêl-droed. Aeth y tim pêl-rwyd ymlaen i
gystadlu yn yr ail rownd yn Llanfair Caereinion, ac wedi
chwarae yn ardderchog. Da iawn i chi!
Pupils from KS2 competed in the Urdd Football and
Netball Competitions at Machynlleth. Everyone
thoroughly enjoyed the experience. The netball team
succeeded in going through to the next round in Llanfair
Caereinion and played brilliantly. Well done to them.
Gweithdy Rap Ed Holden / Beatboxing Workshop
Roedd y plant wrth eu boddau pan ddaeth Ed Holden, neu
Mr Phormula atom i greu rap.
The children were delighted when Ed Holden, aka Mr
Phormula came to the school for a workshop, and wrote
their very own rap.
Lansio’r Siarter Iaith / Welsh Language Charter
Ar ddechrau mis Tachwedd, lansiwyd y Siarter Iaith yn
Ysgol Glantwymyn. Mwynhaodd y plant ddisgo a
cherddoriaeth Cymreig ar ddechrau’r prynhawn, yna
ymunodd y rhieni gyda ni ar gyfer cyflwyniad gan y plant
ynglyn â beth yw pwrpas y Siarter Iaith.
In November, we launched our Welsh Language Charter
at Ysgol Glantwymyn. The children enjoyed a disco and
and gave a presentation to the parents about the purpose
of the Welsh Language Charter.
PC Mark Davies
Daeth PC Mark Davies i ymweld â’r disgyblion yn yr ysgol.
Bu’n trafod pwysigrwydd e-ddiogelwch gyda disgyblion
CA2 yr ysgol. Rydym yn dymuno pob hwyl i PC Davies ar
ei ymddeoliad a diolch yn fawr iawn iddo am ei waith dros
y blynyddoedd.
PC Mark Davies visited the pupils this term to talk about
the importance of e-safety with the pupils. We wish PC
Davies all the best as he retires and thank him enormously
for his work over the years.
Cwis Llyfrau/Book Quiz
Cynhaliwyd rownd gyntaf y Cwis Llyfrau yn gynnar iawn
eleni. Roedd Jaelan Brown, Morus Griffiths, Elsi Jones a
Gwenno Wigley yn y tîm Bl. 3 a 4. Da iawn iddyn nhw am
wneud eu gorau a
thrafod yn
ardderchog.
Llongyfarchiadau
mawr i dîm 5 a 6 – mi
fydd Morgan, Rhun,
Meia a Nela yn mynd
ymlaen i ail rownd y
gystadleuaeth yn y
flwyddyn newydd. Da
iawn chi!!
Congratulations to
the year 5 and 6 team
– Morgan, Rhun,
Meia and Nela will be
going on to the next
round of the book
quiz, which will be
held in the the new
year. Well done!!
Plant Mewn Angen/Children in Need
Ar ddiwrnod Plant mewn Angen penderfynodd y Cyngor
Ysgol ofyn i’r plant ddod i’r ysgol yn eu pyjamas, ‘onesies’
neu mewn dillad coch. Codwyd £100 tuag at yr elusen.
.
Members of the School Council decided to ask the children
to come to school in their pyjamas, onesies or red clothes
to raise money for Children in Need. We raised £102 for
the charity.
Noson Lawen
Aeth criw o ferched ym mlynyddoedd 4, 5 a 6 i Lanfair
Caereinion yn ystod y gwyliau hanner tymor ar gyfer
recordio cân ar gyfer Noson Lawen. Diolch i Mrs Lowri
Evans a Miss Manon Evans am eu hyfforddi. Cofiwch
wylio rhaglenni Noson Lawen i glywed y merched yn
canu!
Girls in years 4, 5 and 6 went to Llanfair Caereinion to
record a song for the tv programme Noson Lawen. Be
sure to tune in next year to catch them on the TV.
Canu Carolau yn Eglwys Llanwrin Carol Singing
Diolch yn fawr i’r plant a gymerodd rhan yng
ngwasanaeth canu carolau yn Eglwys Llanwrin ar
brynhawn dydd Sul 3ydd o Ragfyr. Aeth nifer o blant yno
yn eu siwmperi Nadolig, ac wedi canu yn swynol dros ben.
Thank you to the children who took part in the Carol
singing service at Llanwrin Church, on Sunday the 3rd of
December. Many of the children attended in their
Christmas jumpers, and sang beautifully.
Bocsys Operation Christmas Child
Diolch yn fawr iawn i’r plant aeth ati i baratoi bocsys
esgidiau ar gyfer ymgyrch Operation Christmas Child.
Casglwyd dros 30 focsys ac maent ar ei ffordd i Romania
eleni.
Thank you to everyone for their generosity in preparing
the boxes. We collected over 30 boxes this year which are
on their way to Romania.
Ffair Nadolig / Christmas Fair
Bu’r plant yn brysur iawn yn paratoi a choginio
danteithion ar gyfer ein stondin gacennau yn y Ffair
Nadolig eleni. Diolch i bawb ddaeth i gefnogi.
The pupils in each class were very busy cooking sweet
treats for our cake stall at the Christmas Fair this year.
Cinio Nadolig / Christmas Dinner
Diolch yn fawr iawn i
Cari a Nerys am
goginio Cinio Nadolig
blasus eto eleni –
roedd pawb wedi
mwynhau a bwyta
llond eu boliau.
Thanks to Cari and
Nerys for preparing a
delicious Christmas
dinner again this year
– everyone thoroughly
enjoyed it.
Canu Carolau yn Ysbyty Machynlleth a Chartref
Dyfi/Carol Singing Machynlleth Hospital and Cartref Dyfi
Yn ystod wythnos olaf y tymor, aeth disgyblion Bl. 5 a 6 yr
ysgol i ganu carolau yn Ysbyty Machynlleth ac yng
Nghartref Dyfi.
During the last week of term, pupils in years 5 and 6
visited the hospital in Machynlleth and Cartref Dyfi, to
sing carols for the residents.
Diwrnod Siwmperi Nadolig / Christmas Jumper Day
Daeth y plant a’r staff i’r ysgol yn gwisgo eu siwmperi
Nadolig – llwyddon ni i godi £70 ar gyfer elusen Achub y
Plant.
The children wore their Christmas jumpers to school and
raised £70 for Save the Children.
Sioe Nadolig / Christmas Play
Cafwyd sioe ardderchog gan ddisgyblion yr ysgol eto eleni
wrth iddynt berfformio ‘Nadolig yn 2017’, sef sioe yn
dychmygu sut fyddai stori’r geni yn wahanol yn ein
dyddiau ni.
The children performed another excellent Christmas show
this year, called ‘#Christmas 2017’, a show imagining
what the nativity story would be like in 2017.
Parti Nadolig / Christmas Party
Ar ddydd Iau olaf y tymor, mwynhaodd y plant barti Nadolig.
Roedd digon o hwyl a dawnsio, a diolch yn fawr iawn i Sion
Corn am ddod am dro i’n gweld.
On the last Thursday of term, the children enjoyed their
Christmas Party. There was plenty of fun and games. A big
thank you to Father Christmas for coming to visit.
NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA!
MERRY CHRISTMAS AND A HAPPY NEW YEAR!
Bydd yr ysgol yn ail-agor ar Dddydd Mawrth, 9fed
o Ionawr 2018.
School will re-open on Tuesday, 9th of January
2018